Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Coheblaethau,

ETHOLIAU MEIRION.

CATECISM Y BWRDD YSGOL.

< Colofn Dirwest-

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

< Colofn Dirwest- SAFLE'R ACHOS YN BIRKENHEAD. YR wythnos ddiweddaf cynaliwyd cyfarfod mawr" blynyddol Cynghrair Dirwestol y dref uchod yn neuadd y Y.M.C.A. Sylwodd v Llywydd i'r Cyxig- rair gael ei gychwyn naw mlynedd yn ol mewn ys- tafell gan chwech o ffyddloniaid, ac erbrn heddyw rhifai ei aelodau (J,0-10. Un o led-Gymry sir Fyn- wy ydyw'r ysgrifenydd, ac un galluog a pliybyr an- nghyffredin. Dyma'i unig oruchwyliaeth, a cheiff ei holl amser; ae y mae'r CYD,hrair, o'r herwi dd, yn dyfod yn allu gwirioneddol yn y cylch. Dangosai adroddiad yr ysgrifenydd—un or rhai mwyaf clir a thwt a glywsom braidd un amser—fod y Cynghrair yn cynwys ynddo 45 o gymdeithasau a themlau dirwestol, yn en mysg Teml Gymreig z, "Hiraethog." Birkenhead oedd gyda'r cyntaf o drefi Lloegr i symud gydag atal rhoi diod i blant mewn tafarnau, yr hyn a bwyswyd ar yr ynadon gan y Cynghrair efe hefyd a ymegniodd i gael Dr Wilkinson yn aelod o Fwrdd y Gwarcheidwaid, yr hyn a rydd i bleidwyr dirwest fwyafrif ar y Bwrdd hwnw. Dynoethodd y Cynghrair hefyd Hwyllgor Gwylio ( Watch Committee) Cynghor y Uref, fel un cynwysedig brou i gyd o bersonau yn meddu budd- iant uniongyrchol neu anuniongyrchol yn y Fasnacli. Llwyddodd i beri peth cyfnewidiad er gwell ar y Pwyllgoi-, ond hen gaerfa anhawdd ei dymch'-vel ydyw. Dywedai'r adroddiad air da am agwedd y Bwrdd Ysgol at ddirwest, a'i fod yn un o'r ychyd- ig Fyrddau hyn sy'n cyflogi darlithydd cyfarwydd ar alcohol a'i ddrwg-effaith i fyned ar gylch trwy'r ysgolion. Yn mhellach, y mae i'r Cynghrair ei gyhoeddiad misol tan yr enw Town Crier, a ddosberthir wrth y canoedd yn y dref, ac a brawf fod ffydd ag yni mawr yn y pwyllgor a'i swyddogion. Peth auhawdd yd- yw cadw cyhoeddiad dirwestol, a dirwestol yn unig, yn fyw heb gynorthwy rheolaidd gwyr o aim lleu- yddol helaeth, a gobeithiwn y ceiff }" Criwr hwn fwy o hyny yn y dyfodol. Prif siaradwr y cyfarfod heno ydoedd y Tra Hybarch Ddeon Hereford. Gwr adnabyddus iawn yn Myddin Dirwest, a gair da iddo am ei dduwiol- deb a'i ddifrifwch. Credwn mai fel trefaidydd a chynghreiriwr y rhagora; y mae wedi cychwyn a dwyn yn mlaen undeb o gymdeithasau dirwestol yn mhobman y bu wedi teithio'r ddaear gron i ddeall gwaith dirwest yn mhob dull o'i hyrwvddo ac y mae ganddo gnd fawr mai dynion wedi eu "haii eni" yn ysbrydol sy'n debyg o ledaenu teyrnas llwyrymwrthodiad, ac mai trwy ei bachu wrth ger- byd yr Efengyl yr aiff Dirwest tros yr hollfyd. Tynodd ddarlun pygddu iawn o ddau Dy'r Senedd, a sylwodd fod ein Deddfwrfa yn dryfwl o bleidwyr cefnog i fasnach y diodydd meddwol, ac v rhaid ei glanhau ohonylit cyn byth y ceir deddfwriaeth ddii- I westol drwyadl a chymesur ag angen y wlad. Syn- iad bychau sydd ganddo am gydymdeimlad dirwest- ol Mr Chamberlain, ac mai byr a gwyrgam oedd ei welediad moesol pan ddywedai yn ddiweddar am ranau o Affrica mai eu prif felldith oedd clefyd y dwymyn boeth. Dim o'r fath, dyrnai'r Deon, alco- hol wediei drwytho a. phob gwenwyn ysol ydyw hwnw. Eglwyswr rhyddfrydig iawn ydyw'r Deon, ac yn gydweithiwr rhagorol ag Ymneillduwyr a phawb sy'n ceisio darostwng annghymedroldeb o'r tir. Llywydd y Cynghrair am y flwyddyn ddyfodol fydd Mr Maurice Llewelyn Davies, mab i un o ber- soniaid £ Lloegr Fach," fel y gelwir parthau Seisnig sir Benfro, ond sydd yma'n berchen llongau llwydd- ianus er's blynyddau. Disgwylia'r Cynghrair lawer wrtho gan fod boneddwr ddewisa gelu ei enw wedi addaw mil o bunau at godi neuadd ddirwestol hardd, gyfleus at holl angenion y Cyngrair a'i waith, ond iddynt hwythau gasglu pedair mil ato. Ac fe wneir ar fyrder yn ddiau. Mae Dirwest yn rhwym o ffynu'n well wedi cael cartref o'r fath. Dal i ganu Aberystwyth,' Crugybar, a Holy City' mewn tafarn y mae'r pedwarawd crefj-ddol eu proffes yma o hyd. Y maent yn weilch herfeidd- iol iawn, ac fel mae gwaetha'r modd yn niweidio planhigion eraill sydd heb lwyr golli eu tynerwch moesol. JE AnslI. 0--

[No title]

PURWCH Y GWAED.

Advertising

I MR. W. W- WALKER, C.D.

Advertising