Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Nodiadau o Lanbaris
Nodiadau o Lanbaris DDYDD Sadwrn, yn nghapel Gorphwysfa, cynal- iwyd Cymanfa Ysgolion Sul y Dosbarth, Daeth cynulliad rhagorol o'r plant i gyfarfod y prydnawn, a dangosent ol llafur mawr a chanmoladwy. Yn adran y dysgu allan-o 6 i 14 oed-yr oedd lluaws mawr, a gwaith da iawn wedi ei wneud. 0 dan 13 arholiad mewn ysgrifen-y goreu oedd Edwin Wil- liams, ysgol Gorphwysfa allan o 30; cyfartal ail, 0 A Thomas, Gorphwysfa, a W 0 Jones Rehoboth; 3ydd, R Ifor Jones, Gorphwysfa. Dan 16-arhol- jad ysgrifenedig-1, Ednyfed Evans, Gorphwysfa; 2, OB Owen, eto-oedd erbyn dydd y Gymanfa yn ei fedd. Yr oedd dau arall allan 0 lu mawr yn gyf- ei fedd. Yr oedd dau arall allan o lu mawr yn gyf- artal ag ef. Cyflwyawyd tystysgrifau Tonic Solffa i nifer mawr o'r plant. Yr oedd y canu yn rhagorol iawn yn yr oil. Caed anerchiadau gan y Parchn Tecwyn Parry a J 0 Jones, a'r cadeirydd (Mr Evans, ysgolfeistr Diuorwig). Llywyddid yn yr hwyr gan y Parch J R Wil- liams, Rhydbach. Yr adran gerddorol oedd prif beth y cyfarfod hwn. Caed datganiadau rhagorol o amryw donau, salmdonau, ac anthemau. Yr oedd myn'd" ar y cwbl, yn enwedig anthem Mr J H Roberts, Caernarfon gynt. Caed cymanfa hynod lewyrchus eleni o'r dechreu i'r diwedd. Yr arwein- ydd oedd Mr Griffith Phillips, Dinorwig. Gwelais gipolwg ar Gofiant a Phregethau' y diweddar Ddr Hughes, tan olygiad y Parch J Wil- liams, Lerpwl. Am gynwys y gyfrol nid oes dau feddwl yn ddiau. Yr oedd y Dr yn hynod boblog- aidd yn y cylchoedd hyn. Deuai yma'n fynych o Lerpwl, gan aros i bregethu y nosweithiau yn y cylch, a dychwelyd adref at y Sul. Yr oedd ei ymweliadau megys angel Duw. Diau y bydd galw mawr am y gyfrol yn y cylch. Goddefer i mi ddweyd fod dygiad y gwaith allan, o ran papyr, llythyren, cywirdeb, destlusrwydd, a manyldra, yn glod i swyddfa'r Cymro.. Ni bu mewn unrhyw lyfr- gell gyfrol harddach, glanach, a mwy gorphenol. Gwn pe buasai'r hen Ddr anwyl yn fyw y cawsai foddhad wrth edrych arni. Y mae si yn y gwynt fod EISTEDDFOD GADBIKIOL i'w chynal yma tua diwedd Medi y flwyddyn hon. Mae'r testynau a'r beirniaid wedi eu penodi, a'r daflen ar ddod o'r wasg. Beirniaid y farddoniaeth yw Cadfan ac Eifionydd; traithodau, nofelau, ac adroddiadau, Tecwyn, a Cyngar. Syniad campus yw hwn, a diau y bydd yn boblogaidd iawn. Y mae Mr Puleston Jones, medda nhw, yn nghanol yr Hwntws yr wythnos hon. Diau y dy- wed wrthynt bethau newydd a hen. Y mae si ar led ei fod yn debyg o ymadael or cylch. Y tefyygol rwydd yw y dewisir ef. yn athraw i Goleg Duwin- yddol y Bala. Pwy a geid yn well, yn mhob ystyr, nag ef ? Mae'n ysgolhaig gwych, ac yn gallu cyf- lwyno ei feddyliau i eraill yn eglur ac effeithiol, ac yn goron ar ei holl ragoriaethau mae ganddo ddyn- oliaeth dda, ddiblygion, a llawn o garedigrwydd. Teimlwn yn chwith o'i golli, ond dymunwn y goreu iddo. Da genym ddeall fod yr hen bererin dyddan y Parch D Williams, Cwmyglo, yn dechreu hybu o'i gystudd blin. Dymunwn iddo adferiad buan. Bu yma gynt hen gymeriadau ffraeth a doniol yn y cylch, ond y maent wedi myn'd," ac nid oes neb yn codi yn eu lie. Yr ydym fel marbles, heb un gwahaniaeth rhwng y naill a'r Ilall. Y mae dau neu dri o to's, chwedl y plant, yn y Clegir, a hwyrach un neu ddau tua Pentrecastell, y cawn sy lwi arnynt yn y man. ELlPIR BAIS. .— o ———
[No title]
Lladdwyd geneth 12 oed, o'r enw Sarah, merch James Niven, Trallwng, ddydd Iau, trwy i goeden syrthio arni yn mharc Castell Powys.
Dadorchuddio Cofgolofn Enwogfon…
Dadorchuddio Cofgolofn Enwogfon Llansannan. PA LE MAE LLANSANNAN. NID yw Llansannan yn un o'r manau hawddaf myned iddo. Nid oes yno na reilffordd na cherbyd- au cyhoeddus, na phrif ffyrdd da o'r un cyfeiriad. Abergele ydyw'r orsaf nesaf ato-o chwech i saith milldir-ffordd pur drwsiadus i Lanfair Talhaiarn, ond o Lanfair i Lansannan, Gallt y Bowls, gwaeth os yr un na Gallt y Padi ger Llangollen, neu'r Alltwen o Lanberis i Dinorwig. Mae rhyw son fod Cyaghor y Rhanbarth yn bwriadu gwneud ffordd ) newydd er ysgoi y Bowls ac os byth y gwneir I hyny, dylai'r holl wlad gadw cyfarfod diolchgarwch am y gymwynas. Y mae chwaneg o ffordd i Ddinbych, ond nid yw lawn cynddrwg—tua naw milldir. Ni thybiai' yr hen bobl hirgoes, gerddorol, er's talm, fawr iawn o'i cherdded yn ol a blaen, a chludo cryn faich yn y fargen: ond a, nifer y fforddolion yn llai o flwyddyn i flwyddyn. Tref arall y cyrchir iddi o Lansannan weithiau ydyw Llanrwst; y mae holl elltydd y ffyrdd i'r ddwy dref arall wedi eu crynhoi yn hon- rhiw a goriwaered ydyw bron ar ei hyd. Felly lie pur anhygyrch a diarffordd ydyw Llan- sannan; a chan y saif 600 troedfedd uwchlaw ar- wyneb y mor, gwelir fod cryn dynu i fyna ato o bob cyfeiriad. Ond y mae'r olwg arno yn llawn gwerth y daith. Nid oes Lan hyfrytach yn Nghymru -ar fin yr Afon Aled fynyddig, loyw, a dyffryn rhamantus yn ei amgylchynu; y mae edrych arno o ben un o'r bryniau lluosog gerllaw, pin fyddo'r haul yn llewyrchu ar ei aneddau gwyngalch, ei gapelau a'i hen eglwys yn llanw'r edrychydd a bodd- had. Hyd ben y bryn uchaf sydd yn ygolwg brithir y llechweddau gan amaethdai taclus, a meusydd yn ymddangos tan driniaeth ragorol o'u hamgylch. Onid yw beirdd yr ardal wedi delweddu ei theil- eidion yn eu cerddi ? A rhyfyg fyddai ceisio eu hefelychu. Ond nis gellir llai na theimlo'n ddi- olchgar fod yma gongl mor hawddgar yn y byd yma lie y gall dyn fwynhau bywyd tawel. I'n darllenwyr sydd yn byw yn mhell nid anner- byniol, hwyrach, fyddai gair am Lansannan. Y mae yn blwyf mawr; yn ol llyfr Archddiacon Thomas, medd arwynebedd o 28 milldir ysgwar; a dos- berthir ef i un ar ddeg o dre-ddegymau, sef Tref- lach, Hendre newydd a Postyn, Llansannan, Rhyd- eidion, Beidiog, Pennant Aled, Llys Aled, Arch- wedlog, Chwibren, Heskin, Deunant, Arllwyd, a Grugor. Ond cymerwyd Grugor, a rhanau o Arch- wedlog a Deunant i wneud i fynu bIwyf newydd y Bylchau. Yr oedd sefydlydd y Llan, Sannan, yn gyfaill i Dewi Sant ac i dad Gwenfrewi, yr hwn oedd yn byw yn Gwytherin, y plwyf nesaf ac yn Gwytherin, medd traddodiad, y claddwyd ef. Dywed yr Archddiacon mai yn y plwyf hwn y ganwyd Tudur Aled a William Salisbury, ac y bu Philip Yorke o Erddig, awdwr y Royal Tribes of Wales, yn byw am rhyw ysbaid yn Mhalas Dyffryn Aled. Ni ddylasai'r Archddeon anghofio enwau'r Ym- neillduwyr H. a W. Rees, a Iorwerth. Amgylchynir Llansannan gan blwyfi Nantglyn, Llannefydd, Llanfair Talhaiarn, a Gwytherin; a diau fod enwau'r Llanau hyn yn eithaf hysbys i'r Cymry sydd yn darllen, ar gyfrif y gwyr o nod a anwyd neu a fu'n byw ynddynt. Yn Nant- glyn y trigianai y bardd Robert Davies, ac Aneurin Owen, mab y Dr Owen Pughe, ac yno yr huna yr ieithydd clodfawr ei hun yn ddigon tawel tra yr athrodir ef gan wel, gan athrodwyr. Yn mhlwyf Henllan y mae'r Nant, lie ganwyd Twin. Yn Llannefydd y mae'r Berain, cartref Catrin hawddgar, garwriaethol, ac yno y ganwyd Nefydd liardd, a Rhisiard Ddu o Wynedd, yn nghyda Iolo Goch, bardd Owen Glyndwr. Talhaiarn y bardd biau'r clod o wneud y Llanfair hwnw yn fwy hysbys yn Nghymru na'i gyfenwau eraill. GWEITHREDIADAU DYDD MAWKTH. DAETH canoedd o bobl i Lansaonan ddydd Mawrth i weled ac i gymeryd rhan yn nador- chuddiad colofn enwogion y plwyf. Yr wyth- noa nesaf rhoddwn ddariun o'r gotofn hon, a manylion pellach am y ddau gyfarfod a gynal- iwyd. Modd bynag, gallwn ddweyd na fu cy- nifer o bobl yn y Llan gwledig er's blynyddau os erioed. Brithid y ffyrdd a cherbydau, yn enwedig o AbergeJe a Dinbych, ac yr oedd pobl y "trêo dau" yo anhawdd eu rhifo. Buasai y cynulliad yn llawer lluosocach onibai am wlawogydd ddyddiau y Sadwrn, Sul a Llun a chyndynrwydd yr hin-fesurydd i godi foreu ddydd Mawrth. Ond bu'r tywydd braidd yn well na'i brophwyd y tro hwn. Ni chafwyd ond un gawod drom iawn yn ystoi y dydd, a hono am 1 30, pan oeddynt yn dadenhuddo'r golofn. Am tua cbwarter awr y pryd hwnw, gorchuddid ardal y golofn gan wlawleni, fel pe buasai'r lie yn llawn o fashrwms duon anferth. Efallai mae'r dcsbarth mwyaf dyddorol yn y cynulliad ydoedd perthynasau neu ddisgynyddion yr enwogion a anrhydeddid Fel y canlyn :-Iorwerth Glan Aled: ei weddw, ei ferch a'i gwr (Mr a Mrs Hughes), a'i wyres fach bropor, bropor, yn nghydag amryw neiod a nithoedd. Parch Henry Rees: ei unig ferch, Mrs Davies, Treborth, a pherthynasau eraill. Parch Wm. Rees (Hiraethog) ei feibion, Mr Ebenezer Rees, Blundellsanda, a'r Parch Henry Rees, Bryngwran. William Salesbury: yr Arglwydd-Farnwr Syr Vaughan Williams, dis- gynydd o'r hen Sanau Gleision o Laweni, cang- I hen o'r Silsbriaid enwog a Thudur Aled, gan Mr Thomas Williams, Llewesog, perchenog y Garth Geri, lie y cartrefai y paif-fardd peni- gamp. ANEROHIAD Y BARNwR ROLANT WIMJAMS. Ar ol i Mrs Herbert Roberts ddadorchuddio y golofn, ymneillduwyd i gae cyfagos ar fin yr afon Aled, lie yr oedd esgynlawr wedi ei chodi, a chy- merwyd y gadair gan yr Arglwydd Farnwr Syr Rolant Vaughan Williams. Cafwyd anerchiadau barddonol yn nghyntaf gan Hwfa Mon ac Eifionydd, yna traddododd y cadeirydd araeth faith, ac er yn Saesneg, iaith na ddeallid gan haner y gynulleidfa oedd yn bresenol, cafodd wrandawiad astud. Cyfeiriodd at nodweddion a rhinweddau y dynion enwog a goffeid, a dywedai od Lloegr, Ysgotland, a'r Iwerddon yn cyd- ymryson a'u gilydd am y goreu i gadw'n fyw mewn maen a phres goffadwriaeth eu plant enwog, ychydig a wnaed hyd yn hyn yn Nghymru. Feallai fod rhesymau dros hyny yn yr amser aeth heibio, nid oes yn awr yr un. LIansannan sydd wedi achub y blaen ar yr holl wlad yn hyn o beth. Ynadarllenodd y Barnwr banes wedi ei ysgrifenu ar awdurdod Mr J H Davies, o'r pura' gwr a n odid ar y golofn. Y mae ein darllen wyr eisoes yn gyd- nabyddtis t'r ffeithiaii hyn broti i gyd, fel mai af. reidiol eu nodi yma. Dywedai nad oes ond un o'r pump y dychwelwyd ei weddillion i orphwrs yn ei blwyf genedigol, sef Iorwerth Glan Aled. Cyn- rychiolent fyfyrdod, dysgeidiaeth, llenyddiaeth. a chrefydd. dangoseg o'r teimladau Cymreig. Yna traethodd Syr Rolant yu helaeth ar nodweddion y beirdd Cymreig, y rhai apelient at ddyheadau eu cydwladwyr mewn rhyfel a heddwch. Syniadaeth oedd un o brif alluoedd llywodraethol y byd, a chydnabyddid deddfau syniadaeth gan lvsoedd barn. Y mae y syniadaeth hwn yn werth ei gadw. Chwareuodd ran bwysig yn hanes y byd, o ddydd- iau yr hen brophwydi Iuddewig hyd y dydd hwn. Hyn ddygodd oddiamgylch y Gynadledd Heddwch gyd-genedlaethol sy'n eistedd yn Holland, a dis- gwyliai ef lawer oddiwrthi. Nid efallai trwy i'r Galluoedd mawrion ddiarfogi, ond trwy drwytho y byd a syniadaeth am heddwch. A phwy a allai ddweyd na fa gan syniadaeth rywbeth i'w wneud ag adeiladu yr Ymherodraeth Brydeinig? Ac am Gymru ei hun, yr oedd ganddynfc brawf arhosol 0 ddylanwad syniadaeth ar fywyd y wlad yn y cynllun 0 ardderchog o addysg, oblegyd rhaid priodoli llwydd- iant Cymru yn y blynyddau diweddaf i ad tvvviad syniadaeth farddonol. Wed'yn cafwyd araith hyawdl gan Mr Wm Jones, A.S., yr hvvn a adroldodd rai o linellau lllWyaf tarawiadol Tadur Aled, a gyfeiriodd at dyddynvvyr Llansannan yn rhoddi beuthrg aria'1 i'w cymydog William Salesbury er ei gynorthwyo i ddwyn allan ei gyfieithiad o'r Testament i'r iaith Gymraig, fel y dengys gweÜhred grfreichiol sydd i'w gweled yn Gwysanan. Apeliodd hefyd at rai o frodorion cy- foethog Mon i wneud yr un gymwynas ft choffadwr- iaeth Goronwy a'r Morusiaid, cyffelyb i golofn Llan- sannan. Bydd gjsodiai y golofn han yn ymyl ysgol y llan yn gyffroad i amryw o'r plant efelychu y gwyr hvn. Mr 0 M Edwards, A.S., oedd mewn cydymdeimlad calonog a pliobl Llansannan yn eu gwaith yn codiy golofn hon. a thrwy hyny yn codi'r Hell Wlad yn ei hoi." Adroddodd y ddwy linell o waith Tudur Aled Y gwr marw, 'e gar morwyn Ddaear dy fedd er dy fwyn." At y pum'gwr enwog, ychwanegodd enw Mr T E Ellis atynt. I Cyfeiriodd Proff J E Lloyd, M.A., at agwedd Z, addysgol y symudiad, a'r dylanwad daionus a gariai ar ieuenctyd yr ardal. Nid oeddynt yn uuigyndathlu coffauu arwr ond pump,nac ychwaith yn dadorchuddio colofn o waith Cymro, yr hyn ni fuasai yn beth holl, ol annghyffredin, ond yr hyn oedd yn" darawiadol yn ngwaith y diwrnod ydoedd, undeb" a chydweith- rediad yr holl wlad oddiamgylch. Traddododd Cadvan araith gynes yn ganmol- iaeth yn benaf o William Salesbury. Yn mhlith pethau tarawiadol eraill, dywedodd mai William Salesbury oedd wedi dysgu Iesu o Nazareth i siarad a chenedl y Cymry gyntaf. Galwodc. y dorf am anerchiad gan Elfed. Atebodd mewn ychydig eiriau ac addawodd siarad Yn nghyfarfod yr hwyr. Dygwyd y cyfarfod i derfyn- iad trwy basio y diolchiadau arferol i'r Barnwr Williams am lywyddu ac i Dr Eilis, a Mr John Morris, Y.H., Larpwl, am eu gwasanaeth fel ysg- rifenyddion. Yu mysg eraill oedd yn bresenol, gwelsom Mr Bryn Roberts, A.S. Parchn J Fisher, B.D. B Hughes, Llanelwy; E Humphreys, Henllan; T. J. Wil- liams, Dinbych Dr Emrys Jpnes. Mri J H Davies, W Cadwaladr Davies, D. R. Daniel, J, W. Lumley, R. Bryan, Howel Gee, LI Eaton, Tom Owen, Gwilym Parry, Mr a Mrs Morris, Lletty; Mr a Mrs Roberts, Plas Heaton; Miss Gee, Mrs Mainwaring, Gallt Faenan; a'r Mri Elias Pierce, Gwenallt; J. Matthews, Amlwch; a LIenor o'r Llwyni. Cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus vu yr hwyr, tan lywjddiaeth Mr J Herbert Roberts, A.S.
--:0:--Nodion o Faalor.
:0 Nodion o Faalor. DAL yn oer a gwlyb wna'r tywydd yma, er colled i amaethwyr, ac yn enwedig i arddwyr. Dywedir y bydd y golled gyda'r mefus yn Holt yn ganoedd o bunau, gan i'r blodeu gael eu Iladd gan y llwydrew diweddar. Os na cheir cyfnewidiad buan, ofer dis- gwyl am fefus—rhaid boddloni ar lyfu gwefusau. Gresyn garw. Ddydd Mercher, bu Mrs Fanny Hughes, Rhos- ddu, farw trwy yfed gwenwyn yn lie rhyw gyffyr arall. Gweinyddwyd arni gan Dr Moss, ond bu farw yn mhen ychydig oriau. Yn y trengholiad dygwyd rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol." Cyftawnodd Thos. Hughes, glowr, 53 oed, hunan- laddiad yn nhlotty Gwrecsam ddydd Llun trwy daflu ei hun o ffenestr y llofft, uchder 22 troedfedd. Y Sul a'r Llun cynaliodd Bedyddwyr y Rhos eu cyfarfod pregethu, pan y gwasanaethwvd gan Parchn G Griffiths, Rhymni, a Dan Davies, Porth. Cynulliadau da a phregethau rhagorol. 11 Dymunaf longyfarch Mr J. E. Hughes, un o Wyr Ieuainc Gwrecsam," ar ei ddewisiad yn Gymrawd o'r Gymdeithas Fferyllol. Mab ydyw i'r diweddar Mr Joseph Hughes. Hafotty, Llansilin, a brawd i'r CynghorwrE. Hughes, Gwrecsam. 11 1 Y mae'n gydweithiwr a'r hynafieithydd enwog Mr A N Palmer fel fferyllwyr yn ngwaith lledr y Cam- brian, ac y maent eu dau yn aelodau o'r Interna- tional Association of Leather Trades Chemists.' Mae'n Gymro aiddgar, a bu'n aelod blaenllaw t, gydag Eisteddfod y Gwyr Ieuainc, a chymer ddy- ddordeb mewn llenyddiaetha hynafiaethau Cymreig. Neithiwr, yn nghapel Moriah, Rhos. cynaliwyd cyfarfodjdall-fisol Dosbarth Ysgolion M.C. Gwrec- sam a Rhos, tan lywyddiaeth Mr R T Davies, Rhos- ddu. Gwlyb ac oer ydoedd oddiallan, ond caed ewrdd cynes oddimewn. Darllenodd Mr Michael Roberts, Capel Mawr, bapyr ar "Ein dyledswydd i gyfadd- asu addysg yr Ysgol Sul at angenion yr oes," a bu ymdrafodaeth arno. Ar ol pasio amryw benderfyniadau, cyflwynwyd anerchiad goreuredig hardd i Mr W A Lewis, y cyn-ysgrifenydd, ar ei ymadawiad o'r ardal, am ei lafur a'i ffyddlondeb yn y dosbarth am flynyddau. Siaradwyd gan y cadeirydd, Mr Edward Hooson a Mr Robt. Jones, &c., a diolchwyd iddynt gan Mr I Lewis, yr hwn oedd yn falch o'r dysteb. I Deallwn fod llndeb Dirwestol Ymneillduwyr Gwrecsam wedi cyflwyno nifer o lyfrau iddo hefyd yr wythnos hon am ei weithgarwch a'i ffyddlondeb ) gyda dirwest yn y dref. ( DYFFKYNWB.
CWRS Y BID. -0-.;
:1e, ond i Fai yn niwedd y drydedd ganrif ar ddeg y canai Ap Gwilym. Pe buasai genym fardd natur fel y Dafydd hwnw yn awr, ni fedras- ai o gydwybod ganmol Mai fel y gwuai ef Son am Ymraniad. GWELAIS mewn daa neu dri o bapyrau (Rhydd- frydol hefyd) awgrymiadau fod annghydwelediad unwaith eto yn mhlith Aelodau Seneadol Rhyddfrydol Cymru. Dyma arweiniodd iddo, meddir :—Teim ai Syr Campbell-Bannerman yn awyddus i benodi Cymro yn Chwip arall i'r blaid, a chynaliodd Seueddwyr Cymru gyfarfod i ystyried yr achoa, pryd y cafwyd nad oeddynt o lawer yn unfarn ar un mater pwysig, sef a ddylent gydweithredu &'r Rhyddfrydwyr Seis- nig yn y Senedd ynta yn annibynol ac ar eu penau eu huuain. Felly, beb dderbyn na gwrthod cais yr Arweinydd Rhyddfrydol, ac wedi dadl frwd, gohiriwyd y cyfarfod. Ofna rhai yr arweinia hyn i rwygiad. Tybed ? Mae mantais ac anfantais yn perthyn i'r ddau ddull o symud yn mlaen ond ni ddylai gwahaniaeth barn ar hyny beri oerfelgarwch, llawer llai an- nghydfod ac y mae genyf ddigon o ffidd yn noetbineb a synwyr cyffredin cynrychiolwyr Cymru i gredu nas gwna ychwaith. Heintiau yn Nghymru a Holland. YN yr Hospital, geilw gohebydd sylw at y modd gwahanul yr ymddygir at heintiau yn y ddwy wlad. Yr oedd hi yn nyrsio claf yn Holland tan glefyd coch ysgafn, a deallai fod y meddyg wedi hyabysu yr awdurdodau am yr achos, a hwythau wedi danfon awyddog yno, yr hwn a osododd bapyr ar ddrws y ty ae arno y geiriau Afiecb- 1<1 heintus-y clefyd coch ac yno y bu nes i afiecbyd y claf ei adael, pan symudwyd ef gan ddau swyddog—ar ol llwyr ddiheintio'r ystafell a'i chynwys. Yn fuan wed'yn, galwyd yr un ferch i nyrsio mewn hen dref yu Nghymru, lie yr oedd peth- au yn dra gwahanol. Yr oedd clefyd y gwddf, a elwir di htheria, wedi bod yn bur ddrwg yno trwy y gauaf, ac amryw yn sal o'r typhoid, y clefyd coch, a'r tha iddwf (erysipelas). Eto," meddai, y mae'r ysgolion i gyd yn agored, nid oea yr uu nod ar y tai gorlawn o beiutiau peryglus, ac yn hamddeuol tawn y gwneir ym- chwiliad gan Gynghor y Rhanbarth i sefyllfa afiach y dref." Byddai'n burion i'r Cymry gymeryd gwers ar ddeddfau iechyd gan eu cymydogion. Y Wylnos. YN nghyfarfod Cynghor Gwledig Aberystwyth, ddydd Liun cyn y diweddaf, galwyd sylw at y peryglon sydd yn nglyn â. chadw Gwylnos. Hen ddefod Babaidd, a gadwyd am oesau yn yr Eglwys yn Nghymru, ac a gedwir hyd heddyw y gan Ymneillduwyr rhanau helaeth, ydyw'r Wylnos. Ffyna yn rbyfeddol yn mysg y Gwyddelod Pabyddol, tan yr enw Wake," ond gyda hwy nid yw ond eyfeddach orphwyllog. Y tylwythau Celtaidd yn unig sydd yn parhau i'w chadw yn yr Yuysoedd hyn a pho fwyaf Celtaidd, mwyaf gwyinosiidd. Yn Nghymru, cyfarfod gweddi yn nhy'r ymadawedig ydyw'r Wylnos yn mhlith y Gwyddelod, cyfarfod i [ ubain ar ran enaid y marw ac i yfed a meddwi. Y mae'r olaf yn erchyll o farbaraidd, ac nid oes fawr i'w ddweyd yn ffafr y llall. Fel y dywed. wyd yn nghyfarfod Aberystwyth, ymgynulla pobl i gwrdd gweddi'r Wylnos na welir hwy bytb mewn cwrdd gweddi mewn lie o addoliad ac apelient at y gwahanol enwadau i ddatgan eu haanghymeradwyaeth o'r arferiad-beryglus i'r byw a difudd i'r marw, druan. Dyma ddesgrifiad Robert Buchanan o Wylnos y Gwyddel :— O'CONNOR'S WAKE (an Irish Fiddle Tune). To the wake of O'Connor What boy wouldn't go ? To do him that honour Went lofty and low. Two nights was the waking, Till day began breaking, And frolics past spaking, To please him were done For himself in the middle, With stick and with fiddle, ,Sbretch'd out at his ease was the King of the Fun. With a divinity curtain overhead, And the corpse-lights shining round his bed, Holding his fiddle and stick, and drest Top to toe in his Sunday best, For all the world he seem'd to be Playing on his back to the companie. On each of his sides was the candle light, On his legs the tobacco pipe were piled Cleanly washed, in a shirt of white, His grey hair brush'd, his beard trimmed right, He lay in the midst of his friends and smiled. Isaac Gordon. IUDDEW yn rhoi benthyg arian ar usuriaeth ydyw'r dyn hwn, weithiau tan ei enw el hun, ond fynychaf tan rhyw enw arall, ac ambell dro tan rbyw enw Cymraeg. Dywed y sawl fu yn delio gydag ef fod y llogau a gwyd yn rhyfeddol o uchel, a thystia ei fynych ymweliadau a. llys* oedd y gyfraith fod ei delerau yn gelyd. Anaml y ceir trugaredd ganddo pan na fyddo'r benthyc- iwr brydlon gyda'i ad-daliadau. Mae'r barnwyr yn lJawdrwm arno, ac yn ei rhoid hi'n hallt iddo pan g&nt gyfleuatra. Un o anffodion peoaf mas- nachwyr ydyw rhoi eu hunain yn nghrafangau benthycwyr arian ac ofnwn fod llawer mwy o hvn yn Nghymru nag y mae lluaws yn feddwl. Nid yn ddiachos y beir y papyrau newyddion sydd yn cyhoeddi hysbysiadau y bobl hyn, a thrwy hyny yn arwain yr ehud a'r hygoelus i brofedigaethau na ddaw yn fuan ohonynt. Yr luddewon. AR y cyfan, coledda Cristionogion syniadaa car- dig am yr luddewon, ac ymawyddant am eu dychweliad i'w flfydd a'u bedydd. Y mae gan. ddynt gymdeithasau cenhadol i geisio eu hargy- fhoeddi o Iuddewiaeth ond ni fa fawr o arddel- iad hyd yma ar eu gwaith. Y flwyddyn ddi. -weddaf, er engraipht, costiodd argyhoeddi Iuddew yn Lloegr 1 372p neu, yr oedd traul y genhadaeth yn 38,438p, a'r nifer a fedyddiwyd ar gyffes o'u ftydd Gristionogol yn 28. Wrth gwrs, nid yw troodigaeth Iuddew ac arian bathol Lloegr yn perthyn i'r un farcbnadfa nic i'r uu byd. Erchy IIdod. Bu y Mercury hwyrdrwm yr wythnos ddiwedriaf yu adeiladu ei ddarllenwyr gyda haaes manwl, yn ymeatyn i ddwy golofo, o'r mwrdrad a'r hunan-laddiad truenus yn Ffestiniog -hanes crydd o'r enw Dafydd Williams, mewn ffit o wall- goffwydd yn lladd ei wraig ac yua'n lladd ei hnu. Nid oedd dim neillduol yn y trosddd, ond fodyr hen wr wedi blino ar ei hoedl ac yn ei ddyrys wch, wedicymeryd ymaith fywyd yr un o bawb y dylasai ei gwarchod rhag pob anffawd, a'i fvwy i ei bun wedi hyny. Buasai chwarter y gofod yn ddigon, yn enw pob rheawm a dynoliaeth, o hanes cyflafan mor brudd a gofidus. Cyflawnir gweithredoedd erchyllach bob wythnos yn Lloegr, ac ni roddir mwy o'u hanes nag adrodd- iad o'r tystiolaeth yn llys y treagholydd a dyna wnaeth y papyrau eraill yn yr achoa hwu. Ond rhaid i'r Mercury gael dweyd faint o b!ant fu gao y wraig anffodus cyn priodi, mai mercb Betsan Evans o Bffllheli ydoedd, mai capten llong oedd ei thad, a bod tair chwaer iadi mewn gwasanaeth yn awr yn Lerpwl. Bdth yn y byd oedd a wnelo y personau hyn druain a chain wedd eu cbwaer ac ysgelerder y llofruddiaeth 1 Yna ceir manylion y mwrdrad—fel yr bogodd y llofrudd y gyllell, y tynodd ei esgidiau yn y gegin, y torchodd ei lawes dde, y dringodd y 11 grisiau i'r llolft lie y gorweddai'r wraig a'u bab- an seithmis ya ei ochr, &c., y modd y cafwyd yr hunan-lofrudd yn ei waed a'i wddf wedi ei dori o glust i glusr, a'r modd y cafwyd y llofrudd- iedig a'i gwddf wedi ei dori, ac archollion y gyllell ar ei dwylaw yn profi iddi ymladd yu galed am ei bywyd. Ceir yn y rhan yma o'r banes, ddigon o waed i ddigoni cylla estrys. Tpbe i fod yr yagrifenvdd yn ceisio dynwar- ed De Quincey yn ei Murder as a F'ine Art Mae'n ddigon rhyfedd mai Williams oedd a(i w y mwrdrwrs yn y <fdau banes. Ond yr oedd mawr wabaniaeth rhwng medr y ddau Williams, ond dim mwy na rhwng galla dau hanesydd yr erchyllderau. Papyr Seianig at wasmaeth Saeson ydyw'r Mercury a bydd g%n ei ddarllenwyr syniad rbyfedd am Ffestiniog ar ol darllen yr hanes gwaedlyd hwn a r cyfeiriad ynddo at y mwrdrad arall a gymerodd le yno flwyddyn yn ol.