Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

Uenyddi ieth.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Uenyddi ieth. "EDMWND PRYS, ARCHDDIACON MEIRIONYDD: Traithawd Bywgraphyddol a Beirniadol, gan T. R. ROBERTS (Asaph)." YR oedd hwn y testyn goreu hwyrach yn Rhestr Eisteddfod Genedlaethol JFfestiaiog y llynedd, a dyma y traithawd a farnwyd yn ail oreu o'r wyth a ddaeth i law. Yr enillydd oedd y Parch Tecwyn Parry, Llanberis; ac yn ol y feiraiadaeth, bit y beirniaid-yr Hybarch Ddeon Howell, y diweddar (erbyn hyn) Barch Owen Jones, B.A., Llansaut- ffraid a Dyfrig—mewn peth petrusder i ba un o'r ddau y dyferuid y wobr. Ceir ya y rhai gyntaf o'r gyfrol fywgraphiad o'r Archddiacon clodfawr, yn cynvyys treigliad ei fywyd maith o 15-1:1 hyd 1624. Ganwyd ef yn y Tyddyn I) a, Maentwrog, daeth yn rheithor y phvvf, ac mewn llaaerch anhysbys o weryd yr eglwys neu'r fynwent hono y gorwedd ei Iwch. Aeth i fyw at ei ail fab, Morgan Prys, pan briododd aeres Gerddi Bluog, plwyf Llanfair, ger Harlech, ac yno y bu farw. Mae'n amiwg mai ychydig a gwasgaredig oedd y defnyddiau at yr ad- ran yma o'r gwaith, canys esgeuluswyd cofiant Archddiacon Prys vn echrydus hyd yn hyn. Pan ystyrier pobpeth, mae'n syndod i Asaph wneud cystal bywgraphiad. Dyddorol ydyw'r hanes a roddir am yr ymrysonau barddonol y bu yr Archddiacon yn- ddynt, yn benaf gyda William Cynwal, hefyd Tomos Prys o Blasiolyn ac eraill. I'r darllenydd cyffredin bydd hanes Salmau Can Elmwnd Prys, en cyfan- soddiad a'u teilyngdod o'u cymharu a, gwaith eraill, o ddj ddordeb mawr. Ofnwn fod yr awdwr ambell waith yn orfeirniadol, ac yn rhedeg i'r un rhysedd a'r sawl a goudemnia. Ch anegiad dirfawr at werth y gyfrol fuasai adargraphu y Psalmau, dy- weder, o argraphiad 1621; ond gwneir iawn am y diffyg trwy gyhoeddi llon'd cynifer a 50 tudal o gywyddau'r bardd na fuont o'r blaen mewn argraph, a llon'd tua'r un nifer o dudalenau o gywyddall wedi eu casglu yma ac acw oddiar feusydd y cylchgronau Cymreig a llyfrau eraill. Gresyn fod y cywyddau hyn wedi eu cyfleu yn golofnau dwbl; y maent yn anhwylus fel y maent i'r sawl al en mawrhau, a gwneud cywiriadau o ysgrifau eraill, yn arbenig tray gellir prynu papyr am brU mor isel. Buasai Cyn- wysiad manylach hefyd yn chwanegu gwerth y gyfrol. Ond y mae hi yn gaffaeliad gwerth- fawr i lenyddiaeth Cymru, ac yr ydym yn diolch o galon i Mr Roberts am dani.

— • O * — Caiofn Olrwast

Marwolaeth ! y Parch. Parch…

Advertising

I PWLFUOAU CYMREIG, Mai 28.…

PURWCH Y GWAED.

Ffestiniog.

Marwolaeth y Parch W. d. Thomas

-0 Llythyr Lerpwl,

Ar Finlon y Ddyfrdwy.

Advertising