Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Colofn Dirwest

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Colofn Dirwest UWCH DEIHL GOIREIG CnlRu. DRWY garedigrwydd un o'r ffyddloniaid ffyddlonaf, dyrna'r manylion am yr Uwch Demi yn Nhowyn Meirionydd. Dechreuwyd no3 Lun gyda phwyllgorau. Agor- wyd am 9 30 ddydd Mawrth gan yr U B. D. Rees Evans. Dtngosai adroddiad Pwyllgor y Credlythyr- au fod mwy nag arfer o gynrychiolwyr wedi dod yn nghyd Derbyniwyd adroddiadau yr Uwch Brif Demlydd, U.A. Temlau'r Piant (Parch E Griffith), U.A. Echoliadol (Brawd L'ew Wynne), U.Ysg (Parch 0 N Jone?, a'r U Drys. (Capt Thomas). Tystiai'r cwbl fod gwaith mawr wedi ei wneud yn ystcd y flwyddyn, er y carasent weled mwy o ffyddlondeb mewn rhai dosbarthiadau a themlau. Cold fod ych- ydig o dAmlau wedi ymollwng, on i yn nghyfer hyny yr oedd 15 teml newydd wedi eu hagor, a chynydd yn rhif yr aelodau. Llawenheid am gynydl yn nhemlau'r plant, ac mai Gobaith yr Oes (teml Gymieig y Rhos) enillodd faner y Wir. D.U. Densl am y cynydd mwyaf. Cym- liellai'r pwyllgor yn gryf gael teml plant yn nglyn a phob teml o rai mewn oed. Pa-siwyd i geisio gan Bwyllgor Eisteddfod Temlwyr Da Lerpwl gynyg gwobr am Holwyddoreg i Demlau Plant, gan hyderu y ceid llyfr gwerth ei gyhoeddi. Adroddiad Pwyllgor L'enyd liaeth a Cherddoriaeth a gymhellai fwy o ddefnyddo lenyddiaeth dirwest a geir yn swyddfa r Uwch Dem), a defnyddio pob cyfle a geir trwy gylchgronau a newyddiaduron i ledaenu egwyddorioa Temlyddiaefh Dirwest. Pasiwyd fod y Pwyllgor Gweithiol i drefnu clwyn allan lyfr tonau ac emynau at wasauaeth I pi mt gynted gellir —y pris heb fod uwehlaw Gch. Wedi cryn drafod, pasiwyd hefyd adroddiad y Pwyllgor Arianol, a ddangosai fod sefyllfa arianol yr U weh Demi yn fodd- haol. Adroddiad Pwyllgor Lies yr (Jrdcl a ofidiai nad X) :dd amryw demlau plant yn gwne id eu cyfrifon chwarterol yn brydion na phr odol, ac felly'n colledu yr Uweh Demi, ac erfynid yn daer am ddiwygio'r af- reoleidd-dra. Pasiwyd fod yr arholiad eleni yn yr un maes a'r llynedd, gan ddisgwyl mwy o ymdrech ar ran y cyfrinfaoedd y tro hwn. Gwrthodwyd gyda mwyafrif mawr gais D >sbarth Lerpwl am newid adeg yr eistecldiad blynyddol. Pasiwyd fel deddf leol fod y pwyllgor gweifchiol yn cyfarfod o leiaf deirgwaitb yn y flwyddyn. Adroddiad y Pwyllgor Gwleidyddol a ofidai golled Dirwest trwy farwolaeth Mr T E Ellis, A.S,, ac yn cydymdeimlo a'r teulu. Pasiwyd penderfyniadau yn condemnio Pwyllgor Eisteddfod Caerdydd yn trefnu i werthu diodydd meddwol yn nglyn a'r wyl. Gwrth- dystiwyd hefyd yn erbyn yr ymgais i faglu Dewisiad Lleol er mwyn llwyddo Rheoleiddiad B wrdeisiol. Pasiwyd i anfon cofion goreu yr U.D. at Plenydd a'r Br Davies. Cwmaman. Caed llu o gyrddau cy- lioeddas ya Nhown a'r cylch nos Fawrth a nos Fer- cher. Dyma'rswyddogionam y flwydclyn :U.B.D., y Parch Rees Evans; U Gyng., Parch J Williams, Abergwynfi U.T.D., Chw Mrs T Roberts, Caerdydd; U.A.Eth., Br L Roberts, Bootle U.A. T. Piant, y Parch E Griffith C.U.B.D., Parch M Morgan U. Ysg., Parch 0 N Jones; U. Drys., Cap ten G B Thomas; U. Gap, Parch J D Evans, Towyn; U. Ringyll, Ar W W Rosser, Abertawe D. W.D. U.D., Br Llew Wynne; IT.Y,Cyii, Chw Roberts, Ffestin- iog U.W Br Jones, Troedyrhiw; U.B., Br Joue,, Penisa'rwaen; U.I.R., Br Jones, Llanelli I-T.N., Chw Williams, Aberystwyth. Diolchwyd yn wresog i gyfeillion Towyn am eu ^rofsaw calon i'r Uwch Demi, a therfynodd yr eis- teddiad 5 o'r gloch ddydd Mercher.

[No title]

|Yn Ngwlad Ceiriog

Barddonlaeth

Nodiadau o Lanbsrfs

PURWCH Y GWAED.

Advertising

DILYN Y MEISTR.