Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

Llythyr Lerpwl,I

Ar Finion y Ddyfrdwy.

BETH YW CYNILDEB?

Eisteddfod Cenedlaethol Caardydd.

Y PWYLLGOR A GWERTHIANT DIODYDDI…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y PWYLLGOR A GWERTHIANT DIODYDD MEDDWOL. Trech gwlad nac arglwydd," ie, a tlirech llais y wlad na phwyllgor, hyd yn nod Pwyllgor Caerdydd. Gorfu i'r pwyllgor hwn o'r diwedd blygu o flaen y teimlad cynyddol sydd yn Nghymru o blaid (lirwest. Darfn i'w penderfyniad dro yn ol i ganiatau gwerthu diodydd meddwolo fewn terfynau yr Eisteddfod greu cryn gynliwrf yn y wlad, a phasiwyd penderfyniadau di-rif o gondemniad arno gan bwyllgorau a chynad- leddau yn mhob rhan o Gymru, ond safai y pwyllgor yn gadarn a diysgog yn ngwyneb yr holl wrthdvstiad. Gwuaed cais yn ddiweddar i ddiddymu y penderfyn- iad, ond gwrthodwyd hyny trwy fwyafrif o ddau. O'r diwedd, boddlonodd y pwyllgor i dderbyn dirprwyaeth ar y mater oddiwrth Undeb Eglwysi Rhyddion Caerdydd. Nos Wener, cyfarfu y pwyll- gor gweithiol, a gosodwyd y mater gerbron gan y ddirprwyaeth, gan ddeisyf arnynt ail ystyried eu J penderfyniad yn ngwyneb y gvvrthwynebiad cyffred- inol trwy'r wlad. Cyflvvynodd yr ysgrifenydd hefyd fwdwl mawr o ddeisebau a phenderfyniadau oedd ef wedi dderbyn o amrywiol fanau. Darllenwyd llythyr oddiwrth Mri Cory Bros, yn addaw tanysgrifio can' punt at yr Eisteddfod, ond ar yr amod nad oedd diodydd meddwol i gael eu gwerthu. Cynygiodd y Prifathraw Edwards eu bod yn dad- wneud y penderfyniad blaenorol, a cliefiio, d gan y Parchn J Morgan Jones a II M Hughes. Arwein- iwyd yr ochr arall gan Mr Corbett, goruchwyliwr Ardalydd Bute. Cawsant ddadl faith a phoeth. Wrth bleidleisio, cariwyd y cynygiad i ddiddymu y penderfyuiad trwy 20 yn erbyn 12. -:0:-

Nodion o Faeior.

0 ! EN NBBO.

[No title]

---0---V MOR-GWI3GOEDD Y MOR.

Advertising

DILYN Y MEISTR.