Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

17 erthygl ar y dudalen hon

R. J. Derfel.

llanbedrog.

Glyn y Weddw.

Oyn doeth a Chymwynaswr.

Afbnyddu'r Marw.I

Gyffredinolj

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Gyffredinol Dirwywyd Albert Price i ddwy bunt am bysgota yn y Ddyfrdwy. Ei bechod ydoedd defuyddio darn o samon yn lie ge-nwair ar ei fach. Y mae cor eglwysig yn Nghaerdydd wedi myned ar streic oherwydd fod y ficer a'r organydd yn cweryla yn nghylch y pwnc pwysig pwy ohonynt oedd :') hawl i erchi ac i dalu am y gerddoriaeth. Aeth y Parchn J. Towyn Jones. Cwmaman, a W. James, Abertawe, am dro i Ffrainc er budd eu hiechvd. Ar ol mordaitb arw iawn. cyrhaeddasant Bordeaux yn ddyogel. Cyhuddwyd gwr a gwraig gerbron ynadon Caer- narfon o gamdrin, esgeuiuso a gadael eu plant. An- fonwyd y tad i'r carchat am dri mis, ond rhyddha- wyd y fam ar yr amod ei bod i vinddatilgos pan elv, ir ami. Cyhuddwyd Thomas Pritchard, postfeistr, Llau" ddona, o flaen ynadon Porthaethwy. o ymosod ar IMargaret Ann Hughes, gwraig briod, Tyddyn Ben. Llauddona. Anfonwyd ef i sefyll ei brawf yn y frawdlys nesaf. Y mae y gwneuthurwyr alcan Cymreig wedi sef- ydlu cymdeithas newydd er ymuno a'r gweithwyr i hj-rwyddo buddianau y naill a'r Hall trwy drefnu y cyflog a phenderfynu pob annghydfod trwy gyflafar- eddiad. Dydd Mawrth. yr oedd dyn o'r enw Thomas Jones yn cael ei godi i fynu o'r pwll yn nglofa Bwcle, a dyn arall yn cael ei ollwng i lawr. Ar y ffordd ataliwyd y cawell er mwyn i'r uyn elai i lawr fyned allan ar un o'r haenau uchaf; a chan dybio ei fod wedi cyrhaedd y man a ddymunai, camodd Thomas Jones allan a syrthiodd'i lawr y pwll. 1 Yn ei anerchiad ar The Memory of the Kymric Dead." rhoddodd y diweddar Mr T. E. Ellis le blaenllaw i liobert Owen, y Cymdeithasydd, yn mhlith y rhai y barnai ef y dylai Cymru godi cofeb- au cyhoeddus iddynt. Fel y gwyddis, mae mudiad yn awr ar droed i sefydlu llyfrfa gyhoeddus goffad- wriaethol i'r Cymdeithasydd enwog yn ei dref ened- igol. Coledda Mr. H. M. Stanley, syniadau uchel am Major Marchand. Dywed ei fod yn cydymdeimlo a'r parch a'r edmygedcPa delir iddo yn Ffrainc, am fod ei daith i Abyssinia, trwy ddyffryn Sobat, yn wrhydri ynddi ei hun, ac y dilynir hi gan ganlyniad- au pwysig. Credai ef, yn nesaf at Speke a Living- stone, mai Marchand ydyw anturiaethwr penaf Affrica. liboed teitlau ac urddau i arm-yw wyr enwog ra achlysur pen blwydd y Frenhines. Yn mhlith eraill' gwnaed Mr Lawrence Pugh Jenkins, Prif Farnwr Uchel Lys Bombay, yn farchog. Brodor o Langad- og, sir Gaerfyrddin yw efe. Gwnaed Mr T Morel, maer Caerdydd, hefyd yn farchog. Gwnaed Mr II M Stanley, A.S., yn G.C.B. (Grand Commander of the Bath), a Mr W H Preece, C.B., prif drydanydd a pheirianydd y Llythyrdy hyd yn ddiweddar, yn K.C.B. (Knight Commander of the Bath). Gwnaed Mr J H Preece, y Consul Prydei-nig yn Ispahan, a brawd i Mr W H Preece, hefyd yn C.M.G. (Urdd St. 3Iichael a St. George). Dirwywyd Edwin J. Cheers, ffermwr, Rechery, Burton, i 20s, a'r costau, am weitbio ceffyl pan mewn ystad annghymwys. Dyma'r ail dro iddo I gael ei gospi am greulondeb tuag at geffyl. Dirwywyd Amelia Davies, Pentre Broughton, i swllt a'r costau, yn gwneud deunaw swllt, gan ynadon Gwrecsam, ddydd Llun am ladratta par o esgidiau o fasnachdy Mr. G. Oliver, Hope Street. Torodd tan allan fore Sul diweddaf yn mas- nachdy Mr. E. Tomley, Bridge St., Gwrecsam, gan wneyd cryn ddifrod. Ytnwthiodd y mwg i'r ty oedd yn nglyn a'r siop, a deffrodd Mr. Tomley rhwng 3 a 4 o'r gloch bron a mygu. I Galwodd am y tan-ddiffoddwyr, ac erbya iddynt hwy gyrhaedd, cawsant y counter, y silffoedd a'r I nwyddauj yn brysur cael eu difa gan y fflamau. Dydd Lun, cynaliwyd Cymanfa Ganu y Bedyddwyr yn Cefnmawr dan arweiniad Mr Emlyn Davies, A.R.A.M., y baritone poblog- aidd. Ymgynullodd cantorion o eglwysi Llan- gollen, Garth, Froncysyllte, Acrfair, Tabernacl a Seion Cefnmawr, a Chefn Bychan. Cawsant gymanfa hynod lewyrchus, a chyflawnodd Mr Davies ei waith yn rhagorol. Y cyfeilwyr oeddynt Miss Mary Evans, Acrfair, a Mr E H Jones, Llangollen. I Gerbron ynadon Garston, ddydd Mawrth, cy- huddwyd John Williams, morwr o Gaergybi, o ladrata amryw nwyddau o Sefydliad y Morwyr. Daliwyd ef gan gudd-swyddog yn Birkenhead, Tystiwyd iddo niweidio ei ben tra ar ei for- daith ddiweddaf, ac nad oedd yn atebol am a wnai. Gohiriwyd yr acbos.

CohebiaethauI

! Sefyll Allan yn Chwarel…

jDail Te (Hell a Newydd).

[No title]

Helynt yn Nghynghor Trefol…

Damwain yn Nghonwy.

Damwain i Alltwen.

Cais i ddymchwelyd tren,

Ymneillduad AS. Cymreig.-

Marchnadoedd.

CWRS Y BYD.