Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

----------Eisteddfod Genedlaethol…

Nswycfdlon Cyrrersig.

Advertising

i I PWLPUOAU CYMREIG, Mehefin,…

-,-,,-Cohlrio Priodas.

PWY SYDD YN FFOL ?

Syr Wm. Harcourt yn Nantyglo.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Syr Wm. Harcourt yn Nantyglo. YR wythnos ddiweddaf, talodd Syr Wm Harcourt ymweliad a'i etholwyr yn Nantyglo, sir Fynwy, a chafodd groesaw brwdfrydig. Traddododd anerch- iad grymus a chalonogol. Sylwodd mai duU y dydd ydyw beirniadu gor- phenol, presenol, a dyfodol y Blaid Ryddfrydol; a bod rhai cyfeillion caredig yn galaru oherwydd ei dirywiad. Dywedai Iarll Salisbury ac eraill na fydd hi byth yr un fath a'r hyn ydoedd yn 1886. Ond Did oes gan y Blaid Ryddfrydol ddim i edifar- hau o'i blegyd, ac nid oeddynt am droi yn ol. En- illasant frwydrau mawrion, ac y mae buddugol- iaethau mwy yn eu haros Hanes y blaid ydyw cronicl o egwyddorion mawrion ac achosion teilwng, wedi eu cychwyn yn wrol a glynu wrthynt yn ben- derfynol, y rhai yn fuan neu hwyr a goronwyd a, llwyddiant a bendith i'r wiad. Beth yw hanes y Blaid Doriaidd Pob achos a ddygasant yn mlaen wedi ei orchfygu gan eu gwrthwynebwyr neu yn amlacli ganddynt hwy eu hunain wedi ymwrthod ii phobpeth a fuont gynt yn goleddu, ac wedi mab- wysiadu pobpeth a fuont gynt yn wrthwynebu. Am y cyfryw resymau, gwell ganddo ef ydoedd gor- phenol Rhyddfrydiaeth fel mater o fyfyrdod per- sonol. Dywedai Arglwydd Salisbury fod v blaid yn 188G yn gynwysedig i raddau helaetli o ddvnion oeddynt mewn ystad o drawsffurfiad. Ffordd dvner ydoedd lion i ddarlunio ystad meddyliol y "rhai oeddynt ar fyned trosodi i wersyll y gelyn. Bellach y mae'r dynion hyny yn fwy Toriaidd na'r Toriaid, ac yu fwy Jingoaiad na'r Jingoaid. Yn nghanol ac yn ngwyueb y cyfan, glynai y blaid yn t'fyddlawn i'w harweinydd ac i'w credo. Parhaent i gynal eu hachos Lanesyddol, ac nid oedd achos mwy hanesyddol i'r Blaid Rvddfrydol na chymodi yr Iwerddon. Er i Mr Gladstone fethu cael Ym- reolaeth iddynt, yr hyn a wnaeth efe a wnaeth lywodraeth leol i'r Iwerddon yn anocheladwy; ac heb weithrediad Mr Gladstone ni welsai Mesur Llywodraeth Leol byth oleuni oddiwrth Weinvdd- iaeth Doriaidd. Wedi gorchfygiad 1880, enillasant frwydr 1802 yn erbyn y Toriaid a'r brad-gilwyr gyda'u giiydd. Wrfch gyfeirio at Yr adeg hono, nis gallai beidio son am ei gyfaill Tom Ellis, i'r hwn yr oedd clod mawr y dyddiau hyny yn ddy- ledus, gan mai ef trwy ei ddvlanwad rhyfedd, ei dymher garedig. ei ffyddlondeb a'i ymdrech dihafal, a gadwodd y blaid wrth eu giiydd, ac a'u galluogai gyda mwyafrif fn-chaii i gyflawni llawer dros yr achos Rhyddfrydol. Gyda'r holl adgofion, a oedd- "llt hwy, am iddynt gael eu trechu yn 1895, i hiraethu am deimladau trawsifurfiol boneddigion 188!! fel pe baent grochanau cig yr Aipht ? Nid dyna ei deimlad ef, ac ni thybiai mai dyna deimlad ei wrandawvr. Galwai rhywuu ef (Syr William) yu "little hiiiglander." Nis gallai ond cliwerthin am ben hyny, oblegyd ni wyddai ef am yr nn Lloegr fechan i berthyu iddi. Yr oedd Ymherodraeth, vn ol ei symad ef, yn wladlywiad ag oedd a'i amcau uchaf i gymodi y tiriogaethau eang, y miliynau an- eirif, a'r buddianau amrywiol a wnai i fyun ein Ym- erodraeth ddigymhar. I ddadblygu eu cynyrchion, ysgafnhau eu beichiau, meithrin eu cynydd naturiol, eu cynorthwyo mewn caledi, ac i godi safon pob math o ddyniou yn mhob amgylchiad, y rhai oeddynt yn ddeiliaid y Frenhines. Y mae math arall o wladlywiad Yniherodrol, ac yn hollol i'r gwrthwyn- eb. Yr oedd i ohirio ac israddio yr holl bethau hyn i hunanoldeb gwag, i grafaugu am diriogaeth- au a phoblogaeth nevvydd, i fabwysiadu beichiau ychwanegol-dyna syniad y bobl hyn am Ymerodr- aeth. Nid oedd ef yn estyniedydd, ac nid oedd T" Blaid Ryddfrydol felly os nad oedd am fradychu ei hegwyddorion. Beth bynag a ddywedir am ein plaid, ni fu ac nid yw yn blaid Jingoaidd, ac nid yw yr enw Ymherodrol fel ei harferir yn bresenol ond enw arall ar Jingoyddiaeth. Aeth yn ei flaen i feirniadu gwladlvwiaeth dramor a chartrefol Arglwydd Salisbury. Soniodd hefyd am ddiddymu Ty yr Arglwyddi." O berthvn- as i Ddadgysylltiad yr Eglwys yn Nghvmru,' vr oedd y blaid wedi gwystlo eL hnn iddo. Ymddi- bynai Arglwydd Salisbury ar yr Eglwys yn f,toe,,t, i achub yr Eglwys yn Ncrhi-iiiru rltag dadgysylltiad, ond y mae gan yr Eglwys hono fwy nag a all i achub ei hUD. Mwy tebygol ydyw i Gymru ddad- gysylltu yr Eglwys Babyddol yn Lloegr nag i'r Defodwyr achub yr Eglwys yn Nghymru rliau dadgysylltiad. & ° Nid ydoedd ychwaith am droi cefn ar yr achos dirwestol. gan y llwyr gredai mai meddwdod ydyw pechod penaf Prydain, a rhaid i'r Wladwriaeth wneud rhywbeth i atal v difrod ofnadwv. Yr oedd ganddo n'ydd gref yn nyfodol y Blaid Ryddfrydol ond iddynt ddal en tir, a pheidio rhoddi fforddi "deiiuladau trawsffurfiol;" osyglvnai^ rth eu harwyddair, a pheidio bradychu eu hachosion hanes- yddol nac addoli gau dduwiau: os y glyuai wrth yr j hen egwyddorion gartref ac oddicartref: Oî daliaifei gafael yn sylwedd yr Ymherodraethalluog, a pheidio crafangu y cysgod gwag. o

Colofn Oirwest

Cohebiaethau,

Dringo Cegin y Cythraul.

Tabwrdd ag iddo hanes.

' Anffawd mewn Angladd,