Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
16 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Y mae Undeb y Peirianwyr wedi penderfynu I'hoddi levi o dair ceiniog y flwyddyn ar bob aelod, gyda'r amcan o gadw tri cynrychiolwr yn Nhy y Cyffredin. Cariwyd y penderfyniad gyda mwyafrif o dros bedair mil. Y mae yn debygol y saif Mr Barnes, yr ysgrifenydd cyffredinol, dros Sun- derland. Llosgwyd rhan o'r farchnadle yn Abertawe «dydd Mawrth, a gwnaed difrod ar eiddo gwerth miloedd o bunau.
iEisteddfod Frenhinol Genedlaethol…
Eisteddfod Frenhinol Genedlaethol Lerpwl, 1900, CrxALiwri) cyfarfod o'r pwyllgor cyffredinol nos Fawrth, dan lywyddiaeth Mr 'William Evans, Y.H., Southport, ac yr oedd cynulliad da yn bresenol. Ar ol i gofnodion y cyfarfod blaenorol gael eu darllen a'u cadarnhau, cynygiwyd cymeradwyaeth oddiwrth y Pwyllgor Arianol o berthynas i hawl- ysgrif rhestr y testynau a'r rhaglen, a derbyniwyd ef. Cymeradwyaeth arall oddiwrth yr un pwyllgor, ydoedd, eu bod yn caniatau 50 gini i'r Pwyllgor Cerddorol i'w rhoddi i ryw gyfansoddwr cerddorol Cymreig i barotoi rhyw waith gwreiddiol i'w ber- fformio yn un o gyngherddauyr Eisteddfod. Cytun- i hyny. Daeth cymeradwyaeth oddiwrth y Pwjllgor Cerddorol, eu bod yn rhoddi 50 gini fel yr enwir uchod, y gwaith i fod yn gantawd ddramayddol, y libretto i'w sylfaenu ar ryw hanesiaeth Gymreig, gyda geiriau Cymraeg a Saeneg. Iddi gymeryd o awr a chwarter i awr a haner i'w pherfformio. Cynygiwyd gwelliant i'r perwyl fod y mater yn cael ei roddi i gystadleuaeth am y 50 gini, er mwyn rhoddi cyfle i rai o'n cerddorion ieuainc ond coll- wyd y gwelliant. Cytunwyd a'r cynygiad gwreidd- iol, a dewiswyd Dr Joseph Parry i ymgymeryd a'r gwaith. LLENTDDOL. Cyflwynodd y Pwyllgor Llenyddol restr gyflawn o'u testynau, gwobrau a'r beirniaid. Cynwysant 11 o destynau barddonol, 11 rhydieithiol, a B 0 gyfieith- iadau. Bu cryn ddadleu ar rai ohonynt, a gwnaed amryw gyfnewidiadau arnynt yma a thraw. Testyn y gadair ydyw Y Bugail." Gwobr, 25p a chadair dderw. Testyn y goron, "Williams Pantycelyn." Gwobr, 25p a choron aur. Yr ymgeiswyr i ddewis eu mesur eu liunain os y caniata yr Orsedd hyny. Hefyd cynygir gwobr o 20p am ddrama ar Arch- esgob Williams, Conwy, ar adeg y rhyfel gartref ol yn Nghymru." Y beirniaid ar y farddoniaeth ydynt- Tafolog, Proff J Morris Jones, M.A., Berw, Iolo Caernar- fon, Glanystwyth, a Ben Davies. Yn rhestr y traithodau, cynygiai Syr J Brunner wobr o 50p am draithawd Cymraeg ar Fywyd a Gwaith Mr T E Ellis, A.S." Awgrymai un ar i Nicholas o Eflint gael ei ddewis yn feirn- iad. Cynygir 30p am draithawd Cymraeg neu Saes- neg ar Gymru yn y 19eg ganrif ei chynydd mewn dysg a moes;" ac 20p am Ragarweiniad i'r Mabin- ogion, yn cynwys Efrydiaeth Gymharol." Cynygid 15p am "Lawlyfr ar Drefnidedd Gwladol (Political Economy)," ond hysbysodd yr ysgrifenydd i'r testyn hwn fod yn Nghaernarfon yn 1892; am hyny, dychwelwyd ef i'r Pwyllgor Lleayddol i ddewis testyn arall. Bn cryn siarad ar beth a fedclylir wrth "Ddiwyd- ianau Cymreig; eu banes a'r moddion goreu i'w dadblygu," canys ni wyddai rhai o'r aelodau beth yn y byd oeddynt. Modd bynag goleuwyd hwy ar y miter, a mabwyl-iadwyd y testyn. Ceir amryw des tynau eraill o ddyddordeb, a gwobrau sylweddol ar- nynt. Ychwanegwyd enw Mr J H Davies, Cv/rt- mawr, yn fsirniad ar un o'r testynau. Yn rhestr y Cyfieithiadau, cynygir 10 Giai am Ar- alleiriad o ganeuon Cynddelw Brydydd Mawr," Tair Arwyrain i Owain Gwynedd, a marwnad Owain Gwynedd. Cyfieithiad i f.ydr Saesneg o Gywydd y March," (Tudur Aled), ac i'r Gyraraeg-Traithawd Mazzini "Faith and the Future." o
Dail Te (Hen a Newydd).
Dail Te (Hen a Newydd). CYFARFYDDODD Ianci a hen Gymro gyda llwyth o faip, ac yn ol arfer ymffrostgar F'ewythr Sam, cy- merodd yr ymddyddan canlynol le:-IaDei: -1 Beth yw y rhai hyn—afalau?" Cymro: "Nage, syr." land: "Meddyliwn mai ie. Yn ein gwlad ni y mae'r afalau gymaint a nhw." Cymro: "Ond cws- berins ydyw y rhai'n, mistar. Aeth dyn yn sir Fon un tro i dy tafarn a galwodd am lasiad o gwrw, ac wedi ei gael, dywedodd wrth y tafarnwr ei fod wedi newid ei feddwl, ac y cymerai sigar yn ei le. Cymerwyd y ddiod i ffwrdd, a go- sodwyd y fyglysen ar y cowntar, yr hon a daniodd y cwsmer, a cherddodd ymaith Hei," ebe'r tafarn- wr, tydach chi ddim wedi talu am y sigar." On rois i'r glasiad cwrw yn ei lie hi," ebe'r llall. la, ond thalsoch chi ddim am y cwrw." Naddo, debyg yfas i mo'r cwrw." Dyna beth alwai un bardd yn "Logic yn twyllo'r Ledger." Pan ddaeth Diwygiad Mawr 1859, i Ruthin, fe dorodd allan tan bregeth un o'r hen bregethwyr mwy- af diafael yn y sir. Sylwai yr hynod loan Jones yn y Seiat nesa, "'Roedden ni'n disgwyl am dano fo es ws- nose, ac yn meddwl ma mewn coits an ffdr y doe, ond ar gefn mul y d6th o yn te frodyr." (I barhau). --0--
Twnel i'r Iwerddon.
Twnel i'r Iwerddon. YMGYNULLODD aelodau o ddau Dy y Senedd, nos Lun, i ystyried y pwnc o wneuthur twnel rhwng swydd Antrim, Iwerddon, a Portobello yn YScotland. Dywedir mai hyd y twnel fydd 25 milldir, mai dyfoder eithaf y dwfr vn y pwynt detholedig ydoedd 85 gwehyd, fod yr holl amodau daeregol yn tfafriol, ac mai y draul fydd deg miliwn o bunau. Ttaethwyd ar yr amrywiol faateision a ddeillient oddiwrth fodolaetli twnel; a phenderfynwyd, ar gynygiad Iarll Spencer, i ofyn i Mr A J Balfour dderbyn dirprwyaeth ar y mater.
[No title]
-0- Dyfarnwyd Gwobr y Mill Hill eleni i Mr D Miall Edwards, B.A., cyn-fyfyriwr yn Mhrifysgol Ban- gor a Choleg Annibynol Bala-Bangor, a brodor o Landderfel. Rhoddir y wobr hon yn flynyddol gan Goleg Mansfield, Rhydychain, i'r hwn a basio oreu yn arholiadau y coleg am y flwyddyn. Yn Llys Ysgariaeth Dublin, ddydd Llun, caniata- wyd i lythyr wedi ei gofrestru gael ei wasanaethu ar Dr Tanner, A.S., yn dal perthynas a'r ddeiseb am ysgariaeth a ddygir yn mlaen gan ei wraig. Codwyd y ddeiseb tua mis yn ol, ond yr oedd y Dr yn cadw ei hun yn nhy ei wraig yn Cork, ac felly yr oedd pob ymgais i roddi y wjrs iddo yn gwbl ofer. Cafwyd wyth gini ar hugain am faneg oedd wedi cael ei gwisgo gan Nelson, mewn arwerthiant yn Llundain. Llifa ffrwd o inc naturiol, can ddued ei arliw a huddugl, o waelod Mynydd' Hannesaw, yn y Tal- aethau Unedig.
----IEthoiiad Edinburgh.
I Ethoiiad Edinburgh. BUDDUGOLIAKTH FAWR I'R RHYDDFRYDWYR. DDYDD Llun cymerodd yr etholiad le yn rhanbarth ddeheuol Edinburgh, y sedd aeth yn wag trwy farwolaeth Mr n. Cox, Undebwr. Mr A. Dewar ydoedd ymgeisydd y Khyddfrydwyr, a Mr A. G. Wauchope oedd yr Undebwr. Bu yno frwydro I caled, a phrophwydid buddugoliaeth i'r ddwy blaid. I Gan mai distyllwr chwisci ydyw Mr Dewar, ofnid y troai y blaid ddirwestol yn ei erbyn, ac felly buasai etholiad y Hall yn sicr. Modd 'bynag, dyma'r can- lyniad:— Dewar (R) 5,820 Wauchope (U) 4,989 Mwyafrif Rhyddfrydol 831 Yn 1895, aeth yr Undebwr i mewn gyda mwyafrif 0 97, tra nad oedd mwyafrif Mr H. W. Paul ZR) yn 1892 ond 431. Dyma felly fuddugoliaech ardderch- og-, yr hon sydd yn arwydd eto fod y llauw yn troi yn Ysgotland yn ogystal ag yn Lloegr.
RHAKBARTII DDWYSEXNIOL EDINBURGH.
RHAKBARTII DDWYSEXNIOL EDINBURGH. Ddydd Gwener nesaf, cymer etholiad arall le yn yr un dref, sef yn y rhanbarth ddwyreiniol, yr hon aeth yn wag trwy farwolaeth Dr Wallace. Yr ym- geiswyr ydynt Mr George M'Crae (R) a Mr H. G. Younger (II). Gan fod y mwyafrif Rhyddfrydol yn 1895 yn 419, disgwylir y ca Mr M'Crae fwyafrif mawr ddydd Gwener.
ETHOLABTH WAG OLDIIAM.
ETHOLABTH WAG OLDIIAM. Prydnawn ddydd Llun bufarw Mr Ashcroft, yr aelod seneddol dm., Oldham. Ceidwadwr ydoedd, a chafodd ei ddychwelyd gyda mwyafrif mawr yn 1895. Fe ddywedir, modd bynag, nad yw'r Ceid- wadwyr yn barod i etholiad, ond fod y Rhyddfryd- wyr yn effro, ac mai Mr Eannett fydd eu hymgeis- ydd." --0-
0 Ben Nebo,
0 Ben Nebo, HAUL-IURA WIAD.-Llectodd ton o wres eithafol I dros yr ardaloedd hyn ddechreu yr wythnos ddi- weddaf. Yn y gweithfeydd calch prin y gallai'r dynion ddal i weithio o'r herwydd. Ni pharliaodd yn hir iawn fel yr oedd goreu ond cawsom awelon iachus i'n lloni a'n bywliau ni ar ben Nebo, both bynag am bobl dyffrynoedd. Digwyddodd un am- gylchiad lied ddifrifol yn y Bwlch Gwyn dydd Mawrth. Tarawyd geneth fechan chwe' blwydd oedd o'r enw Cordelia Williams gau y gwres, ac erbyn bore dranoeth yr oedd wedi marw" Cydym- deimlir yn fawr a'i rhieni yn eu profedigaeth lein. Claddwyd hi dydd Sul. BLAENAU, LLANARMON.-Nos Lun a dydd Mawrth, y 5ed a'r 6ed o'r mis hwn, cvnaliwyd cyfarfod pregethu yn y lie uchod pryd y gweinydd- wyd gan y Parchn J. E. Thomas, Coedpoeth, a J. Tonlas Hughes, Bwlchgwyn. YR EISTEDDFOD.—Cyn y caf gyfle i anfon gair eto bydd yr Eisteddfod yn mhlith y pethau a fu. Disgwylir gwyl eleni fwy llwyddianus na'r llynedd os yn bosibl. Gwnaethum ychydig gamgymeriad yn fy ysgrif gyntaf o berthynas i enwau'r ymgeis- wyr. Y mae yna 12 ar y gadair ac 8 o draethodau, ac y mae nifer y cystadleuwyr yn mhob adran yn dri chant. Hyderwn y ca'r gwyr ieuainc ddiwrnod dymunol i gynal eu Heisteddfod. ALUN. -0-
Rhymni.
Rhymni. GAN EIN "GOHEBYDD NEWYDD." Cyfarfod C'roesawol.—Mae rhai ohonom, Mr Gol., yn ddarllenwyr cyson o'r Cymro cryno a chwaethus oddiar ei ymddaugosiad cyntaf ar lwyfan bodolaeth ond nid wyf wedi gweled ynddo bwt o ohebiaeth o'r lie hwn o hyny hyd yn awr. Er fod y gwrdoeth wedi dweyd nad oes dim newydd o dan haul, yr wyf yn dymuno cynyg y nodyn hwn, yn rhoi hanes cyfarfod croesawol ein contralto enwog, Miss Mari Richards, ar ei ^dychweliad o America, wedi bod yno am wyth mis fel aelod o barti cerddgar Beynon. Yr wyf yn dymuno i'r hanes gael ymddangos yn y Cymro am mai efe fu ei chymwynasydd penaf o holl newyddiaduron y cread trwy ei thaith yn ngwlad yr estron. Ni phallodd ei gysuron am un wythnos, ac fe gafodd ei ffynonau grisialaidd yn ddyfroedd oer- ion i enau y sychedig. Wedi deall fod" Miss Rich- ards yn ol yn ein plith, hwyliwyd ar unwaith i wneud cyfarfod croesawol iddi; gosododd y beirdd eu pegs i lawr, a thiwniodd y cantorion eu telynau, a seiniwyd yr udgorn i gyfarfod yn nghapel Eben- ezer nos Fercher. Yr oedd y lie yn llawn erbyn adeg dechreu. Cymerwyd y gadair gan y Parch D. Oliver, gweinidog yr eglwys yn mha un y magwyd Miss Richards ynddi. Wedi araith agoriadol, bwrpasol, galwodd ar Mr Daniel Davies i anerch y cyfarfod, a rhoddodd key note hwyliog iddo. Dy- wedai fod^rhai, feallai, yn gofyn paham y gwneir cymaint o dwrw gyda pheth o'r fath, a'i fod ef wedi bod yn chwilio am reswm ei huu. a'i fod wedi llwyddo i gael hyd i amryw ond ua dclywedai ond un, fod Miss Richards wedi ymadael a'r lIe fel cymeriad cyhoeddus, felly priodol yw ei derbyn yn 01 fel cymeriad cyhoeddus, a chan gyfarfod cyhoedd- us." Dywedai hefyd fod Miss Richards yn ei pherson yn cynrychioli rhai o brif nodweddion cenedl y Cymry, fel mae yn gantores uchelraddol, ac fel aelod crefyddol bur a ffyddlon i holl gyfar- fodydd crefyddol yr eglwys. Siaradwyd yn mhell- ach gan D. W. Davies, a D. Thomas. Canwyd gan Mr Tom Jones a'i barti, Daniel Jones, Miss M. A. Tavies, a Dewi Carno. Safodd wyth i fynu i ganu penillion telyn ar eiriau wedi eu cyfansoddi i'r amgylchiad. Darllenwyd penillion ac englynion croesawol gan Daniel Davies, Urien, Twynog, Ruth, Dewi Hefiu, D. W Davies, a Dewi Carno. [Drwg genym nas gallwn hebgor gofod i'r hanes colofn farddoniaeth sydd yn dilynj. colofn farddoniaeth sydd yn dilynj. --0-
IHenafiaethwifr.
Henafiaethwifr. DYDD Llun yniadawodd y Parchn J Fisher, B.D., Rhuthin; David Jones, Llangerny w; yr Arch- ddeacon Thomas, gydag eraill, o Lerpwl am Belfast, i ymuno a chwmui sydd yn cychwyn am bleser-daith ymchwiliadol o ddeng niwrnod, Cym- deithas Henafiaethol yr Iwerddon. Bwriadant ym- weled ag ynysoedd yr Orkneys, lona, Hebredes," ac ynysoedd eraill yn ngogledd yr Albau, dychwelya i ogleddbarth yr Iwerddon, gan ymweled a'r holl fanau hyny sydd yn cynwys adfeilion dyddorol &c.
[No title]
-0- Hysbysir fod un o'r Cwmniau Agerlongau syddyn rhedeg rhwng Ewrop a New York, yn bwriadu adeiladu dwy agerlong o faintioli yr Oceanic, os nad yn fwy na hono i
-=£ Sasiwn y Wesleyaid yn…
= £ Sasiwn y Wesleyaid yn Mac iynlleth. (Parhad o'r rhifyn dhvedd'if). BORE dydd Mercher, cynaliwyd cynadledd yn nghapel y Methodistiaid Caliinaidd dan lywyddiaeth y .Oywydd Cymreig, ac ar ol anerchiad bvr gaiiddo agorwyd ymdrafodaeth gan y Parch T Jo-es--g Humphreys ar "Fnvyd "y Cristioa." Crmerwyd rhau gan y Parch John Jones a Mr David Owen, Llundain. Anerchiad gan y Parch H. Price ffuqhes. Traddododd Llywydd y Gynadledd Brydeinig anerchiad hj-awdl a grymus i'r gweinidogion a'r pre- gethwyr. Prif amcan y cynadleddau "hyn ydoedd calonogi ein gilydd i fod yn well Cristion'ogio:i; ac yr oeddynt y dyddiau hyn wedi dyfod i weied mai ystyr Cristion ydoedd di'lyn Crist. Arferai yr hen dadau lefaru llawer mewn modd cyfrin ac am ddrych- feddyliau, a defnyddio geiriau a thermau duwinvdd- ol, megys cyfiawnhad, ail-enedigaeth, sancteiddhad, ac yr oeddynt oil yn wir. Ond yn yr oes wyddonol hon, y mae eisiau pregethau ymarferol. ac ystyr yr holl dermau ydyw bod yn well Cristion—yn debyc- ach i Grist. Ni wyddai am well rheol iddo ei hun na hyn—"Beth wnai Iesu Grist pe vn fy He i ? Ofnai fod llawer yn byw heb wneud ond yr hyn a f eddy lien t a wnai Crist ar 3- Sabbothau, heb feddwl o gwbl pa beth a wnai ar hyd yr wythnos. Ond yr oeddynt yn dvfod i weled os osddvat am ddyn wared Crist y rhaid ei ddyn wared yn gyfangwbl, ac nid yn unig gwneud yr hyn a wnai Ef yn y capel. yn y seiat, neu wrth Fwrdd yr Arglwydd, ond beth a wnai Ef y tu ol i'r cownter yn y siop, neu wrth y ddescytt SWN ddfa'i- eN freitliiwr, neu ar y fferm, oblegvd rhaid ei efelychu Ef mewn busnes yn ogystal ag yn yr addoliad cyhoeddus a rhaid ei ef elychu Ef mevvn gwleidyddiaeth, a phleidleisio fel v cre,ieit v gwnai Crist-nid dros blaid, am mai plaid y'.v. eithr dros yr hyn sydd iawn. Bydded iddynt weithredti yn ol fel y credent y gweithredai yr Iesu pe yn eu lie. Pan yn fachgenyn, methai ddeall paham y oedd cy- nifer o ddyuion yn absenoli eu huaain o'r addoliad cyhoeddus dros holl Ewrop. Yr oedd y gwragedd a'r plant yno, ond pa le yr oedd y dynion ? °Yaa gofynai iddo ei hun paham yr dynion dros holl Ewrop mor frwdfrydig dros Garibaldi, Mazzini, Cas- tello, ac arweinwyr cymdeithasol eraill, ac yn barod i farw drostynt ? Dywed rhai mai eu dysgeidiaeth yw yr achos; ond y mae pobgwir a draethodd y dyn- ion hyn yn cael ei ddysgu gan Grist. Crist yw cyfaill goreu y gweithiwr. Y mae y gweithwvr yn rhyddion heddyw, a chanddynt blddleisiau, ac y mae hyny yn ddyledus i ddylanwad Crist. Ymddyeithria dynion oddiwrth Gristionogaeth am y rhes win nad ydynt yn cymhwyso eu hegwyddorion crefyddol at fasnach a bywyd cyhoeddus. Canlynant un rheol yn y capel, rheol arall mewn masnach, rheol arall mewn cymdeithas, ac arall drachefn mewn gwleid- yddiaeth. Rhaid cael un rheol os ydynt am efelychu Crist. Dylent gerdded yn nghamrau yr Iesu, a cheisio gwneud fel y gwnai Ef. Yr oeddynt yn dyfod i weled hyn yn fwy eglur o hyd. Yn ddi weddar, cyhoeddodd Mr Sheldon, gweinidog Pres- "s byteraidd yn yr America, lyfr dan yr enw In His Steps. Cafodd y cylchrediad helaethaf o unrhyw lyfr er amser Cuban F'Excythr Twin. Beirniadai rhai ef yn llym, ond cytunai ef yn hcllol a'i awdwr. Darllenodd y llyfr, a mwynhaodd ef yn fawr. Mewn newyddiadur neu unrhyw fasnach arall, credai na ddylai dyn wneud dim a fyddai yn annghyson a'i broffes fel Cristion. Nis gallai newyddiadur Crist- ionogol gyhoeddi hanes ffiaidd ymladdfeydd a new- yddion truenus hapchwareu a phethau felly. Diwr- nod gogoneddns fuasai hwnw pan y gallai pob Crist- ion ddarllen newyddiadur o'i ddechreu i'w ddiwedd heb wrthwynebiad i unrhyw ran ohono. Dengvs y miliynau o gopiau a werthwyd o lyfr Mr Sheldon fod cydwybod y cyhoedd yn dechreu deffro, a bod y bobl yn dyfod i weled y rhaid iddynt gymhwyso eu hegwyddorion Cristionogol at ddyddiau gwaith yn ogystal ag at ddydd yr Arglwydd. Pe buasai pawb yn y capel hwnw yn gwneud ei feddwl i fynu i wneud pob peth yn y dull y gwnelai Iesu ef, y fath gyfnewidiad a fuasai yn Nghymru Wrth gyfeiria at athrawiaeth sancteiddhad, dywedai fod syniad gan rai pobl nas gallent gael eu hargvhoeddi a'u sanct- eiddio ond yn unig ar nos Sul dan oleu nwy vn y e gauaf. Ond gallent gael eu hachub yn ngoleu'haul ac yn y bore. Y felldith fawr y rhaid iddynt ochel rhagddo ydyw diod gadarn ac arian. Pwy "glywodd am Fethodist yn cael ei droi o'r seiat am ei fod yn cam arian? Os nad oedd ganddynt arian, llongyf- archai hwynt; os oedd ganddynt arian, cydymdeim- lai a hwynt. Yr oeddynt mewn perygl, a rhaid wrth weddi. Nid ar wely angau yr oedd yr amser na'r lie i droedigaeth; antur ofnadwv oedd myned yno yn anniharod, Yrn awr yw yr amser i ddyfod at Grist. Ordeinio Pregethwyr, Ar ol hyny, cynaliwyd cyfarfod ordeinio yn v capel Wesleyaidd, ac ordeiniwyd y Parchn Thomas Rowlands, Berwyn Roberts a Meurig Joues. Cy- merwyd rhan yn y gwasallaeth gan y Parchn Ed. Humphreys, P. Jones-Roberts, Hugh Jones a Rice Owen. Traddodwyd y Cynghor gan y Parch D 0 Jones, Manceinion. Yr oedd y capel yn orlawn, a chynaliwvd cyfarfod arall yr un adeg yn nghapel y Methodistiaid. Cyfarfod Pregethu. Yn y prydnawn, pregethwyd yn yr awyr-agored gan y Parchu Hugh Hughes a Hugh Price Hughes, DYDD IAC. Prif waith y dydd hwn ydoedd trefnu lleoedd y gweinidogion, a gwnaed amryw gyfnewidiadau yn V De a'r Gogledd. Bu y mater o gynrychiolaeth ar y Gynadledd Brydeinig dan ssy!wf a phasiwyd penderfyniad vu ffafr hyny.
DrDD GAVE NEE.
DrDD GAVE NEE. Mabwysiadwyd yr anerchiad bugeiliol at yr eglwysi, yr hwn a barotowyd gan y Parch Rice Owen, a bu ymdrafodaeth faith ar Lyfr y Swyddi ac ar gyfieithiad y gwasanaeth ordeinio o'r Saesneg i'r Gymraeg. Wedi hyny, penodwyd amryw bwyllgorau a chvm- -M eradwywyd amryw enwau fel rhai cymhwys i gael myned i'r sefydliadau duwinyddol. Ar ol talu y diolchiadau arferol i'r gwahanol swyddogion a'r rhai fu'n cymeryd rhan yn y Sasiwn. dygwyd y gwelthrediadau i derfvu gauol dvdd Gwener.
[No title]
-11- Nid yw masn-achwyr Caerdydd yn credn llawer iawn mewn cau siopaa yo gyuar. M Ie dwy o siopau mawr y lie yn bwriadu ymestvn eu horiau gwaith am fod eraill yn pallu can yn gyoar. Hefyi y mae y siopau 'baco ya mynd i ail agor ar y Sal. i
CWRS Y BYD.
abwysiodir hi yn lied gyffredinol, i udganwyr fin beolydd. Bendith fawr fydd cael glared A r lindys bendith fwv, os yr un, fydd cael ymadael a'r German Band o'n hystrydoedd. Mae hyn yn fy adgofio am hen foneddwr ad- waenwn gynt oedd gan blanigfa o goed ifainc yn cael eu difa gan lindys, ac a ddarllenodd yn rhyw bapyr newydd mai y moddion goreu i ddifa'r pla ydoedd eu rnyga hefo mwg tybaco. Aeth ati ar unwaith i roi prawf ar y cynghor. Danfonodd ei was i'r dref gyfagos i ymofyn yr ysmygwr garwaf ynddi ac wedi ei gael, gaddaw iddo haner coron yn y dydd a faint a fynai o dybaco i ladd y lindys. Penderfynodd y gwas mai haner pan o'r enw Sion Saer oedd y cym- hwysaf at y gwaith. Mawr oedd llawenydd Sion a'i barodrwydd i dderbyn y cynyg. Medd- yiiodd na fa erioed o'r blaenlmor.agos i Gylch y Gwynfyd. Dechreuodd ar ei job yn foreu dran- oetb, a bu wrthi yn ddygn trwy y dydd hwnw a ihranoeth, nes y tybiai edrychwyr o bell wrth weled y mwg fod y blanigfa ar dân. Ond erbyn y trvdyctd hwyr prin y gallai'r ysmygwr lusgo ei hunan gartref, gan mor wan a lluddedig ydoedd, as Did aeth at ei waith wedlyn. Yn lie lladd y liadys, bu agos i Sion ladd ei hun. Gobeithio na fydd i'r Germanwr gyda'i chwythu syrthio i'r un brofedigaeth ag y darfu Sion Saer gyda'i jsmygu. Ceffyi Boulartger- 0 BA.RCH i anmharch ydyw hanes ambell geffyl fel ambell ddyn. Boulanger oedd un o arwein- yddion Ffrainc tan y Weriniaeth ferhoedlog I bresenol. Yr oe id yn ddyn dewr ac uchelfryd- ig, a tbybid unwaith ei fod yn bwriadu efel- ychu Lewis Napoleon, a chymeryd trwy drais .awenau'r Weritiiaeth ond trodd y rhod yn ei erbyn, a bu raid iddo yntau droi'n ffoadur o Ffrainc yn lie ei harlywydd. Yr oedd gan Boulanger geftyl du nodedig o hardd o'r eu w Tunis, a balchder Paris oedd Tunis tra parlia- odd gogoniant ei bercheaog ond wedi'r ffoed. igaeth, collodd yr anifail hefyd lawer o barched- igaeth. Gwerthwyd ef o law i law, nes ei ddarostwng i blith ei frodyr israddol sydd yn tynu cerbydau cyffredin ar hyd yr heolydd. Y mae'n ddiareb fod Paris yn Baradwys i Ferch ed ac ya UtIera i Geffylau, ac ni ddaeth hen- "iut ei hunan" ar warthaf Tunis mwy nag era,ill. Aeth yn rhy wan at ei galed-waith, a gwerthwyd ef i gigydd ceffylau ychydig wytb nosau yn ol, yr hwn a'i lladdodd ac a'i defn- yddiodd yn ddarnau i wneud stiw persawrus o'r tath a gar gwerin Paris. Dychweliad Oreyfus- Y MAE carcharor Ynys y Diafol, Dreyfus yr luddew, yr hwn a alltudiwyd, ar gam yn marn iluaws, i'r lie annghysbell hwnw, newydd gael ei ddwyn yn ol i Ffrainc, a clarpariadau wedi eu cyflawni i'w ail brofi, yr hyn a gymer le yn Rennes, tref yn y rhan ddeheuol i'r wliid. Y mae'r farn gyhoeddus, yn codi oddiar y gau dystiolaethau a ddygpwyd i'w erbyn yn y prawf cyntaf, bellach gymaint yn ei ffafr, fel y dis- gwylir yn gyffredinol y caiff ei ryddhau. Y Senior Wrangler." DyuA. brif wobr flynyddol efrydwyr Caer- grawnt, a mawr ydyw'r ymgais am dani, a'r clod a'r safle ucbel yn myd addysg a ddaw i ran 11 ei henillydd. Eleni cafwyd prawf mor werinol a chyffredinol ydyw dysgeidiaeth fel y ceir hi yn ein prif golegau. Barnwyd yn gydstad George Birtwistle o Burnley, sir Lancaster, a R. P. Paranjpye, gwr ieuanc o Hindw, brodor o India, tra mai brodorion o Awstralia, o'r enw McLaren a Bevan, oedd y trydydd a'r pedwer- -ydd yn y rhestr. Peth chwithig iawn ydyw meddwl am "Hindw melynddu" yn cyfranogi o'r brif wobr, gyda mab i wraig weddw a Wes- leyad, canys dyna ydyw Mr Birtwistle. Yna daw S B. McLaren, Ysgotyn o genedl, a P. V. Bevan, sef mab y Cymro hybarch Dr Llewelyn Bevan, Melbourne. Gynt cyfyngid yr anrhyd- edd hwn i aelodau o Eglwys Loegr, a gwaith t, cl mawr a gafodd ein tadau i agor drysan ein prif- ysgolion i rai na phertbynent i'r Eglwys Sefydl- edig. Fel y mae'r byd yn symud yn yr iawn gyfeiriad. Pa bryd y cawn ni Gymro o Gymru yn Senior Wrangler," neu yn brif godymwr yn Nghaergrawnt f Gyda ein cyfundrefa ar- dderchog o addysg, ni ddylem orfod disgwyl yn hir bellach. Phyl yn y Senedd, LLE go fflat ydyw Rhyl mewn mwy nag un ystyr, ac y mae gwaith y Cynghor yn 0 atal pob math o gyfarfod ar y parade neu y f r rodfa yn debyg o wneud y lie yn fflatiach fyth. Nid oes gan y Rhyl yr un mynydd fel sydd gan Llandudno, na choedwig fel Colwyn Bay y mae'r mor gwastad ar un ochr a Morfa gwastadach am filldiroedd ar ei hocbr arall; ac y mae gan mlynedd ar ol Southport a Blackpool yn mhob peth bron. Dywed rhai mai tafarnwyr, ac eraill mai defodwyr, sydd wrth wraidd y symudiad Can dy geg hwn. Yn mh'le mae synwyr, tybed 1 Yr oedd Rhyl yn ddigon mynwentaidd eisoes ? chan mai amcan ei Chynghorwyr, yn ol pob golwg, ydyw ei gwneud yn fwy felly, onid gwell iddynt blanu rhes o goed ywen ar ochr y parade a gosod ambell i feddgist i fynu yma ac acw fel arwyddlun arall o randiir marwoldeb ?