Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
KEMP'S HIGH-CLASS CASH TAILORING, -AT- 15, WHITECHAPEL, 0 a LIVERPOOL, AT MODERATE PRICES. SPEC I A LI TE far Spring ani Summer 1902 INDIGO BLUE SERGE SUIT, 7Z* TO ORDER A SPLENDID SUIT FOR BUSINESS WEAR. Waterproof OVERCOAT to order, 30s. MADE FROM THE NEW GREY VENETIAN, POROUS & SOFT. ALSO IN GREEN AND DRABS. Scotch Tweed Suit to order, 35s. UNDOUBTEDLY THE BEST SUIT IN LIVERPOOL. FIT, STYLE, « WORKMANSHIP GUARANTEED. PATTERNS POST FREE. Mention the "CYMRO" when ordering. ■ £ 100,000 Worth of Furnishing Goods AT THE LOWEST PRICES IN GREAT BRITAIN. FURNITURE, CARPETS, LINOLEUMS, FLOORCLOTHS, RUGS, MATS, and MATTINGS, BEDSTEADS and BEDDING, CURTAINS, CRETONNES, HOUSE- HOLD LINENS, IRONMONGERY, GLASS, CKINA, &c., &c. A House Completely Furnished in 24 Hours by RAY & MILES, 38 to 48, London Road, LIVERPOOL. Dyma'r Masnachdy 1. J AM DEILWRIAETH AT FESUR. T G-werth Goreu yn Lerp-wl. Nwyddau Newyddion rhagorol am y Tymhor dyfodol. JOHN EVANS, 190 & 192, Windsor St., Telephone 62 Toxteth, LIVERPOOL. Messrs. CUMPSTY & SON, Dentists, 78, ISLINGTON, LIVERPOOL, I XTISH to draw the attention of the Public generally to their great improvement in the manufacture )f DENTAL SUCTION PLATES, whereby the whole mrface is made porous, thus enabling the wearer to .etain the teeth firmer in the mouth, and with greater :omfort than by the ordinary methods. Consultations Free. Painless Extractions. A Set of Teeth from 3s. a Tooth. ESTABLISHED 1860. R. CLAMP & SON, Portmanteau, Bag § Truqk MANUFACTURERS. "• lord* »";] Liverpool. NEWBERY'S IFURNITURE For all Classes. NEWBERY'S FURNITURE is well-made, Substantial, and Thoroughly Reliable. We believe in Honest Trading for ready money. If you want FURNITURE that will last, and CARPETS that will resist. hard wear, we can offer you goods of Sterling Value at the Lowest Possible Prices. No HIRE SYSTEM. No CREDIT. I ARTHUR NEWBERY, Ltd. r' House Furnishers 75 & 77 London Road LIVERPOOL FOR GOOD VALUE) AND ECONOMY IN TAILORING, TRY ADAM JONES, 71 Great Charlotte St LIVERPOOL Pull out Your Pipe Light up and think Is it worth your while to write on for a pair of my 3/6 or Twelve Bob BOOtS. I a*ree to return your money if they are not the finest value i on have ever seen Arthur Evans, 5, London Rd., L'pool -_u- CYMRO CLAN GLOYW Ydyw K E NR I C K, y JTeiliwr, 16, Renshaw Street. LERPWL. Gwarentir Style, Fit, a Nwyddau am y Prisiau mwyaf rhesymol.
Y ODAEARCRYP.
Y ODAEARCRYP. Y MAE'R Daeargrynfeydd a fu, bvthefnos yn ol, vn ysgytio rhai o Ynysoedd yr India Orllewinol, ac yn ysgubo oddiar eu g wyneb y nifer luosocaf o'u trigol- ion, wedi taro yr hil ddynol t braw a dychryn mawr. Teimla athronwyr a dysged;gion eu bod wyneb yn wyneb ag un o nerthoedd natur na wyddant ond y nesaf i ddim am ei achos, y deddfau sydd yn ei lywodraethu, na pha fodd i'w ochelyd. Fel barn y cyfeirir at yr arddangosion ofnadwy hyn yn yr Ys- grythyr a llenyddiaeth henafol, a barn yn ddiau ydynt ar y trueiniaid o ddyn ac anifail fyddo yn eu cyrhaedd, er y myn rhai athronwyr nad yw'r llosg fynydd, a agorwyd gan y Ddaeargryn ar y cyntaf, ond moddion o ddyogelwch i'r hen ddaear yma, yn union fel y mae'r safety valve i'r berwedydd. Nid yn ddirybudd y daeth y galanas hwn ar Ynyswyr St Pierre a St Vincent, -y naill vn perthyn i Ffrainc a'r Hall i Loegr. Yr oedd rhuadau anarferol yn nghrombil y ddaear odditanynt er's dyddiau ac yn yr ynys Ffrengig yn enwedig, cynullai y bobl i'w heglwysi wrth y miloedd i weddio am eu gwaredu rhag y difiod a'u bygythiai. Ond rhaid oedd i'r deddfau ufuddhau, ac heb hyny nid oes wybod na fuasai'r blaned ei hun yn ffrwydro yn friwsion a phob bywyd ar ei gwyneb yn trengu ac o flaen gweith- redoedd neithol o'r fath yma, ni fedr y meddwl cryfaf ond gostwng pen a gwyl- eiddio. Ar y dydd cyntaf o Dachwedd, 1755, y bu Daeargryn yn Lisbon a wnaeth brif-ddinas Portugal yn annghy- fanedd ac a laddodd y nifer fwyaf o'i thrigolion a chan i hyn ddigwydd ar Wylyr Holl Saint, rhwng naw a deg yn y bore, pan oedd y lluaws yn yr eglwysi, y rhai a gwympasanl ar yr addolwyr, yr oedd y dinystr yn fwy. Ond yn lie ymostwng o dan y Llaw alluog, a chyd- nabod mor feidrol ydyw dyn, aeth mil- oedd o breswylwyr Ewrob, a'r Ffrancod yn arbenig, i wadu bodolaeth yr An- feidrol. Dichon na phar yr amgylch- iad presenol gynydd ar anffyddiaeth yn Ngwledydd Cred, ond dengys mor wyr- gam ydyw barn dyn gerbron ymweliad- au o'r fath yma. Beth oedd nifer y trueiniaid a gollas- ant eu bywydau yn nhrychineb yr India Orllewinol, Mai 3, a'r dyddiau dilynol, nid oes genym ond yr amcan- gyfrif eu bod yn rhywle rhwng deugain a haner can' mil. Y mae'r daeargryn a llosglif y mynydd tanllyd yn claddu eu meirwon, gan mwyaf, tan yr adfeilion eraill a wnant. Rhydd y rhai oeddynt yn llygad-dystion o'r galanasdra ddes- grifiadau sydd yn clafeiddio dyn wrth eu darllen. Cynullid y gweddillion afluniaidd a adawyd heb eu claddu gan y lafa a'r cawodydd o Iudw a phentewyn ion, a llosgwyd hwynt rhag ofn iddynt fagu pla. Cafodd lluaws ddiangfa megys o safn marwolaeth, Ffodd tua pum' mil i fryniau Carbet, lie y llechent yn newynog a sychedig, ac y gwaredid hwy gynted ag y medrai yr awdurdodau. Cyrhaeddodd yr agerlong Roddam i St Pierre am wyth o'r gloch fore yr 8fed o Fai, ac angorodd oddiallan i'r porthladd ond canfu Capten Freeman yn ebrwydd y perygl ar lun cwmwi o dan yn cyf eirio at y fan yr oedd a chan fod yr agerdd i fynu, llithrodd yr angor a throdd y llestr i'r mor agored. Modd by nag, goddiwedd wyd y Hong gan aden o'r cwmwl, a disgynodd cawod danllyd arni nes oedd y fflamiau megys yn ei lleibio, a'r lludw tanllyd yn fodfeddi o drwch ar ei bwrdd. Am chwe milltir y parhawyd i ffoi, ac y dilynid hwy gan eu dinystrydd ac yna caed fod deg o'r dwylaw wedi eu Ilosgi yn golsyn meirwon, ac nad oedd undyn ar y bwrdd heb ei niweidio yn dost-y capten ei hun yn Ilosgiadau tros ei holl gorph. Dyma yr unig long a achubwyd o'r harbwr, gan fod y mor fel pe buasai ar dân. Rhydd trychinebau o'r fath gyfleus- dra i ddyngarwch ddangos fel y gall euro ymylon y cwmwl du. Y mae llywodraethau yr Unol Daleithiau a Ffrainc, a deiliaid Lloegr, eisoes wedi danfon mitoedd o bunau i gynorthwyo y gwaredigion nid yw Llywodraeth Lloegr hyd yn hyn wedi gallu hebgor dim o ganol ei hafradlonedd Y mae gan Brvdain a'i Rhagynysoedd ei pheryglon'a'i gofidiau, ond nid yw y Ddaeargryn, o drugaredd, yn un ohon- ynt. Ambell dro, daw ar ei rawd, gan roi hergwd bychan ini, megys i'n hadgoffa o'i fodolaeth, ond y mae ei losg-fynydd au wedi diffodd er's hwyrach filoedd o flynyddau. Gwelir eu holion ar benau rhai o'n moelydd, fel adfeilion hen odyn galch wedi myn'd a'i phen iddi. Dyna ydyw gwely ein llyncedd bron i gyd, a dylasai fod genvm ddiareb ddiolchgar yn dweyd mai Gwell llvn na llosgfynydd." --o
CWRS Y BYD
CWRS Y BYD Beirdd alu Mamau. LLINELL bur adnabyddus ydyw, "O'r un waed a'r awen wir, er nad yw yn hawdd ei deongli ond fod yr awen i'w chael trwy gaffaeliad ac nid trwy yr hyn a adwaenir wrth "y gwaed.' Bll rhai 0 brif feddygou Ffrainc yn ddiweddar yn dadleu y pWllC, ac y maent wedi dyfod i'r penderfynthdau can lynul YN nghyntaf, fod athrylithiau o'r radd uchaf yn unigol ac eitbriadol; yn ail, fod mam y gwir fardd yn wraig o ddealltwriaeth a grymusder meddwl llawer uwch na'r cyffredin, tra y mae mamau plant dwl yn ferched dwl ac yn drydydd, fod y dalent farddonol yn etife idol, ac yn dyfod bob amser i'r plentyn oddiwrth ei fam. Nid yw y ddysgeidiaeth hon o eiddo dysg- edigion Ffrainc yn newydd mewn un modd. Yn wir y mae o leiaf cyn hyned a'r rhan hono 0 "Cilhwch ac Olwen," yn y Mabin ogion, lie y dywedir yr un peth ar ddamheg pan ymhola Eryr Gwernabwy am oedran Dallhuan Cwmcawlyd, rhag y digwydd iddi ddirywio ei blant. Priodolai Goethe ei duedd ef at farddoni i hoffder ei fam o farddoniaeth. Clywir yn fynych yn yr oes hon mai ychydig o feirdd gwir fawr sydd yn codi; ac os gwir y dyb- iaeth, prinder mamau awengar ydyw'r achos. Pa nifer o'n darllenwyr gafodd y fraint o wrando pregeth y Parch Robert Thomas (Ap Fychan) ar Ddylanwad Mam ar ei Phlant," ar nad yw yn cotio y modd nerthol y dango&ai y pregethwr grymus na fuasai Samuel yn Samuel onibae fod iddo fam ardderchog ? Athrylith. Y SYNIAD cyffredinol yw mai y ddau mwyaf doniol sydd yrt cynysgaeddu y newyddiaduron Saesneg a'u galluoedd y dyddiau hyn ydyw Gould, arlunydd (cartoonist) y Westminster Gazette, a S. L. ff. y Morning Leader. Anrhydeddwyd y blaenaf yr wythnos ddi- weddaf trwy ei wahodd i wledd yn y National Liberal Club a dywedai un o'r siaradwyr yn y wledd, yr hyn sydd yn hollol wir, mai efe ydyw gwawd arluniwr goreu a mwyaf diwenwyn yr oes hon. Am y doniol- ddyn arall, S.L.H., sydd yn ysgrifenu bob dydd dan y penawd Sub Rosa i'r Leader, Cymro glan gloyw ydyw, yn ol a glywais, o sir Gaerfyrddin, o'r enw Hughes, a mab i weinidog Wesleyaidd. Y syndod i bawb yw sut yn y byd mawr yma y maent yn gallu tywallt eu donioldeb mor ddibaid a dihys- bydd. Ond y mae athrylith yn beth mor ddyeithr y blynyddau hyn fel mai ychydig sydd yn ei hadnabod pan ei gwelant. Dathlu y Coroniad. NID oes dadl fod y Brenin yn boblogaidd, er gwaethaf ei dueddiad at rasys ceffylau ac y mae gwlad a thref er's misoedd yn corddi eu hymenyddiau ar ba fodd oreu i ddathlu ei goroniad. Digrif ydyw'r ymgais mewn llawer man. Y plwyfi Seisnig hyd yn hyn sydd ar y blaen o ran gwreiddioldeb. Mewn plwyf orenw Tetbury, penderfynwyd arloesi a thwtio mynwent yr eglwys a byddai llawer i'w ddweyd tros gynygiad cyffelyb mewn ami i blwyf gwledig yn Nghymru, lie y mae trigfa y meirw yn dir annghof mewn mwy nag un ystyr. Er enghraiffb, dyna fy 11 went Llan-, ond gwell peidio ei enwi; hwyrach mai dyna blan y plwyfolion yno hefyd, a hyddai awrgrym trwy y wasg yn sicr o'u tarfu rhag gwneud cymwynas mor angen- rheidiol. Bu plwyf Seisnig arall, sef Great Huckham, yn Norfolk, yn ferw o ben bwy- gilydd, ar y cwestiwn pa un a ddathlent yr amgylchiad trwy wneud pwmp ar y lawnt yn nghanol y Llan, neu a brynent elorgerbyd i gludo eu meirw i dy eu hir gartref, ond y pwmp aeth a hi, gyda math o ddealltwriaeth y daw tro yr hers y Coroniad nesaf. Pobol Farus. LLE arswydus o fwyteig ydyw Denby Dale, gellid meddwl, canys y mae'r trigolion yn ol a ddywed eu newyddiadur, yr Ossett Observer, wedi penderfynu dangos eu teyrngarwch trwy ddarpar pastai anferth gymaint bron a Phastai Fawr Llangollen y soniai Ceiriog am dani. Mae'n ymddangos mai dyma ddull cyffredin y cwm hwn o gyd- lawenhau. I ddangos eu diolchgarwch am yr heddwch yn 1815, gwnaethant bastai oedd yn cynwys haner dafad, ugain o gywion ieir, a thua pheciad o flawd. Ac er fod hon yn bryd go helaeth, nid oedd ond cyw pastai wrth yr un a bobwyd ar gyfer Jubili Victoria, yr hon a wnaed mewn dysgl oedd yn pwyso 15 canpwys, yn 8 troedfedd ar ei throws, yn 2 droedfedd o ddyfnder, a'r holl bwysau yn 2 dynell. Costiodd JE250, a thynid hi gan ddeg ceffyl, Efallai nad oedd wedi crasu digon, ac mai dyna'r achos ei bod mor drom. Adwaenwn hen wr er's talm, coeglyd a edliwiai i'w gym- bar pan na fyddai'r dorth heb godi, sawl ceffyl fu'n dy helpio di i ddwad a'r dorth yma adre' ?" Bu clwy til yn cyfranogi o'r bastai hono ac ni ddywedir faint o wlyb a gymer- wyd i'w golchi i ]awr, na pha faint a dalwyd i feddygon am iachau y bobl sal. Chwedl uu o'u hawduron hwy eu hunain, "The English take their pleasure sadly." Proph-wyd Newydd. GWELAIS mewn amryw bapyrau yn ddiwedd- ar y paragraph rhybuddiol a ganlyn :— AR neu oddeuta ddydl LIun nesaf (y LluDsrwyn), Mai 19, 1912, fe dyrr tymhestl ofnad vy ar Lerpwl a'r ardal, gan beri dinyaor mawr ar adeiladaa a llongau, yn nghyda difrod gahrus ar fywydau. Yr oedd hi n arferiad gynt yn Israel, lle yr oedd prophwydi o bob math cyn amled ag ydyw beirdd yn Nghymru y ddyddiau hyn" pan godai prophwyd newydd yn mysg y bobl ei roi yn ngharchar hyd nes cyllawnid dydd- iau ei brophwydoliaeth ef ond bu y gwel- edydd newydd hwn mor ddoeth a rhoi dydd cyfiawniad ei brophwydoliaeth yn ddigon agos, fel na fyddai ei gaethiwed yn hir. Mesur Dewisiad Lleol i Gymru. PAN oedd Mr Herbert Roberts yn dadleu teilyngdod ei gynygiad ar y cwcstiwn uchod nos Wener, cyfrifwyd y Ty a chafwyd nad oedd ond 38 a aelodau yn bresenol; yr hyn, wrth gwrs, a roddodd derfyn ar y ddadl am y tymhor hwn. Dywedir mae rhai o'r aelod- au dros Gymru oedd yn gyfrifol am hyn, a diau y ca y cyfryw air yn mhellach gan eu hetholwyr. Yr oedd Syr Wm Harcourt yn un o'r 38, daethai Mr Lloyd George i fynu yn unswydd o Giernarfon, a thrwy ddamwain yr oedd y cab a ddygai Mr. Ellis J. Griffith oddiwrth ei waith yn y Law Coxwts fynyd yn hwyr. Gwaith da i'r Sir-grnghorau. Y MAE siroedd Morganwg a Chaerfyrddin, trwy eu Cynghorau, wedi cychwyn symudiad a efelychir gan bob cynghor sir arall, gobeithio, yn Nghymru sef cyflwyno zC25 yn y flwyddyn ar lun ysgoloriaeth yn un o'r colegau i r cerddor ieuanc mwyaf addawol naill ai ar lais neu gerdd-otferyn. Enillwyd ysgoloriaeth sir Gaerfyrddin, allan o 19, gan rian ieuanc 13 oed o'r enw Winifred Owen, am chwareu ar y crwth. Y mae i'r ymgeis- ydd llwyddianus ei ddewis o fyned am dair blynedd naill ai i'r R. A.M., Llundain, neu i un o Golegau Prifysgolion Oymru. Nid yw swm y wobr yn agos i ddigon, ond y mae yn ddechreuad iawn ac yn yr iawn gyfeiriad. Cyfiwynir symiau o arian, fel y gwyddis, gan y Cynghorau hyn eisoes trwy addysg gretftol (technical); ac y mae Cymru yn y blynyddau a fu wedi dangos mor gyfoethog ydyw o gantorion uchelryw, fel y dylid ar bob cyfrif symbylu a chefnogi pob talent gudd yn y ganghen yma. Lie y mae'r sir yn fechan, gallai dwy sir ymuno &'u gilydd, a gwneud y swm yn fwy na zC25 a hyderwn y bydd i siroedd y Gogledd efelychu esiampl Morgan- wg a Chaerfyrddin gydag amcan mor deilwncr.
-----"-'0'--lo I--Nosweithiau…
-0' --lo I-- Nosweithiau ya llundain. NOSON IV. A WELSOCH chwi erioed dyrfa o foneddigesau yn ymryson cadw si -,p? Rhywbeth felly a ddigwyddodd i mi un o'r nosweithiau di. weddaf. Denodd un o'r rhyw berswadiol ond annheg fi i dy pend^Sgaidd yn y West End i weled Tywysoges Uymru." Yr oedd y Dywysoges fwyn newydd ddychwelyd o'r Hen Wlad, lie bu'n gwasgar ei gwfin ar dlawd a chyfoethog. Yr wyf tinau yn greadur teyrngarol a meddal, ae felly fe aethum i ganlyn yr ail Efa i Grosvenor House i'w "gweled." Ni soniodd y demt- wraig air am y perygl cyn i ni fyned yno- wedi dyfod oddiyno nid oedd fawr haws; yr oeddwn wedi gorfod myned trwyddo. Palasiy Llundeinio, un o dirfeddianwyr mwyaf cyfoethog y Brifddinas, sef y Due o Westminster, yw Grosvenor House. Saif ar ddarn mawr o dir yn y parth mwyaf ei werth (yn yr ystyr drigianol) o un man yn y ddinas, h.y., yil y llain aristocrataidd sydd yn ym- estyn o Grosvenor Square i Park Lane. Nid yw yn dy cyfforddus i fyiu ynddo, y mae gor- mod ohono ond y mae yn ardderchog fel exhibition Y mae y Due yn garedig °iawn yn ei fenthyca yn ami i gadw bazaars ac i gynal cyngherddau er budd achosion Ilengar- ol a dyngarol. Yr wythnos ddiweddaf rhoddodd ei fenthyg i foneddigesau y Gym- deithas bendefigaidd a adwaenir dan yr enw. Welsh Industries Association, amcan yr hon, fel y dywedwyd wrthyf fi nos Wener, ydyw cynorthwyo llaw-weithvvyr Cymru i wella eu nwyddau ac i'w gwerthu- amcan canmoladwy ac yn haeddu pob cefn- ogaeth. Yn Grosvenor House yr oedd yr olygfa bron yn fwy nag y gallai dyn cyffredin ei dal. Merched pendefigion yn mesur gwlaneni, a mamau arglwyddi yn gwerthu llwyau pren, a'r oil yn casglu arian am y cynta'. Y meddiant o'r olaf yn unig allai osod dyn yn gydstad a'r siopyddion. Os oedd ganddo haner coron i dalu am rosyn,