Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
KEMPS HIGH-CLASS CASH TAILORING, -AT- 15, WHITECHAPEL, ■ • ■ ■ LIVERPOOL, AT MODERATE PRICES. SPECIALITE for Sprirtgand Summer 1902 INDIGO BLUE SERGE SUIT, TO ORDER A SPLENDID SUIT FOR BUSINESS 'WEAR. Waterproof OVERCOAT to order, 30s. MADE FROM THE NEW GREY VENETIAN, POROUS & SOFT. ALSO IN GREEN AND DRABS. Scotch Tweed Suit to order, 35s. UNDOUBTEDLY THE BEST SUIT IN LIVERPOOL. FIT, STYLE, & WORKMANSHIP GUARANTEED. PATTERNS POST FREE. Mention the "CYMRO" when ordering. £100,000 Worth of Furnishing Goods AT THE LOWEST PRICES IN GREAT BRITAIN. FURNITURE, CARPETS, LINOLEUMS, FLOORCLOTHS, RUGS, MATS, end MATTINGS, BEDSTEADS and BEDDING, CURTAINS, CRETONNES, HOUSE- HOLD LINENS, IRONMONGERY, GLASS, CHINA, &c., &c. A House Completely Furnished in 24 Hours by RAY & MILES, 38 to 48, London Road, LIVERPOOL. Dyma'r Masnachdy j E. J r, GL AM DEILWRIAETH AT FESUR. Y Gwerth Goreu yn LerpwL Nwyddau Newyddion rhagorol am y Tymhor dyfodol. JOHN EVANS, 190 & 19!}, Windsor St., Telephone 62 Tox. LIVERPOOL. Messrs. CUMPSTY & SON, Dentists, 73, ISLINGTON, LIVERPOOL, tlflSH to draw the attention of the Public generally to their great improvement in the manufacture of DENTAL SUCTION PLATES, whereby the whole surface is made porous, thus enabling the wearer to retain the teeth firmer in the mouth, and with greater comfort than by the ordinary methods. Consultations Free. Painless Extractions. r- A Set of Teeth from 3s. a Tooth. ESTABLISHED 1860. R., CLAMP & SON, Portmanteau, Bag 4 Trunk MANUFACTURERS. 37,39,&41,DflLS8T,\Tjwpnftn] and 12, LORD IT.UllWpUUi. NEWBERY'S FURNITURE For all Classes. NEWBERY'S FURNITURE is well-made, Substantial, and Thoroughly Reliable. We believe in Honest Trading for ready money. If you want FURNITURE that will last, and CARPETS that will resist hard wear, we can offer you goods of Sterling Value at the Lowest Possible Prices. No HIRE SYSTEM. No CREDIT. ARTHUR NEWBERY, Ltd. House Furnishers 75 & 77 London Road LIVERPOOL FOR GOOD .VALUE] AND ECONOMY IN' TAILORING, TRY ADAM JONES, 71 Great Charlotte St LIVERPOOL Pull out Your Pipe Light up and think Is it worth your while to write on for a pair of my 8/6 or Twelve Bob Boots. I agree to return your money if they are not the finest value you have ever seen. < Arthur Evans, 5, London Rd., L'pool CYMRO CLAN GLOYW Ydyw KENRICK, y Teiliwr, 16i Renshaw Street. LERPWL. Gwarentir Style, Fit, a Nwyddau 81m, y Prisiaii mwyaf rhesymol. At Ein Cohebwyr. Beirniadaeth Alafon ar destya Cadair Eistedd- fod y Bala yn y rhifyn nesaf. Methodist.—Cwyna H Methodist" fod rhyw gam- drefn yn bodoli gyda Sasiwn y Sulgwyn. (a) Yr un pregethwyr a wahoddir bob blwyddyn, ac fod yr eglwysi wedi alaru arnynt. (b) Gorfodi pregethwyr i redeg ol a blaen o'r naill ben i'r ddinas i'r llall gyda'r trams, a rhai dros yr afon ddwywaith, nes y maent bron yn methu cael hamdden i gael tamaid o fwyd. Nis gall- wn hebgor gofod i'r llythyr maith.
."GYMRY CELWYDDOC."
"GYMRY CELWYDDOC." Ai mwy celwyddog y Cymry na chenedl- oedd eraill ? Pe coelid yr awgrymiadau pigog a deflir allan o'r wasg Seisnig, a chyhuddiad ambell chwerwyn o farnwr, y mae y Cymry mor nodedig am ddweyd anwiredd ag vdynt am eu doniau pryd yddol a cherddorol. A phe gwir hyn, ni fuasai genym le i gwyno yn erbyn y rhai a ediiwiant i ni grefyddoldeb nad yw namyn math o wisg Sabbothol am danom, ac nid yn fywyrt a dytohonom. Ein bod yn grefyddol, nid oes neb a wâd; ond peth arall yw bod yn rhin weddol, ac yn mysg rhinweddau eraill yn onest a geirwir. Digon cyfleus yn ami yw y modd y gwahaniaetha rhai rhwng celwydd ac an- wiredd. Gellir, meddir, ddweyd anwir- edd heb ddweyd celwydd. Mae celwydd yn cynwys bwriad o gelu'r gwir a thwyllo. Byddwn yn fynych yn clywed personau yn dweyd yr hyn spdd groes i ffeithiau, ond ni fypem er dim eu dynodi yn gelwyddog. Pe condemnid pob math o anwiredd, nis diengai undyn byw rhag gwarthnod y celwyddwr. Anwiredd yn y llythyren ohoni yw llawer o iaith ymddyddanol pobl, ac mewn llenyddiaeth ystyrir hyny yn rhagoriaeth, weithiau dan yr enw barddoniaeth, bryd arall darfelydd, a phryd arall dychymyg. Pan ddywed y bardd mewn can briodas fod yr haul yn llewyrchu'n ddisgleiriach o'r herwydd, a holl goed y maes yncuro dwylaw gan lawenydd neu mewn marwnad fod y gwynt yn udo ar ol yr ymadawedig, y cymylau yn colli dagrau, a natur yn gwisgo eigalarwisg o niwJ, ni welir fawr o fai ar yr awdwr, a madd- euir iddo ar gyfrif yr hyn a eilw ef yn drwydded farddonol. Ond gormodiaeth y gelwir hyn oil mewn barddoniaeth, ac ni chondemir yr awdwr fel celwyddwr oherwydd nad ei amcan yw twyllo na chuddio'r gwir. Ond y mae person unigol neu genedl yn euog o gelwydda pan y byddont yn bwriadol a gwirfoddol gelu y gwir- ionedd. Yn y peth hwn dygir pobl i brawf beunydd yn nghylchoedd cyff- redin bywyd. Ac i'n bryd ni, nid oes yr un cylch yn mha un y mae yn ddyogel dysgu fod dweyd anwiredd yn yr ystyr a nodwn yn iawn. Athrawiaeth beryglus i gymdeithas fyddai hono. Credwn mai cyfeiliornad fu i'r dyn rhagorol hwnw—John Owen, Tynllwyn-ddysgu rhywbeth tebyg i hawl tenant i ddweyd anwiredd wrth ei feistr tir ar adeg etholiad. Ac mewn masnach, y mae y safon i eirwiredd yn ami yn mhell o fod yn eglur a sicr, a dywedir y gwneir pethau hoUol groes i'r gwir a'r uniawn tan yr esgus ei fod yn understood in the trade. Gyda golwg ar gelwydda mewn mas- nach ac mewn cylchoedd cymdeithasol yn gyffredinol, ni cheisiwn hbni i'r Cymry ragoriaeth ar genedloedd eraill nid ydynt yn hyn, ni a gredwn, na gwaeth na gwell na'u cymydogion, a byddai yn burion i'w henllibwyr o gen- edloedd eraill edrych yn nes adref-o dan eu trwynau a'u traed eu hunain. Gyda golwg ar ebychiadau cyffelyb i'r eiddo Cox a Darling, rhaid cofio iddynt eu gwneud yn nghyffro gweithrediadau llysol ac yn ngwyneb anhawsderau gyda Chymry uniaith a gwladgarol a teddent wrthwynebrwydd i farnwyr Seisnig yn Nghymru. Ac ar gyfer eu sen hwy, digon yw tystiolaeth uchel llu o farnwyr eraill, yn eu mysg y diweddar Arglwydd BrifFarnwr Russell, i ragor- iaeth y Cymry am eirwiredd yn ol fel y ceid hwy yn mrawdlysoedd y wlad. Er hyn oil, mae y ffaith fod y cy- huddiad brwnt hwn yn cael ei Juchio i'n gwyneb mor fynych yn ddigon o reswm dros i'r Cymry osod eu bryd gydag aidd angerddol ar yr amcan o ymddyrchafu yn y rhinwedd o eirwir edd mor uchel fel na faidd neb eu hathrodi fel cenedl anwir mwyach. Gyda pheth petrusder, rhag cael ein camddeall, y cyfeiriwn at gylchoedd crefyddol yn y mater hwn. A yw crefyddwyr ac eglwysi yn seinio cyweir- nod y gwir, y gwir i gyd, a dim ond y gwir, yn ddigon clir a digamsyniol mewn datganiadau a thrafodaethau bydol ac eglwysig ? A yw fod un yn proffesu crefydd yn rhoi sail neillduol i hyderu ar eirwiredd ei dystiolaeth ef ? ac a ydyw y sail hono yn gadarnach yn 01 uchder proffes a safle y cyfryw? Nid yn fyrbwyll y datganwn ein cred fod cryn lawer o symudiadau a dybir yn grefyddol yn cael eu dwyn yn mlaen yn ami drwy foddion nas gellir llai na'u dynodi fel anwiredd, megis hap-chwar- euon mewn nodachfeydd, &c. Mae gormod o lawer o edrych ar grefydd fel math o swyngyfaredd all, dan amgylchiadau neillduol, droi traws- der yn iawnder, drwg yn dda, ac o dybio y gellir dan y rhithesgus o hyr- wyddo'r achos da gamgyfleu ffeithiau, gwyrdroi geiriau, camddarlunio cymer- iadau, cynllwyn yn erbyn a dial at ber- sonau hyd y caniatao deddfau gwlad, a thros ben hyny os bydd galw, ac wedi'r cyfan osgoi y canlyniadau drwy ystryw- iau llwfr. Mae y geiriau yn gryfion, ond yr ydym yn eu datgan heb falais at undyn byw, ac heb ragfarn at unrhyw eglwys neu enwad, eithr yn awyddus i weled ein cenedl uwchlaw i estroniaid gael unrhyw achos teg i luchio eu hed- liwiadau bryntion atom fel y clywsom am un Die Sion Dafydd yn dweyd yn ddiweddar yn nghanol nifer o Saeson, 1 Yr ydym ni'r Cymry yn bobl bur grefyddol ar y Sul ac yn y capel, ond peidiwch a'n coelio ni bob amser vn y farchnad a'r siop." Mwy o wirionedd o bob ochr i'r countar sydd eisiau," a Llai o gelwydd bob ochr yn y ffair pan fyddo'r anifail yn newid ei berch- enog.
CWRS Y BYD.
CWRS Y BYD. Oedi 7 Ddadl ar y yIlideb.. Y MAE'R Llywodraeth yn yr un sefyllfa a'r dyn hwnw oedd yn gwylied i ba gyfeiriad y neidiai'r gath. Heno, nos Fercher, y bwr- iadent drafod yn mhellach y Gyllideb, yn cynwys codi treth yr incwm a rhoi'r hen dreth newydd ar yd ond cyhoeddasant yn niwedd yr wythnos eu bod yn oedi y ddadl hyd nos Wener. A dyma Mr Balfour nos Fawrth drachefn yn hysbysu y Senedd, y gohirid y mater eto i rhyw amser anmhenodol. Cymerir yn ganiataol oddiwrth hyn oil mai bwriad y Llywodraeth ydyw gadael Treth yr Yd, beth bynag am y Hall, yn llonydd eleni a llechian oddiwrthynt mor ddystaw ag y bo modd. ag A Oes Heddwoh ?" Os nad oes eisoes, y mae yn ymyl. Yn ddigon naturiol, cyndyn iawn ydyw'r Boer- iaid i ymadael â'u hannibyniaeth. Bu eu tadau yn ymladd yn galed am dano gyda'r llwythau anwar ar ei ddechreu, ac aberth- asant, y ddwy flynedd a haner ddiweddaf, er ceisio ei gadw, fywydau lawer a phobpeth a feddent ond eu geirda fel cenedl o ddewrion sydd yn sicr o gael eu rhestru yn mysg gwr- oniaid y byd ar faes y gwaed. Ni° fydd rhestr arwyr rhyfel o hyn allan yn gyflawn heb ynddi enwau Botha a De Wet. Cyll y Boeriaid, mae'n wir, eu hannibyniaeth fel cenedl, tan hen ddeddf annhyblyg rhyfel, sef y Trecha, treisied-; gwana, gwaedded," fel y collodd llu o genedloedd byehaiii. a dewr eraill-ein cenedl fach ninau yn eu mysg ond cedwir eu gwrhydri yn fywmewn hanes am gan r if oedd. A chan mai i lawr y rhaid iddynt fyn'd, bydd..yn gysur i'w holafiaid gofio i'w tadau syrthio yn anrhydeddus wedi ymdrech deg yn erbyn gallu cryfach, a gallu nad oes ond ychydig o alluoedd y ddaear allasai wrth- sefyll ei ymosodiadau cyhyd. Am y modd- ion a ddefnyddiwyd i'w darostwng, yn filwrol ac fel arall, bydd gan haneswyr y dyfodol lawer iawn i'w ddweyd heb fod yn ffafriol i r gorchfygwyr. Ar "WiMaith, Y MAE Gogledd Cymru ar y Cost yn dad- blygu yn gyflym iawn, a digon prin y buasai ymwelydd a'r parthau hyn ohoni oedd yn gydnabyddus k hwy ugain mlynedd yn ol yn eu hadnabod yn awr. Yr holl ffordd, gan ddechreu yn Queen's Ferry, a Wepre (hen gartref Dafydd ap Edmwnd), ardal a allwaen ir yn awr wrth yr enwau Shotton a Connah's Quay, ar fin y Ddyfrdwy hyd i Fachynlleth yn y pen arall ar fin y Ddyfi y mae'r hen drefydd wedi eu diwygio bron i gyd allan o adnabyddiaeth, a threfydd newyddion af- rifed yn sefyll ar lanerchau lie porai y ddafad a'r fuwch, ac yr yswatiai bythyhod pysgot- wyr ddwy neu dair cenedlaeth yn ol. Engraifft o'r ddau gyfnewidiad hyn ydyw Colwyn Bay a Phwllheli. Nid yw r Parch Thomas Parry, Colwyn Bay, ond gwr canol oed ond efe adeiladodd y ty cyntaf ar gyfer llettya ymwelwyr a thref hardd a ffushiynoJ Colwyn Bay, cystal a'r capel cyntaf ar gyfer ei haddolwyr. Cyn hyny, nid oedd yno ond y brif ffordd sydd yn arwain rhwng Abergele a Chonwy, ac ambell fwthyn ar ei min; yn nghyda hen balas urddasol Pwll- crochan, a i goedwig am ei gefn ar y llech- wedd uwchlaw, a'r reilffordd ar y llaw arall, ,heb yr un station, lie y mae'n awr un oV gorsafoedd prysuraf ar y llinell rhwng Caer a Chaergybi. Acyr oedd hen fwrdeisdref Pwllheli lonydd, gysglyd, fel pe buasai yr Hunllef yn gorwedd ar ei bymysgaroedd, a hithau'n marw tano o dipyn i beth. Ewch yno yn awr. a chewch bob gewyn o'i mewn yn fywyd, a thref hardd wedi codi fel cynyrch swynlath rhyngddi a'r mor yn yatod yr ugain mlynedd. Un diwrnod yr wythnos ddiweddaf, cefais olwg ar y neuadd newydd gyhoeddus ardderchog sydd bron wedi ei gorphen yn nghanol y dref a phan ei gorphenir, diau y bydd yr hull odidocaf yn Nghymru—yn abl i gynwys tros ddwy fil, a'i threfniadau a'i chyfleusderau bron yn berffaith. 0 tani y mae'r farchnad gyhoeddus, rhenti yr hon fydd yn help i daluam dani ac ar y to uwchben, yr hwn sydd yn wastad, ceir man dymunol i gyrchu iddo er gweled rhai o'r golygfeydd ardderchocaf yn Ynys Prydain, yn cynwys rhanau helaeth o Leyn ac Eifionydd, mynyddoedd Arfon a'u brenhines y Wyddfa yn eu canol, cyrau a Ddyffryn Maentwrog, a Chastell Harlech ar draws bau y Traeth Mawr, lie mae'r weilgf, yn ol traddodmd, yn gorchuddiaw ceinder Cantre'r Gwaelod, ac yn dynwared byth ar dymhestl drallod tywysog y rhandir deg :— Uchenaid Gwyddno Garanbir Pan droes y don dros ei dir. Pa fodd bynag, y tu draw i fangre y dinystr, erys Cantref Ardudwy a'i lechweddau coed- iog gleision—gwlad y Bardd Cwsg cyn hardded ag erioed. Y mae clod mawr yn ddyledus i Gynghor ac Ysgrifenydd medrus Pwllheli, ac i gynllunydd y Neuadd, am eu gwaith. Gwelir fod y gwaelod wedi ei gyflwyno i fasnach, y canol i adeiladaeth, a'r to i fvvyn- iant braf. Bydd y draul tua deuddeng mil o bunau, ond beth yw hyny i dref sydd ar gynydd fel Pwllheli? Nid y trefydd arforawl ychwaith yn iiiiio, sydd wedi cynyddu yn ddirfawr yn ystod y cyfnod a nodwyd. Noder Ffestiniog, prif- ddinas y chwarelau, dyna i chwi y dref y dylem fel cenedl deimlo'n falch o'i phobl a i chynydd. Gweithwyr ydyw naw o bob deg, hwyrach 19 o bob ugain o'i thrigolion, a'r lleill bron i gyd yn Gymry gwladgar, llengar, a meddylgar. Nid wyf yn gwybodam yr uri dyn cyflawnach na Dr Roberts (Isallt), yr hwn a berchir gan bawb ar gyfrif ei fedr fel meddyg, ei wybodaeth eang, a'i amgyffred- ion naturiol cryfion ac y mae amryw evaill yn Ffestiniog heb fod yn nihell ar ol iddo o ran gallu meddwl a hynawsedd yspryd. Ond er mor oleuedig Ffestiniog ar un ystyr, teimlid y buasai mwy o oleuni celf- yddydol a gwell yn chwanegiad at gysur y trigolion. Felly, penderfynwyd cynull a chyneu y trydan yn y lie, a pha le hawddach oherwydd yr afonydd chwim a grymus sydd yn rhede trwy yr arda!. Nos Iau, cynal- iwyd gwledd i ddathlu'r amgylchiad yn y Queen's, Arglwydd Newborough yn y gadair, a llu mawr o oreugwyr yr ardal oddeutu'r byrddau ac ar yr amser gosodedig, cododd ei arglwyddiaeth y gliced, ac yr oedd y llanerch fel dydd, a chododd un floedd fawr oddiwrth y miloedd yn yr heol nes oedd y creigiau yn diaspedain o glogwyn i glogwyh am filldiroedd Parhaodd y siarad, canu, &c., ar ol y wledd hyd foreu ddydd Gwener. Can ddigri ofnadwy ac o'i waith ei hun oedd gan Mr Humphrey Roberts, ar diwn Mynyddog er's talwm. Rywsut fel hyn rhedai y corws Ond rwan wrth fyn'd adre Bydd pobpeth yn ol reit, Raid i undyn syrthio i'r gwter Rol cael Relectric leit. Roeddwn i'n meddwl mai'r Alltwen, y Town, Clerk a'r Engineer, mewn flit o ddigrifwch oedd wedi gwneud y g&n fel y mae'r hen gyfaill amryddawn yn cael y gair o wneud pobpeth doniol yn Ffestiniog neu efallai y brawd doniol arall Bryfdir; ond fe'm sicr- hawyd mai y gwir awdwr yw Mr Roberts ei hun. Nid oedd yr areithiau cystal ag y buasid yn disgwyl, digon o sens ynddynt, ond yn cael eu meddwl yn Gymraeg a'u siarad yn Saesneg. Mr Richards, y Person, oedd yr unig un a siaradai fel Person. — o
Y Parch J J Jones, Bangor.
Y Parch J J Jones, Bangor. HYSBYSIR fod y Parch John James Jones, diweddar giwrad Eglwys St Mair, Bangor, yr hwn bythefnos yn ol a draddodwyd i sefyll eu brawf yn Mrawdlys Caernarfon ar y cyhuddiad o gamymddygiad, wedi colli el synwyrau ac wedi ei gymeryd i Wallgofdv Dinbych er dydd Llun. 0 -I ol Traddodwyd pregeth Gymraeg yn Rhyl
[No title]
ddydd Sul, gan un o'r cenhadon Pabaidd o Lydaw, sydd yn trigianu yn Llanrwst.