Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

I Harwolaeth y Parch S Lloyd…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Harwolaeth y Parch S Lloyd Jones, Edge Lane. •GYDA bod y bedd yn cau ar yr hyn oedd farwol o'r hyfwyn Barch H P Thomas, dyma <Cymry Lerpwl eto yn cael eu taflu i drist- "Wch dwys, gan y newydd galarus ac an- nisgwyliadwy am farwolaeth y Parch S Lloyd Jones, gweinidog y Bedyddwyr yn Edge Lane. Ni fu ond prin bythefnos yn wael. Pregethai y Sul diweddaf ond un cyn <ei farwolaeth. Cwynai y dydd Llun can lynol, ac erbyn dydd Mawrth gwelwyd fod y pneumonia wedi dangos ei hun, ac er gwaethaf ymdrechion goreu y meddygon, cyfeillion a pherthynasau hoff, suddodd yn xaddol, ac am haner awr wedi unarddeg nos Fercher, yr 21ain, hunodd yn dawel yn yr Iesu, ac efe ond 25ain oed. Gwyliwyd ef yn .ei gystudd gyda'r gofal a'r tynerwch mwyaf gan ei anwyl fam, a chan Mrs Pi itch- Ard, Portwood Street, lie y llettyai. U r ig fab ydoedd Mr Jones i Mr Edmund a Mrs Mary Jones, Maeshyfryd Road, Caergybi, ,ac yno y trigiana ei rieni, a i chwiorydd, a llu o gyfeillion anwyl mewn galar ar ei ol. Cymhellwyd ef i ddechreu pregethu gan ei fam eglwys yn Bethel. Derbyniwyd ef yn r, y fyfyriwr i Athrofa Bangor yn mis Medi, 1896. Yn haf 1900 derbyniodd alwad unfrydol i fugeilio eglwys Edge Lane, lie yr ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weini- dogaeth yn mis Hydref o'r liwyddyn hono. Dechreuodd ei weinidogaeth o dan amgylch- iadau cysurus ac addawol—ond ni fu ei yrfa "Weinidogaethol ond ber-tua blwyddyn a haner. Machludodd ei haul, a hi eto yn ddydd." Nid oedd ond megis wedi gafael yn y cryman, i waith y cynhauaf mawr, cyn i'w Arglwydd ei alw odd'wrth ei waith i dderbyn ei wobr. Yr oedd ei gysylltiad a'r eglwys yn un dedwydd. Edrychid yn mlaen gyda disgwyliad am dymhor Ilwyddianus. Yr oedd yn frawd hynaws, a hawdd ei garu, a pherchid ef fel brawd djdwyll a christion cywir. Nid oedd wedi cael ond ychydig o amser i ddadblygu fel pregethwr, ond pe cawsai fywyd a iechyd, diau y buasai yn bregethwrda a chymeradwy, ac yn frawd gwerthfawr yn y weinidogaeth. Cydym- deimlir yn fawr a'i rieni a'i berthynasau hoff yn eu galar, ac hefyd &'r eglwys yn Edge Lane yn ei thristwch a'i cholled. Bydded i ddiddanwch yr Arglwydd fod yn gynaliaeth iddynt oil. Cymerwyd y corph i Gaergybi ddydd Sadwrn, gyda'r tren 1.40 o Edge Hill. Cyn cychwyn o'r ty, cymerwyd rhan mewn gwasanaeth byr gan y Parchn D Powell, Everton Village, a J Da vies, Birkenhead. Yr oedd torf fawr wedi ymgynull i hebrwng y corph i'r tren. Yr oedd y frawdoliaeth o Edge Lane yno yn gryno, a nifer dda o wahanol eglwysi y cylch. Yn mhlith eraill gwelsom y Parchn W Samuel, D Adams, B. A., D Jones, Edge Lane (M.C) W Owen, Webster Road J Frimston, Talysarn; H H Williams, Cefnbychan, &e. Pan symudodd y tren allan o'r orsaf, yr oedd arwyddion amI wg o alar dwys i'w gweled yn mhlith y dorf. Ei angladd. Cymerodd yr angladd le prydnawn Llun, Mai 26, am ddau o'r gloch yn Nghaergybi. Darllenwyd yn y ty cyn cychwyn gan y Parch D Lloyd, Hebron, Caergybi, a gweddiwyd gan y Parch Peter Jones, Bous- field Street, Lerpwl. Yn nghapel y gladdfa ;gyhoeddus, darllenwyd gan y Parch E Jones, "Y Caerwys, a gweddiwyd gan y Parch J Grif- fiths, Llanfairfechan. Yna darllenwyd llyth- yrau a phellebrau oddiwrth nifer o weinidog- ion a lleygwyr yn datgan eu gofid o fethu bod yn bresenol, yn nghyda'u cydymdeimlad -dwfn a'r teulu ac a'r eglwys yn eu galar. Hefyd derbyniwyd pleidleisiau o gydym- deimlad gan gyfarfod gweinidogion Caergybi a chan fyfyrwyr coleg Bangor. Wedi hyny siaradwyd yn bwrpasol a thoddediggan y Parchn H H Williams, .Rhiwabon; W Samuel, Windsor Street, Lerpwl Prifathraw S Morris, Athrofa y Bedyddwyr, Bangor, a J W Williams, gweinidog Bethel—mam-eglwys Mr Jones, Caergybi, a gweddiwyd ar lan y bedd gan y Parch E Evans, Bangor. Yn mhlith eraill gwelwyd y rhai canlynol yn bresenol :-Parchn D Powell, Lerpwl W Price, Gomer Evans. E B Jones (A), J Evans (M.C.), Caergybi J Griffiths, Bod- edern E Pritchard, Caergybi; C Roberts, Pontripont; D Hopkins, Llanerchymedd Mri J J Jones, Morris Owen, N W Hopkins —myfyrwyr o Goleg Bangor hefyd, Mri "0 Owens, Cemaes, cadeirydd Cymanfa Mon B Rowlands, Llanfachraeth E Jones, Bod edern; J Lewis, Y H., Llanllibio Dur parwyd lluniaeth i'r dyeithriaid yn Vestr i Bethel. Cafodd Mr Jones angladd anrhydeddus. Bendith Ner fo ar y teulu trallodus a'r eglwys. o I

Marwolaethau

Marwalaeth Resynus Ffermwr.

[No title]

Y Mesur Addysg

Cyfrlfoldab Ceidwaict Cwasttai

Syr Wilfrid Lawson a'r Mesur…

Advertising

Marwolaeth dyn dysgedig mewn1…

Syr H Campbell Bannerman a…

Y Cymraeg a'r Tafarnwr.

Streio Clowyr yr America.

Helynt y Penrhyn.

[No title]