Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
KEMP'S HIGH-CLASS CASH TAILORING, -AT- IF4 15, WHITECHAPEL, LIVERPOOL, AT MODERATE PRICES. SPJECIA LITE for Summer Wear. STRIPE FLANNEL SUITINGS, TO ORDER WELL FINISHED, AND COAT LINED THROUGHOUT. Waterproof OVERCOAT to order, 30s. MADE FROM THE NEW GREY VENETIAN, POROUS & SOFT. ALSO IN GREEN AND DRABS. Scotch Tweed Suit or Indigo Blue Serge to order, 35s. UNDOUBTEDLY THE BEST SUIT IN LIVERPOOL. FIT, STYLE, & WORKMANSHIP GUARANTEED. PATTERNS POST FUEE. Mention the CYMRO when ordering. £100,000 Wortit of Furnishing Goods AT THE LOWEST PRICES IN GREAT BRITAIN. FURNITURE, CARPETS, LINOLEUMS, FLOORCLOTHS, RUGS, MATS, and MATTINGS, BEDSTEADS and BEDDING, CURTAINS, CRETONNES, HOUSE- HOLD LINENS, IRONMONGERY, GLASS, CHINA, &c., &C. A If ouse Completely Furnished in 24 Hours by RAY & MILES, 38 to 4, London Road, LIVERPOOL. Dyma'r Masnachdy I V.A. AM DElL WRIAETII AT FESUR. Y Gwerth ftoreu yn Lerpwl. Nwyddau Newyddion rhagorol am y Tymhor dyfodol. JOHN EVANS, 190 & 192, Windsor St., Telephone 62 ToxtetJh, LIVERPOOL. Messrs. CUMPSTY & SON, Dentists, 78, ISLINGTON, LIVERPOOL, XTS7TSH to draw the attention of the Public generally • to their great improvement in the manufacture of DENTAL SUCTION PLATES, whereby the whole surface is made porous, thus enabling the wearer to retain the teeth firmer in the mouth, and with greater comfort than by the ordinary methods. Consultations Free. Painless Extractions. A Set of Tooth, from 3s. a Tooth. ESTABLISHED 1860. R. CLAMP & SON, Portmanteau, Bag § Truqk MANUFACTURERS! 37, 39, & 41 DAL? ST'lT.!T7pmiAA| and 12, LORD ST.jWmpUUI. NEWBERY'S FURNITURE For all Classes. NEWBERY'S FURNITURE is well-made, Substantial, and Thoroughly Reliable. We believe in Honest Trading for ready money. If you want FURNITURE that will last, and CARPETS that will resist hard wear, we can offer you goods of Sterling Value at the Lowest Possible Prices. No HIRE SYSTEM. No CREDIT. ARTHUR NEWBERY, Ltd. House Furnishers 75 & 77 London Road LIVERPOOL FOR GOOD £ VALUE] AND ECONOMY IN TAILORING, TRY ADAM JONES, 71 Great Charlotte St, LIVERPOOL Pullout Your Pipe Light up and think Is it worth your while to write on for a pair of my 8/6 or Twelve Bob Boots. I agree to return your money if they are not the finest value you have ever seen. Arthur Evans, 5, London Rd., L'pool CYMRO GLAN GLOYW Ydyw K E NR I C K, y Teiliwr, 16, Renshaw Street. LERPWL. Gwarentir Style, Fit, a Nwyddau am y Prisiau mwyaf rfcesymoL
A OES HEDDWCH ? HEDDWCH.
A OES HEDDWCH ? HEDDWCH. Nos Sul, taenwyd y newydd yn swydd- ogol fod Heddwch. Mawr fu y pryder yn ei gylch a'r disgwyliad am dano er's wythnosau. Hwyrach ei fod yn fwy derbyniol ac yn fwy ei groesawl oher- wydd oedi dyfod cyhyd. Yr oedd wedi ei addaw luaws o weithiau. Y dosbarth cyntaf i wneud hyny ydoedd pobl y 'Ni Fawr." Pan ddechreuodd ybrwydro yn mis Hydref, 1899, ni thybiai'r dos- barth hwn y parhai ond ychydig wythnosau, ac nad oedd un amheuaeth na fyddai byddin Prydain yn bwyta ei chiniaw Nadolig yn Pretoria. Druan o'r Fyddin, nid gwletida. yn Mhrifddinas y gelyn oedd ei thynged y Nadolig hwnw, ond ymprydio ar lanau y Tugela a'r Modder, ac mewn enbydrwydd bywyd yn gwylio symudiadau un o'r geiynion cyfrwysaf a chryfaf o'i faint y bu hi erioed wyneb yn wyneb a chledd yn nghledd ag ef. Ergyd dost a gafodd y Baal-brophwydi hyn pan amgylchodd y Boer Ladysmith gan gloi White a'i fyddin o'i mewn pan ddychwelodd Gateacre o'i vmgyrch nosawl anffodus yn erbyn Stromberg gyda llu llawer lIai nag a arweiniodd allan a phan y bu agos i Arglwydd Methuen a'i ddewr ion, yn lie gwaredu Kimberley a Mafeking, syrthio yn swp i afael y gelyn yn Magersfontein. Ond y mae na\v byw cath mewn prophwyd a thrwy y misoedd cyntaf o 1900, yr oedd pob buddugoliaeth, bechan a mawr, a gai ei gydwladwyr i'r proph- wyd Seisnig yn arwydd sicr o agos- rwydd terfyniad yr ymladd. Felly yr oedd hi mewn modd aibetiig pan gym- erodd Roberts a Kitchener y gadlyw- yddiaeth mewn Haw, pan ddaliwyd Cronje-pan feddianwyd prif-ddinasoedd y gelynion arwydd i roi'r cledd yn y vain ydoedd cwymp Bloemfontein a Pretoria; ac yr oedd ffoedigaeth Mr Kruger o Pretoria i Ewrop yn brawf sicr nad oedd y diwedd nepell. Ond y gau-brophwydi mwyaf twyllodrus o'r cwbl oedd aelodau y Llywodraeth Seisnig a'u pleidwyr a'u gwasg. Hwyr- ach eu bod i'w hesgusodi i rhyw raddau am ddweyd ddeunaw mis yn ol fod y rhyfelawd nid yn hollol trosodd ond cystal a bod trosodd, mewn ffordd o siarad, canys yr oeddynt yn apelio at y wlad trwy Etholiad CyfFredinol, Dim ond un tro bach arall ar y scriw, a dyna hi ar ben ar y gweilch diffaeth. Fel y dywedai Mr Chamberlain, ar fin yr Etholiad Cyffredinol a phob cyfle a gai wed'yn, yr oedd pob fot na roddid i Dori yn fot i'r Boers a hyny fel yr awgrymai pan oeddynt ar fin cael eu gorchfygu. Ond wedi hir ddisgwyl am Heddwch, fe ddaeth, a pharodd lawenydd yn nghalonau miliynau o'r hil ddynol. Fe ddaeth ar y wlad yn hwyr nos Sul fel pe'n ateb i'r llu o weddiau am dano a wnaed o bwlpud a changhell a sedd y diwrnod hwnw ac ys dywed Hiraethog yn ei awdl Heddwch A natur aeth am un tro, I hun y noson hono, Heb ddolur, llafur, na Hid, Rhyfel nac unrhyw ofid. Gelwir et gan rai yn Heddwch y Brenin," gan mai ymdrechion a dyl- anwad Iorwerth VII. a fu'r prit foddion i'w ddwyn oddiamgylch. Fodd bynag, fe derfynwyd y rhyfel, ac yn bur am- serol. Taflasai swn tincian arfau, er o bel), ddiflasdod ar orfoledd y Cor- oniad. A beth am y telerau ? Fe'u gwelir mewn colofn araU. Ar y cyfan, tybiwn eu bod yn ddigon teg tuag at y Boer. Y mae yn amheus genym a oes rhyw deyrnas yn y byd heblaw Prvdain, oddieithr yr Unol Daleithiau a Ffrainc, a fuasai yn ymddwyn mor anrhydeddus a mawrfrydig tuag at elyn ar fin ei orchfygu. Yr ydym yn ddigon hael i gyfranu tair mihwn tuag at adgyweirio y difrod a wnaethom ar eiddo ein gel. ynion. yn ddigon hynaws i beidio dien- yddio pob Boer a gododd mewn gwrthryfel i'n herbyn; ac yn estyn cymwynas i'r Dwtsh yn Ne Affrica na roddai Lloegr ond yn bur gynil, a hyny yn ddiweddar, i'r Cymry sydd yn byw am y Clawdd a hi, sef caniatad iddo ddefnyddio ei iaith ei hun yn yr Y sgolion ac mewn Llysoedd Barn. Braint arall a estynir i'r Boer, ac y mae ei gaseion yn y wlad hon yn grwgnach 0 i herwydd, ydyw rhyddid i gario gwn ond heb yr hwn ni fuasai ei fywyd o nemawr werth yn nghanol y gwylltfilod y mae'n byw yn eu plith-dynol ac anifeilaidd. I bwy yr ydym i ddiolch am y mawrfrydigrwydd hwn, nid dyma'r amser i ymholi. Y cwbl sydd ar ein calon yn bresenol ydyw diolchgarwch am derfynu rhyfel ddi-achos, golled- fawr, hirfaith, a dymuno na welom byth eto ei bath. -101--
CWRS Y BYD.
CWRS Y BYD. 69 :Chu Jones, Llangollen." WNEIFF y Beirdd a Hoffwyr Barddoniaeth fod cystal a darllen y Ddyri o waith John Jones sydd yn ein colofn farddonol heddyw ac wedi ei darllen ddweyd os gwelsant yn rhywle ganig fwy dwys a thyner. Hwyrach y dylem ddweyd gair am yr awdwr, er i ni wneud hyny o'r blaenddeng mlyneddneu fwy yn ol, wrth gyflwyno Deio Bach o waith yr un awdwr i'n darllenwyr. Ganwyd John Jones, yn ardal Abergele—yn y Towyn, medd rhai; a melinydd ydoedd wrth ei alwedigaeth. Bu yn cadw melin yn ardal Rhiwabon, ac wedi hyny yn delio mewn blawd yn Llangollen. Yn y cyfnod olaf y daeth yn adnabyddus fel ysgrifenydd galluo' trwy gymeryd rhan yn y dadleuon duwin' yddol tfyrnig oedd yn corddi Cymru o ben i ben. Amddiffynai J Jones Fedydd Plant, tra Brutus, P.A. Mon, a chedyrn eraill yri amddiffyn Bedydd y Crediniol. Rhwng J Jones a Brutus y bu r fatel frenhinol; hwy eu dau oedd Tom Sayers a Heenan y cylch dadleuol, a miloedd o u cydwladwyr yn eu gwylio, fel y gwylid y ddau ymladdwr arall gan Saesoo oes neu ddwy wed'yn. Parha- odd y frwydr am Hynyddau, ac nid ydoedd er's talm cyn terfynu ond blagardiaeth bersonol. Edliwient holl bechodau oes y naill i'r llall, rhai o r cyhuddiadau yn wir, a'r lleill fel arall. Clywodd Brutus chwedl drwstan am Jones, neu dyfeisiodd hi, a chyhoeddodd hi tan y penawd "Cwic yn tan a glynodd yr athrod mor dda fel mai t&n y llysenw "Cwic yn tan" yr adwaenid Jones byth oddiar hyn. Ffaelodd John Jones yn ei fasnach yn Llangollen, a symudodd i Fe thyr Tydfil, lie y bu am rhyw yspaid gyda help ei ferched yn cadw Dirwest-dy. Yno yr oedd yn 1851 pan enillodd "Miss Jones, Llangollen House, Werthyr," yn Eisteddfod Porth- madog ar gan i'r "Plentyn Amddifad," yr hon a ddarllenwyd gan Caledfryn, ac nid ceddodid lygad sych yn y dorf. Y farn gyffredin ar y pryd ydoedd mai J Jones ac nid ei ferch oedd awdwr y gan. Ofnaf fod y cyfansoddiad gwerthfawr hwnw ar goll, ni chyhoeddwyd ef, hyd y gwn i. Bu John Jones yn byw yn Rhydybont, Ceredigion, lie yr oedd ganddo ar( ,raff wasg, gyda pha un yr argraffodd rai llyfrau—un yn fath o esboniad ar y Testament N ewydd. Cyn diwedd ei oes symudodd i'r America, ac yno y bu farw. Mi roddwn yr holl fwndel o'i ddadleuon am ei Deio Bach; neu r gan a gyhoeddwn heddyw.
Bil Addysgr.
Bil Addysgr. Y MAE'R wlad wedi ei deffro o ddifrif gan y gormes newydd hwn a gynygir gan y Llywodraeth a chynelir lluaws mawr o gyfarfodydd i'w wrthwynebu. Rywsut neu gilydd, wn i ddim p'am ychwaith, nid ym- ddengys, oddiwrth yr hanes a geir am dan- ynt yn y newyddiaduron a thrwy gyfryngau eraill, fod haner digon o frwdfrydedd ys gubol ac anwrthwynebol yn y cyrddau a gynaliwyd hyd yn hyn, fel pe byddai eu hyrwyddwyr yn gofalu mwy am safleoedd eu hunain a'u cyfeillion nag am yr amcan sydd i'r symudiad. Hwyrach, a gobeithio hefyd, mai camsyniad ydyw hyn, ond clywais amryw o Ryddfrydwyr cyson a gwresog yn dweyd yr un peth. Symud yn. anfrosgo y maer peiriant Ymneillduol, fel pe byddai ynddo ormod o gog-olwynion heb fod yn ffitio P.I gilydd Yn hyn y mae'n bur wahanol i'r peiriant Eglwysig. Dydd Iau, mewn cyfar- fod 0 glengwyr ac eglwyswyr blaenllaw rhan ddeheuol Esgobaeth Llanelwy, a gynaliwyd yn IS ghroesoswallt, eglurwyd amcanion y Mesur Addysg gan yr Esgob gan ddangos ei ragonaethau a nodi ei fyrdra o safle eglwysig. Daeth cynulliad lluosog yn nghyd, ac yr oedd araith ei arglwyddiaeth fel a.mmunition iddynt fyn'd gyda hwy adref, ar gyfer y rhyfel agoshaol. Nid oes dim, er hyny, ond syrthni a difrawder a chlauarineb Ymneillduwr a Rhyddfrydwyr, a ddichon ganiatau i'r Llywodraeth roi yr iau newydd yma ar wddf y wlad. Dylid cofio bob amser mae'r Pabyddion ydyw prif bleidwyr y Mesur, ac onibae am danynt hwy, a'u brodyr uchel sydd yn Eglwys Loegr, ni chlywsem nemawr o son am dano.
Gvasg Newydd.
Gvasg Newydd. DA genym ddeall fod Mr Gwenogfryn Evans ar fedr efelychu Lewis Morris, Mon, Wil- liam Morris, y Bardd Seisnig, a rhai awdur- on enwog eraill, trwy sefydlu preintwasg at ei wasanaeth ei hun. Yn Rhydychain y codir hi, a'i henw fydd "Elphin Press." Dywed Ernest Rhys, a phwy wyr yn wel, mai bourgeois, llythyren o'r un faint a'r un ag y gosodir y geiriau hyn ynddi a ddef- nyddir-go fach, onide, i osod allan weith- iau safonol. Ond beth bynag fyddo maint y llythyren, bydd gwasg o'r fath tan arolygiaeth ysgolhaig fel Mr Evans, yn gaffaeliad anmhrisiadwy i lenyddiaeth Cymru. Er pan beidiodd gwasg Mr Reès, Tonn, Llanymddyfri, a thywallt ei thrys- orau, yr ydym ar ol yn ddychrynllyd gyda chyhoeddi yr afrifed ceinion llenyddol a feddwn mewn llawysgrifau.
Ccirw.
Ccirw. NID yw Parciau Ceirw agos cyn amled yn Nghymru ag oeddynt haner canrif yn ol, a dylem ddiolch am hyny. Yn yr Alban, y maent wedi lluosogi yn ddirfawr, ac erbyn hyn yn rhifo tua 150, ac yn gorchuddio tua thair miliwn o acrau, neu rhwng y chweched a r seithfed ran o holl arwynebedd Ysgotland-sef o tan ugain miliwn o acrau. I gaellle i'r parciau hyn, symudwyd ugein- iau o ffermwyr a'r ffermdai yn yr Uchel- dirodd, lie y ganwyd hwy ac y trigianodd eu hynafiaid am oesau. Yr hyn sydd yn rhyfedd ydyw, mai tua £ 400,000 a delir o rent, yn ol y Dumfries Advertiser, am holl helwriaeth yr Alban (ac y mae'r helwriaeth yn yr Iseldir yn llawer gwerthfawrocach nag yn yr Uchel ir), am yr holl arwynebedd hwn. Cyfrifir fod 4,500 o geirw yn cael eu dwyn oddiarnynt i'r farchnad bob blwydd- yn a bod pob carw yn costio i heliwr £30.
Newydd da i Ryddfrydwyr.
Newydd da i Ryddfrydwyr. I DYWEDAI Canghellydd y Drysorfa yn ben- dant nos Lun, nad yw yn bwriadu tynu yn ol ei Dreth ar Fara.
Gwibdaith.
Gwibdaith. YR oedd hi'n ddiwrnod gogoneddus o Fai ddydd lau diweddaf, a chefais egwyl i ym- weled a chwr o Gymru y deisyfais ganwaith edrych arno, sef gwaelodion sir Ddinbych- lie y mae hi yn terfynu ar siroedd Amwythio- a Threfaldwyn, megys-Llanailin a Llanged° wyn, yn nghyda'r plwyfau nesaf atynt, Selattyn a Llanyblodwel. Y mae Clawdd Offa yn rhedeg trwyddynt neu yn eu hymyl, ac i'w weled yn eglurach yno nag yn odid unman arall ar ei hyd. ° Haner y gamp ar wibdaith fel hyn i ran- barth dyeithr o'r wlad ydyw cael cymdeith- ion dyddan, a hyddysg yn ei hanes a'i golygfeydd, a chefais y fraint o gyd-drafeilio gyda Mr E Hughes, C.T., Gwrecsam, brodor o Llamilin, a chyfarwydd a phob Ilecyn o nôd yn y plwyf lle'i ganed; Mr Robert Bryan, y bardd o Farchwiail; Mr Neobald Palmer, hanesydd Gwrecsam Mr J Morais, Y.H., o Lansannan a Dr Williams o Ler- pwl, yr hwn a fu'n trigianu am gryn amser yn Nghroesoswallt, ac fel meddyg a wyddai am bob ty a thwlc trwy yr holl wlad. Cyrhaeddasom Groesoswallt y Cymry, Oswestry y Saeson, ac Odjestry y brodorion' tua haner awr wedi deg a than arweiniad Mr Hughes, cychwynwyd yn ddiymaros i'r daith hir oedd o'n blaen, tan wenau haul, ac mewn gwagenet a dynid gan ddeufarch cadarn, carngragen, mwngfras, porthianus, 9 &c., &c. (gweler "Oywydd y March" o waith Tudur Aled), gan gyfeirio at SELATTYN, plwyf a saif rhyw bedair neu bum milldir o Groesoswallt ar y brif-ifordd i'r Waen. Heibio i Brogyntyn, neu Porkington (y mae gan bron bob lie o nod ar y Cyffiniau enw Cymraeg a Saesneg) palas Arglwydd Harlech, ar yr hwn balas y cawsom gipolwg yn nghanol ei bare mawr, bras, coediow. Nid yw Selattyn ond Llan bychan digon diolwg, ond y mae yn dra dyddorol fel cwlwm rhwng y dyffryndir a'r mynydd-dir. Ar y llaw ddehau wrth i chwi neshau ato" gwelir dolydd breision a gwastadedd yn ym- estyn am filldiroecld-yn wir, hyd y cenfydd y llygad noeth ar yr aswy, cyfyd llech- weddau llymion yn dwyn holl ddelw Gwyllt Walia, er fod o leiaf filldir o ddringo caled cyn y deuir i Gymru. Yehydig o Gymraeg a siaredir yn y plwyf er's oesoedd er fod enwau lluaws o'r ffermydd a'r meus- ydd yn gwbl Gymreig. Chwanegir cryn lawer at ddyddordeb Selattyn gan y ffaith y bu Goronwy Owen yno am ryw hyd yn nechreu ei fywyd clerig- awl, a phan yn athraw neu ail athraw ysgol yn Nghroesoswallt, yma yn gurad neu rhyw fath o gynorfchwywr i'r Person ar y Suliau • ond hyd y gallwn gasglu nid oes yma ddim o'i ol, ond yr ychydig allodd Mrs Owen gynull yn ei llyfr dyddan o hanes y plwyf. Y mae yno ddau neu dri o gapeli Ym- neillduol bychain twt, ac Eglwys Sefydledig ddigon maintiolus, wedi ei hail adeiladu yn ddiweddar, a llawer o'r bri hynafol a feddai pan ddarllenai Goronwy y Gwasanaeth rhwng ei muriau wedi diflanu. Ceir rhanau o goed Hofl't y grog a'r ysgrin wedi eu hoelio ar y muriau, ac eraill wedi eu cadw yn barchus ar lawr gerllaw y ganghell; a chan eu bod o dderw durol, diau y byddant byw yn hwy na'r coed meddalach sydd yn gwasanaethu yn awr yn eu lie fel seddau, &c. Yn y fynwent, enwau Cymreig sydd yn y mwyafrif ar y meini. Y mae yno ambell gofnod yn dangos mor gymysglyd ydyw'r