Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

17 erthygl ar y dudalen hon

Nosweithiau ya Liundain.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Nosweithiau ya Liundain. NOSON v. JSYNIAD y Sais am Laivenyehv, ydyw cadw swn. Mwyaf y llawenydd, mwyaf y trwsfc. Yn gyffredin y mae clustiau ceisbyliaid y dre' yn ddigon teneu i'w haflonyddu pan fo annhrefn ;seiniau yn cyrhaedd cynoydogaeth y byddar ol. Ond mae adegau yn bod pryd y bydd hyd yn nod policeman yn gosod heibio ei urddas, ;a'r pryd hwnw bydd Swn yn Arglvrydd. Fe welais son yn rhywle am ryw Lord of Mis- y creadur hwnw, rwy'n dirgel gredu, isydd yn rheoli Llundain yr oriau hyn. Fe fu yma dro yn ol-noswaith fythgofiadwy y llawenydd oherwydd rhyddhau Mafeking- ac yn ei afiaeth gorphwyllog fe drodd ye heolydd yn bandemoninm o swn ac annghyd- gord. Y mae wrthi er nos Sul diweddaf yn ceisio gwella ar ei gampwaith, ac nid ei fai <ef ydyw, mai prin y gellir dweyd ei fod eto wedi llwyddo. Ni raid i unrhyw un am gynulliad yn Llundain ond iddo gymeryd moddion i'w casglu yn nghyd. Raid iddo wneuthur dim mwy na sefyll yn syn ar ganol yr heol ac fe gasgl dyrfa yn ddi- ymdroi. Y lie distawa yn Llundain ar brydnawn Sul yw cymydogaeth y Bank a Cheapside. Prin y torir ar ddistaw- rwydd y dydd sanctaidd gan ddim garw- ach na thrydar colomenod y Guild-Hall yn pigo eu bywoliaeth i fynu o rawn gwas- traff y bwrdd asphalt. Ond yn sydyn dacw megesydd yn curo wrth ddor y Mansion House, a bron tori ar ei draws gan bwysau -ei newydd [un o'r colomenod ddywedodd yr iianes] dacw ef yn estyn nodyn i Syr Joseph Dimsdale, yr Arglwydd Faer. "relerau Heddwch wedi eu derbyn "—dyma'r geiriau .ar bared swyddogol y Mansion House, a ,chyn pen y pum' munud yr oedd y sgwar fawr yn llawn o ddynion a merched a phlant .yn dechreu llawenhau. Yn dechreu, meddaf, am fod cysegredigrwydd y dydd a chynghor y Maer ar iddynt lawenhau mewn sobrwydd, yn eu cadw yn ol! Ond buan yr ysgubwyd ymaith y llifddorau, a chyn bod addolwyr yr .eglwysi allan yr oedd yr ystrydoedd yn llawnion o bobl "yn cadw gwyl." Y Sul yw'r Sul er hyny yn Llundain, ac er i swn y llawenydd barhau hyd oriau'r bore yn rhai o'r prif heolydd, aeth y rhan fwyaf o'r .ddinas fawr i gysgu heb gymeryd ei chythr- yblu yn ormodol gan y newydd cysurlawn oedd wedi dod iddi. Ond erbyn nos Lun yr oedd John Cockney a'i gefnder Bill a Harri a'r lleill wedi llwyr ddeffro, a dyna lie bu fielynt. Am oriau bu Fleet Street a'r Strand, Charing Cross a Whitehall, Pall Mal] a Piccadilly, yn 11a TO o'r naill ochr i'r Hall. Bloeddiai, chwarddai, canai, a ,chrechwenai y dorf yn y discord mwyaf an- soniarus. Yr oedd Ilond ei chalon fawr o lawenydd, ond yr unig ffordd effeithiol oedd ganddi i roddi arllwysiad iddo, ydoedd canu Dolly Gray neu yr Honey-Suckle and the Bee," ac weithiau The Soldiers of the Queen" nerth esgyrn ei phen. Yr oedd ganddi hefyd y cyrn mwyaf aflafar a chwyth- wyd erioed er dyddiau Jericho, a phlu holl baunod Heliogabalus i flino ffroenau pob dyn byddar Rhwng pawb yr oedd y swn yn annesgriBadwy o ddirdynol, ond nid oedd y ,dorf yn malio mo'r botwm corn. Elai yn mlaen yn ei rhwysg gan floeddio, a bloeddio y bu ne3 y glasodd gwawr diwrnod arall awyrgylch y Dwyrain. Y mae Heddwch yn fendigedig, ond mae'r pris a delir am dano weithiau yn lied drwm -0-- Hai I hai! Dyma rhywun o Gonwy yn dwyn -enw barddonol Trebor Aled. Cafodd Mr William Winterbottom, R-hyl, ei ethol yn ddiwrthwynebiad i lanw y sedd a weaed yn wag ar Gynghor Dosbarth Dinesig y Rhyl drwy farwolaeth Capten L W Keatinge. Mae y Gymdeitbas Ddyngarol Frenhinol wedi cyflwyno ei bathodyn bronze i Robert Walter Williams, dysgybl athraw yn Ysgol Genedlaethol y Rhyl, am ei wroldeb yn achub dau ddvn rhag boddi yn Ebrill diweddaf. ° Unwaith eto y mae yr hen stori gelwyddog fod Mr S Smith A.S., wedi peuderfynu ymueillduo o'i g> nrychiolaeth Seneddol wedi ymddangos yn y wasg, ac ar ei sodlau daw gwadiad pendant iddi. Caernarfon —Dydd lau diweddaf cynaliodd yr Eglwys Rydd de a chyngherdd yn yr Assembly Rooms. Yr oedd yr ystafell wedi ei haddurno yn biydferth, ac eisteddodd tua dau gant a haner i fwychau y danteithion. Cafwyd cyngherdd rbagorol yn yr hwyr. ,Cymerwyd y gadair gan y Parch Noah Sevan, a chymerwyd rhan gan y rhai canlrn 01 :-Mri R 0 Jones, R E Evans, J Towye Hughes, Owen Jones, D Jones (gyda'r qrama- phone), a Miss J W Da vies. Cyfeilydd, W Morris. Cafwyd anerchiad campus gan y Parch W 0 Jones. Dyma'r te a'r cyng- herdd cyntaf i'r Eglwys Rydd yn Nghaeroarfon, ac y mae iddo ganmoliaeth mawr. Daeth llawer o'r Waenfawr i lawr, ac er iddyct orfod myn'd yn eu holau drwy y ddrycin, teimlent eu bod wedi cael tal am ddyfod.—AELOD.

Y Te'erau Heddwoh.

CENADWRI ODDIWRTH Y BKENIN

Family Notices

.Y Parch John Jones, Abergwesyn.

IOgwenydd.

Yr Archdderwydd.

Symudiad newydd gan Cwmni…

Marohnadoodd.

Advertising

Crybinion.

Y Mesur Addysg

Cymanfa Canu Presbytsriald…

Ymnelilduwyr ac Egriwys Loogr.

Damwain mewn glofa.

Damwlin mewn ghfa arall.

Gwibdaith.