Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
:k4è:>(:t: FOR 2 YEARS. In oases where the eyes are strained, the permanent glasses cannot always be given right away, but need changing after being used for a time. ■To meet all contingencies, Messrs. Wood, Abraham's undertake from this date to keep a'.I their glasses EIGHT FOR THE SIGHT FREE for a period of 2 years WOOD, ABRAHAM'S Optologist, 20, Lord Street and Great Charlotte Street LIVERPOOL. H Y CYMRO" 13-6 07 Established 1860.. r_- One milute's walk from Station. J TAYLOR WILLIAMS The Birmingham Restaurant, 6, Bcdfor Street, RHYL. MBBmananii Telerau arbennig i Ysgolion Sul, Corau, a Picnic Parties.
Advertising
,t. t) THE MATERIALS ON OFFER FOR THIS SEASON ARE EXCEPTIONALLY GOOD, BOTH IN VALUE 8 STYLE AND WELL WOJTH INSPECTION. I 4i ALL CAREFULLY FITTED I 1 PATTERNS L-L On Application IP S3 =E BEA TY THE CELEBRATED o o o o TAILORS CHURCH ST. 8 LONDON ROAD LIVERPOOL dI r/ i IWIIWIH II nihil IIIIHIIIIIIMMHBMM—g—AWNAA—MMSMMN—GWBBI—A— m Artificial TEETH THE BtfNK HOTEL, GOOD PERFECT-FITTING teeth 4re Of needed by everyone to keep up fbe bloom Youth. To keep good looks. To keep health Je^Ur teeth are the results of personal exper- Si*06 a,1<^ Pra°rical knowledge the former has e? us the precise knowledge of our clients' a *llireuiente, the latter to meet those needs ira and pjtisfaotory way. T'hey are both ^"da an^ far superior to most teeth made Advice* and Estimates of Cost, FREE. ta<vfr ?°leF's charges are always moderate. His t jto ia—Highest skill and finest materials at a outlay. H. W. HELY, Norton St., London ROf.!d '3 oJ Corner. LIVERPUOL. ''Y MAB AFRADLON" Prodigal Son "). New & Descriptive, r. By T. Osborne Roberts, I .\N" GYSEGREDIG (Sacred Song). Priod- i'w charm yn yr -addoldai, &c. Yn Flat i .Dentvrs a Sopranos, ac yn C i COntrialtos a Baritones. Geiriau Cymraeg ML S-aesone.g. Y ddau Nodiant ar yr un !°Pi- Pris Swllt; trwy'r Post, Is. lc. An newydd ragtirol (Disgrifiadol) II 0 NEFOL AMEN," I 11 rw Can syml dda. Pris 6d. i V^AR,TETT i S.A.T.B., Y GWLITHYN." Nodiant, 4c.; Stil-ffa, 2c. Cyfaddas GYngherddau a Chystadleuaeth. CATALOGUE 1907. ht Yn r'hoddi y Telerau goreu am COS, ORGANiS, HARMONIUMS, &c., I'w cael gan Ù." R. JONES, „ (Alaw Madog), 03, HAiMIPSTEAD ROAD, LIVERPOOL. J, HENRY JONES, 0> Alerchant Tailor, Unity Buildings, 22, Lord St., and 19, Cable Street, k LIVERPOOL. I (Commercial & Temperance), 25, ISLINGTON, LIVERPOOL. Two minutes from Lime Street Station, Electric Cars From Pierhead. Bed & Breakfast 3/6. Telephone, 0827 Royal. MRS. SPENCE, Established 1893. Proprietress. MOULD & WILLIAMS FOR SEASONED TIMBER Enquire from 170 Walton-rd, Liverpool. Telephone 1276 Royal. SYCA MORE MAH 0 GANY WALN U T MOU L DINGS PLANE D WHITEWOOD & SATIN WALNUT 1 COFF I N OAK HAZE L PINE YEL L OW PINE DANZ I C OAK TE A. K WHITE M APIJE & ALL OTHER S EASONED TIMBER The Mersey Quartette. (Mixed Voices), First Prize Winners at the Royal National Eisteddfod, Carnar- von, 1906, New Brighton Tower, 1905, etc., etc., etc are now open to receive engagements for Concerts. At Homes, &c. Part or whole programme.—For Terms apply J. Roberts, 72 Errol St., St Michaels, Liverpool.
SlOiVU CYMRU.
SlOiVU CYMRU. Ddwywaith o fewn corff yr un wythnos siomwyd disgwyliadau Cymru gan y Prif Weinidog. Ddechreu'r wythnos ddiweddaf yn Nhy'r Cyffredin pan yn trefnu gwaith y gweddill o'r Senedd- dymor presennol a'r un nesaf, a thrachefn ddiwedd yr wythnos pan yn annerch Cyngrair Cenedl- aethol Rhyddfrydwyr Lloegr yn Plymouth, rhoddodd i Gymru achos cwyno. Mae safle Cymru ar gwestiwn Dadgysylltiad a Dadwaddoliad yn hysbys i'r byd. Er's deugain mlynedd namyn un, hwn sydd wedi bod yn bwnc mawr a blaenaf gwleidyddiaeth Cymru. Yn yr Etholiad Cyffredinol llynedd, gwrthododd Cymru ddychwelyd i'r Senedd gymaint ag un nad oedd yn barod i hawlio y Mesur hwn i'r Dywysogaeth. Wedi gwneuthur hynny, a gweled hefyd fod Prif Weindog- Rhyddfrydol yn llywio gwlad- weiniaeth y deyrnas, a bod ganddo o'r tu cefn iddo fwyafrif mwy nag a gafodd neb Vi flaen, cododd gobaith Cymru hyd at sicrwydd. Rhoddodd y Prif Weinidog addewid i Syr Alfred Thomas a Mr Lloyd George. Dywed Mr Lloyd George fod yr addewid yn un bendant y gellir ymddiried ynddi. Dywed Syr Alfred Thomas ei bod yn golygu y ceir Mesur Dadgysylltiad a Dadwaddoliad i Gymru o bellaf y Senedd-dymor nesaf. Credodd Cymru eiriau'r ddau. Siomwyd y gred gan ddwy araeth y Prif Weinidog. Yn Nhy'r Cyffredin dywedodd y ceir yn y Senedd-dymor nesaf Fesur Trwyddedu, Mesur Addysg, a Mesur Prifysgol i'r Iwerddon. Ond ni soniodd air am Gymru a Datgysylltiad. A ydyw'r ffaith na soniodd efe air am gwestiwn mawr Cymru yn golygu nad yw yn bwriadu cyffwrdd Datgysylltiad y flwy- ddyn nesaf eto. Edrychwn y cwestiwn yn deg yn ei wyneb, canys mae dwy farn yn ei gylch. Nac ydyw," medd un dos- barth. Son oedd y Prif Wein- idog am y Mesurau oeddent eisoes wedi cael eu henwi yn Araeth y Brenin am y Senedd- dymor presennol, ac ni soniodd am yrun Mesur arall. Gan mai'r flwyddyn nesaf y b" riedid dwyn Datgysylltiad ymlaen, nis gailai fod yn Araeth y Brenin eleni. Gan nad oedd son am y Mesur yn Araeth y Brenin, nis gallesid disgwyl i'r Prif Weinidog son am dano ymhlith y Mesurau a ohirir o'r Senedd-dymor hwn hyd y nesaf. Dyna'r esboniad yn syml Ond mae Datgysylltiad yn sicr o dd'od y flwyddyn nesaf." Dyna'r esboniad mwyaf ffafriol a roddir ar ddistawrwydd y Prif- Weinidog ar y mater yn y Sen- edd. Ermwyn codi calon Cymru cafwyd llith ysbrydoledig gan wr hollwybodol yn Llundain, yn sicrhau Cymru y cawsai ei bodd- loni yn Araeth y Prif-Weinidog yn Plymouth. Yn honno gallasai Syr Henry Campbell-Bannerman fyned dros faes eangach nag oedd yn weddus iddo wneud yn Nhy'r Cyffredin. Ond aeth araeth Ply- mouth hefyd heibio, heb gymaint a gair o son am Gymru na Dat- gysylltiad. Felly gwelir mai nid Ysbryd y gwirionedd a ysbrydol- odd y gohebydd a honnai holl- wybodolrwydd. Ond, pa un ai yngoleuni Ar- aeth Plymouth, neu ar wahan i honno, a ddeil araeth y Prif- Weinidog yn Nhy'r Cyffredin y dehongliad cysurlawn a osodir arno uchod ? A yw yn bosibl cysoni addewid y Prif-Weinidog yn Nhy'r Cyffredin a'r bwriad honedig o ddwyn Mesur Dat- gysylltiad hefyd i fewn y flwyddyn nesaf ? Gwahoddwn ein darllenwyr eto i edrych y ffeithiau noeth yn eu gwyneb. Mae y tri Mesur Mawr a nodwyd gan y Prif-Weinidog yn fwy na digon i lenwi trol y Senedd y flwyddyn nesaf. Mae pob un o'r tri yn Fesur a ymleddir yn Ffyrnig. Gwrthwynebir y Mesur Trwyddedu gan holl allu Tafarnyddiaeth-yn gael ei gefn- I ogi gan ei gyngrair ffyddlon yr offeiriadaeth. Bydd Beer and the Bible' yn erbyn hwn Beth am y Mesur Addysg? Gwrthwynebir hwn gan holl allu'r Offeiriadaeth-ac er mwyn talu'r f pwyth yn ol ceir Tafarnyddiaeth yn defnyddio pob egni i gynnal breichiau'r offeiriadaeth. Felly bydd Bible and Beer" yn ymladd hwn. Am Fesur Prifysgol y Werddon maen dra thebyg y gorfodir Ynr neillduwyr egwyddorol y deyrnas i wrthwynebu hwn. 0 Iciaf, os na wrthwynebir ef ganddynt hwy gwrthwynebir ef gan yr Eglwys- wyr Offeiriadol: Canys nis gall dyfais Mr Birrell gynhyrchu Mesur a fydd yn dderbyniol gan Y mneillduwyr ac yn gymeraclwy gan yr Offeiriadaeth Eglwysig. A oes rywun yn meddu gradd o wybodaeth am arferion y Sen- edd a feiddia ddweyd fod lie i Fesur Datgysylltiad ar ben Ilwyth mor fawr a thrwm a hwn mewn un Senedd-dymor. Lol wirion yw son am le i Ddatgysylltiad gyda dau, chwaeth ach tri, o'r cyfryw fesurau Heblaw hynny mae addewid y Prif-weinidog fel yr esbonir ef gan Syr Alfred Thomas yn gol- ygu mai Mesur Datgysylltiad fydd prif Fesur y Senedd-dymor. Gwatwar Cymru fyddai rhoi ail le i Ddatgysylltiad. Geilw am holl nerth y Weinyddiaeth i'w gario trwodd yn y lie blaenaf. Yn yr ail neu'r trydydd lie, ei daflu i'r ffos ar hanner y ffordd er ysgafn- hau y cerbyd Seneddol, a wneid. Dyna'r ffeithiau noeth, heb nod nac esboniad arnynt. Dichon y cawn ddychwelyd at y pwnc yr wythnos nesaf. Yn y cyfamser nis gall Ymeillduwyr a Rhydd. frydwyr Cymru wneyd dim gwell na dal gobeithion y gorffennol o du Cymru, ac addewidion y gorffennol o du ei chynrychiolwyr seneddol ei hun yn ogystal ac o du y Llywodraeth. yn nrych dwy araeth y Prif Weinidog. Yn unig dywedwn NA THWYLLER CIlWI Nid er mwyn cael eu twyllo gan wag-addewidion, na chan hanner-cyflawniadau, nac er mwyn gweled Dadgysylltiad yn cael ei wthio i gongl yn y cefn o'r tu ol i bob deddfwriaeth arall, nac i rhyw gillach yn y rhaglen seneddol o'r hon nis gall dd'od allan i wyneb haul a llygad goleuni deddfwriaeth effeithiol, yr aberthodd Cymru gymaint am ddeugain mlynedd, ac yr etholodd llynedd 34 o aelodau Rhydd- frydol i'r Senedd 010
QYIHRYTDEFFROWCH.
QYIHRYTDEFFROWCH. Wedi cysodi y sylwadau tan y penawd Siomi Cymru," daeth datganiad y Prif Weinidog nos Fawrth, mewn atebiad i gwestiwn Mr Ellis Griffith i law, ac fe wel ein darllenwyr nad oeddym yn camgymeryd wrth awgrymu na chai Mesur Dadgysylltiad sylw yn senedd-dymor igog. Dyna'r ffaith yn awr, ac nid oes sicrwydd y daw gerbron yn 1909 ychwaith. Waeth dweyd y gwir na pheidio, yr ydym wedi colli ffydd yn y y Llywodraeth bresennol mor bell ac mae gwneud rhywbeth i Gymru yn y cwestiwn. Y cwes- tiwn i'r genedl heddyw yw, beth a wna? Ydyw hi yn boddloni to lie low and say nuffing ?" Os ydyw, pob peth yn iawn. Ond credwn fod yn Nghymru heddyw eto bobl sydd yn benderfynol o fynnu er hawliau. Mawr yw'r aberth wnawd gan lawer yn y gorffennol eu mwyn sicrhau dych- weliad aelodau i'r Senedd i ym- ladd dros iawnderau Cymru Beth mae'n cynrychiolwyr hyn am wneud yn awr ? Mae nifer o honynt yn barod i wneud unrhyw beth dros eu gwlad a'u cenedl, ond mae yno ereill yn eu plith nad ydynt yn meddwl am neb ond am danynt eu hunain. Mae'n hen bryd i Gymru fynnu Plaid Gymreig, nid yn y Senedd, ond yn y wlad, yna gellid sicrhau undeb a chydweithrediad yn y Senedd. Ar wahan i hynny fe fydd yn aelodau Cymreig yr werthrychau gwared a tosturi, oherwydd y genfigen a'r uchelgais nodwedda amryw o honynt. Drwggennym orfod ysgrifennu fel hyn, ond rhaid deffro ati, os na cha Cymru Ddatgysylltiad yn awr, gellir canu ffarwel i'n dyhead am gan mlynedd 0 leiaf Y fath wahaniaeth sydd yn ym- <Tw barhau ar t.d. ó.)