Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
EYES TESTED FREE Up-to-date Methods. Price of Spectacles and Eyeglaaecs extremely moderatf.' H' AR0HER' FtS-M-a> B-O-4- ARCHER & SONS, Specialists. 73, Lord Street, LIVERPOOL. Telephone 5615. Established 1848 _G-=-.
--:0:--CYFLOGAU MWNWYR.
-0: CYFLOGAU MWNWYR. Cynhaliwyd dau gyfarfod ganGym- deilhas Mwnwyr Prydain Fawr yn Llundain yn ddiweddar, fel yr bysbys- wyd eisoes yn y II Cymro." Er bod y ddau yn breifat deallwyf bod codiad o 5 y cant wedi ei ohirio hyd y I4eg o Awst pryd y rhoddir 5 y cant o godiad o'r first making up day ar ol dyddiad yna, ac mae rhagolygon addawol am 10 y cant o godiad cyn diwedd mis Medi, byddwn felly wedi cyrraedd y maximum, a chan fod y farchnad mor jywiog yn ystod yr Haf, nid oes dim i'R rhwystro i ddsrbyn y 60 y cant hyd Jtehefin nesaf.
."-I Llyfrau a Llenorion
I Llyfrau a Llenorion CYMRU. I Mae yng "Nghymru" Gorffennaf lawer o bethau dyddorol iawn. Dar- llennir ysgrif Elfyn ar Feirdd Llanrwst yn 1876" gyda bias gan bawb yn ddiameu. Yr oedd yno amryw ohonynt Gwilym Prysor, Gwilym Parri, Gwilym Cowlyd, Dewi Grwst, Gethin, Scorpion, Trebor Mai, 0 Isgoed Jones a W J Williams-a cheir eu lluniau ar y dech- reu. Edrydd Elfyn ami stori ddifyr am danynt, a rhyddilawer engraifft o'u dawn a'u parodrwydd. Dechreuir yn y rhifyn hwn hefyd res o ysgrifau ar Y Porth- myn Cymreig," hen gymeriadau hynod iawn yn eu dydd. Dyddorol iawn yw "Geiriau Hynod Godre Ceredigion," casgliad o eiriau llafar gwlad, gan D Asthen Evans. Mae ym mysg y rhes gyntaf hon amryw byd eiriau a arferir mewn rhannau o Ogledd Cymru hefyd, yn Sir Ddinbych, Sir Fflint a Sir Gaer- narfon, megys 11 altro, altrad," "becso," bitw, pitw." er engraifft. Byddai yn beth dyddorol a gwerthfawr dros ben cael casgliadau o eiriau fel hyn o bob ardal yng Nghymru. Pethau eraill dyddorol yn y rhifyn ydyw Gwasg Trefriw," gan y Parch 0 G Williams Mihangel gan y Parch R E Rowlands M.A., Y Cil a'r Ceunant" (W A Griffiths) Hen Ysgol y Cwm (R H Williams,) "Yr Hen Gymeriadau" (Parch R J Jones) Yr un a'r lliaws" (W J Parry) &c., ac y mae nodion y golygydd at ei ohebwyr lluosog yn dda iawn, fel arfer. DANTE. Deallwn fod ail argraffiad o gy. fieithiad Mr Daniel Rees o Divina Commedia" Dante i ddyfod allan o'r wasg cyn bo hir. Argraffiad ucnelbris i'w danysgrifwyr oedd y cyntaf ond bydd hwn yn argraffiad i'r lliaws. HAWL AC ATEB. ASTUD. Te hen wr bonheddig o Gymro iawn oedd Tomos Prys o Bias Iolyn. Canodd lawer o gywyddau da iawn, a chewch lawer o'i hanes ef ei hun a banes ei oes a'i harferion yn y rhai hynny. Dyma yn ddiau y ffordd oreu i ddeall dyn ac astudio hanes. Gwneud hynny dros eraill, megys, y mae beirn- iaid a haneswyr, ac nid ellir bod yn sicr am gywirdeb a theilyngdod eu gwaith hwythau heb fynd drwy'r un llafur ag yr aethant, mewn gwirionedd. Cewch lawer o weithiau Tomos Prys yn y "Cefn Coch M.S.S." a gyhoeddwyd yn swyddfa'r Cymro," dan olygiaeth y Parch T Fisher. Mae amryw o gywy- ddau Sion Cent yn ygyfrol honno hefyd. Oedd, yr oedd Sion yn fardd da iawn, o gresyn na cheid ei weithiau at eu gilydd; gymaint ag sydd ar gael. Da bu'r tri a nodwch yn son am wneud hynny, ond The best laid schemes of mice and men Gang oft ogley." Digon tebyg mai cynlluniau Ilygod oedd y rheiny SAIS.Do, cyfieithodd George Borrow amryw o gywyddau Dafydd ap Gwilym. Cewch ddarnau o honynt yn ei "Wild Wales." Os oedd yn ffaith ei fod wedi troi gweithiau Dafydd i'r Saesneg bron i gyd, fel y dywed yn ei Lavengro," gresyn eu myned ar goll. Nid yw ei gytieithiadau yn gywir iawn, ond yr oedd ganddo amcan lied dda am adgynyrchu rhywfaint o effaith gwaith Dafydd ei hun. Clywais fod yr Athro T Lewis Jones yn myn'di gyhoeddi cyfrol o gyfieithiadau o gywyddau Datydd. Gellwch fod yn sicr y bydd honno yn werth ei chael. -0:
Y GYFRAITH YN ERBYN CYMDEITHAS…
Y GYFRAITH YN ERBYN CYMDEITHAS GLOWYR GOGLEDD CYMRU. Fel cwybwyllwyd yn ddiweddar, daeth y cais am 152p 10s oddiwrth Drysorydd y Gymdeithas ar ran per- sonau neulltuol geibron y Barnwr Moss dydd lau diweddaf. Gohiriwyd y gwrandawiad am ychydig ddyddiau.
t1* MARCHOG LLAFUR.
t1* MARCHOG LLAFUR. Mae llawer erioed wedi bod yn marchogaeth Llafur, ond dydd Sadwrn diweddaf yn Nghaerdydd y gwnawd Llafur", r-y maer-yn Farchog gan y Brenin am y tro cyntaf erioed. Go- beithio mae dyma'r diweddaf hefyd. Oblegid pa werth sydd mewn teitlau ?
' Nodion Llafur.
Nodion Llafur. [GAN OGLEDDWR.] I PLAID LLAFUR Y WYDDGRUG. Deallwyf fod ym mwriad Cymdeith. as Gweithwyr y Reilffordd, i redeg ymgeisydd am sedd ar y Cyngor Trefol yn yr etholiad nesaf. Fe ddylai Plaid Llafur gael cynrychiolwyr ar y Cyngor hwn, pe ddim ond i ddangos nad yw yn anhebgorol angenrheidiol i'r trigolion dalu pris mor afresymol am y nwy (gas) ac a delir ganddynt yn bresennol. Mor ynfyd yw anfon Toriaid a Rhyddfrydwyr i'r Cyngor, pa rai ydynt gyfranddalwyr (shareholders) yn y Gas Coy, ac wedyn grwgnach bod y nwy yn ddrud. Nid oes ond un feddyginiaeth gogyfer a pheth fel hyn, hynny ydyw, gwneud y gas yn eiddo i'r dref er mantais pawb ac nid i fod yn fwn aur i ychydig bersonau fel yn bresennol. Plaid Llafur yn unig all sicrhau hynyma. Os oes ar drigolion y Wyddgrug eisiau rhatach nwy, rhaid iddynt bleidleisio dros ymgeiswyr Llafur. Nid yw y mwnwyr eto wedi penderfynnu ar ymgeisydd ond gellir cymeryd yn ganiataol y bydd ganddynt un, gan fod trysorfa mewn bod i ddwyn ei dreuliau. WYTH AWR. Yn y Gynhadedd cydrhwng y Meis. tradoedd a'r Gweithwyr, deallwyf na ddeuwyd i unrhyw gyd-ddeall pentant. Gofynna'r Meistradoedd i'r dynion gytuno i Fesur a olyga 8 awr o windio ac nid fel y Mesur presennol o 8 awr o II Bank to Bank." Tuhedda lhai mwn- wyr at y Mesur yma, gwn fod fy nghy- faill Tom Hughes y Rhos yn gryf o'i blaid, ac nis gall neb ameu ei onestrwydd a'i brofiad ef. Ond os oedd ein Mesur yn werth ymladd drosto yn ystod yr 21aiti mlynedd diweddaf, byddai yn arddangosiad o wendid ac annoethineb i ni dderbyn dim yn Uai yn awr. Fy argyhoeddiad gonest yw y byddai yn well i ni fesur naw awr Bank to Bank na rhyw esgus o ddiwrnod wyth awr windio' yma bydd yn gwaethygu pethau, oblegid a rhai dynion i lawr y pwll dri neu bedwar o'r gioch y boreu, gan ddod yn ol unrhyw adeg. Pa faint well allan fyddem ? Nid ydym yn ceisio lleihau swm y gld godir, ond lleihau yr arian weithir. Byddai Mesur o'r natur yma yn cynorthwyo y peth sydd arnom eisiau gwneud i ffwrdd ag ef. Yr unig ffordd i sicrhau yr hyn geisiwn ydyw trwy ddatgan yn eglur ac unfrydol—" dim ychwaneg o chware, mae arnom eisiau wyth awr o "Bank to Bank ? Os cyn- nygia'r Meistradoedd trwy Herbert Gladstone rywbeth arall, dywedwn gyda Mr Pickard, Na, gwell gennym barhau i ymladd." -0:0-
Datblygu Addysg Fwnawl.
Datblygu Addysg Fwnawl. Nid yw CyDghor Sir Forganwg yn hepian ar fater addysg fwnawl, nac ar unrhyw fater addysgol arall. Yn mhen ychydig o amser, daw Morganwg gyda'i hysgoloriaethau yn brif awdur- dod ac arweinydd y byd yn y ganghen hollbwysig hon. Ac felly y dylai fod yn ngwyneh gredcll gynhenid y Cymro at addysg, a'r manteision naturiol a osodir o flaen y myfyrwyr gan y Crewr yn y pyllau glo sydd yn brithro'r wlad. Gall y myfyrwyr gael yr egwyddor, a'r ym. arferiad, ac uniad y ddau wna swyddogion gwerth ymddiried ynddynt gan feistri a gweithwyr. Deallaf fod Pwyllgor Addysg wrthi yn ddygn ac yn gyson yn perffeithio'r gyfundrefn, a-bycid ein cynllun yn Morganwg yn sicr o ddod yn nod cynghorau, siroedd a gwledydd creill yn y dyfodol. I'r gwr ieuanc sydd yn chwenych dringo ar hyd llwybrau gwybodaeth, ac ymheulo ar gopa llwyddiant, nid oes dim yn eisiau arno heddyw ond penderfyniad a dyfalbarhad. Na ddyweded neb ei fod yn rhy anwybodus i gychwyn, canys y mae'r ysgol nos o dan y Cynghor Sir yn dechreu iseled a'r a-biec ir'r sawl a fyno, ac o radd i radd eir yn mlaen ac i fyny fel y bo'r myfyriwr yn cydio yn ei waith. Y noson o'r blaen bum yn edrych dros gopi gwr wedi croesi'r deg ar hugain oed, ac wrth gymharu y copi hwn a'r un a welais] ganddo chwe' mis cyn hynny, cynfyddwn gynydd amlwg. Y noson gyntaf yr ymunodd a'r ysgol nos nid oedd ganddo yr un ddirnadaeth am y modd i ddal pin ysgrifenu ac ysgrifenu ei enw. Yr oedd yu fwy deheuig yn cydio yn y mandrel nac yn y pin, ac yn gallu tori glo yn well lawer na thori llythyrenau ei enw, a bu rhaid i'r ysgoifeistr osod y cyfan o'i flaen ac yntau i'w hefelychu goreu y medrai. Ie, goreu y medrai ydoedd hi hefyd. Yr oedd ei enw yn rhy fawr i gymeryd ei wasgu i un Ilinell o'r llyfr yr ysgritenai arno, yr oedd coesau ambell lythyren yn gyffelyb i eiddo'r giraffe," a chrwmp ambell i un arall fel eiddo'r camel, a darnau mawrion o inc yma a thraw dros y cyfan godasai wrid ar y tip glo gerllaw Ond yn mhen y chwe' mis, yr oedd y cyfnewidiad yn hynod, a chynydd y cyfaill yn gredit i'w eg'ni a'i wydnwch yn dal ati, gyda'r fath gyndynrwydd i goncro'r anhawsderau. Yr oedd y copi olaf hwn yn gryno, y llawysgrif yn dechreu gwisgo prydferthwch, a'r enw yn cymeryd ei wasgu ddwy a thair gwaith yn ddigwyno ddigon i'r un llinell. Heblaw hynny yr oedd ganddo stoc o eiriau erei 1 ar gof ac ar lyfr a ddysgasai yn yr un cyfnod ac yr oedd yn dysgu rhifyddiaeth yn gyflym a chywir. Yn y tymhor nesaf cadwaf fy llygaid ar waith y cyfaill hwn. Gwelais un arall yn cychwyn ddwy flynedd yn ol heb ddim stoc ganddo, ond eleni aeth trwy arholiad am dystysgrit fel is-oiuchwyliwr yn llwyddianus Nid talent a galluoedd disglaer sydd eisiau, ond gallu i gymeryd poen, ys dywed yr hen Garlyle. Os yw ein bechgyn yn barod i ymboeni, y mae'r llwybr am wir ddyrchafiad o'u blaen, a dyna'r cyfan all unrhyw gynghor neu goleg wneuthur i uirhyw ddyn. Nis gellir gweithio dros neb arall, ac nis gellir meddwl dros neb arall, ac nis gellir meddwl dros ein cyfeillion yn y rhedegfa addysgol fel yn mhob rhedogfa arall angenrhaid a osodir ar bob dyn i stripio ymarfer ei hun i'r gamp, a pheidio arbed ei hun mewn caledwaith. Wrth rhedeg y perffeithir yn y gelfyddid, ac wrth ddysgu y dysgir. Deallaf hefyd fod cynllun o ysgoloriaethau tramor yn yr
Advertising
Perfect I Teeth. I Artificial tAt¥" 1'/tÁ" y;Ji, P. Neil Campbell 84, DURNING ROAD (Next to Edge Hill Training College), LIVERPOOL PAINLESS EXTRACTIONS. Gold. Silver and Other Fillings Advice and Estimates of Cost Free. Hours: 9 a.m. to 8 p.m. LADY ATTENDANT. American System of Crown & Bridge Work Telephone 445 Royal.
Ffestiniog a'r Cylch
Ffestiniog a'r Cylch GWAELiEDD. Drwg .gennym oedd clywed am waeledd y 'Parch Thomas Hughes, B.A., Rhiw. Dy- munwn yn gywir adferiad buan iddo. LLIWVÜDIAKT. IDa oedd gennym glywed am Iwyddiant Mr Morris O'wen, B.Sc., Tanyclogwyn, yn ei wiaith yn ennill ysgoloriaeth gwerth hanner can' punt am ddwy flynedd yng; Ngholeg Bangor. Hefyd Mr Edwin A Owen, Cwm- bowydd Road, yntau wedi ennill amryw o wobrwyon anrhy-deddus, Ychw,aneg o Iwyddiant a'ch dlilyno etc. gyfeillion hoff. Cl\,NU O FLAÆK Y BRENIN. Dynil fu hanes ein Cor Meibion ddech- reu yr wythnos ddiweddiaf. Clywsorn eu bod yn eu hwyliau goreu, ac i'r teulu bren- hinol gael eu boddbau yn fawr yn eu canu. Bu raid iddynt ail-ganu "Gwyr Harlech" a "Chydgan y Pererinion." Gallwn ddwevd ein bod fel ard,al yn llawenhau yn yr an- rhydedd osodiwyd ar ein CôrMeibion c gael canu ger bron ei Fawrhydi Brcnhznol, a'r un modd teimlwn yn hynod ddiolchgar i'r Gwir Anrhydeddus A Osmond Williams, A.S., am e ffafr a'i haclioni tuag at y Cor. Efe gyflwynodd y parti i'w Fawrhydi. Caf- odd yr arweinydd galltiog, Mr Cadwaladr Roberts, ymddiddan a'r tBrenin a'r Frcnhin- es, a dywedasant fod ganddo y Cor goreu glywsant erioed, CYFARFOD MISOL. 'Cynhaliwyd Cyf.arfod iMisol y M.C., Gorllewin Meirionydd, yng nghapel y Garregddu, ddechreu yr wythnos ddiweddiaf. Pregethwyd yn rymus nos Lun gan y Parch Morgan Griffith, Abermaw. Ar ol y breg- eth cahvyd seiat gyffredinol. Y mater yd- oedd, Llywodraeth Duw ar y byd, a'n dyledswydd ninnau yng ngvvyneb hynny," Salm ciii, 19. Pregethwyd nos Fawrth gan y Parch R H Watkins, -Bryncrug; a nos Fercher gan y Parch Joseph jeakins, Dol- gellau. DIANGFA. Oddeutu 12 o'r gloch, dydd Mawrth di- weddaf, bu agos i ddamwain ddigwydd; trwy i gerbyd modiir Mr Bow ton, Cartre', Ffestin- iog, fyned i wrthdarawiad a clierbvd Dr Evans, Llys 'Medd'yg, end trwy gynorthwy cyfeillion llwyddwyd i igael teithwyr y ddau gerbyd allan yn hollol ddianaf, ond yn unig eu bod wedi eu dychrynu yn fawr. MARWOLAETHAU. ( Bu y gelyn ysgubol angau wrthi yn llaw- drwm iawn ar ein hardal y dyddiau di- weddaf trwy gymeryd ymaith In o anwyliaid o bob oed, sef Llewelyn Lewis, mal) i Mr a Mrs William Lewis, Edmund Street, yn 18 mlwydd oed. Bu ef farw boreu Llun yn hynod .sydyn. Nos Sadwrn cynt yr oedd wedi dyfod adre-f o Rhyl, lie yr oedd yng ngwasanaeth Briggs .Boot Company, ac yr oedd yn awr ar gael ei symud i le newydd, felly yn hoffi cael dyfod adref dros y Sul cyn myned iddo. Claddwyd ef prynhawn Gwener yn mynwent 'Eethesdn, pryd y gwa- sanaethwyd gan y Parch R R Morris. Bu i Obeithlu y Tabernacl ganu ar hyd y ffordd o'r tv i'r fynwent. 1 j I I- | Hefyd Mt Robert Jones, Meirion Terrace, yn 67 mlwyddi oed. Cymcriad gloc, <lchl- fwyn, a phur ydoedd efe, ac yn llaenor def- nyddiol hyd y gallodd yn eglwys y Garreg- ddu. iCladdwyd ynt,au yiMijynw-ent Beihes- da gan dorf barchus, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn D Hughes, Trawsfynydd J Owen, (M.A., Bowydd; a gweinidog yr eg- lwys, y Parch D Jones. Gorffennaf 11 eg, yn 64 mlwydd oed, Mr Hugh Hughes, Leeds Street, Blaenau Ffes- tiniog. Bu ef yu cystuddio am tua hanner blwyddyn, ond fel pob Cristion dioddefodd yn dawel, gan ymostwng i ewyllys yr Ar- glwydd. Yr oedd yntau yn aelod gweithgar yn eglwys y Garregddu. Gedv ef weddw a saith 0 blant i alaru eu colled ar ol tid tyner a gofalus. Claddwyd ef ddydd Llun yn mynwent Bethesda, pryd y gwasanaeth- wyd gan y Parch D Jones. Hefyd Mr John ]?van Jones, cariwr, Manod Road, yn 73 mlwydd oed, ar ol dioddef cys. tudd caled. -Gedy yntau wcddw a saith o blant ar ei ol. Claddwyd ef yn mynwent St Michael, Ffestiniog. Mr Owen Roberts, cBowydd Street, yn 68 mlwydd oed. ipti farw Gorffennitf Ileg, a chladdwyd ef ddydd Sadwrn yn mynwent Bethesda. Yn 29 mlwydd oed, Robert Roberts, Llwynhir Terrace, Bethesda. Gadawodd briod a phlant i al,arti ar ei ol. Claddwydi ef ddydd Gwener yn mynwent Bethesda. CYMANFA YR AN1ŒYNXWYR Nos Wener, nos Sadwrn, a'r Sul diwedd. af, cynhaliodd yr Anibynn wyr eu cyfarfod pregethu blynyddol. Y g-weinidogion oedd yn gwasanaethu yn yr wyl eleni ydoedid y P,archn P E Price, Gland wr; Ben Uavi-es, Panteg; D Eiddig Jones, Clydach; R (wylfa Roberts, Llanelli; T Rees, Sirhowi; 0 R Owen, Lerpwl; Peter Price, 03.A., Dowlais Jacob Jones, Merthvr Rowland Hughes, B.D., Tylorstown T Esger James, Maesteg; E Jones, M.A., B.D., Dowlais; Samuel Williams, Maesteg; Ben Morris, l'ontyberem; a W Eynon Lewis, Brvncefh- in. Prcgethodd yr 0011 yn rymus neilltuol gyda. nerth. Am ddau o'r gloch prynhawn Sadwrn, cynhaliwyd cyfeillach gyffredinol yng nghapel Jerusalem, pryd y cadeiriwyd gan y Parch T Griffiths, Salem. Cafwyd :aner.c.11iadau gwresog gan lu o'i gweinidog. ion. M ANTON". Yr oedd Mr J .E Fidler, arweinydd pob- logaidd ein seind'orf enwog, vn rhoddi "training" i Seindorf Llanidloes yr wyth- nos ddiwcddaf, gogyfer a c.hystadleuaeth oedd i gymeryd lie yn Llanfaircacrcinion. Graddiodd Mr Hugh Roberts, Leeds 6t., yn 'B.A., yn Mhrifysgol Bangor. Cyf arfodblynyddol Uwyddiannus gynhal- iwyd yn Hyfrydfa nos Sadwrn, o dan ly. wyddiaeth Mr R 0 Jones, Brynofferen. Y mae y Nurse Edwards yn bwriadu ga-d- ael y dref hon, wedi bod yn gwasanaethu yma. am ddeng mlynedd gyda'r ffyddlondeb m wyaf. Bu y Parch J Rhydwen Parry, Bcthania, yn cadw cyfar.fod pregethu yn Sam, Llyn. helyg, Sir Fflint, nos Fawrth a dydd Mer- cher diweddaf. Dal i wella yn rhagorol y mae Llewelyn, mab Mr a Mrs -T J Roberts, Aelybryn, yn yr America. 'Gwrthodwyd trwydded y Glyndwr Inn yn y Llys Ynado1 dydd Iau diweddaf, gan fed y Fairi- yn hollol unfryol nad oedd ei angen, a'u bod; yn cyflwyno y ty am iawn. Torrodd yr ysgolion elfennol i fyny ddiw. ed-d yr wythnos ddiwed/daf am bum' wythnos o wylviau. Y mae rhai o'n ffermwyr wedi dechreu gyda'r gwaith o ddifrif. Cawsom dvwydd braf ddyddiau Iau a Gwener, ond trodd y tywydd erbyn boreu Sadwrn fel ag i'w hatal. ■Oherwydd y (iymanfa .Bregethu, oedwyd cynnal y Cyfarfod Dirwestol hyd y Sadwrn nesaf. ■JL. IDRIS.
Datblygu Addysg Fwnawl.
arfaeth, a bwriedir i'r goreuon gartref fo yn medru Ffrancaeg neu Almaenaeg, i gael blwyddyn yn Belgium neu yn un o'r ysgolion mwnawl sydd yn yr Almaen. Os cofir eto am yr ysgoi fwnawl a sefydlir yn Nghaerdydd o dan nawdd y Brif Ysgol yno gwelir fod llinellau glowyr Morganwg wedi syrthio mewu lleoedd addysgol tra hyfrydlawn. Gyda llaw, yr oedd yn flin genyf weled fod rhai o fyfyrwyr aiddgar coleg Ruskin yn gwrthwynebu yr ysgol fwnawl yn Nghaerdydd ac yn arfer eu doniau a'u dylanwad yn ei herbyn. Trueni mawr yw hyn. Y mae eisiau coleg Ruskin a'r ysgol fwnawl newydd, a thrychineb yw dal y naill mewn gyrthgyferbyniad i'r llall. Byddai blwyddyn neu ddwy yn ngholeg Ruskin yn barotoad gwych i unrhyw fachgen i fanteisio ar gwrs uwchraddol yn Nghardydd yn yr Ysgol Fwnawl. Rhodder y ddwy i ni, a phleidied carwyr dyrchafiad y werin nid yn unig y^ddwy hyn, ond holl sefydliadau addysgol y "LLAIS LLAFUR." :o:
Cwrs y Byd.
y gwyr Mr Weir erbyn hyn am t-, fentro rhoi r aelocl hwnnw ym musnes pobl Colwyn Bay. Y dydd o'r blaen, cwynodd yr un gwr bonheddig fod ynys Lewis mewn ystad druenus iawn, yn llawn o'r dwynyn ysgarJad, a'r carthffosydd yn enbyd eu cyilwr. Beth y mae'r Llywodraeth am ei wneud ? ebe fe. Y funud honno, dyma Mr Rees o Sir Drefaldwyn i fyny. Sut yr ydym ni Gymry i'ii hamddiffyn ein hunain rhag rhuthrau y Pictiaid a'r Scotiaid hyn ? ebe fe y tro o'r blacn y bu'n gwrth- wynebu Mr Weir, ond y tro hwn cafodd ei gyfle. Fydd i'r Llywodraeth," ebe fe, ystyried y priodoldeb o ddanfon cymorth meddygol o Golwyn Bay i'r lleoedd aflan hyn ? Methodd Mr Weir a chael dim i'w ddy- wedyd yn ateb i hyn. Cafodd ddyrnod ar ei drwyn nes ei hurtio, megys. Ond dyrna'r helynt wedi dechreu. 'Does wybod pa beth fydd ei diwedd. Edryched Mr Rees ati. Yn eu cyfarfod y dydd o'r blaen, diolchodd cynghorwyr Colwyn Bay i bawb a gymerodd ran yn amddiffyniad y dref rhag ymosodiad Mr Weir. GeIlir I casglu y bydd yn berygl i neb o'i debyg ef ddangos ei drwyn yn y dref honno o hyn allan. 'V.a.Vcvl '1 *W £ &Yc\u>gf\,ou. Mae Clwy'r Brenin yn dechreu oeri bellach yn y wlad, ond ni wydclis ba faint sydd eto dan Haint y Marchogion. Os yw dywedyd Syr Harri yn well nag ydoedd dywedyd "y Prifathro Keichel," bydd pob Cymro sy'n adnabod pennaeth caredig Coleg Bangor yn fodlon ddigon i'w alw felly. Buasai liawer o honom yn barod iawn i roddi iddo lawer mwy o anrhydedd nag a gafodd hyd yn oed ym marn y rhai sy'n gweled anrhydedd mewn teitlau o'r fath. Beth bynnag am hynny, i,nae ii sicr fod llawer disgwyliad wedi ei somi. Bu'r Brenin yng Nghyinru am ychydig oriau, a deallwn ei fod wedi ei blesio yn fawr. Gwelsom yn rhywle y cae olwg ar redeg ceffylau yn Iwer- ddon, ac arhosodd yno yn hwy. Methodd pobl Bangor yn arw na fuasent wedi trefnu ras neu ddwy ar gyfer yr amgylchiad. Hysbysir fod y Brenin wedi gofyn i Argl- wydd Kenyon pwy oedd y prif gyfranwyr tuag at drysorfa y coleg, a'i fod yntau wedi enwi Mr Prichard Jones, a gyfrannodd 3,ooop. Gofynnodd ei fawrhydi am weled M r Prichard Jones, a dywedodd wrtho, medd yr hanes ym mhapurau'r Saeson, ei fod y math o ddyn yr oedd ar achos addysg ei angen. Diau fod yn dda gan Mr Prichard Jones a phawb gael y wybodaeth aruchel hon ar y mater.