Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Nid yw Arddangosfa fawr Paris yn dechreu yn addawol iawn. Yr wythoos ddiweddaf digwyddodd dwy ddamwain anffodus; yn un lladdwyd naw o bersonau ac anafwyd llu eraill trwy i bont syrthio, ac yn y llall lladdwyd dau weithiwr trwy i lwyfan syrtbio arnynt. Er yr adeg y llosgwyd Chicago, ni fa y fath ddinystr yn yr America trwy dan ag a gaed yr wyth- nos ddiweddaf pan y difodwyd yn agos i bum mill- dir ysgwar o dref Ottawa. Ni raid dweyd y bydd yno galedi dirfawr ar ol hyn, ac y bydd yn hir cyn y ceir trefn ar fasnach y dref bwysig. Y mae holl dalaeth Canada eisoes yn casglu i'r trueiniaid, a chesglir hefyd yn y wlad hon. Ddydd Gwener, cynaliodd Mr Wynn Evans, Gwrecsam, drengholiad yn Rhosymedre ar gorph Ann Arthur, 61ain oed. Dangosai y tystiolaethau fod Mrs Arthur wedi rhoddi ffordd i ymyfed; a Mai 3, aeth ei gwr a hi adref yn feddw, a chan ei bod eisoes yn myned am ychwaneg o ddiod, clowyd y drws. Aeth i fynu i'r llofft, a neidiodd allan trwy y ffenestr, uchder 0 14 troedfedd. Cariwyd hi i'r ty, ond gynted ag yr aeth ei gwr allan dilyn- odd ef, ac aeth am gwrw ddwywaith. Boreu dranoeth methai godi, a galwyd am y meddyg. Cafwyd ei bod wedi derbyn niweidiau difrifol, a bu y meddyg yn gweini arni hyd nes y bu farw. Tyst- iai, fodd bynag, mai pneumonia oedd achos ei marw- olaeth, ond nis gallai ddweyd pa mor bell yr oedd a wnelo ei chwymp a. hyny. Tystiodd ei gwr iddo grefu ar y tafarnwr i beidio rhoddi diod iddi pan y gwelai hi dan ddylanwad diod feddwol. Dygodd hyn gerydd llym gan y trengholydd ar y tafarnwr. Dygwyd rheithfarn, fodd bynag, iddi farw o achos- ioa aaturi ol.
TABERNACL, NETHERFIELD ROAD.
TABERNACL, NETHERFIELD ROAD. Pregethir nos Sul, Mai 13, gan y Parch. O. L. ROBERTS. I
OAPEL (A; GREAT MERSEY STREET
OAPEL (A; GREAT MERSEY STREET Pregethir nos Sul, Mai 13, gan Parch J. T. PARRY, Cilcenin.
[No title]
0 hyn allan dymunir ar i bawb anfon hysbysiad i ni o unrhyw gyfnewidiad yn nhrefn y moddion ac yn yr eglwysi lie y mae gweinidogion sefydlog, os na chlywn yn wahanol, rhoddir enwau y gweini- dogion hyny i bregethu.
PWLPUDAU CYMREIG, Mai 13.
PWLPUDAU CYMREIG, Mai 13. .1 LERPWL. Y MfiTHODISTlAll) OALFUNAIDB. ■'rxnees rd-10, W uwen, 6, J Williams < David street-10-30, J W illiams, tI, W Owen Htzclarenee st-10, E J Fvans, 6, T Evans Hetherfidd «i-10, TKvaus, 6, E J Evans Jhaiharn street-10 a 6. R Parry. Llanrug. CroasAall street-10 a 6, D Jones. intfeld road-10 a 6, Wo Jones niBghatnpark—10 a 6 R A Jones Bootle-10 a 6, W Henry Sirkathead- 0.30 a 6, T Gray Seacotabe-10.16 a 8, L Lewis Ularston—10.30 a 6. R S Thomas, Abercynon. dock Ferry—10 3) a 6, 0 J Owen Walton park—10 a 6, H Jones Waterloo-10 a 6, G Ellis Hay ton Quarry—10 a 6, T J Williams, j Feel roa4-10-30 a 6, J Hughes doit road—10,30 a 6, W ill. Jones debater road-10-30 a 6, W Jones jievi BrigAton -10 80 a 6, H P Roberts West Kirby-11 a 6.30, J V Williams, Llamhyddlad Yates street-6.16, J Evans Southport-10.30 a 6.30. it. Helens-10-30 a 6, J H Evans, Nantglya Laird street, Birkenhead—a, £ C Owen Market street, Birkenhead—6, Hilton st., Widnes. -10.30 ad, Siloh wAiston-10 30 6, isgremont (Baes.)-10.46 a 6.30, J H Martyn, Boylake ,c. ii, Everton brow (Saes.)—10.45 a 6 30, Wynn Davies Qakfield rd (Saes -10, 45 a 6.30, T G Owen.: "~73> Catharine st (Saes)-10.30 a 6.30, J Owen, Gerlan. YR ANNIBYNWYK Tabernael—10.30, J Machreth Rees, Llundaln,6, 0 L Roberts Urove st-Gweler Hysbysiad fark road-10-30, 6, J Machreth Rees. f.Jt. Mersey st-IO-SO, H P Thomas, 6, J T Parry, Cilcenin Kensington—10.30, 0 J Owea, Poncie, 6, J 0 Williams Trinity rd, Bootle-10-30, J 0 Williams, 6. 0 J Owen, Glifton rd, B'head—10-30, 6.16, H P Thomas Marsh Lane-10.30 a 6, J H Rees Seacombe—10.30 a 6. S Roberts Vittoria st, B'head-10-30 a 6 16, E 0 Kvang, Pontrobert. Southport -10-30 a 6.30, D A Davies, Lerpwl. Y BEDYDDWYR. Svexton Village-10-3 a 6, D Powell. Windsor st —10.30 6, W Samuel Dapel Seion Bousfleld st—10.30 a 6. Peter Jones Edge Lane-2-30 a 6, 3altiol Rd, Bootle-10-30 a 6, H D Jones, Cefncymerau. Knotosley Road, Bootle-10.30 a 6, L W Lewis. Woodlands, B'head—10-30 a 6-15, J Davies. Y WESLEYAID Shaw st—10.30, R Ll Jones, 6. W C Jones Boundary st-10.30, Cyfarfod Ysgol, 0, J P Roberts Trinity Rd, Bootle-10,30, J P Roberts. 6, R LI Jones Edge Hill, PlimsoU st-IO, W C Jones, 6. W T Jones Knowsley Road-2, R Ll Jones, 6, Cyfarfod Gweddi. Mynydd Seion-10 30, W 0 Evans, 6, D Jones. Qlaughton rd, B'head—W-Z0, W Jones, 6, W 0 Evans Widnes—\Q.30, a 6, E Hughes 9arston—2-30, D Jones, 6, P Lloyd Barlatowij,-10.80 a 6 30, Heber Chambers Herman—10.30 a 6, D 0 Jones Golborne-2, D 0 Jones, 5 30 M Watkins Sawombe-10 30, D Jones, 6, W Jones Rock Ferry-2-30, W 0 Evans, 6, J E Wyane Eccles-11 a 6. G Evans, Lerpwl YR EGLWYS SEFYDLEDIG, Sant Deun-lo-30 a 6.30, J Davles Sant Asaph-10-45 a 6.30, E Williams. Sunt Nathaniel-IO.BO, Ysgol, 6.30, R H Davies St Winifred,B'h.eaà-lO-45 a 6-30, T Edwards (Gwynedd).
Advertising
Eglwys St Winifred's, Westbourne Road, BIRKENHEAD. Pregethir y Sul nesaf, Mal 18eg, am 10 45 a 6-30. gan y Y' Parch T. EDWARDS (Gwynedd), Rheithor Llanllyfni.
IMACTCEINION.
MACTCEINION. Y METHODISTIAID CALFINAIDD. Moss Side-10 30, J P Jones, 6.30, W James Pendleton-10 30, W James, 6, W Glynne Heywood Street-10 30, W Glynne, 6, J P Jones Higher Ardwick-10,30, a 6, -u- Yn adroddiad blynyddol diweddaf Bwrdd y Llywodraeth Leol, gwneir cyfeiriad at gyflenwad dwfr Caernarfon, a'i duedd i gael ei lygru. Syl- faena y Bwrdd eu casgliadau ar adroddiad Dr Wheaton, a dywed nad yw y Cynghor Trefol wedi sicrhau hawliau dros y dwfr yn uwch i fynu na'r Ile y rhed ilr afon, a dywedant nas gallant wneud dim; ac o'r ochr arall methai dau gynghor Dosbarth Gwledig a gweled eu ffordd yn glir, ar y tir o gost, i ddarparu meddyginiaeth i'r drwg. Dywed yr adroddiad ei bod yn bwysig i'r Cynghor Trefol wneud rhywbethar unwaith. PURWCH Y GWAED. co Y gwaed yw y bywyd," ac mae yn rhaid ei gae1 yn bur oa am gadw y corph yn iach. Mae llawer o'r clefydau a'r anhwylderau y mae dynion yn ddarosbyngedig iddynt yn enwedig yn ystod misoedd y gwanwyn a'r haf yn cael eu haohosi gan waed anmhur ac afiach. Arwyddion neu arddangosiadau o anmhuredd yn y gwa^d yw gwelwder, gwendid, manwynau. cornwydydd, &e. Darpariaeth natur er puro y gwaed yw llysiau o wahanol fathau. Yn mhlith y llysiau mwyaf rhinweddol ao effeithiol i gyrhaedd yr smean hwn, cydnabyddir gan feddygon yn mhob gwlad mae y goreuon yw Cinchona (o'r hwn y ceir Quinine), sarsaparilla, cynghaw (burdock), a dantyllew. Ceir rhinweddau iaohaol a gwaed- burol y llysiau hyn yn nghydag amryw felua-lysiau a chwerw-lysiau eraill wedi eu huno yn y meddyglyn enwog Quinine Bitters Gwilym Evans. Mae meddygon as eraill sydd wedi rhoddi prawf arno yn cyd-dystio nad oes un feddyginiaeth arall gydmara a Bitters Gwilym Evans er gwella ac atal anhwylderau a achosir gau waed anmhur ac afiach. Cafr hefyd fod Bititers Gwilym Evans y mwyaf effeithiol er gwella diffyg treuliad, a phob anhwylder yn y cylla- a'r afu, ac achosion o wendid mewn gwragedd a phlant. neu rai yn dihoeni mewn gwen- did ar ol bod mewn unrhyw dwymya. Dyry yni a nerth newydd i'r cyfansoddiad. Qocheler efelychiad- au ohono trwy edrych fod enw Gwilym Evans ar y label, y stamp, a'r botel. Ar wertoh gan bob fferyllydd, mewn poteli 2s 9c a 4s be yr un, neu anfonir ef trwy y post am y prisiau hyn yn uniongyrchol oddiwrth y perchenogion Quinine Bitters Manufacturing Co., [ Limd., Llanelly, South Wale3.
._ Birkenhead.I
Birkenhead. I Cefais lythyr a newyddiaduron oddiwrth Mr Evan A. Evans, mab Mr a Mrs Robert Evans, Camden Street, sydd er's thai misoedd bellach yn Naauw- poort, Deheubarth yr Affrig—nid yn cigydda ei gyd-ddynion, ond yn nglyn ag ysbytty Prydeinig i leddfu poen yr archolledig a cheisio arbed gynifer ellir rhag yr haiut echryslon sy'n difa mwy na'r cledd o'n gwyr annghynefin a. hinsawdd a chaledi bywyd gwersyll symudol. Rhydd Mr Evans ddes- grifiad o'r daith bedwar diwrnod a gafodd mewn tren o Capetown i Naauwpoort, trwy olygfeydd ail i unman ond Nant Grwynant, a'r gerbydres, fel eiddo'r Caiitb)-ian yn Nghymru, yn rhoi hamdden iddo ei mwynhau. Tarawai ar Gymro yma ac acw yn mhlith gweis y ffordd haiarn—yn cael eu llogi, mwy na thebyg, oblegid eu gallu i alw yn grovw yr enwau sir-Ponaidd sydd yn y fro anffodus "hono. Wedi cyrhaedd pen y daith, a gosod yr amrywiol bebyll i fynu, dechreuwyd yn ddioed ar waith yr I' ysbytty. Nid oedd ond deuuaw milldir rhyngddynt ag Arundel, lie yr elai ymladd gwaedlyd vn mlaeu ar y pryd, ac y clywent dwrw annyddan ac annaear- ol y magnelau a'r peli tau. Dylifai clwyfedigion oddiyno; o Paardeburg wedi hyny, ar ol trechu Cronje; yn nhyda 400 o gyflafan fwngleraidd Mag- ersfontein. Rhydd y cyfaill ieuanc ddesgrifiad manwl o'r drefn filwrol o gyf wrdd a. chludo'r tru- einiaid, ac o'r dull eu hymgeleddir yn yr ysbytty. Y mae yn nglyn a'r lie 17 o feddygon—dau ohon- ynt yn Gymry, sef Dr John Owen, y dywedid yn ein rhifyn diweddaf ydoedd yn nglyn ag ysbytty y Royal Southern cyn ei fynediad allan, a'r llall Dr Parry Edwards, o sir Fon-sir o'i maint a roes gy- nifer o'u prif feddygon i Loegr a Chymru. Nid I yw y math hwn o ysbytty, chwedl Evan Evans, yn rhoddi cyfle i neb enill clod na thlws Victoria, fel a geir hefo ysbytty maes neu field hospital; ond y mae y gorchwyl er hyny lawn mor galed, a llawn mor deilwng hefyd o edmygedd a diolchgarwch y cyhoedd Prydeinig sydd mor esgud i ogoneddu y neb a laddo fwy na chyffredin o'i elynion ond na fal- ia yr un chwrligwgan am wrhydriannhraethol uwch ond mwy cuddiedig a llai dyddorol y meddygon a'u I cy northwywyr a gollant eu hun a'u hiechyd eu hunain I er mwyn ceisio ei adfer i eraill. Yr ydym yn llaw- er rhy ddwl, yn ami, i adnabod y gwasanaeth uchaf, ac yn rhy anifeilaidd, er ein holl grefydd a'n gwar- eiddiad, i wahaniaethu rhwng dewrder corphorol a'r ymroddiad a ddangosir yn yr ysbyttai rhyfel, —gwasanaeth na ddelir mohono ar drostan cyhoedd- usrwydd, ac nad oes yn gymhelliad iddo ddim ond tosturi pur. Ond heb i mi grwydro, rhydd ein cyfaill ddarlun o'r hafog a wna'r peli o'r magnelau ar gyrph y clwyfedigion, a gwaeth fyth, y nifer en- byd a syrthiant yn ysglyfaeth i'r ddau haint, dysen- tery ac enteric. Y mae iechyd Mr Evans hyd yma wedi dal y dreth drom sydd arno, tra y mae dau neu dri b'i gyd-compounders wedi tori i lawr, ac ar eu ffordd adref. Rhaid iddo ddiolch am ei wydnwch i lymru a maidd Lleyn, fu'n ymborth diguro ei henafiaid yn y penrhyn Cymroaidd hwnw. Dy- munwn iddo ddychweliad mewn iechyd i'w hen gylchoedd, lie y disgwylir pethau dyddorol y gauaf nesaf. Y mae llawer yma, fel y mae'n ddiau mewn man- au eraill, yn ddig enbyd wrth yr etholedigaeth an nghyfiawn o du'r gohebwyr rhyfel a chwydda bob gorchest o eiddo'r catrodau Seisnig, Gwyddelig ac Ysgotaidd, ond a fygaat yn rhagfarnllyd bob gwr- hydri gan y catrodau Cymreig. Pwy fyth ymladd- ai dros giwed mor drahausfalch. Oad who! rhaid i mi gofio fod Cymry Birkenhead yn frith o wrth- Foeriaid a fawr hoffent weled yr olaf o'r genedl bybyr hono yn mhlith y fossils. Ein cydymdeimlad a Mr Edward Jones, Albert House, nad yw mewn cystal iechyd ag y carai ei gyd-Gymry, ond sydd yn ymlid pob gofid ymaith a'i sirioldeb dihysbydd. Nos Sadwrn a'r Sul diweddaf cynelid cyrddau pregethu Bedyddwyr yr Woodlands, y Parchn W Samuel, Lerpwl a John Williams, Aberteifi-ond Birkenhead er's taim, pan gynullai yr eglwys hon yn Price Street-yn gweinyddu. Trodd gwlaw drwy'r dydd y Sul yn erbyn lluosogrwydd y cyn- ulliadau, ond yr oeid pobpeth arall angenrheidiol yno. Ysgrifenydd yr eglwys hon (Mr W G Jones, Lleyn) sydd yn cadw dau benchvvibandod Cymry'r dref rhag cyrhaedd eu heithafrwydd—Dicshondaf- yddiaeth a'r chwiw ryfela. Efe ydyw'r unig Gym- ro yn y cyleh sy'n aelod tanysgrifiol o Gymdeithas Heddwch, yr hyn sydd yn gryn syndod i genedl mor Feiblaidd mewn pethau eraill. Am y tro cyntaf er's blynyddau lawer, caed gan Bwyllgor Lerpwl dreinu cyfarfod o blaid y Genad- aeth Dramor yn addoldy Parkfield nos Lun ddi- weddaf, pryd y caed anerchiadau gan y Parchn L Lewis, E J Evans, G Ellis, D Williams (Cross- hall Street gynt), T Gray, ac 0 J Owen. Yn mhlith llu o bethau da a ddywedwyd, gollyngwyd rhai asynod gwylltion," chwedl awdwr Llythur- au 'Rhen Ffarmwr," na ddelir byth mohonynt, y mae lie i ofni. Symol ydoedd y cynulliad mwy dyddorol gan lawer ydoedd ymystyn ar yr aelwyd gartref i ddarllen hanes Cenadaeth fwy gwaedlyd Prydain yn Neheubarth yr Affrig. Je Aitsh. I Bwriedir gwario oddeutu 2,000p ar adgyweir- iadau yn nglyn ag Eglwys Gadeiriol fyddewi. Yr wythnos ddiweddaf, bu farw y Parch John Williams, Ficer Llangeler. Brodor o Merthyr ydoedd, a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg- ol Cefn, Merthyr, a Choleg Aberhonddu, gyda'r bwriad o fyned i'r Weinidogaeth gyda'r Annibyn- wyr. Ond ymunodd a'r Eglwys, ac ordeiniodd Dr Campbell, Esgob Bangor, ef yn gurad Glan Ogwen, Bethesda, yn 1862. Ddydd Sadwrn, bu Bwrdd Pysgota y Ddyfrdwy yn ystyried yr achosion o leihad eogiaid yn yr afon, gyda'r amcan o gael gwybodaeth ar y mater i'w roddi gerbron y Ddirprwyaeth Freninol ar Bysgod- feydd Eogiaid. Yn mhlith yr achosion a awgrym- wyd ydoedd, pysgota gormod gyda rhwyd a llygriad y dwfr. Y MOR-GWISGOEDD Y MOR. DYLAI Rhieni a Gwarcheidwaid sydd &'u bwriad i anfon eu plant i'r m6r, ac yn byw bellder o Lerpwl yny lie oyntaf ymohebu a'r Don, Lord Street, am eu rhestr fanwl o Wisgoedd i feohgyn yn troi allan i r mbr neu, os yn y dref, galwoh a gwelwoh y nwydd- au ddangosir yn eu Hadran Forawl. Gan eu bod yn gwneud y owbl en hunain, gellir cael siwtian cyflawn am brisiau oyfanwerthol, yn rhedeg o 7p., 10p., 15p, Op i fynu—Anfonir Rhestr o'r prisian a phob manyl- ion ond oyfeirio i'r Adran Forawl The Don Associa- tion, Lord Street a Paradise Street, Liverpool.
Y RHYFEL.
Y RHYFEL. Llwyddiant Ian Hamilton. DDYDD Iau, cyhoeddodd Swyddfa Rhyfel y pell- ebyr canlynol oddiwith Arglwydd Roberta :— Bloemfontein, Mai 2 U Cyfarfyddodd y Cadfridog Ian Hamilton â. chryn lwyddiant ddoe, a gyrodd y gelyn allan o un o'r safleoe Id cedym oeddynt wedi gymeryd i fynu yn Houtnek gyda cholledion cymharol fychain. Chwalodd y Boeriaid ma wn g wahanol gyf- eiriadau, yn benaf i'r dwyrain a'r gogledd, gan adael 26 o garcharorion yn ein dwylaw, yn oyn- wys un swyddog a 16 o g'wyfedigion. "Y mae Li-irnilton yi-i gwerayllu yn awr yn Jacobsrust. Gan fo,l ar ei ddyoion angen gor- phwyso ar ol bod ya brwydro stith niwrnod allan o ddeg, gorchytnynais iddynt orphwyso am heddyw. "Cyrhaeddodd Brigad Meirchfilwyr Broad- wood i'r He mewn pryd i roddi cynorthwy gwerthfawr trwy fygwth ol adran y gelyn ao yn yatod y prydnawu ymu-iodd Brigid Traed- filwyr Bruce Hamilton a hwy. Addefa y gelya iddynt golli deuddeg trwy eu lladd, ac i 40 gael eu clwyfo ddoe. "Yn mhlith y lladdeiigion yr oedd Lieuten- ant Gunther, swyddog Garmanaidd ya perthyn i'r 55ed Gatrawd, ac ya aahlith y clwyfedigion yr oedd M -kinoff, swyddog Rwsiaidd, allywydd y Foreign Legion. Yr oedd 23 allan o'r 53 anffodion o blith aelodau y legion. Yr oedd dau Ffrancwr hefyd yo mhlith y liaddedigion. p H Rhydd Hamilton ganmoliaeth uchel i'r gwasanaeth gwerthfawr a roddodd yr 8fed Huasara, dan y Milwriad Clowes, a chatrawd gymysg o bicellwyr, y rhai a ddaetbaat i mewn i fyddin Broadwool, ac a gynorthwyaaant i or- fodi y Boeriaid i adael eu aafleoedd. Rhoddwyd ergyd olaf i eaciliad y gelyn gan y Gordons a dau gwmni o Draedfilwyr iTsgeifn sir Amwythig, y rhai a godasant gri uchel pan o fewn dau can' llath i aafle y gelyn. Rhoddir canmoliaeth hefyd i Geffylaa Kit- chener." Llwyddiant Hunter. Boreu Sadwrn bu Brigad Barton, dan Hunter, mewn brwydr ddwy filldir i'r gogledd o Rooidan. Yr oedd safle y gelyn lawn bedair milldir o hyd, ac yu cael ei dal yn gadarn. Dywed Hunter i'w ddyn- ion wneud rhuthr yspleaydd, gan gymeryd bryn ar ol bryu gyda dewrder mawr oddiar y gelyn, ac o'r diwedd bu raid i'r gelyn ffoi, ond nid heb golledion trymion o'r ddwy ochr. Burton yn ymladd. Ddydd Sul aufonodd Arglwydd Roberts adrodd- iad o frwydr boeth y bu y Cadfridog Barton ynddi ddydd Sadwrn. Parhaodd y frwydr o naw yn y boreu hyd bedwar y prydnawn. Agorodd y Boer- iaid dan ar yr Imperial Yeomanry o amddiffynfa gref, o bellder o bum can Hath. Gcrfod i'r traed- filwyr ymladd a'r gelyn yn eu hymyl fwy nag un- waith, ac nid cyn i enciliad y gelyn gael agos ei dori ymaith y bu iddynt o'r diwedd ymoeillduo. Ein hanffodion, meddir, oedd pump wedi eu lladd a 25 wedi eu clwyfo, y mwyafrif yn perthyn i'r gatrawd Gymreig. Gadawodd y gelyn 13 o'u meirw, ond cymerasant y clwyfedigion gyda hwy. Daliwyd mintai o garcharorion Boeraidd, a syrthiodd y Swedish Ambulance hefyd i ddwylaw ein milwyr, ond caniatawyd iddi fyned yn ol. Croesi yr Afon Vet BORE Sabboth, derbyniodd S wyddfa Rhyfel bellebyr oddiwrth Arglwydd Roberts yn hysbysu i'r afon Vet gael ei chroesi ar ol brwydr ffyrnig. Yr oedd y Maes-Lvwydd ei hun ger Afou Vet nos Sadwrn. Dywedai fod y pencadlys a Brigad Wavell o'r 7fed Adran ddwy nlldir o'r tu ol, a Briga,d Maxwell tua'r un pellder ar ei dde. Yr oedd y gelyn mewn cryn nerth ar yr ochr gyferbyniol i'r afon. Gweithiodd ein gynau ar y gelyn am rhyw dair awr, heb allu gwthio eu ffordd trwy yr afon ond ychydig cyn nos, llwyddodd y Mounted Infantry, dan y Cadfridog Hutton, i droi ochr dde y gelyn a chyda gwrhydri anarferol, gwthiasant ar draws yr afon o dan saethu trwm y gelyn. Yr adeg yr anfonai Roberts yr ad- roddiad, ni wyddai beth oedd ein collodion, ond gobeithiai nad oeddynt yn lluosog iawn. Y diwrnod blaenorol, bu'r Cadfridog Ian Hamil- ton yn ymladd, a llwyddodd i fyned rhwng dwy fyddin Foeraidd a'u rhwystro i ymuno a'u gilydd. Gwnaed hyny drwy symudiad deheuig gan rai o'r Household Cavalry, y 12th Lancers, a'r Kitchener's Horse, y rhai a ruthrasant ar y gelyn gan beri colled drom iddynt. Ffoisant ymaith, gan adael eu meirw ar y maes, yn nghyda'r clwyfedigion i ofal ein meddygon ni. Gyrodd Brigad yr Ucheldiroedd dan Macdonald y gelyn allan ar yr ochr dde tan gysgod. y gynau llyngesol, a llwyddodd y Black Watch i enwogi eu hunain unwaith eto. Dydd Sul, hysbysa y Maes-Lywydd yn mhellach ddarfod i'n corphluoedd, ar ol taith hir, ddyfod i gyfarfyddiad a'r gelyn, y rhai a ddalient yr afon gyda chwech o ynau, dau ohonynt yn gallu saethu'n mhell. Ya y eyfamser, ar ot brwydr galed, croes- odd y Cadfridog Hutton yr afoa ar y chwith yehydig cyn nos. Yn ystod y nos, ffodd y gelyn ymaith' Aeth chwech ar hugain o ddynion West Australia rywfodd ar goll yn mhlith y bryniau, a daliwyd hwy gan y gelyn. Gwarchae Mafeking. Prydnawn ddydd Iau cyhoeddodd Swyddfa Rhyfel nifer o ohebiaethau oedd wedi dyfod i law oddiwrth y Milwriad Baden Powell. Dywedai !i'1' gelyn wasgu yn galed arnynt ar yr lleg o Ebrill. yn I cael eu cynorthwyo gan nifer o Germaniaid a deithiasant yno o'r gogledd. Buont yn tanio am bum awr, gydag wyth magnel a dau maxim. Dyma'r ymosodiad caletaf fu arnynt. Dranoeth taniasant drachefn am tuag awr gyda chwe gwn, a chlwyfwyd amryw. Ar y 19eg ceisiodd 13 o'r gwragedd brodorol ddianc wedi nos. Taniodd y gelyn arnynt gan ladd naw a chlwyfo dwy. Yr oedd iechyd y milwyr yn foddhaol, ac oil mewn yspryd rhagorol, yn enwedig wedi derbyn llythyrau calonogol y Frenhines ac Arglwydd Robeits. (Parhad ar tudal 8),
LLYTHURAU 'RHEN FFARMWR.
y cyffyle a'r domen chwedi hunu ? Pw gawn ni i redig, a hau, a medi, ys derfydd am y Cumro un- iaith ? Noiff run Sais, na'r un Cumro fo'n dallt Sasneg, buth mostwng morisela gneyd pothe fellu; mau'n rhaid i bob un o honun nhw gaul bod yn gadben llong, ne'n siopwr, ne'n rhwbeth spectabl. (Ond mi ddaru Ellis, druan, anghofio ma trin tir ydi mam yr holl glyfyddyde, a'r fwya nrhydeddus o honun nhw i gid). Hwrach y medrwch chiddeud i mi, ai does yr un Sais yn trin cyflyle a gwartheg -yn trin tymenudd a phethe fellu ? Roeddwn i'n meddwl bob amser fod y Sauson yn gneyd pethe fellu cysled a'r Cumru, tan ddyrllenis i luthur yr holl wbodol Ellis Parry o Gadnant. Ac mi ddeud- sch chi beth arath ouddwn i'n feddwl bob amser,— bod Sauson heb fedrud gair o Gumraeg, na chlwed gair o Gumraeg rioed, i'w caul wrth y milodd, a'r geinie o filodd, mor rlowyll ag anwbodus a'r Hoten- pots am glefyddyde, a moese, a chrefudd, a mi wn i bod llawer o Gumru fellu hefud ond mi fyddwn i'n meddwl hefud bod llawer o Gumru unieithog yn gwbod mwy am grefudd nag a wur milodd o Saus- on, er eu bod nhw yn medrud Sasneg, ia, a heb fedrud yr un gair o Gumraeg chwaith. Ond yn y nhwllwch rouddwn i, fyddyliwn; a mi fudd Ellis Parry, mi wranta i, yn synud at y nhwllwch i, ac yn galw ar sgedigion Cumru i synud at y fath bet.h a meddwl bod yn bosib i Sais heb fedrud Cumraeg fod yn ansgedig ac anwbodus. Hwrach fod y peth mor amhosib ag ydi i Gumro heb fedrud Sasneg fod yn sgedig a gwbodus, a rhaid i fod o. Ond be newch chi i hen ffarmvvr Cumreigedd wel y fi ? fellu rouddwn i'n meddwl yn wastad. Ond tydach chithe, na'r prygethwrs, na'r reith- iwrs yma, yn dallt fawr ddim bnd be sun gyfiawn ac yn i le chwaith, er ych bod chi'n dallt Sasneg a dous neb yn dallt pethe niawn ond Ellis Parry a'r prwywrs. Tydach chi ddim yn dallt Sasneg cysled ag Ellis a'r prwywrs. Dwy'n siwr dene ydi'r achos i fod o'n gallud barnu pethe'n well na chi dun anwyl! does run o honoch chi'n ffit i ddal canwull iddo fo. Y mae o'n gwbod pob peth-hanes merched yr hollt wlad i gud. Mau'r dull mau'r dun yma n siarad am i wlad yn ddigon o ffieidd-dra i galon undun. Mau o'n son llawer iawn am ydrych ar y ddwu ochor, a ni welodd o'i hun ddim ond un ochor rioed. Deydwch i mi, os gwuddoch chi, ydi day lygad y dun o'r un tu i'w drwun o, ne-ydi i ben chwedi i droi ar i ochor chwith o, a chliced i en o chwedi glynud yn ffast wrth ben i ysgwudd o ? Y mau'r holl syfenwrs a'r reithiwrs ynghulch y prwy- wrs, hud y gwelis ac y clwis i, chwedi cyfadde nonest bod ryferion drwg yu aros y Nghumry, a chwedi ceryddud nhw yn Hum hefud, a hynu mewn dull tybycach i gaul effeth dda ar y wlad o lawer na'r dyll su gin Ellis Parry. Y mau nhw chwedi ydrych ar y ddwu ochor chwedel ynte ond ni welith y dun yma ddim ond un ochor i bob peth a golwg unochrog iawn ar un ochor su gyntho fo hefud. Mau i waith o'n son am brynu a gwerthu yn danos i fod o yn bur anwbodus o'r bud eto er i fod o'n dallt Sasneg. Gwaethed ydi'r Cumry, rai o honun nhw, am geisio cogio efo phris wth werthu a phrynyd, tydyn nhw ddim haner ffordd i'r Saus- on, mi wn trw brofiad, yn y ffeirie a'r myrchnad- odd a mau o'n siarad yn ninion fel tae neb yn euog ond ni'r Cumry. Tydw i ddim yn erbyn iddo fo guro a lachio faint a funo ar bob ryferiad drwg wel hun, a mawr Iwuddiant iddo i ddleu pob peth drwg o'r fath o'r wlad ond myddengus i mi mau duo'r Cumry ydi hollt bwrpas y dun, a'u danos nhw allan yn wauth na dim pobol dan hayl. Mewn pythynas i'r hun a ddwed o am dana i, mi wddoch chi cysled a fine mae celwudd bod gair ydi o. Fum i rioed yn buw yn Llyn, nac yn agos ono a pheth arath, ni fu'r un llanc na llances efo ni rioed na fasen nhw'n d wad aton ni yn i hole. Camol i lie y budden nhw bob amser. Hwrach bod rhai yn galed wth i gwndogion, ond tydi pawb ddim fellu; a mi rydwi'n coulio nad ydi y rhan fwya o lawer ddim yn euog o'r myddgiade ag mau o'n ceisio'n cuddo ni. Ydrach ar un ochor y mau Ellis yn hun yto, fel pob peth arath. Mi fudde dda i'r dun gaul nioni i ben, os does posib, ne nioni i lygid, ne pob un o'r ddau, hwrach. Mau nhw'n deyd bod y doctoried yn medrud nioni llygid croes ion y rwan, ond mi rydw i'n onfi fod pen a chalon Ellis, yn gysled a'i lygid o, chwedi camu. Ond hwrach, wedi'r cwbwl, mai rhw rog ydi o, yn hoffi codi dadal a thauru, na tydi o ddim yn meddwl wel mau o'n deyd. Ma'r dun yn medrud syfenu yn o ddownus, ddyliwn i a rhufedd gin i ys ydi o mor wrion a meddwl llawer o bethe mau o'n ddeud ne hwrach i fod o'n meddwl caul rhw ffafar trwu'r prwuwrs. 'RHEN FFARMWR.