Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
16 erthygl ar y dudalen hon
Roberts yn para i ymdaith.
CParhad 0 dudalen 3). I Roberts yn para i ymdaith. Fore Mercher, hysbysir fod Arglwydd Ro. I berta yn parhau i ymdaith ya fuddugol. Aros- I ai y pencadlys yn Smaldeel, ond ni bu oediad yn y fyddin. Ar ol croesi'r Yet, ni chafodd y catrodau dan y Cadfridog Hutton ond nOBon o orphwys nad oeddynt yn ymdaith drachefn, ac erbyn prydnawn ddydd LI an cyrhaeddasant Orsaf Walgelagen, safle bymtheng milldir i'r gogledd o Smaldeel, ar y reilffordd. Yn hwyr- ach yr un dydd, aeth catrawd ymchwiliadol cyn belled a'r Afon Zand, deng milldir i'r gogledd o Welgelegen. Yno caed y gelyn yn dra lluosog. Dilynwyd Hutton gan fyddinoedd Broadwood a Ian Hamilton. Y tebyg yw yr ymlidir y Boeriaid yn ddiorphwys hyd at Kroonstad.
Llwyddiant Byddin Hunter.
Llwyddiant Byddin Hunter. Dywed Arglwydd Roberts fod llwyddiant I Hunter yn meddianu Fourteen Streams i'w briodoli i fesur mawr i drefniant y Cadfridog Paget ar lan y Yaal yn Warrenton, lie gyrodd y Boeriaid o'u safle gyda'i gyflegrau. Fel y dy- nesai y Chweched a haner y Burned Frigad, ciliodd y Boeriaid, gan adael dillad, arfau, ac eiddo personol ar eu holau. Nid oea sicrwydd mai i Mafeking yr ymdeithia Hunter a'i luoedd, ond hysbysir fod catrawd gref ar ei ffordd yno.
Meddianu Winburg
Meddianu Winburg Trwy weithrediad llwyddianus yn Smaldeel, cafodd Roberts feddiant o'r pen gorllewinol o'r ganghen linell i Winburg. Bu lan Hamilton yr un mor llwyddianua yn ei gais i gymeryd y llinell yn Winburg. Aeth i mewn i'r dref hono ddydd Sal ar ol brwydr ffyrnig, yn yr hon y gorfodwyd y gelyn i encilio mor gyllym fel y cymerwyd an o'u magnelau a maxim Effeith- iodd hyn ar y fyddin oedd yn gwrthwynebu'r Oad- lywydd Rundle yn Thaba 'Ncbu, fel yr encil- iasanf, ac y mae'r safle bwysig hono ya awr yn nwylaw Rundle. Hysbysir hefyd fod y gelyn wedi ymadael o Christiana. Y mae y Cadfridog Botba wedi rhoddi gorchymyn i'r Boeriaid ymadael o gyffin- iau Mafeking, m cbredir y bwriada grynhoi o leiaf 20,000 o'i wyr i* wrthaefyll Arglwydd Roberta yn Kroonstitd.
Lluaws yn rhoi eu harfau i…
Lluaws yn rhoi eu harfau i lawr. Pellebyr o Smaldeel, dyddiedig ddydd Linn, a ddywed :-Oherwydd fod glanaa yr Afon Vet mor s irth, c;*fwyd trafferth mawr i ddwyn y nwyd i-wageni troaoid, gan nad oedd oad un man y gallid croesi ond erbyn y boreu yr oedd y wagen olaf wedi ei dwyn i'r Jan. Y mae pob- psth bron ar y reilffordd wedi eu dioystrio gan y BJeriaid. Dichreuaaant ar y gwaith hwn ddydd Gwener. Mae Adran y Cadfridog Pole-Carew yma, a General Tucker ycbydig i'r dwyrain. Ymdeith- iodd y Cadfridog Broadwood tua gogledd Win burg. Mae lluaws o breswylwyr y Dalð Rydd yn rhoi eu harfau i lawr, a chymerir eraill yn gar charorion. T--i(nlir yn hyderus yma y bydd gwrthsafiad ymarferol y D tiaeth Rydd ar ben ar ol i'r Prydeiniaid feddian(i Kroo jstad.
Marking.
Marking. Hysbysrwydd swvddogol oddiwrth Baden- Powell, dyddiedig Ebrill 27ain, a ddywed fod pobpeth yn dda yn y dref warchaedig uchod. Hysbysir i 813 o frodorion gyrhaedd gwerayll y Milwriad Piumer o Mafeking rhwag y lOfed a'r 26iin o Ebrill. Profa hya nad yw'r gwarch. aead mor gndarn ag y bu. Ni hysbvsir yn mh'le mae gwersyll Plumer yn awr. Hysbysir fod 3,000 o Foeriaid o amgyJch y dref ar y 26 un o Ebrill.
-0-Marwolaethau,
-0- Marwolaethau, MR HEVIN JONES, CAERNARFON. GOFLDUS genym orfod cofnodi marwolaeth annis- gwyliadwy Mr Hevin Jones, Caernarfon, yr hyn a gymerodd le ddydd Iau yn ei gartref, St. David's Road, wedi pedwar niwrnod o afiechyd, sef pneu- monia. Teithiwr masnachol ydoedd Mr Jones dros y Mri J a F Roberts, Manceinion. Yr oedd yn ad- nabyddus fel lleuor a bardd er's blynyddau, ac wedi enill llawer o wobrwyon Eisteddfodol, lleola-chen- edlaethol. Yn mhlitli eraill enillodd lOp a thlws ariau am ddrama Gymreig yn Eisteddfod Genedl- aethol Caernarfon yn 1886, yr hon a gyhoeddwyd yn y gyfrol o gyfausoddiadau yr Eisteddfod hono. Bvdd colled fawr ar ei ol mewn cylchoedd llen- yddol, ac yn mysg ei gyfeillion lluosog, oblegyd Tr oedd yn foneddwr hynaws a chyfaill dyddan. Yr oedd yn 43 mlwydd oed, a gedy weddw a thri o blant i alaru ar ei ol. Cymerodd yr angladd le ddydd Llun yn mynwent Llaubeblig, yn nghanol arwyddion eyffredinol o alar. Cynwysai yr orymdaith fasnachwyr blaenllaw o amrywiol fanau, ac yr oedd yn un o'r rhai mwyaf a welwyd erioed yn Nghaernarfon.
MR8 OWEN EVANS, LLUNDAIN.
MR8 OWEN EVANS, LLUNDAIN. BLIN gan lawer fydd clywed am farwolaefch y fon- eddiges hynaws a charedig uchod, sef anwyl briod y Parch Owen Evans, D.D., Llundain, yr hyn a gy- merodd le am bump o'r gloch bore ddydd Llun, a hi yn 76 mlwydd oed. (Janwyd Mrs Evans yn Pen- ybont (Dolgowny;, Llanwddyn, ar y 12fed o Rag- f yr, 1823. Yr oedd ei thad yn dal dwy fferm, ac yn cad'w gwas fel gwehydd. Yr oedd yn ddyn diwyd neillduol, o gymeriad disglaer fel crefyddwr, a cbafodd llawer yn ei ardal broiion amlwg o'i gym- wynasgarch fel dyn. Mawrth 2, 1849, priododd Miss Catherine Evans a Dr Owen Evans, yn y Bala. Erioed ni bu uniad dedwyddach na mwy bendithiol; ni allasai Dr Evans byth gyflawni y gwaith mawr a wnaeth yn ystod yr haner canrif ddiweddaf heb Mrs Evans, yr hon fel priod a mam a deilyngai y parch diledryw a roddid iddi gan ei theulu a'i chydnabod. Nos Iau, Mawrth 2, 1899, dathlasant eu priodas euraidd, pryd yr ymgynullodd nifer o gyfeillion yn y ty ilw llongyfarch a'u hanrhegu a rhoddion gwetthfawr. Wedi cydfyw am oes mor faith, rbaid fod yr ysgariad yn ergyd drom i'r Doctor hybarch, ac y mae iddo gyd v mdeimlad ei holl gydnabod. Hy- derwn y caiff nerth i ddal y brofedigaeth. Cymer yr angladd le ddydd Gwener yn mynwent Abney Park, Lluadain, lie y gorwedd ei mab hynaf, yr hwn a fu farw yn ddeg oed, a dwy ferch fechan.
Advertising
Undeb Ysgolion Sabbothol y Methodistiaid Calfinaidd,Oosbarth Liverpool Cynelir yr ail GYMANFA YSGOLION yn y PICTON LECTURE HALL, William Brown Street, DYJ)D SADWRM, MdI19e$, 1900- Llywydd-Parch JOHN WILLIAMS, Princes Road. Holwr-Parch WILLIAM OWEN, Webster Road. Traddodir anerchiad gan y Parch dOHN HUGHES, M.A., Fftzclarenco Street. Arweinydd y Canu Mr. M. W. HUMPHREYS, Garston Cyfeilydd Miss GWLADYS PRITCHARD. Drysau yn agored am 4-30. Dechreuir am 5 o'r gloch. Ysgrifenydd, JOHN LEWIS, 2 Exchange Street East, Liverpool
Y Senedd a Thwyll.
Y Senedd a Thwyll. CYMERODD ymdratodaeth faith le yn Nhfj Cyftredui ddydd Mawrth, yn nglyn a'r Pwyllgor Dethol, mewn perthynas i dwyll ac afreoleidd-dra honedig yu nglyn a, contractau Swyddfa Rhyfel.—Dymunai Mr R P Houston roddi eglurhad personol. Cwynai oblegyd llythyr a wasgarwyd yn mhlith aelodau y Ty gan ffirm o gyfreithwyr yn cynrychioli un o'r pleid- iau a dybid oedd wedi cyflawni y twyll. Y cyf- reithwyr oeddynt y Mri Rees a Hindley, Lerpwl. Cynwysai y llythyr frawddeg i'r perwyl—" paham y 11 dylai ef "-Mr Houston-" acyntau yn meddu rhag- farn yn erbyn ein cwsmeriaid, gael eistedd mewn barn arnynt ? Cymerent ei fod ef yn aelod o gwmni oedd wedi derbyn cytundebau mawrion am wair a phethau eraill gan Swyddfa Rhyfel yn ystod y rhyfel presenol, ac yntau ei hun yn eistedd ar y pwyllgor oedd yn gwneud y cytundebau a'i fod amryw weithiau wedi cymeryd mantais ar ei safle er buddy cwmni yr oedd ef yn aelod ohono, er rhoddi mantais iddo ar gwmniau eraill. Gwadai Mr Hous- ton y cyhuddiadau, a dymunai roddi i fynu ei sedd ar y pwyllgor. Dywedai fod y llythyr yn anwir- eddus, ac nad oedd ef wedi clywed un awgrym am y pethau y cwynid o'u plegyd cyn gweled y llythyr crybwylledig. Cynygiodd Mr P O'Brien fod y llythyr yn cynwys cyhuddiadau, a chynygiodd yn ffurfiol fod y Ty yn barnu fod rhan o lythyr y Mri Rees a Hindley, cyf- reithwyr, Lerpwl, yn drosedd ar reolau Ty'r Cyff- redin. Ar ymraniad, pleidleisiodd 192 dros y cynygiad a 100 yn ei erbyn. Cynygiodd Mr James Lowther fod y Mri Rees a Hindley yn cael eu gorchymyn at fiir y Ty ddydd Iau nesaf. Yr oedd y Ty wedi cyhoeddi fod y llythyr yn cynwys tor ar y rheolau, ac felly yr oedd yn rhaid i'r Ty weithredu.—Cefnogwyd y cynygiad gan Mr T G Bowles. Dywedodd Mr Balfour, gan i'r cwestiwn gael ei godi, nad oedd gan y Ty ddim i'w wneud ond cy- hoeddi i'r cyfreithwyr hyn dori y rheolau Ond gwrthwynebai ef wneud dim yn mhellach gan na atebai un amcan daionus ac na wnaethai un lies i neb. Felly, cynygiodd eu bod yn myned yn mlaen at waith arall. Daliai Syr H Campell-Bannerman nad oedd y cwrs hwnw yn cadw i fynu anrhydedd y Ty mewn un modd. Gan iddynt benderfynu fod y cyfreith- wyr dywededig wedi troseddu, eu dyledswydd oedd gweithredu ar y penderfyniad hwnw. Nid oedd ef ei hun yn credu fod yna dori y rheolau wedi cy- meryd lie o gwbl, ac felly yr oedd o blaid pasio y mater heibio. Ond nid oedd yr amgylchiad hwn eto ond prawf o'r modd y chwareua Ty y Cyffredin a'i hawliau diamheuol. Credai Mr Vicary Gibbs fod gormod o stwr yn cael ei wneud yn nghylch y mater, yn ngwyneb y ffaith na wnaed un sylw o erthygl a ymddangosodd yn ddiweddar yn un o newyddiaduron liwyrol Llundain, yn cyhuddo y Ty o'r trosedd o brynu papyrau y gwyddent oeddynt wedi eu lladrata. Daliai Syr C Dilke na chafwyd achos eglurach o droseddu brainterioed. Gofynodd Mr Lloyd George i'r Tr ystyried y sefyllfa yn ddifrifol. Penodwyd pwyllgor i wneud ymchwiliad i gyhuddiadau neillduol o lygriad, a chyhoeddodd ffirm anrhydeddus o gyfreithwyr o Lerpwl gylch-lythyr yn honi fod aelod o'r Ty yn euog o lygriad yn nglyn a chytundebau. Gwnaeth- ant y cyhuddiadau hyn, yn gwybod os yn anwiredd, y gallant gael eu dinystrio trwy gynghaws am athrod, oblegyd rhoddai rheithwyr uurhyw iawn i foneddwr a gyhuddwyd ar gam. Daliai y dylasai y cyfreithwyr hyn gael cyfle i gyfiawnhau eu myn- egiad, a dylai ymchwiliad llwyr a manwl gael ei wneud. Yn yr ymraniad pleidleisiodd 139 dros gynygiad Mr Lowther, a 192 yn erbyn. Mwyafrif yn erbyn ;")3.
--0--Damwain yn Ngogledd Cymru!
0-- Damwain yn Ngogledd Cymru DIGWYDDODD damwain ddifrifol nawn ddydd Mawrth yo agoa i Benmaenmawr. Gadaw- odd cwm ii o 14 o ymwelwyr Landudno mewn cerbyd a phedwar o geffylau am Benmaenmawr, a thra yn myned i lawr yr aUt i'r lie olaf ym- ddengys i'r gyrwr golli ei reolaeth ar y cerbyd yr hwn a yrwyd gyda grym yn erbyn y mar ar ochr y ffordd, gan dafla y gyrwr, boneddiges o'r enw Miss Stott, a bachgen, droa y mur, a rholiasant i lawr y Ilechwedd am gryn bellder. Yr oedd y tri wedi derbyn niweidiau difrifol. Cadwodd y gweddill eu seddau, ac ni dderbyn- iasant unrhyw niwed. Yr wythnos ddiweddaf, dygwyd nifer o fech- gyn addolgar Abertawe o flaen yr ynadon am ganu emynau cysegredig ar yr heolydd, ond taflwyd yr achos allan. Pechod parod y Cymro ydyw hwn. Dirwywyd Cwmni Unedig gwaith y Mwnglawdd i 4p 6 Oc yn cynwys y costau, gan ynadon Gwrec- sam ddydd Llun, am esgeuluso cau oddiamgylch peirianau neillduol yn y gwaith. Cynaliwyd cyfarfodydd pregethu y Sabboth di- weddaf yn nglyn ag agoriad capel newydd y Bed- yddwvr Seisnig, yn Groes. Rhiwabon, eef canghen a sefydlwyd yn ddiweddar perthynol i eglwys y Bedyddwyr Cymreig, Penycae. Deil y capel new- ydd eisteddleoedd i ddau gaat o bersonau, a chostiodd 530p.
Cyrddau y Dyfodol. &o.
Cyrddau y Dyfodol. &o. Mai 13-Cylchwyl Flynyddol Wesleyald Boundary Street Mad 13-Proff Thomas Lewis yn Grove Street. Mai 19-Cymanfa. Yegolion Methodistiaid Lerpwl.
LIeoI.
LIeoI. Nos Fawrth, yn eu cynefin yn yr Woodlands, Birkenhead, bu gan Deml Hiraethog, U.A.T.D., gyfarfoi arbenig a bynod o ddyddan. Yr oedd y ehwiorydd caredig wedi arlwyo'r byrddau, a thra y mwynhai pawb y danteithion fe'u swynid gyda'r gramophone gan y brawd amryddawn Llew Wynne. Galwodd y Llew ar un o'r aelodau i ganu Hen Wlad fy Nhadau i enau corn yr offeryn cyfrin, y gynulleidfa yn uno yn y cydgan, ac yn ddioed fe'u hadgynyrchwyd yn gywir a chwbl ddiweniaith o enau'r corn, yr hwn sydd yn reporter annghysurus o gywir. Caed can hefyd gan y brawd Tim Evans ac wedi i Mri Thos Jones a J Lewis ddiolch yn galonog dros y cyfarfod i Mr Wynne a'r ohwiorydd, clowyd y cyfarfod difyr gyda mawl emyn yr Urdd. Fel y gwelir oddiwrth hysbysiad mewn colofn arall bydd y Proff T Lewis, o Goleg Aberhonddu, yn pre- gethu yn nghapel Anaibynwyr Grove Street nos Sul nesaf. Y mae'r pregethwr galluog hwn yn frawd i Elfed, a thvbiwn mai dyma ei ymweliad cyntaf a Lerpwl. Diau y ca gynulliad lluosog i'w wrando.
—o— ,Marchnadoedd.
—o— Marchnadoedd. Caer. -Mai 3 Gwartheg blithion, 17p i 21p;. cyfloion, Op i Op hespion, lOp i 12p; heffrod, Op i Op; dyniewaid, 8p i 9p. Oaer-Vai 5 Gwenith gwyn, newydd, Os 00 i 4s 4c y 75 pwys hen, Os 0c; coch newydd, 4s 2c i 4s 3o; hen eto, Os Oc i Os Oc ceirch newydd, 2s 3c i 2s 6c y 64 pwys hen, Os 00 i Os 00 y 64 pwys haidd at fragu, Os Oc; y 60 pwys haidd at falu, newydd, Os Oc i Os 00 hen, Os 00 i Os Oc y 64 pwys; ffa newydd, Os Oc i 4s 9c y 80 pwys; hen, Os 00 i Os 00 y 80 pwys indrawn, newydd, lls 3c i Os Oc hen eto, 10s 9c i Os 00 y 240 pwys. Amlwch., Mai 5 Ymenyn ffres, OSOJ i Is 4o y pwys wyau ffrea, 0 i 20 am Is biff, 7c i 10c y pwyb molltgig, 9c i loc cig oen, Is y pwys; cig lloi, Oc i Oc poro, 60 i 8c cywion, Os 00 i 3s 9c y cwpl; ieir, Os 00 i Is 6c yr un hwyaid, Os Oc yr un. Caernarfon, Mai 5 Ymenyn, Is 50 i Is 60 y pwys wyau, 18 i 20 am a wilt; biff, 2!0 i 9c y pwya molltgig, 7c i 9c; cig oen, la Oc i 1* 00 y pwys; cig lloi, 5c i 8c pore, 5c i 8c oywion, Os Oc i Os Oc y cwpl; ieir, 4s Oc i 4s 60 y cwpl hwyaid, Os Oc i Os Oc yr un gwyddau, Os Oc i Os 00 yr un. Birmingham, Mai 8. Biff, 53 i 7ic y pwys; molltgig, 5!0 i 9fo; cig oen, 10c i lie c:g lloi, 00 i 0c. Moch bacwn, 9s 8c i 9s 10c y scor perchyll, 93 9c i 10a Oc; hychod, 6s 60 i 68 9c y scor. 3alford, Mai 8 Prisiau :-Biff, Sic i 7c molltgig, nc i 9c; cig oen, 00 i Os Oc; cig lloi, 60 i 8c y pwys. Moch, 9s 60 i 10s 00 y scor. Rhuthin, Mai 7 Gwenith, 9s 00 i 9s 6c yr hob; haidd, 7s 6c i 9s 6c ceirch, 5s 2c i 6s Oc yr hob; ymenyn ffres, Is 2c i Is 3c y pwys ieir, 3s 00 i 4s y owpl hwyaid, Os Oc i Os Ocy cwpl; wyau, 18 i 20 am Is. Llundain, Mai 8 Marchnad yd led ddystaw heddyw, a'r prisiau yn tueddu at godi. Indrawn America wedi gostwng. Gofyn lied dda am haidd diweddar, ond bychan oedd yr alwad am geirch, yr hwn a ddelid yn gadarn. Lerpwl, Mai 8 Gwenith yn gwerthu'n sefydlog heddyw am bris y farchnad gynt. Y Gwenith Califfornaidd, 6s 40 i 6s 50 y canpwys. Ceirch, a blawd ceirch yn daw- el. Indrawn America, 48 lie i 4s 6c; Plate melyn, 4s 7c i 4s 9c Odessa, Os 00 i Os Oc Galatz, Os Oc i Os Oc; Cinquantina, 5s 1c ] 53 2c; Pys, 5s 9c i 5s 90 y canpwys; ffa Saidi, 25s 9c i 25s 9io y ohwarter. Bangor, Mai 4 Ymenyn ffres, Os Oc i Is 4c y pwys; wyau, 20 i 0 am Is; biff, 7c i 10c y pwys; molltgig, 80 i 10c cig oen, Is i Is Oc y pwys cig lloi, 80 i 10c poro, 7c i 10c moch tewion, 00 i 4c y pwys. Cywion, 53 Oc i 5s 5c y cwpl; ieir, 4s Oc 1 4s 6c yr un hwyaid, Os 00 i 08 00 yr un. Llangefni, Mai 3 Ymenyn ffres, Is 3c y pwya wyau, i 22 am. swllt; ieir, Is 9c i 23 10 yr un; hwyaid, 2s 3c i 2-4 9c yr un; moch tewion, 3ic i 4c y pwys; pyro, 16i\ i 19s Oc yr un biff, 6c i 80 y pwys molltgig. 70 9o; cig oen, 00 i Is cig lloi, 7c i 8c pore, Go i 8c. Ddydd Sadwrn cyfarfu pwyllgor gweithiol Cyng- rair Byrddau Ysgolion Cymru, a thynwyd allan nifer o wrthwynebiadau i adranau neillduol yn Nghofnodion y Bwrdd Addysg yn nglyn a'r ysgol- ion tanolradd. Boreu Sadwrn, cafwyd Richard Pritchard, paentiwr, Llanfair P.G., yn gorwedd yn farw ar y ffordd yn ymyl Colofn Ardalydd Mon. Yr oedd y trancedig yn 61 mlwydd oed, ac yn gweithio ar Bont Menai. Tystiodd Dr Prytherch, Porthaeth- wy, mai clef yd y galon achosodd ei farwolaeth, ac felly ni chynaliwyd trengholiad. Mewn cyfarfod o Fwrdd Llywodraethol Ysgolion Canolradd Maldwyn, ddydd Mawrth, darllenwyd llythyr oddiwrth Mrs Edward Davies, Plas Dinam, yn datgan ei dymuniad i gario allan fwrlad ei di- weddar briod, i sefydlu pedair ysgoloriaeth yn yr ysgolioe canolradd, er cof am ei dad. Diolchwyd i Mrs Davies, a phenodwyd pwyllgor i wneud y trefn- iadau angenrheidiol.
Advertising
DESIRABLE INVESTMENTS AT MODERATE PRICES Properties in Warertree. Walton, Bootle, Liverpool' (Central), and Liscard. To be Sold by Auction, by JU R. JJENRY JONES, On Wednesday, 23rd {nst, at 2-30 p m prompt, in the Law Association Rooms, 14 Cook Street, Liverpool. r<ECIL STREET, Wavert ee Road.— Six excellent HOUSES. Nos 1 to 11 Gross rent A106 6s. Leasehold 99 years from 1872. Ground rent klo 2s 8d. 2. GROVE STREST (best end), No 180 -Desirable Family RESIDENCE. Rent £30, tenant paya rates and taxes. Corporation leasehold 75 years from 1885. 3. UNACRE RuAt) (beist end) Linacre,-Pour SHOPS, in good position, Nos 99 to 105. Rents £ 120, tenants pay rates and taxes. Electric trams pass. Sefton iease, Wit ye its- Apportioned ground rant t6. 4. LAWJLER STREKT off Linacre Road.—Sixteen HOUSES, Nos 4 to 34, adjoiaiag the above. Sefton's lease, 099 years. Always well let. Gross rent zC228 16s Appor- tioned ground rent Z10. Offered in two lots if desired. 5. CHAUCER STREET, Marsh Line -Seven neat HOUSES, always well tenanted, Nos 22 to 31. Derby lease, 75 years from 1881. Gross rent A L27 88. Ground rent Z9. 999 can be had at a ground rent of £ 13. 6. SHBLLBY STRSET, Bootle.-S x HOUSES, Nos 5L tv 61. Derby lease, 999 years Gross rent ie,109 4s. Ground rent L13. .7. CHESNUT GROVE, Marsh Lane.—Six excellant Somi-e detached HO USES, Nos 19 to 25 and 3 L and 33. IDerby lease, 75 years from -876. Ground rent 413 16s. Gross rent Z150. 8 PlEEL ROAD, Bootle.-Four good SHOPS and Joiner's Shop at rear, Nos 136 to 142. Derby lease, 999 years. Ground rentZIO. Shop rents £ 105 net; joiner's shop £ 15gross; total rentals £120. 9 EMERY SlttEET, eff Goodisoa Road, Nos 32 to 74.— Twenty two Freehold HOUSES. Splendid letting potition, near electric trams and park. Gross rent £34,3 4s. Chief rent L25. 10. LISC AR D. -Thirteen HOUSES and House and Shop, Nos 2 to 28 Wimbledon Street, off Manor Road. New and well finished. Freehold. Chief rent £5-1 GrohS rent 4252 18s. For further particulars,apply to the Auctioneer,Mr HENRit JONES, 5 Cook Street, Liverpool (telephone 1,779), or to James Shakespeare Smith, Eq. solicitor, 53 North John Street, Liverpool. COUNTY OF ANGLESEY. SALE OF VALUABLE FREEHOLD FARMS SITUATE IN THE PARISHES OF LLAN- GRISTIOLUS, CERRIGCEINWEN, AND NEWBOROUGH. MESSRS WM. DEW and SON have been iYi instructed to OFFER for SALE BY PUBLIC AUCTION at the Bull Hotel, Llangefni, on THURSDAY, JUNE 7th 1900, s. r. p. CEFN CWMMWD 128 0 20 EFAIL BACH 42 1 ltf These farms are divided into conven- ient lots and comprise (some fine accom- modation and building sites. The views obtainable from them are charming in the extreme, including the Snowdonian Range and Snowdon in the distance. TYDDYN BACH 10 2 6 180 3 36 Printed Plan and Particulars of MR. MORRIS OWEN, Solicitor, Market Street, Carnarvon at the Auctioneers' Institute, 57, Chancery Lane, London, or of the Auctioneers, Bangor and Llandudno.
Family Notices
GENEDIGAETHAU, PRIODASAU MARWOLAETHAU. prtoDaeau. Davles-GIifflths-Mai 5, yn nghapel Greit Mersey Streets gan y Parub T Eli Evans, Evan l avies, Cefn-y-Bedd, ag Annie, merch hynaf Robert Griffiths. Caergwrle. Dacre- Williams-Mai 4, yn Eglwys y Plwyf. LlainfvUt i, gan y Parch T Jones, James, mab ieuengaf James Dacre, Llanest Llanfyllin (gynt o Lerpwi), ag iiuie Mary (Polly),, unig ferch William A- iiliauas, Lioyal Oak, Llai>fyllia. Robelts-Jones-Mai 4, yn Eglwys St Phillip's, Litherland, gan y Parch J Davies, St Dewi, Robert Uoberts, Corbie, Llanllechid, ag Elizabeth Ellen (Lizzie), unig blentjn Hugh, a Catherine Jones, 19 Monfa Koad, Orrell, Boot-e. MarWOlaCtbAU. t:avilis-Mai 2, vn 88 Rocktbld Road, Anfield, yn 91 oed, Catherine Davies. Evans-Mai 7, yn 76 oed Catherine, anwyl briod y Parch Owen Kvans, D.D., Llundain. Cieddir yp Abney Park, Llundain, am 5-30 o'r gloch prydnawn Gwener nesaf. Jones-Mai 6, yn Bodgwenallt, Colwyo Bay, Elizabeth Jones, mam y Parcnn T M JODes, Colwyn Bay, a W M Jones, Crosshall t treet. Yr oedd yn wraig a hotiid gan bawb, ac yn meddu crefydd yn diliamheuol. Gwasanaethwyd yn y ty cyn cych yn gan y Parvhn John Edwards a Dr Cynhafai Jones. Ciudwyd ei chorph i Gaernarfon, lie y da.eth. cynulleidfa fawr i'r orsaf- DangOawyd arwyddion o alar yr holl ffordd i hen fynwent Llanbeblig. Gwasanaethwyd wrtn y bedd gan y Parchn R M Jones, Hermon, R D Rowlands, a J ifi Hughes, M A ei chyn weinidog. Jarrett-Mai 3. yn li Marshall Street, yn 23 Odd, William Owen Jarrett Llewellyn-Mai 2, yn 28 Moscow Drive, Stoneycroft, yn 113> oed, gweddw Abel Llewellyn. Lloyd-Ebrit, 28, yu Nairobs IDwyrain Affrica, yn 59 oed, Edward Nathaniel, mab ieuengaf y diwaddar Filwrlad a Lady Frances Lloyd, Plas Aston, Croasoswallt. Lloyd—Ebrill 27, yn 54 oed, Wm Lloyd, Elorgaregisaf, Cer, ygydrudion. Parry—Mai 2, yn 56 Aubrey Street, Lerpwl, yn 52 oed, priod Wm Parry. Roberts-Mai 2, yn Canol Dref. Caerwys, yn 47 oed, priod y diweddar John Roberts, Glasmor. Roberh-Ebrill25, yn 81 oed, Ellis Roberts, Cambrian Ter- race, Bala..
Advertising
W, JONES, Dental Surgeon, 29, High St., WAVERTREE SPECIAL ADVANTAGES. 1 All that is latest and best in Dental Surgery, 2 PERSONAL attention to each client.. 3 FREE Consultation. 4 Nitrous Oxide gas at low rates, when necessary in preparing for New Teeth. 5 A large selection of DAINTY lEETH, to suit every Variety of Face and Beauty .BETTER and PRETTIER than those supplied at double the prioe by Dentists in West end of London. 6 itWSiwedir Cymraeg neu Saesneg. Telephone 25 Wavertree. Printed and Published by ISAAC FOULKES afr his Printing Establishment, 8, Paradise Street in the Parish of Liverpool, in the County ol Lancster Telephone 7426 (Centra.