Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

CWRS Y BYD.

Eisteddfod Lerpwl.

Hen Gylchgrawn.

Dail Te (Hen a Newydd).

-10; Newyddion Cymreig.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

10; Newyddion Cymreig. Dydd Llun bu y Barnwyr Ridley a Bigham yn gwrandaw achos o apel o Lys Sirol Rhuthin, yn mha un yr hawliai Mr King, amaethwr, iawn oddiwrth Mr Robinson, Rochdale, gwneuthurwr peirianau amaethyddol, am dor cytundeb neu gwarantiad yn nglyn a pheiriant neillduol a brynodd ganddo. Daliai barnwr y Ilys sirol nad oedd yuo warantiad, ac felly nas gellid ei thori. Yn yr apel ymddangosodd Mr Ralph Bankes dros yr hawlydd, a Mr Compston dros yr amddiffynydd. Mynai Mr Bankes, nad oedd y barnwr i'w gyfiawnhau yn rhoddi ei ddyfarniad o blaid y diffynydd. Dywed- odd yr hawlydd i beth oedd arno eisiau y peiriant, ac nid oedd yn ateb un dyben iddo. Taflodd y barnwyr yr apel allan gyda'r costau. Hysbysir am farwolaeth Capt F Mansel Morgan Plas Coch, is-gadeirydd Brawdlysoedd Chwarterol, Mon, a chadeirydd llysoedd Porthaethwy a Llan- gefni. Dirwywyd Edward Davies, hocer, Rhuthin, i 2s 6c a'r costau gan ynadon Rhuthin, ddydd Llun, am deithio ar y reilffordd o Ddinbych i Ruthin heb docyn. Dedfrydwyd crwydryn o'r enw John Murphy i 21 niwrnod 0 garchar gyda llafur caled am ymosod ar George Roberts, meistr tlotty Penarddlag, ae i saith niwrnod am ymosod ar un o'r dynion. Ddydd Llun cynaliwyd trengholiad ar gorph John Jones, chwarelwr, 51 mlwydd oed, yr hwn a syrthiodd dros graig yn chwarel lechi Cwm Pen- machno, gan dderbyn y fath niweidiau fel y bu farw. Dychwelwyd. rheithfarn 0 farwolaeth ddam- weiniol. Gwneir trefniadau yn Mangor i gynal arddaagos- iad cyhoeddus bryd bynag y cymer rhyddhad Mafe- king le. Nos Lun, cynaliwyd cyfarfod o fasnach- wyr a threfwyr blaenllaw yn y Masonic Hall, dan lywyddiaeth y Milwriad Savage. Penderfynwyd agor rhestr 0 danysgrifiadau cyhoeddus, ac o'r swm a dderbynir, defnyddir 6p tuag at dreuliau gorym- daith, ac anfonir y gweddill i'r Milwriad Baden- Powell i gynorthwyo y dyoddefwyr yn Mafeking. Tanysgrifiwyd 15p 10s yn yr ystafell. TREFFTNON.— Cynghor yr Eglwysi Mhyddion Llwyddodd y cynghor uchod i gael caniatad Bwrdd y Gwarcheidwaid i gynal gwasanaeth crefyddol yn y tylotty. Traddodir pregeth gan wahanol weini- dogion y dref yn eu cylch. Hyd yn awr nid oedd neb ond clerigwyr Eglwys Loegr yn cynal gwasan- aeth yno. Llywydd y cynghor ydyw'r Parch J Ernest Jones (M.C.), a'r ysgrifenydd, y Parch Hugh Evans (W)

Synod y Wesleyaid.

Hanes gwarthus 0 Lanrwst.

- —0 Prydain ac Awstralia.

[No title]

Blrktnhoad.

Natur a'i Phlant.

Corau Cymrelg ao Arddangosfa…

Llenyddiaeth.

PLICIO'R CHWYN.