Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
AT YR HEN FFARMWR.
AT YR HEN FFARMWR. AI tybed, fy nghyfaill, eich bod wrth ymboeni yn- ghylch y Lleuad a'i thrigolion, wedi annghofio hau gwenith hyd yn hyn ? Os felly, nid yw fawr iawn o les i chwi newid hadyd, &c.; hyny yw, pe caech yr hadyd mwyaf priodol, y mae'n berygl fod hadau drwg, megys gwyllt-geirch, ller, ac efrau, a'r cyffelyb, yn eich tir oblegyd y mae yn dygwydd yn fynych, pan dry ffermwr ei sylw at ryw beth yn lie ei fferm, ie, pethau is a nes ato na'r lleuad, y bydd ei dir yn llawn o'r pethau a nodwyd yntau ar ol yn hau ac yn medi, yn cael tywydd mwyaf anffafriol at ei holl orchwylion ffrwyth ei wrtaith yn dianc, weithiau gyda'r dwfr, bryd arall gyda'r gwynt a'r haul, a hyny yn benaf am ei fod ar ol yn ei oruchwylion yn hau gwenith ganol y gauaf mewn dwfr a baw, a haidd ganol yr haf mewn gwres tanbaid. Yna cymer yr hadau drwg syddyn Llawn yn ei dir y fantais ar y peth a hauwyd, ac a dyfant yn gnwd toreithiog, gan yspeilio'r tir o bob gronyn o wrtaith a fyddo ynddo. Daw yn gynhauaf rywbryd ar ol i'r tywydd goreu basio, y dydd yn fyr, a'r nos yn hir: y llysiau drwg yn nacau gwywo, a'r ychydig fydd ynddo yn egino. Wedi hyny, pan geir diwrnod sych, ymroir ati i'w gynull a'i gario, yn y canlyniad bydd hwnw yn llwydo, ac felly yn borthiant gwael i'r gwartheg, y rhai a ant yn hesbion o'r herwydd yntau a'i blant yn gorfod bwyta potes gwan a gwael gyda bara drwg, gan flas twymniad neu lwydni a'r cyfan, a llawer ychwaneg, yn tarddu oddiar ei ddiwedd- arwch. Ond, fy nghyfaill, hyderaf nad ydyw fel yna etc gyda chwi, eithr eich bod yn hytrach yn flaenllaw, yn ymwrando ac ymholi am yr hadyd mwyaf cym- hwys erbyn y gwanwyn. Cewch y cyfarwyddyd goreu a allaf roddi i chwi erbyn hyny. —Efallai y dadleuwch mai yn y nos y byddwch yn sylwi ar y lleuad, wedi y rhoddoch heibio oruchwylion am aeth- yddol dywedaf finau mai gwell na hyny fyddai i chwi adael iddi, ac ymroi i ddysgu eich meibion a'ch gweision, i lunio offerynau buddiol, i ddysgu mesur tir, i ddarllen gweithydd ar amaethyddiaeth, &c. Gwnaech lawer mwy o les felly, nag wrth astudio ar y lleuad a'i thrigolion, a'ch plant a'ch gweision yn hel eu hunain i'r felin, i'r efail, neu i'r dafarn i hel chwedlau i lygru eu gilydd. Paham y rhaid i ni, fel amaethwyr, fod yn ol i bobl eraill am ein celf- yddyd, a gwybodaeth angenrheidiol am bob peth arall ? Gan fod eich tir yn gleiog, da fyddai i chwi ei fraenaru mor fuan ag y caffoch ef yn sych, gan ei dori i'r dyfnder y bwriadwch ei dori o gwbl eleni, am mai y peth isaf sydd a mwyaf angen rhew arno a chofiwch garthu y rhychau, fel na safo dim dwfr arno, yn enwedig os ydyw heb ei ddraenio ie, os ydyw felly, myfi a'ch cynghorwn yn benaf dim i ymorol am lease ar eich t'yddyn, a'i ddrenio. Deuai trwy hyny yn haws i'w drin, yn fwy cnydfawr, yn iachach i chwi a'ch teulu, ac estynai o bythefnos i fis ar y tymhor haf hyny yw, gallech droi eich anifeiliaid allan yn gynt, a'u gadael yn hwy mewn lie sych na mewn lie gwlyb. A bydd yn llawer gwell i ateb mewn camdywydd, o wlybaniaeth neu o sychder, yn yr haf. Canys os cewch eich tir yn sych yn y gauaf, gweithia yn fanach yn y gwanwyn; felly gwrthsaif sychder yn well. Ond y mae yn bryd terfynu, yn enwedig gan na ddeuthym i'r maes y'm gwahoddwyd iddo. Yr eiddoch, Rhagfyr 13, 1848. THOMAS ROBERTS.
LLYTHUR XVI.
LLYTHUR XVI. AT Hebwes y M YSFRE, Phaid i ohi beidio fy syfy- danu i 0 hud o hud wel yr ydach chi, a gneyd rhw ddewin o hona i, a fferio pob mater cryfyddol a gwladol, a bythyna i Gymru a Lloiger a Llanrwst, a'r haul a'r llyad a'r ser, a sgeidieth a ffarmio, a maip a thatws—ata i i'w pendyrfynu. Mi ddaw y bobol ata i o bob cwr i'r wlad toe, wel y budde nhw yn cerdded i ffunon Elian ystalwm, ne at Jac y crydd o Res y Cae, gin yr a'n nhw i feddwl mod i'n gwbod pobpeth, ag yn medrud witsio a datwitsio. Rhaid i mi gaul llonudd i syfenu pen drawo hyny yn y mhen i, ar rwbeth licia i ffun. Y mae llawer o natur cwacar ynthwy i, fedra i neyd dim bud o honi hi tan fotho rhw sprydieth yn y nghynhurfud i. Ys ca i lonudd, mi syfena hulldod yto cin hir. 1849. 'RHEN FFARMWR. <
Dyffryn Clwyd.
Dyffryn Clwyd. Dinbtch Cyineroddtairdamwain le yma ddydd Sadwrn. Yn y bore syrthiodd bachgen o'r enw Freddy Lloyd Roberts o dan beiriant lladd gwair, trwyei ddireidi yn ceisio cael ei gario arni. Cludwyd ef at Dr G W Roberta, a chafwyd nad oedd ei niwediau yn ddit- rifol. Digwyddodd damwain fwy difrifol yn iard goed Mri Salisbury a Lloyd. Yr oedd Samuel Morris (brawd y milwr fu far?? yma yr wythnos ddiweddaf o giwyfau a dderbyniodd yn Neheudir Affrioa) yn gweithio,yn yr iard pan y gwelodd fachgen mewn perygl oddiwrth un o'r olwynion. Llwyddodd i'w waredu yn ddianaf, ond trwy wneud hyny torodd ei fraich ei hun. Dygwyd ef i'r ysbytty, lie y gwein- yddodd Dr James Hughes arno. Syrthiodd plentyn 15 mis oed i Mr S T Miller, a thorodd ei law gydag addurn gwydr mor ddrwg fel yr ofnid y buasai y canlyniadau yn ddifrifol, gan iddi golli llawer iawn o waed. Galwyd am Dr Lloyd Roberts, a dywedir nad yw yn beryglus os gellir ei chadw rhag gwaed-wenwyniad. Digwyddiad mawr Dinbych yr wythnos hon yd- oedd Synod fawr y Wesleyaid. Yr oedd y oyfeillion wedi bod wrthi yn brysur a dyfal yn parotoi ar gyfer yr wyl. Ni fu yma gymaint o Wesleyaid er's talm, a chawsant groesaw cynes gan bobl Dinbych-v fath nas gallent byth ddymuno ei well, a da genym i'r holl gyfarfodydd droi allan mor llwyddianus, 800 iddynt gael y fath gynulliadau rhagorol yn y oyfar- fodydd cyhoeddus. Cynaliwyd y Synod gyntaf yn Ninbych yn 1805, aef Ail Synod Talaeth Grogledd Oymru, acyr oedd y capel wedi ei godi yn 1802, sef y capel wesleyaidd eyntaf yn Nghymru. Heddyw rhifa yr enwad ugain mil yn y deuddeg sir, a myned rhaqddynt y maent, -:0:- Y mae'r Parch W S Jones, M.A., Machynlleth, yn gorfod ymddiswyddo fel bugail eglwys M.C. y dref hono oherwydd afiechyd. Y mae Toriaid Cwm Rhondda wedi dewis Mr Lovat Frazer, bargyfreithiwr, i wrthwynebu Mabon yn yr etkoliad nesaf.
Cymanfa Ysgolion Methodistiaid…
Cymanfa Ysgolion Methodistiaid Cal. finaidd Lerpwl. Pbtdkawn ddydd Sadwrn diweddaf cynaliwyd ail Gymanfa Flynyddol Undeb Ysgolion Sabbothol Methodistiaid Calfinaidd Dosbarth Lerpwl, yn y Picton Lecture Hall. Daeth llu mawr o blant yn nghyd, a I I Chymanfa'r Plant" hwyrach f uasai'r enw mwyaf priodol ar yr wyl. Ymgynullodd llawer iawn o bobl hefyd, fel yr oedd y neuadd gyfleus ac eang yn llawn. Swyddogion yr undeb ydynt:—Llywydd, Mr Philip Jones, Tancred Road trysorydd, Mr P LI Jones, Stanley Road ystadegydd, Mr John Edwards, Kirkdale Road, ac ysgrifenydd, Mr R 0 Roberts, Oldhall Ssreet; tra mai Mr John Lewis, Exchange Street East, ydoedd ysgrifenydd gweithgar a ffyddlon y Gymanfa. Cadeirydd y cyfarfod ydoedd y Parch J Williams, Princes Road, ac yr oedd nifer o weiaidogion ac eraill ar y llwyfan. Arweiniwyd y canu gan Mr M W Humphreys, Garston, a chyfeiliwyd gan Miss Gwladys Pritchard. Dechreuwyd trwy ganu Rhagom filwyr lesu," a Yr Arglwydd yw'n harweinydd," yna wedi darllen a gweddio, canwyd "Franconia," a'r Fawl-gan Diolch i Ti." Dywedodd y cadeirydd mai da ydoedd ganddo weled nifer mor Iluosog o blant, a theimlai yn wylaidd wrth feddwl y fath bosiblrwydd oedd o'i Aaen-i ddaioni neu ddrygioni Gofidiai fod cyn lleied o'r ysgolion yn llafurio gyda'r plant i enill tystysgrifau y Solffa; y llynedd, ni dderbyniodd ond 15 ysgol allan o haner cant, dystysgrifau, ond gobeithiai y ceid gwell adroddiad eleni. Am yr arhol- iadau safonol, bydd iddynt wneud eu hoi yn raddol ar yr ysgolion, a gobeithiai y cymer bawb ran yn y cynllun a fabwysiadir gan y Cyfundeb fel y byddo math o gyd-ymgeisiaeth rhwng yr ysgolion. Hawdd ydoedd gwella gyda'r parotoi ar gyfer yr arholiad- au blynyddol, a hyderai y ceir trefniant gwell yn dyfodol. Wedi i'r plant ganu "Cartre'r Duwiolion," hol- wyd hwy yn 7fed bennod o'r Rhodd Mam, a rhanau o Marc, gan y Parch Wm Owen, Webster Road. Aethpwyd trwy y rhan yma yn hynod hapus. Yr oedd yr holwr yn fywiog a naturiol, ac atebai y plant yn rhagorol, gan ddangos eu bod yn hollolhyddysgynymaes,aci'r athrawon fod yn llafurus yn eu paratoi. Wedi hyny canwyd Glyn wrth yr Iesu," a Heibio Gethsemane brudd," yna cafwyd anerch- iad pwrpasol gan y Parch J Hughes ar Talitha, Cwmi." Dechreaodd trwy ofyn amryw gwestiynau i'r plant ar y testyn, ac yr oedd yr atebion yn barod a chywir. Gair a ddywedodd yr Iesu yn y ty ac yn y teulu ydoedd Talitha Cwmi," am i'r tad fyned ato mewn ffydd. Cofied y rhieni a'r athrawon gyrchu yr lesti i'w tai a'u dosbarthiadau, ac fe ddywed yntau wrth y plant eto am gyfodi. Wrth eneth ddeuddeg oed y dywedwyd y geiriau, yr oedran mwyaf pwysig a dedwydd yn hanes dyn. Gofal- wn ninau am hapusrwydd y plant. Y mae'n bwysig fod yr lesu yn cael cyfle i ddweyd gair caredig wrth y plant yma o hyd. Dyma un o amcanion y Gymanfa, a'r Ysgol Sul, gwahodd yr lesu i ddweyd gair wrth y plant. Ar ol i'r plant ganu "0 mor hardd yw y Nef- oedd wen," cafwyd adroddiad arholwyr y Safonau, yr hwn a ddangosai fod yr ysgolion wedi gwella llawer ar y cyfan er y llynedd, ond gwesgid ar yr athrawon i fwy o ffyddlondeb gyda'r plant. Yna canwyd "Gweddi yr Arglwydd" (Dr Parry), ac ar ol hyny, hysbyswyd canlyniad yr Arhoiiad Blynyddol yn y maes llafur, sef Epistol Iago i'r dosbarthiadau hynaf, a'r pennodau eyntaf o Marc i'r rhai ieuengaf. Yr oedd nifer lluosog wedi ymgeisio, a'r rhan fwyaf wedi llwyddo i enill tystysgrifau. Tair gwobr a gynygid yn mhob dosbarth, a dyma restr o'r enillwyr:— Dosbarth 1 (pob oed). Safon, 80 o farciau.-I, Irs Bessie G Davies, Ysgol Waterloo, 69; 2, W Hoskin Parry, Princes Road, 66; 3, Annie Roberts, Webster Road, 60. Dosbarth 2 (dan 25). Safon, 100.—1, Wm Rowlands, Holt Road, 69; 2, Bill Roberts, York Hall, 68; 3, Harriet M Andrews, Princes Road, 67. Dosbarth 3 (dan 21). Safon, 120.—1, Marie Hughes, Waterloo, 115; 2, Annie E Evans, Walton Park 113; 3, S Myfanwy Roberts, Stanley Road, 112. Dosbarth 4 (dan 18). Safon, 150.—1, Annie Roberts, Daisy Street, 140; 2, Jennie Owen, Holt Road, 138; 3, Maggie Williams, Holt Road, 137. Dosbarth 5 (dan 16). Safon, 60.—1, Lucy Kyffin Williams, York Hall, 59; 2, Katie Evans, Anfield Road, 58; 3, Flossie Hughes, Waterloo, 57. Dosbarth 6 (dan 16). Safon, 60.—1, Dilys Hughes, Water- loo, 58; 2, Nellie Williams, Anfield Road, 56; 3, Robert Roberts, St Helens Junction, 52. Allan o 18 o wobrwyon, gwelir i 14 gael eu henill gan y merched. Cynygiwyd gwobr i'r ysgol a safai uchaf mewn cyfartaledd o fewn y dosbarth, ac fel y llynedd, ysgol Garston oedd yr uchaf, a chyflwynwyd y wobr i'r arolygwr. Tonau eraill a ganwyd oeddynt, Sandon, Amana, Tlws yw gwawr y myrdd Rhosynau, Gwel Faner Dirwest,' I Nac ildia i demtasiwn,' Haydn, a'r Salm- don Moliant i'r Oen." Yr oedd y canu drwodd yn dlws a chanmoliadwy, a gwnaeth yr arweinydd a'r cyfeilydd eu rhan yn rhagorol Da genym weled i'r Gymanfa droi allan mor llwyddianus. --0--
0 Ddyffryn Nantlle.
0 Ddyffryn Nantlle. Warn maith gystudd, bu farw Mr Henry Williams, Glan Aber, Llanllyfni, brawd y Parch W Williams (Einion), Rhostryfan, a blaenor gyda'r Methodistiaid yn y lie. Yr oedd yn ddyn gweithgar, yn enwedig gyda dirwest; a gedy weddw a nifer o blant ar ei ol. Mae'r wlad yn lied gyffredinol bellach yn bysbys o'r ymraniad fu gyda'r Bedyddwyr yn Nhalysarn. Bu yr ychydig ymadawodd o'r eglwys ya addoli yn Ysgol y Bwrdd am gyfnod ond erbyn hyn y maent wedi dechreu ar y gwaith o godi capel mewn llecyn prydferth yn Nhalysarn, yr hwn a fydd yn werth tua 600p. Yn Llanllyfni, nos Iau, cynaliwyd te parti a chyng- herdd, trwy drefniad y pwyllgor boneidigesau sy'n nglyn a'r Seindorf. Foreu Sadwrn, wedi deall am ryddhad Mafeking, yr oedd rhialtwch mawr yma. Canwyd holl udgyrn y chwareli, a chwifiwyd llumanau bron yn mhob ty. Yn y prydnawn gorymdeithiwyd o Dalysarn i Beny- groes gan blant yr ysgol, a'r seindorf yn eu blaenori. Ychydig o waith wnaed yn y chwareli y diwrnod hwnw. BRUDIWR. -0- Cynygiwyd penderfyniad yn Nghyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd ddydd Mawrth dros uno Colegau y Bala a Threfecca; ond gohiriwyd ef am fis. Yn ol adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar, saif sir Fyawy ar ben y rhestr am ei throseddau, a chyfrifir hi er's blynyddau y waethaf yn hyn o beth. Ynddi hi hefyd yr wgeulusir yr ysgolion fwyaf gan y plant.
Advertising
TABERNACL, NETHERFIELD ROAD. Pregethir nos Sul, Mai 27, gan y Parch. 0. L. ROBERTS. CAPEL (A) GREAT MERSEY STREET Pregethir nos Sul, Mai 27, gan Parch. WILLIAM WILLIAMS, Maentwrog.
[No title]
0 hyn allan dymunir ar i bawb anfoa hysbysiad i ni o unrhyw gyfnewidiad yn nhrefn y moddion ac yn yr eglwysi lie y mae gweinidogion sefydlog, os na chlywn yn wahanol, rhoddir enwau y gweini- dogipn hyny i bregethu.
PWLPUOAU CYMREIG, Mai 27.
PWLPUOAU CYMREIG, Mai 27. LERPWL, Y METHODISTIAID CALFINAIDD. Pnneog rd-lo, 6, J Williams DIIVid street-10-30, J Williams, 6 Pittclarmce Bt-lO, H Jones, 6, L Lewis Nstherfidd rd—10, L Lewis, 6, H Jones Ohatham str-mt-10 a 6. W M Jones Grossh,all street-lo a 6, W 0 Jones An/Uld road-10 a 6, T Bvans NIWBAampørlÐ-IO a 6, W Henry BootU-10 a 6, T Gray Birkonhmd- 0.30 a 6, G Elllil smoombe-lo.,5 a 6, W Jones gargton-10.30 a 6. R A Jones Hock Perry-10-3,i a 6, 0 Owens. Walton vark-10 a 6, E J Evans WGtdrloo-lO a 6, D Jones. Hwjton Quarry—10 a 0, W Hughes Peel road—10 a 6, W Owen Molt road—10.30 a 6, E Jones, Drefnewydd Webster road-10-30 a 6, 0 J Owen Sew Brighton-2 30, W Jones. Weat Kirby-ll a 6.30, T J Williams Yates stre-et-6.15, T Williams (A) jouthport-10.30 a 6.34. Kvan Jones, Dinbych. SIt. Helens -10-30 a 6, J P Jones Latrd street, Birkenhead-6. J Evans. Market street, Birkenhead-6, Milton st., Widnea.—10.30 a a, 8Uoh Whiston-10 30 a 6. bgremont (Saes.)-10.45. T G Owen. 6.30, R G Jones Everton brow (Saes.)—10 45 a 6.30, Wynn Davies Qakfield rd (Saes ^-10,45 R G Jones, 6.30. T G Owen. Catharine st (gaes)-10. 30 a 0,30, K Silyn Roberts, Bala YR ANNIBYilfWYEL. TabernaclO, W Williams, Maentwrog, 6, 0 L Roberts, Grove at—10-30, 0 L Roberts, 6-15, D Adams. Park ,'oad-lo-SO. Myfyriwx o Bangor, 0, R E Peregrine, Rhymni. 9t. Mersey st-10-30, D Adams, 6, W Williams. Kensington-10.30, D Jones. Pontybodcin, 6, J 0 Williams Trinity ra, Bootle-10-30, J 0 Williams, 6, D Jones. Ulitfton rd, lJ'heaà-10-30, R E Peregrine, 6.15, Myfyriwr o Bangor. Seaoofitbe—10.30 a 6. Roger Williams, Coleg Bangor Marsh Lane-10.30 a 6. Pixtotia st. B'h.elld-10.30 a 6 15, Cyfarfod Gweddi, Sonthport -10-30 a 6.30, J H Rees Y BEDYDDWYR. Snexton Village-10-3 a 6, D Powell. Windsor st —10.30 6, W Samuel Oapel Seion Bousfield st—10.30 a 6. Peter Jones itdge Lane—2.30 a 6, BaUiol Rd, BooUe—10-30 a 6, P Williams Knowslev Road, Bootle-10.30 a 6, L W Lewis. Woodlands, B'head-10.30 a 6-15, J Davies. Y WKSUSYAiD Showat-10.30, W C Jones, 6, J P Roberts Boundary at—10.30, W Jones, 6, £ R LI Jones Trinity Rd, BooUe—10.30, P Roberts. 6. W C Jones Edge Bill, Plimsoll st-IO, R LI Jones, 6. W Jones Knowslep Road-2, J P Roberts, 6, G Evans Hynydd ieion—10 30, D'O Jones, 6, W 0 Evans fauqh" rd, B'head 10-30, W 0 kyass, 6, D Jones. Widms -10.30, a 6, A Owen (huston-S-3D, a 6, 0 C Evans UarUtown—10.80 a 5 30, T Hughes 3«rm»n—10.30, Heber Chambers, 6, H Roberts a 5 30 Heber Chambera teaoombe—10 30, D Jones, 6, D 0 Jones Rock Ferry—2-30, D Jones, 0, P Lloyd. Eccles-ll a 6. 0 Thomas, Ashton-in- Makerfield YR EGLWYS SKFYDLKDIG. iant Dewi—10-30 a 0.30, J Davies Stent Asaph—10-45 a 6.30, E Williams. font Nathaniel—10.30, Ysgol, 6.30, R H Davies $t Winifred, f? head—10-45 a 0-30, R Edwards. MA N'OEINION. Y MBTHODISTIAID CALFINAIDD. Moss Side-10 30, W Glynne, 3.30, J Williams, Corwen. Pendleton-10 30, T Hughes, 6, W Glynne Ueywood Street-lo 30, W James, 6, T Hughes Higher Ardwick-10,30, J Williams, 6, W James -0-
ITrefn Cymanfar Sulgwyn.
I Trefn Cymanfar Sulgwyn. Princes Road—Nos Wener, J Morgan Jones, Caerdydd, a J H Wflliams, Brymbo. Sabboth, 10, Wm Jones, Treforris; 2, TO Williams, Porthaethwy; 6 Dr Cyrddylan Jones, Caer- dydd. Nos Lun, Wm Thomas, LlanrwsCi ac E Phillips, Caaellnewydd Emlyn. David Street-Nos Sadwrn, S T Jones Rhyl, a J T Job, Car neddi. Sabboth. 10, D Roberts, Rhiwbryfdir; 2, J IC Hughes; 6, E J Jones. Fitzclarence Street-Nos Wener. T C Williams, as E J r Jones, Caernarfon. Sabboth, 10, D Williams, Llanwnda; 2, S T Jones, Rhyl; 6, R Humphreys. Nos Lun, Thomas Levi, Aberystwyth a W Ryla Davies, Llundain. Bethlehem—Nos Sadwrn, Wm Jones, a J J Roberts. Sabboth. 10, T C Williams; 2, J H Williams 6, Wm Thomas. Chatham Street—Nos Sadwrn, Dr Cynddylan Jones, ac R Humphreys. Sabboth, 10. J J Roberts 2, D Williams; 6, T C Williams. Crosshall Street-Nos Wener, S T Jones. Nos Sadwrn J E Hughes, a Wm Thomas. Sabboth, 10, W Ryle Davies 2, J M Jones; 6, E Roberts, Dolgellau. Nos Lun. J H Wil. liams, a J J Roberts. Anfield Road-Nos Wener, J E Hughes, Caernarfon, a Thomas Levi. Sabboth, 10, J H Williams; 2, W Thomas 6, E Phillips. Newsham Park-Nos Sadwrn, T C Williams ac E J Jones. Sabboth, 10, E Roberts 2, T Levi; 6, D Williams. Bootle-Nos Wener, E Phillips, a J J Roberts, Porth. madog Sabboth, 19, Dr Cyn tdylan Jones; 2, Richard Humphreys, Bontnewydd 6, Wm Jor,es. York Hall, Bootle—Nos Sadwrn, E Roberts Birkenhead—Nos Sadwrn, E Phillips, a J H Williams. Sabboth, 10, E J Jonas; 2, J J Roberts; 6, S T Jones. Nos Lun, J M Jones, a Wm Jones. Seacombe—Nos Wener, J T Job, ac E Roberts. Sabboth, 10, J E Hughes; 2, D Roberts; 6, W Ryle Da.vies. j Garston-Nos Wener, Woo Janca. Sabboth, 10, S T Jones; 2. J T Job; 6, D Roberts. Rock Ferry-Nos Wener, W Thomas. Sabboth, 10, R Humphreys; 2, E Roberts 6, J E Hughes Walton Park-Nos Sadwrn, T Levi, a D Roberts. Sabboth, I 10, J T Job; 2, E Phillips; 6, J M Jones, Waterloo-Nos Wener, R Humphreys. Sabboth, 10, J M Jones; 2, Wm Jones; 0, J J Robarts. Peel Road -Nos Badwrn, D Williams, a J M Jones. Sab- both, 10, Wm Thomas; 2, Dr C/nddylan Jones 6, T Levi. Holt Road—Nos Wener, D Wiliiams, a D Roberts. Sabboth, 10 30, T Levi; 2, WRyle Davies; 6, J H Williams. Webstar Road-Nog Wener, Dr Cynddylan Jones, a W Ryle Davies. Sabboth, 10, E Phillips 2, E J Jones; 6, J T Job. New Bsighton-gabboth. 10, E J Evans, Walton; 2, J R Williams, Rhydbach 6, W Morris Jones, YatEPS Street—Sabboth, 10 a 6, J R Williams, Rhydbach.
-f Notfion o Faster.
Notfion o Faster. No* Sadwrn. Gan faint y dadwrdd, anhawdd ydyw ysgrifenn pwt heno. Gan i'r newydd am ryddhad Mafeking gar- lamu fel tan gwyllt trwy y wlad neithiwr, rhaid oidd i bob ynfyd ddangos ei ynfydrwydd, ac mi synech gynifer o ynfydion sydd hyd yn nod yn Maelor yma. Diolch er hyny mai yma yr ydwyf, ac nid yn Lerpwl yna na Llundain. Mae'n ddigon drwg yma, ond wn i ddim sut y medrwn i ei goddef hi mewn lie fel yna. Modd byuag, rhaid ceisio annghono'r gwallgof- rwydd am enyd fer, a thaflu golwg ar hyd yr wyth- nos. Y Sabboth a'r Llun diweddaf cynaliodd Bed- yddwyr y Rhos eu cyfarfodydd pregethu blynyddol. Y cenadon oeddynt y Parchn W Morris, Treorci, a P. Williams (Pair Hir), Bootle. Cawsant gynull- iadau da ac odfeuon grymus. Nos Lun cynaliwyd prawf-gyngherdd yn Ngwer- syllt, tan lywyddiaeth Mr J H Francis, Gwrecsam. R. Bryan oedd yn clorianu a Mrs Francis yn cyf- eilio. Cynygid gini o wobr am y gan oreu i feib- ion, a giui am y gan oreu i ferch, a bathodvn aur i ddatgeiniad goreu y cyfarfod. Trodd nifer o gan- torion rhagorol i fynu, a chafwyd cryn amrywiaeth u I yn y caneuon ac yn y datganiadau. Drfarnwyd y ddwy wobr i Miss Florence Williams, yr hon a ganodd With verdure clad;' a Zachariah Dodd am ganu Arm, arm, ye brave,' a derbyniodd y ddau ganmoliaeth uchel. Dyfarnwyd y bathodyn aur i Miss Williams yn nghanol cymeradwyaeth uchel. Yn ystod y cyfarfod, gwasanaethodd Miss Hew- itt, Wyddgrug, fel datgeiniad, a rhoddodd foddlon- rwyid a mwynhad. Buy beirniad dipyn yn llaw- drwm ar rai o r cantorion, ond dim mymryn rhy lawdrwm. Be dda ydyw beirniad 03 na ddywed ef y gwir plaen ? Fel y crybwyllasoch yn y Cymro diweddaf, bu yn helynt blin yn ngwaith yr Hafod ddydd Mawrth, a fu ond y dim na fuasai 30 o lowyr dewr wedi eu hyrddio tros y dibyn i'r gwagle mawr. Newydd ddyfod a'r nifer hyny i fynu o'r pwll yr oedd y cawell, a chyda bod yr olaf ohonynt yn camu allan dyma'r gadwen yn tori, ac i lawr a'r cawell i ddyfn- der o chwe chan llath, nes oedd yn yilion-nid oedd astell gyfan yn aros. A chan fod yn agos i 400 o lowyr i lawr ar y pryd, chwi allwch ddirnad y braw a gynyrchwyd trwy'r ardal, ac nid oedd dichon eu cyrhaedd. Llwyddwyd i gael nifer fechan i fynu am 11 o'r gloch, ond aeth yn mhell wedi haner nos cyn cael yr oil i fynu. Yr oedd tyrfa bryderns ar y lan yn disgwyl er's oriau lawer. Gwragedd a phlant yn wylo, â. bwyd a diod yn eu dwylaw yn barod i'r newynog a'r sychedig oedd i lawr. Yr oedd y niweidiau i'r gwaith y fath fel na all- odd yr un glowr fyned i lawr ar hyd yr wythnos. Mae Mri Jenkins a Jones, Johnstown, wrthi yn brysur yn gwneud cawell newydd, ond ofnir y bydd yn ddiwedd yr wythnos nesaf cyn y gellir ail gychwyn. Diolch fod pethuu we>.i troi allan crs- tal. 3 Nos Fercher, cynaliwyd cyngherdd campus yn y Rhos gan Miss Gertrude Hughes, Miss Juanita Jones, Mri Tom Thomas a John Saudbrook, a chor bach E W Bellis. Yr oedd yno gynulliad gweddol a chanu da. Mr T Sauvage oedd rn y gadair, a Master Emlyn Davies yn cyfeiiio. Elai yr elw i gynorthwyo John Jones, Brook Street. Dymunaf longyfarch Mr Arthur Davies, Cefn- mawr, ar ei lwyddiant ardderchog yn Machynlleth cos Fercher. Prawf-gyngherdd oedd yno, ac an- turiodd 14 o gantorion goreu y Gogledd i'r frwydr. Yr oedd y gystadleuaeth yn agored am unrhyw g&n i unrhyw lais, a Mr John Williams, organydd, Caernarfon, oedd y beirniad. Wedi cystadleuaeth ardderchog, dyfarnwyd y gwpan ariaa, gwerth 3p. 5s., a lp. mewn arian i'n cyfaill Arthur. Ys gwn i pryd y mae Arthur am roi heibio cystadlu ? Waeth heb dreio os bydd ef mewn hwyl. Llawen gweled arwyddion cynyddol o gyfeillgar- weh rhwng Eglwyswyr ac Ymneillduwyr y. Rhos, a gresyn na welld hyny yn mhob ardal. Yr wythnos hon cyflwynodd ein parchus ncer anrheg o Lyfr Emynau hardd i gapel yr Annibynwyr at wasanaeth cyhoeddus, fel arwydd o'i ddiolchgarwch am iddynt ei wahodd i lywyddu yn y Gymanfa Ganu. Dyffbtnwb -0- Mr W. B. Rowdon a ddewiswyd, allan o 22 o ymgeiswyr, yn arolygydd a pheirianydd Cynghor Dosbarth Gwledig y Wyddgrug. Dydd Gwener, cynaliwyd cyfarfod blynyddol Bwrdd Dwfr Unedig Cowlyd, yn Nghonwy. De- wiswyd Mr Hugh Hughes, Conwy, yn gadeirydd, a Mr J W Raynes, Llysfaen, yn is-gadeirydd. Rhodd- odd y Bwrdd ei sel ar mortgage i Fwrdd Benthyc- iol Gweithiau Cyhoeddus am 15,699p, i'w talu yn mhen 27 mlynedd. Bwriedir codi eglwys yn Pensarn, Cyffordd Llan- dudno, ac y mae'r tir wedi ei sicrbau yn ymyl yr Ysgol Genedlaethol, lie y cynelir gwasanaeth yn bresenol.
Advertising
EisteddfodGeiiedlaetliol Lerpwl 1900. AIL ARGRAPHIAD, gydag ychwanegiadau, o'r RHESTR 0 DESTYNAU. Pris 6ch, trwy y post 7c. I'w cael o Swyddfar "Cymro," 8, Paradise Street. Yn awryn barod, pris 6ch, trwy y post 7c. I/LANLLON YDD: Ei ddau Efaill, a rhai o'i bobl eraill. Gan LLYFRBRYF. I'w cael o Swyddfa'r Cymro, 8 Paradise Street.