Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Ysgolion Eglwysig yn y Senedd.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ysgolion Eglwysig yn y Senedd. PAJST y cynygiodd Mr Balfour ohiriad y Ty, ddydd Llun, cwynodd Mr Samuel Smith am y dull gortnesol yr ymddyga y Llywodraetfa iuag at hawliau aelodau preifat. Dranoeth yr oedd ef I gyflwyno mater o bwys neillduol i boblog- aethBr otestanaidd y wlad, ond dyma hwythaa yn myned i'w amddifadu o hyny, ac yn cymery:! mantaia ar bob cyfle i gau allan bob cyfeiriad at gwestiynan sydd yn codi oddiar Ddefodaeth yn yr Eglwysi a'r Ysgolion Cenedlaethol. Yr oedd Protestaniaid y wlad yn ddig am y eamddefn- ydd a wneir o'r Ysgolion Gwirfoddol a'r Oolegau Hyfforddiadol iddadwneud gwaith y Diwygiad. Ameanent ladd egwyddorion y tfydd Brotestan aidd yn meddyliau y plant. Amddifadir plant Ymneiilduol rhag dyfod yn athrawon hyd yn nod yn yr ysgolion elfenol hyn, a gwaherddid hwy i'r colegau, fel rheol, os na wadanfc y ffydd y dygwyd hwy i fynu ynddi. Cyfeiriodd at am- gylcbiad lie y bu raid i ferch ieuanc bertbynol i'r WeBleyaid arwyddo llythyr yn cynwys dat- ganiad na wnai mwyaoh fynychu un lie o addol- iad perfchynol i'r enwad hwnw, ac y dychwelai i Eglwys Loegr, cyn y cawsai ei phenodi yn atbrawes. Nid oedd hyn ond engraipht deg o'r hyn a gerir yn mlaen trwy y wlad yn gyffredin- I ol. Sylwodd hefyd ar yr arferiad i orfodi plant Ymneilldaol I orymdeithio i'r Eglwys, a dyagu iddynt athrawiaethau orefyddol croes i ewyllys y rhieni ac os meiddiai y rhieni wrthdystio, byddai y personlaid y Sul canlynol yn en henwi ac yn ymosod arnynt o'r pwlpod, ac yn ami cawsai y plant ddyoddef o'r herwydd. Apeliai ef at Fwrdd Addysg i wella pethau yn y cyfeir- iad hwn, oblegyd yr oedd yn rhwystr ar ffordd llwyddiant y plant, ac yn fagl i addysg yn gyff- redinol; ac er mwyn cael ymdrafodaeth ar y cwestiwn, eyitygiodd welliant nad oedd y Ty yn cael ei ohirio hyd dranoeth. Oeiaiodd Syr J Gorst a Mr Balfour ateb y cwynion hyn trwy ymresymu nad oedd y pethau y cwynid o'u plegyd ond eithriadau fod y plaut Ymneiilduol yh cael yr un manteision a'r un chwareu teg yn bron yr holl YsgolioaGwirfodd- ol, ac nad yw eithriadau a allaut ddigwydd yn awr ac eilwaith yn ddigon i'r Ty gyineryd sylw ohonynt. Cefnogwyd y gwelliant gan Mr Lloyd George mewn araith lem, a dangosodd yn eglur fel yr oedd yr adran gydwybodol yn cael ei cham- ddefnyddio, ac nad oedd yn ddigon o amddiffyn i'r plant. Cyfeiriodd at amryw amgylchiadau neillduol. Yroedd yr ysgolion yn hollol yn nwylaw parsoniaid Anglica aidd, a'u hameatt penaf ydoedd lladd Ysgolion y Bwrdd a phros- elytio plant. Siaradwyd yn mhellach gan Arglwydd Fitz- maurice, Mr H 0 Arnold Forster, Syr H Campbell- Bannerman, Mr Broadhurst, a Mr J Herbert Lewis. Boddlonodd Mr Smith ar yr ymdrafodaeth, a thynodd ei welliant yn ol.

_10;-Afiechyd Mrs Gladstone.

Anrhydeddu Cymry o Lerpwf.

____--Dyffryit Clwrd.

----:0 :--Pont y Gwr Drwg.

---Nodfon o Faelor.

-0. CWRS .Y BYD.