Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Goheblaethau.

"'"--Dyffrygi Clwyd.

Eisteddfodaiir Sulgwyn.

,.

Cardd y Cerddor.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cardd y Cerddor. UN waith bob deng mlynedd tynir sylw y byd cerddorol at bentref bychain yn Neheudir Bavaria o'r enw Oberammergau, oherwydd hwn yw y lie y darfu y trigolion yn y flwyddyn 1633, ymddio- frydu y byddai iddynt, unwaith ,bob deng mlyn- edd, bersonoli a myned yn weithredol trwy am- gylchiadau dyoddefaint y Gwaredwr yn ei Oriau Olaf; a hyny fel arwydd o'u diolchgarwch am y waredigaeth wyrthiol a gawsant fel tref oddiwrth bla yn y flwyddyn uchod. Ac eleni, er canel y mis diweddaf, maent yn myned trwy y gwaith difrifol; ymwelir a'r lie gan fiioedd ar bererindod yn wir dywedir fod amryw filoedd yn bresenol yn y per- fformiad cyntaf. Dyn ieuanc, pump ar hugain oed o'r enw Auton Lang, a gynrychiolai y cymeriad o Grist, a Mair y Forwyn gan forwynig ieuanc o'r enw Anna Flunger, merch i lythyr-gludydd y pentref, ac wyres i'r dyn a gynrychiola y Crist yn y flwyddyn 1850. Cymerir i fynu tua dwsin o'r cymeriadau pwysicaf yn yr hanes gain feibion, a phedair gan y merched. Edrychir ar y gwaith gan y gwahanol gymeriadau a'r trigolion, fel uitnvtn crefyddol ymwueir ag ef gyda dwj sder teimlad a pharchedigaeth, a pbarotoir ar ei gyfer trwy ymgysegriad. A ganlyn ydynt sylwadau un oedd yn bresenol y tro cyntaf y tymhor hwn, sef Mai20fed:—"Yr oedd yr olygfa lie mae Crist a Mair yn ymwahanu yn od o dlos a pherffaith; ond y ddwy olygfa fwyaf treiddgar ydoedd y Swper Olaf," a Phoenau yr Ardd," nid oedd y lilangellu mor effeithiol a'r rhanau eraill, ond yr oedd arucheledd mawreddog yn yr olygfa lie y saif Crist o flaen Pilat, yn am- gylchynedig gan dyrfa groch-lefol a haner gwallgof, yr oedd mawrfrydedd a gwirfoddolrwydd ym- ddangosiad y prif gymeriad uwchlaw pob canmol- iaeth, ac eto pan yr ymddengys yn cario y groes anferth tyr y dyrfa i ochneidio a wylo. Cyn y croeshoeliad, ymddengys pawb a gymerai ran yn y cydgan mewn gwisgoedd duon. Gadewir y Crist i hongian ar y groes am ugain mynud. Yr oedd ei waedd angeuol yn galon rwygol a'r holl olygfa yn ddychrynllyd." Ac felly yn y blaen trwy'r ddefod ryfedd hon. Yr wythnos ddiweddaf yn marwolaeth Syr George Grove, collodd y deyrnas ei chelf-garwr cerddorol galluocaf, y dyn mwyaf ymroddedig i waith yn holl Loegr," y gelwid ef gan un. Fel peirianydd y treuliodd ei flynyddoedd boreuaf, ac ymddengys iddo gael ei gyflogi gan yr enwog Robert Stephen- son i'w gynorthwyo i adeiladu Pont Menai. Gan- wyd ef yn y flwyddyn 1820 yn 1851 penodwyd ef yn ysgrifenydd cwmni y Palas Grisial, Llundain; a thrwy rym ei ymdrechion ef yn benaf a chyda cynorthwy Mr August Manns daeth cyngherddau Sadwrn y Palas Grisial yn adnabyddus trwy'r byd, ac yn ddylanwad digyffelyb ar gerddoriaeth. Yn y flwyddyn 1881 sefydlwyd y Royal College of Music, a gwnaed Syr George yn oruchwyliwr, swydd a ddaliodd hyd 1894, pan y gorfu iddo ei rhoddi i fynu oherwydd henaint, a dewiswyd Syr Hubert Parry yn ei le. Ond diamheu mai ei waith mawr, a'r hwn erys yn goffadwriaeth am dano, yw ei Eiriadur o Gerddorion a Cherddoriaeth," gwaith a gymerodd iddo ddeng mlynedd i'w olygu a'i ddwyn allan. Ysgrifenydd mewn misolyn cerddorol yn ddi- weddar a awgryma y priodoldeb o drefnu a chy- hoeddi nifer o donau at wasanaeth y Sabboth i dri llais yn unig, sef gadael yr alto allan, gan fod cyn lleied, medd ef, yn canu y llais hwn. Hvvyrach fod y cyfaill yn iawn, ond tra y mae wrth y gwaith onid llawn cystal fyddai iddo adael ar un llais yn unig, gan mor lleied o gynghanedd glywir yn yr "addoldai Cymreig. Fodd byuag, cred Dr. Parry yn wahanol i hyn oherwydd yn ei waith newydd, sef Cerid- wea (mae hon wedi cyrhaedd o'r diwedd), rhana y lleisiau benywaidd mewn un gydgan i dri soprano a thri contralto ond pe rhanasai hwy i haner dwsin, buasai yn eu cael yn ddigon hawdd yn nghor yr Eisteddfod. Yr wythnos ddiweddaf, soniais am foneddwr wedi anrhegu y cor a deg swllt ar hugain ar ol ei glywed yn canu wel, yn awr, ar y nos ifercher cyntaf yn Gorphenaf, bydd cyfleusdra i lond Henglers Circus gael clywed y cor mewn rehearsal (a chyfranu bob un ei ddeg swllt ar hugain os teimla hyny ar ei galon), oherwydd gwna y pwyllgor barotoadau ar gyfer rehearsal agored ar y noson uchod. Gwneir y trefniadau yn hysbys eto. STRADELLA.

[No title]