Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Ar Flnlon y Ddyfrdwy.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ar Flnlon y Ddyfrdwy. OYDD Iau, cynaliodd Annibynwyr Penllyn eu Cy- manfa Ysqolion yn Llaauwchllyn. Tyrodd torfeydd yno, a chawsaiit gyfarfodydd rhagorol. Gerbron ynadon Corwen, ddydd Gwener, cafodd pedwar gwas ffarm o'r enwau Edward Peters, Thos. Roberts, R O Jones, ac Edward Roberts, eu dirwyo i 2a 6c yr un a'r costau am dori ffenesbr Mr Edmunds, Ucheldref. Aeth y pedwar i guro at y forwyn, a chan na cbawsant dderbyniad, tafiasant gery; at y Jfenestr ac ar bea y to. Mawr yw'r helynt wrth garu o hyd. Y mae lluaws o trigolion y minion yma wedi enill -1 tystysgrifau y "St. Joh&'d Ambulance Classes., Buont dan hyftorddiant gydol y gauaf, a'u hath raw oedd Dr Williams, Bala. Ddydd Mercher, bu Methodistiaid Llanuwchllyn yn cyd yfed te. Adlonwyd eu meddyliau hefyd mewn owxdd diddan. Ddydd Sul, yn Eglwys Crist, Bala, rhoddodd Mr Botwood, yr organydd newydd, recital ar yr organ. Dywedir ei fod yn deall ei waith i'r dim. Llwyddiant yn mhob ystyr fu'r cyngberdd yn y Bala er budd Cronfa Newyn yr India- cynull iad da, canu da, a thros 30p o elw. Y stiwdeats biau ddegwm y ciod am y llwydd. Gwnaeth Miss Jones, Ceryg-y- drudion, a Mi.-s Hughes, Ffestiniog, eu rhan yn rhag- ,orol wrth ganu. Dywedodd Mr Bircham, swyddog Bwrdd Lly wodr- aeth Leol, fod gwedd allanol tylotty Corwen yr un ffunud a eharcliar. Bwriada un o'r gwarcheidwaid ei alw i gyfrif am ddweyd y fath beth. Ddydd Mawrth, yn 67 oed, bu farw Mr Samuel Dakin, Gifton House, Bala. Annibynwr Belo So gwr blaeallaw mewn ami gylch o?dd Mr Dakin. Teimlir chwifchdod aca na welir ei wedd mwyach yn ein mysg. ,Cafodd angladd parchus ddydd Gwener. Ddyddiau Mercher a Iau, cynaliodd Bedyddwyr Cynwyd eu cyfarfod pregethu blynyddol. Y ddau genad eleni oeddynt y Parchn E Cefci Jones, Ffes- tiniog, ac E Williams, Rhos. Yr oedd goleu a gwres yn yr oedfaon. Cafodd Clwb Merched y Bala wledd ddydd Mawrth. Rhifa'r aelodau dros gant, ac wrth gwrs daethaot agos oil yn ngbyd i yfed te. Y mae Mr Lloyd Williams, mab Mr W E Wil- liams, Gwerclas, wedi pasio i fod yn Gymrawd o Gymdeithas Araaethyddol yr Ucheldiroedd, a bydd F.H.A.S. yn gynffon i'w enw mwyach. Ystyrir ei dad yn un o amaethwyr goreu'r wlad.1 Triawd pobl y Bala y dyddiau hyn-yr Eisteddfod, y Sasiwn, a'r Rhyfel. GWYN. -0-

Nodlon o Uwohfttod.

-0--Llythyr Lerpwl,

F ewyrth Shion.

Colofn ilimmet.

-0--.-Cyfarfod Misol Llvsrpooi.

IKewyddion Cymreig.

|Bwrdd Ysgol Liandudno.

-0-PURWCH Y GWAED.