Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Helynt yn Mwrdd CwarohaldwaicJ…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Helynt yn Mwrdd CwarohaldwaicJ Treffynon. YN nghyfarfod Gwarcheidwaid Treffynon ddydd Gwener, bu ffrwgwd arall rhwng y Bwrdd a'r Parch Watkin Williams, ficer Nanerch. Cyfeiriodd y ficer at achos y ffermwr yn mhlwyf Ysceifiog, gwraig yr hwn fu yn Ngwallgofdy Dinbych, a thal- wyd y draul o'i symud gan y Bwrdd, ar dystiolaeth ei gwr nad oedd yn alluog i dalu heb werthu ei stoc. Dywedodd y ficer iddo dderbyn llythyr oddiwrth drethdalwr yn nglyn a'r mater, a dechreaodd ei ddarllen. Hysbysai yr ysgrifenydd fod gan y fferm- wr dri cheffyl ar ei fferm, 10 neu 11 o wartheg, a 25 o ddefaid. Gefynodd y clerc am enw ysgrifenydd y llythyr. Mr W.: 'Does dim gwahaniaeth beth yw yr enw. (Llefau uchel o "0 !")-Y Cadeir ydd A ydych yn barod i roddi yr enw ?—Mr W. Y mae'r llythyr genyf nis gwn ddim am y peth fy hun.-Y Cad. Onid oes rhyw enw wrtho?—Mr W.: Dim gwahaniaeth. (O !")—Cad. Daagoswch y llythyr i mi ?-Mr W.: Na wnaf.—Mr Lester Smith: Ai llythyi dienw ydyw? Os ie, y mae'r mater yn syrthio.—Mr W. Ni3 gwn ddim am dano.. Os yn warcheidwaid gonest, gwnewch ym- chwiliad i'r achos. Nid yw o un gwahaniaeth pa un a yw y llythyr yn ddienw ai peidio.—Y Cad.: Gan mai achos Y sceifiog ydyw, ymgymeraf fi a gwneud ymchwiliad llwyr os caf wybod enw yr ys- grifenydd.—Mr W. Credaf ei fod yn berffaith wir. —Credai Mr W Roberts i'r llythyr gael ei ysgrif- enu gan rywun oedd yri-ddig wrth y ffarmwr. 0 berthynas i'r stoc, yr oedd ganddo un ceffyl, merlen wedi tori ei chlun, a brynodd am 3p., ac yr oedd ganddi ebol. Dyna oedd yn gwneud y tri cheffyl (Chwerthin.)—Mr Prince: Nid dyma'r cyhuddiad cyntaf ddygodd Mr Williams yn erbyn y relieving officer.—Wedi rhai sylwadau pellach, dywedodd Mr Williams, wrth wasgu arno, fod y llythyr wedi eiarwyddo,ond gwrthododd roddi yr enw.—Mr Matthews Mae'n debyg nad ydym i gymeryd un sylw o'r hyn ddywed Mr Williams na'i lythyr.—Mr W. Beth a ddywedasoch chwi ? Dywedwch ef eto. Chlywais i ddim byd mor ddigywilydd yn fy mywyd ac yr ydych yn galw eich hun yn war- cheidwad anrhydeddus —Sir Matthews Ydwyf, yn llawer unionach na chwi unrhyw ddvdd.Ar ddi- wedd y cyfarfod, cododd Mr Williams drachefn i alw sylw at ddau achos gawsant gynorthwy, a chan anerch y cadeirydd dywedodd Dywedwch efallai fy mod yn eich gwrthwynebu o falais. Sicrhaf chwi nad oes ynof unrhyw falais tuag atoch chwi fel dyn, ond yn annghytuao i'ch gwaith fel cadeir- ydd.-Y Cad.: Os oes genych gwyn yn fy erbyn i, cwynwch wrth yr Arolygydd neu Fwrdd Llywodr- aeth LeOl, os dewiswch. Chymeraf fi mo'm cy- huddo, a gwneud cyfeiriadau ataf, genych chwi, Fwrdd ar ol Bwrdd.—Mr W.: Rhoddwch chwi y ddau achos yma ar y llyfr. Y chwi ydyw arwein- ydd y Bwrdd, ac arnoch chwi y mae'r cyfrifoldeb. Toraswn fy mysedd ymaith cyn y rhoddaswn hwy arnoch chwi.—Y Cad. Felly deuwch yma ynte, i /chwi gael eich dewisiad o'u tori ymaith.—Mr W. Mr Prince-Mr Prince Bu raid i chwi dalu uu 50p., a chewch y pleser o dalu un arall os yr enwch fi.-Terfynwyd y cyfarfod ar hyny, wedi eistedd am rai oriau.

-:°:-Nodion o Fon.

Marwolaath Dr Ryle, cyn-Etgcb…

Colofn Olrwoet

-0---DyfTry/i Clwyd.

Dail T8 (Hen a Newydd).

--0--IAddysg Grefftwrol yn…

--().---Barddoniaeth.