Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

-, Mr. Samuel Smith AS.

-1oi--Cymaafa yr Arnilbynwyr…

Colog Bodyddwyr Gogledd Cymru.

(O) Cymanfa Annibynwyr Meirion.

--0--8 Ddyffryn Nantlle

----------.-IL'ythyr o Caflffornia.

-,)-Ar Flnlon y Odyfrdwy.

--0--Hodion o Uwohaled.

[No title]

------._ Newyddton Cymrefg.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Newyddton Cymrefg. Derbyniodd Mr E. Aman Jones, o Brifysgol Bangor, alwad i fugeiiio eglwys Riverstown (A), Sychtyn, sir Fflint. Ddydd Mercher, cymerodd y ddefod le o agor gwaith dwfr Penmaenmawr. Ymgasglodd tvrfa fawr, a chyflawnwyd y ddefod gan Mr C H Dari i- shire. Y mae'r draul yn 13,000p. Mae Cynghor Dosbarth Gwledig Bwclewedi pen- derfynu codi neuadd i'r dref mewn lie cyfleus. Prynwyd y tir am 275p., a chyst yr adeiiadau 1,800p. Yn Rhyl, ddydd Mercher, cynaliodd Mr Low ym- chwiliad ar ran Bwrdd Llywodraeth Leol i gais y Cynghor Dosbarth Gwledig am ganiatad i fenthyca 5.896p., i wneud ychwanegiadau yn nglyn a'r gwaith dwfr. Ni chodwyd un gwrthwynebiad. Ddydd Mercher, gosodwyd ceryg coffa yn nglyn a. chapel newydd y Bedyddwyr yn Cefnmawr gan y Parch A J Parry, D.D.; Mrs Parry, Rhyl; Mri Edward Davies, Cefnmawr; Jonathan Powell, Acr- fair; Dan Ellis, Acrfair; Bo wen, Cefnmawr; Geo. Richards, Llangollen a'r Henadur Christmas Jonas, Cefnmawr. Y Sul diweddaf ail agorwyd capel Ebenezer (B), Cefnmawr, ar ol ei helaethu a'i adgyweirio. Cod- wyd ef yn 1873, a chynwysai le i 300 o bersonau. Yn awr gall 420 eistedd ynddo, ac y mae ysgoldy i gynwys 180 wedi ei adeiladu. Y draul bresenol ydoedd 1,100p. Pregethwyd ar yr achlysur gan y Parchn W 0 Williams a T E Williams, Drefnew- ydd. Nos Sadwrn.yn Methesda, dygodd Mr W Jones, A S., i ben gyfres o gyfarfodydd a gynaliodd yn ei etholaeth. Cymerwyd y gadair gan Mr Owen Griffith, llywydd Cymdeithas Ryddfrydol y lIe. Fel yn y lleoedd eraill, pasiwyd pleidlais unfrydol o ymddiried ynddo. Nid oes un arwydd fod y Ceidwadwyr am ddwyn allan ymgeisydd yn Arfon nac Eiflon. Nos Fawrth cynaliwyd cynadledd yn Rhosllan- erchrugog i ystyried sefyllfa arianol Undeb Ileol y glowyr. Llywyddwyd gan Mr J Bowen, gwaith yr Hafod a chyflwynodd Mr Neisen adroddiad arianol yn cynwys awgrymiadau er gwella pethau. Cymerodd trafodaeth faith le, ac yn y divvedd cy- meradwywyd fod y cyfraniadau yn cael eu codi 19. yn yr wythnos. Gwrthodwyd y cynygiad i ostwng y 11 y tal M ythnosol i hen aelodau wedi myned yn an alluog i weithio. Ddydd Gwener, torodd tan difrifol allan yn ffatri wlan Mri Lake a'i Gwmni, Caernarfon. Yr oedd 21 o weithwyr wrth eu gwaith pan y canfyddwyd swm o wlan ar dan. Yn ofer y ceisiwyd ei ddiff- odd, a galwyd am y tan-ddiffoddwyr, ond cyn idd- ynt gyrhaedd yr oedd yr elfen ddinystriol wedi ym- estyn i bob cwr o'r adeilad, a'r unig ran a achubwyd. ydoedd y iliwdy. Dinystriwyd peirianau gwerth 3,000p, a dywedir fod yr holl golled yn o.OOOp. Ni wyddis sut y cychwynodd y tan, ond tybir mai rhan o'r peirianau a boethodd, ac i wlan ag olew arno gy neu. BW(.'Lm.-Dro yL, ol penderfynoId Bwrdd Ysgol dosbarth unedig y Wyddgrug a Bwcle sgfydlu rsgol nos mewn cerddoriaeth, gan sicrhau Mr Wilfrid Jones yn athraw. Ffurfiwyd cor cryf, a threfnwyd cyngherdd ar raddfa eangach nag a gafwyd yn yr ardal o'r blaen. Nos Fawrth ddiweddaf, ymgymer odd y cor a, pherfformio y "Uessiah" (II andel). Codwyd pabell eang mewn cae cyfleus yn Bwcle. a daeth dwy fit o bob! yn nghyd. Rhifai y cor 200 o leisiau rhagorol, a rhoddasant ddatganiad campus o'r cydganau ardderchog, a rhoddid canmoliaeth uchel i'r arweinydd medrus. Yr unawdwyr oeddynt:— Miss Annie Shirley (soprano), Miss Juanita Jones (contralto), Mr Wm. Davies, St Paul's (tenor), a Mr Dan Price (bass), y rhai a roddasant foddlon- rwydd neillduol. Gwasanaethwyd hefyd gan gerddorfa Mr V Akeroyd, Lerpwl. Gan i'r ymgais gyntaf hon droi allan mor Ilwyddianus, diau y ceir amryw wleddoedd cyffelyb y tymhor nesaf. --0-

COLLI AC ENILL.

Advertising