Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Cwasg Deheu Affrica.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cwasg Deheu Affrica. DAU GYMRO YN CHWILIO AM OLYGYDD. YN y Morning Leader am ddydd Mercher, dy- fynir o'r Volkssttm, papyr Boeraidd, am Ebrill 28ain, yr hanes bynod a ganlyn Yr ydym newydd ddod o hyd i bapyrau neillduol a gafwyd ychydig ddyddiau yn ol yn y City & Suburban Mine, Johannesburg, a dengya y papyrau hyn yn eglur pa fodd yr ar ferwyd sefydlu pipyrau yn Ngweriniaeth De Affrica. Rhoddir yr holl ohebiaeth ya gyflawn yn mhen ychydig ddyddiau. Ni chyhoeddwn heddyw ond yr un a gymerodd le rhwng Johan- nesburg a Llundain gyda golwg ar benodi golygydd i'r Star. Ya nghanol y tlwyddyn 1898, teimlai ffirm Eckstein a'u Cyf. yr angen i benodi goL arianol ymberodrol i'r papyr a nodwyd. Y llythyr cyntaf ar y pwnc ydyw un oddiwrtb Mr Samuel Evans at MR ELLIS J. GRIFFITH, A.S., yn cyfeirio at lythyrau blaenorol yn nghylch gol. i'r Star. Ymddengys mai y dewis-ddyn ydoedd un Mr Norman, ac anogid ymgynghori a Mr W T Stead. Rhan nodweddiadol o'r llythyr hwn ydyw y dyfyniad a ganlyn :— BARN SYR A. MILNER. Yr ydym yn fwy aiddgar nag erioed am Norman. Cawsorn allan yn ddirgel fod Milner yn credu nas gellir cael gwell Norman i'r swydd." Mewn llythyr arall at yr un boneddwr, yr hwn, ymddengvs sydd yn bur byddysg yn hanes dadblygiadou Daheu Affrica, dywed goruchwyl- iwr Eckstein mai y dyn sydd arnynt hwy eisiau ydyw Ymherodrwr, ac y byddai iddo chwareu rhan bwysicach na Syr A Milner. Gofidia Mr Evans hefyd fod y Chronicle ar rai adegau yn amddiffyn y Boeriaid. Yr oedd, modd bynag, yn ol yr ysgrifenydd, berygl mawr mewn cysylltiad & phenodiad Norman, oher- wydd ei fod yn ddyn hollol uniawn a didder- bynwyneb;" ond yn y diwedd, dywed Mr Evans y "gall arian wneud llawer," ac yn mhen yspaid y byddai i Mr Norman gefnogi polisi Syr A Milner. CYFLOG MAWR. Dywed Mr Evans hefyd y gellid ycbwanegu y 2,500p o gyflog a nododd ef o'r blaen, ac nad oedd achos i Mr Griffith benderfynu ar unrhyw swm. GWRTHODA MR NORMAN. Siom drom i oruchwyliwr Eckstein ydoedd derbyn llythyr oddiwrth Mr Griffith, yn sicr- hau na dderbyniai Mr Norman mo olygiaeth y Star. Ond y mae efe yn argymhell dan eraill. Yn mis Medi 1898, ysgrifenodd Mr Evans dracbefn at Mr Griffith yn diolch iddo am y drafferth A gymerodd gyda'r mater hwn, ac yn ei sicrhau fod achos yr arianwyr mor "sownd a'r gloch," tra yr oedd eiddo'r Arlywydd Kruger yn bwdredig. Unwaith yn rhagor, dywedai ei fod yn dra awyddus i sicrhau gwasanaeth Norman, am i Syr A. Milner sylwi mai Norman fyddai'r goreu i'r awydd a daw cwestiwn y tal i'r gwyneb eto; medd Mr Evans, "Cofi weh y bydd ini dalu pris nchel i'r dyn iawn." Ebe'r Leader, cynygiwyd y swydd o olygydd cl y Johannesburg Sun i bedwar yn Llundain yn olynol, a derbyniwyd hi am 3,000p gan an o so,rl w ysgrifenwyr swyddfa y Times. Dyma'r tro cyntaf, ebe'r Leader, ini weled enw Mr Ellis Griffith yn y drafodaeth. Y Norman y cyfeirir atoydyw Mr Henry Norman, yr hwn y pryd hyny oedd yn is-olygydd yn swyddfa'r Chronicle.

-0-Cyrddau y Dyfodol, &o.

LieoS

[No title]

Y RHYFEL.

Advertising

Family Notices

Advertising