Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Cwasg Deheu Affrica.
Cwasg Deheu Affrica. DAU GYMRO YN CHWILIO AM OLYGYDD. YN y Morning Leader am ddydd Mercher, dy- fynir o'r Volkssttm, papyr Boeraidd, am Ebrill 28ain, yr hanes bynod a ganlyn Yr ydym newydd ddod o hyd i bapyrau neillduol a gafwyd ychydig ddyddiau yn ol yn y City & Suburban Mine, Johannesburg, a dengya y papyrau hyn yn eglur pa fodd yr ar ferwyd sefydlu pipyrau yn Ngweriniaeth De Affrica. Rhoddir yr holl ohebiaeth ya gyflawn yn mhen ychydig ddyddiau. Ni chyhoeddwn heddyw ond yr un a gymerodd le rhwng Johan- nesburg a Llundain gyda golwg ar benodi golygydd i'r Star. Ya nghanol y tlwyddyn 1898, teimlai ffirm Eckstein a'u Cyf. yr angen i benodi goL arianol ymberodrol i'r papyr a nodwyd. Y llythyr cyntaf ar y pwnc ydyw un oddiwrtb Mr Samuel Evans at MR ELLIS J. GRIFFITH, A.S., yn cyfeirio at lythyrau blaenorol yn nghylch gol. i'r Star. Ymddengys mai y dewis-ddyn ydoedd un Mr Norman, ac anogid ymgynghori a Mr W T Stead. Rhan nodweddiadol o'r llythyr hwn ydyw y dyfyniad a ganlyn :— BARN SYR A. MILNER. Yr ydym yn fwy aiddgar nag erioed am Norman. Cawsorn allan yn ddirgel fod Milner yn credu nas gellir cael gwell Norman i'r swydd." Mewn llythyr arall at yr un boneddwr, yr hwn, ymddengvs sydd yn bur byddysg yn hanes dadblygiadou Daheu Affrica, dywed goruchwyl- iwr Eckstein mai y dyn sydd arnynt hwy eisiau ydyw Ymherodrwr, ac y byddai iddo chwareu rhan bwysicach na Syr A Milner. Gofidia Mr Evans hefyd fod y Chronicle ar rai adegau yn amddiffyn y Boeriaid. Yr oedd, modd bynag, yn ol yr ysgrifenydd, berygl mawr mewn cysylltiad & phenodiad Norman, oher- wydd ei fod yn ddyn hollol uniawn a didder- bynwyneb;" ond yn y diwedd, dywed Mr Evans y "gall arian wneud llawer," ac yn mhen yspaid y byddai i Mr Norman gefnogi polisi Syr A Milner. CYFLOG MAWR. Dywed Mr Evans hefyd y gellid ycbwanegu y 2,500p o gyflog a nododd ef o'r blaen, ac nad oedd achos i Mr Griffith benderfynu ar unrhyw swm. GWRTHODA MR NORMAN. Siom drom i oruchwyliwr Eckstein ydoedd derbyn llythyr oddiwrth Mr Griffith, yn sicr- hau na dderbyniai Mr Norman mo olygiaeth y Star. Ond y mae efe yn argymhell dan eraill. Yn mis Medi 1898, ysgrifenodd Mr Evans dracbefn at Mr Griffith yn diolch iddo am y drafferth A gymerodd gyda'r mater hwn, ac yn ei sicrhau fod achos yr arianwyr mor "sownd a'r gloch," tra yr oedd eiddo'r Arlywydd Kruger yn bwdredig. Unwaith yn rhagor, dywedai ei fod yn dra awyddus i sicrhau gwasanaeth Norman, am i Syr A. Milner sylwi mai Norman fyddai'r goreu i'r awydd a daw cwestiwn y tal i'r gwyneb eto; medd Mr Evans, "Cofi weh y bydd ini dalu pris nchel i'r dyn iawn." Ebe'r Leader, cynygiwyd y swydd o olygydd cl y Johannesburg Sun i bedwar yn Llundain yn olynol, a derbyniwyd hi am 3,000p gan an o so,rl w ysgrifenwyr swyddfa y Times. Dyma'r tro cyntaf, ebe'r Leader, ini weled enw Mr Ellis Griffith yn y drafodaeth. Y Norman y cyfeirir atoydyw Mr Henry Norman, yr hwn y pryd hyny oedd yn is-olygydd yn swyddfa'r Chronicle.
-0-Cyrddau y Dyfodol, &o.
-0- Cyrddau y Dyfodol, &o. Mehefin 16-Eisteddfed Wigan. Mehefin 17-Cylchwyl Flynyddol Wesleyaid Shaw Street Mehefin 17, fcc—Cylchwyl y Genadaeth Gartrefol yn Myn- ydd Seion. Mehefin 17-Cyfarfod Chwarterol Annibynwyr Seacombe. Mehefin 17 ,&c-Cyfarfodydd Pregethu Trinity Ro (A),Bootle Mehefin 21—Eisteddfod Gadeiriol Cerygydrudion. Mehefin 24-Cyfarfod Pregethu Annibynwyr Kensington. Gorph. 4-Rehearsal Cor yr Eisteddfod. Medi 18, &c-Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl. Rhag 26- Eisteddfod Temlwyr Da Lerpwl. -;u;-
LieoS
LieoS Dywedir yn fynych nad yw'r Cymry yn cael eu cynrychioli fel y dylent, yn ol eu rhif a'u gallu, ar gyrph cyhoeddus y tuallan i Gymru. Old yn nglyn a changen Lerpwl o Gymdeithas Teithwyr Maanach- ol y Dayrnas Gyfunol, yr hon sydd yn gymdeithas fawr a phwysig, y mae'r Cymry ar y blaen. Llenwir y swyddi o gadeirydd, is-gadeirydd, ac ysgrifenydd eleni gan dri Chymro, tra,'r llywydd ydyw Mr Ed- ward Evans, Y.H. Yn ystod wythnos y Sulgwyn, cynaliodd y gymdeithas ei chynadledd flynyddol yn Norwich, a chynrychiolid Lerpwl yno gan Mr Rees F Williams, y cadeirydd Mr E Collister Jones, yr ysgrifenydd Mr H W Greenberry, y trysorydd yn ngnyda Mri J Amity Jones, Ezra R >barts (Birken- head), au eraill. Cynelir y gynadledd y flwyddyn nesaf yn Lerpwl. WIGAN.—Fe gofia ein darllenwyr am yr Eisteddfod a gynelir yn Wigan prydnawn Sadwrn nesaf. Mae yno ragolygon am gyfarfodydd llewyrchus, gan fod y cvdtadi.euwyr yn lluosog, a deallwn fod rhai campwyr yn eu plitb Disgwylir deunaw o goran, a bydd hyny ynddo ei hun yu ddigon o atdyniad. Beohgyn Ler- pwl fydd yno yn ilywyddu, arwain a beirniadu, a cban fod trenau arbenig a chyfleus yn rhedeg o'r ddinas, diau yr a llawer o'n oyd-drefwyr i fwynhau y wledd.
[No title]
0 Yn Nghaernarfon hawliai J Crosdale 300p o iawn oddiar yr un ewmui oherwydd iddo golli ei fab tra yn eu gwasanaeth. Ar y 25ain 0 Hydref diweddaf gweithiai y llanc o dan crane uchel, oddiar yr hwn J syrthiodd bar o haiarn ar ei ben, a bu farw o'r niweidiau a dderbyniodd. Hawlid i'r ddamwain ddigwydd oherwydd rhyw anaf yn y banlawr ar yr hwn y symudai y crane, diffyg medr y dyn oedd yn ei weithio, a'r cynllun peryglus o'i weithio. Rhoes Mr Stenning dystiolaeth ar ran y diffynyddion, a chyfeiriodd at amryw achosion cyffelyb. Gohiriodd y Barnwr ei ddyfarniad.
Y RHYFEL.
Y RHYFEL. Anffawd i Gorphlu Prydeinig. DDIWEDD yr wythnos, derbyniodd Swyddfa Rhyfel y genadwri ganlynol Oddiwrth Arglwydd Roberts at Ysgrifenydd Rhyfel. Gorsaf Pretoria, Mehefin 5ed. Drwg genyf hysbysu fod 13eg Bataliwn o'r Meirchfilwyr Ymherodrol wedi gorfod ymostwng i gorphlu llawer mwy o'r gelyn ar yr 31ain o Fai, ger Lindley. Pan gefais hysbysrwvdd fod ymosodiad yn cael ei wneud ar y bataliwn, gorchymynais i Arglwydd Methuen fyned i'w cynorthwyo mor gyflym ag y gallai. Yr oedd Methuen ar y pryd bellder o ftordd ar ochr Heilbron i Kroonstad, a chychwynodd ar ei daith yn mhen haner awr ar ol derbyn fy mhellebyr. Erbyn deg o'r gloch boreu dranoeth, yr oedd wedi teithio 44 0 filldiroedd mewn pum awr ar hugain, ond er hyny yn rhy hwyr i waredu Yeoman- ry Spragge. Ymosododd Methuen ar rhwng dwy a thair mil o r Boeriaid, ac ar ol brwydr gyndyn, gwasgarwyd y gelyn yn llwyr. Mae yn ddigwyddiad pur otidus, ond gobeithiaf na fydd yr amser yn faith cyn y bydd y Meirchfilwyr wedi eu rhyddhau o'u caethiwed." Newydd cyffrous o Bloemfontein. CYMUNDEB ROBEHTS WEDI EI DORI. Cyhoeddwyd y pellebyr canlynol nos Sadwrn, o Capetown Mehefin Sfed. Kelly-Kenny a hysbysa o Bloemfontein fod gwifrau y pellebyr wedi eu tori yn Roodeval, i'r gogledd o Kroonstad, gan gorph o Foeriaid yn rhifo tua 2,000 0 wvr, gyda chwech o faes-gyflegrau. "Mae Kelly-Kenny yn anfon adgyfnerthion grymus i Kroonstad, ac yr wyf finau yn anfon byddin o Cape Colony. Gobeithiaf na fydd y rhwystr ond Y mae Roodeval ar y reilffordd 30 milldir o Kroonstad, ar linell unionsyth cymundeb Arglwydd Roberts. Anffawd arali. Pellebyr arall a dderbyniwyd ddydd Llun o Cape- town a gynwysa hysbysiad 0 Bloemfontein oddiwrth y Cadfridog Kelly-Kenny. Dywed i frwydr ffyrnig gymeryd lie ddydd Gwener rhwng Arglwydd Methu- en a'r gelyn i'r dehau o Heilbron, lie yr adroddid fod Colvile gyda brigad o'r Ucheldiroedd. Gadaw- odd Methuen Lindley ar y 5ed cyfisol, a digon o gyflenwad iddo ei hun a Colvile, gan adael Paget i ddal Lindley gyda digon o wyr a chyflenwad Gor- esgynodd y Boeriaid y wlad i'r gogledd o Kroon- stad, torasant yr holl wifrau pellebrol, dinystriasant ugain milldir o'r reilffordd, ac ymosodasant ar Gatrawd y 4ydd Derbyshire (Sherwood Foresters), y rhai oedd yn gwylied y llinell yn Roodeval. Cy- merodd y frwydr le ddydd Iau, yr hon a drodd allan yn fuddugoliaeth lwyr i'r gelyn. Dywediri'n byddin golli 95 mewn lladd a chlwyfo, ac i'r gweddill gael eu cymeryd yn garcharorion. Bataliwn o Filisia ydvw'r rhai hyn, y rhai a nurt- iwyd yn Manceinion, ac yno yr arosasant hyd nes yr anfonwyd hwy LDdeheudir Affrica fis lonawr di- weddar. Rhifent yr adeg hono 780 o wyr. Felly, yn ol y newyddion diweddaf, y maent oil wedi eu lladd, eu clwyfo, neu eu cymeryd yn garcharorion. Symudiadau Buller. Dal i wthio yn ei flaen yr oedd Buller ddiwedd yr wythnos. Ar y 6ed cyfisol, meddianwyd Bryn Van Wyk gan frighd 0 geffylau ysgeitn Deheu Affrica, ar ol gwrthsafiad cyndyn y gelyn. Lladdwyd ped- war a chlwyfwyd 13 o'r Prydeiniaid. Y diwrnod canlynol, cafwyd dau wn mawra dwy fagnel lynges- 01 i ben y bryn, a dau wn llai i lethr de-orllewin Inkwelo. 0 dan amddiffyniad y gynau hyn, ymosodwyd ar y llethrau rhwng Bwlch Botha ac Inkwelo. Plan- iwyd y rhuthr yn dda gan Hildyard, a chariwyd ef allan gyda gwrhydri gan y milwyr. Llwyddasant i fyned 0 amgylch y gelyn, nes eu gorfodi i gilio o u hamddiffynfa er mor gadarn ydoedd. Trwy hyn enillwyd safle o'r hon y gellid gwneud Laing-s Nek yn anniffynadwy. „ Gyda chryn anhawsder y caed y wageni i fynu r bwlch gan mor serth ydoedd. Canfyddwyd y rhifai y gelyn oddeutu dwy fil, ond ciliasant oddeutu 26 milldir i'r gogledd-orllewin. Baden-Powell wedi symud. Y mae yr Uch-Gadfridog Baden-Powell wedi symud ei bencadlys i Ottoshop, a'r Cadfridog Hunter a'i adran wedi gwneud Mafeking yn ganolbwynt. Ddydd Gwener, meddianwyd Lichtenburg gan y Cadfridog Barton. 1, i Y mae'r Boeriaid yn y cymydogaethau cylchynol yn parhau i roddi eu harfau i lawr, ac i dderbyn am- ddiffyniad y milwyr Prydeinig yn erbyn y brodorion, y rhai sydd yn dechreu aflonyddu. Bu y Baralongs mewn ysgarmes ar lan yr afon Harts, a llwyddwyd i gymeryd nifer mawr o wartheg. Y mae'r cyflenwad dwfr wedi ei adnewyddu yn Mafeking, a'r cymundeb gyda'r pellebyr a'r reil- ffordd wedi ei adnewyddu i'r dehau er canol yr wythnos ddiweddaf. Symudiadau yn y Transvaal. Ddechreu yr wythnos, yr oedd y Cadfridog Rundle yn Hammonia, ac yn gallu cydweithredu a'r Adran Drefedigaethol sydd dan y Cadfridog Brabant yn Fieksburg. Hysbysid fod oddeutu chwe' chant o Foeriaid wedi rhoddi eu harfau i fynu yn ardal Ficksburg, ond fod byddin o bedair mil wedi myned i gyfeiriad Bethlehem. Dydd Gwener, ymwelodd dau synrychiolwr Boeraidd a'r Cadfridog Bundle, a chawsant ymddyddan maith, ond ni wyddis beth oedd amcan y cyrarlyddiaa. Yn ardaloedd gorllewinol y Transvaal, y mae y Cadfridog Hunter a'r Milwriad Plumer yn symuft yn mlaen yn gyflym. Ar ol meddianu Ventersdorp, y mae y Cadfridog Hunter jn teithio yn mlaen i Potchefstroom, tra y mae y Milwriad Plumer yn agoshau at Rustenburg. Y mae Ventersdorp oddeu- tu 30 milldir o Potchefstrom; a Rustenburg 55 milldir i'r gorllewin o Pretoria. Buller yn Nhrefedigaeth yr Orange. Ddydd Sul, cyrhaeddodd Syr Redvers Buller i safle gyfleus lie mae'r afonydd Klip a Gansolei yn uno a'u gilydd, bymtheng milldir i'r gorllewin o Laing's Nek, yn nhiriogaeth yr Orange. Rhed yr afon Klip o'r gogledd i'r gorllewin, yn gyfochrog a reilffordd Charlestown a Johannesburg, ond 0 ugain i bum milldir ar hugain oddiwrthi. Bu raid tamo ar y gelyn droion cyn cyrhaedd y safle hon, ac am cangyfrifir eu bod yn rhifo oddeutu tair mil. Yr oedd yn amlwg eu bod hwythau am feddianu y safle hon, ond gorfodwyd hwy i encilio a flaen tanbeleni ein magnelau mawrion. Gwnaeth ceffylau ysgeifn Deheudir Affrica a brigad y Meirchfilwyr wasanaeth gwerthfawr yn yr ymdaith, a'r fagnelfa dan ofal Major Ray, R.N., a Capten Jones, R.N. Nid oedd yr anffodion rhwng Laing's Nek a'r afon Klip, ond chwech wedi eu lladd a saith wedi eu clwyfo. Bu'ler yn y Transvaal. Y newydd diweddaf ydyw am lwyddiant y Cad- fridog Buller i yru y Boeriaid ar ffo, gan adael yn llwyr eu safleoedd cedyrn yn Laing's Nek a Majuba. Cymerodd brwydr le ddydd Llun yn agos i Charles- town, lie yr oedd y gelyn mewn nifer luosog gydag amryw fagnelau. Catrawd Dorset gymerodd y rhan fwyaf blaenllaw, a chyda blaen y bidog y gorfodasant y gelyn i encilio; a gwnaeth brigad y meirchfilwyr wasananaeth gwerthfawr. Ni wyddis beth oedd ein colledion, ond tybiai Buller eu bod dan gant. Erbyn ddydd Mawrth gwersyllai byddin Syr Redvers Buller bedair milldir i'r gogledd o Volks- rust yn y Transvaal, ond methodd ar ei daith a chymeryd dim o'r gelyn yn garcharorion, na medd- ianu eu magnelau. BIRMINGHAM.—Cynaliwyd cyfarfod arbenig o Gymdeithas Cymru Fydd, nos Wener diweddaf, i gjrflwyno anrheg fechan i'w hysgrifenydd ffyddlawn Mr R. O. Morgan (gynt o Lerpwl), ar achlysur o'i briodas a Miss Kate Pritchard, merch Mr Pritchard, adeiladydd, Burbury Street. Caed cyfarfod hwyliog. Wedi i'r llywydd egluro amcan y cyfarfod ,cyflwynodd y trysorydd, Mr R. Jervis, i Mr Morgan Swan Foun- tain Pen aur gwerthfawr, a datganodd ei lawenydd o'r fraint i wneud hyny o wasanaeth ar ran y gym- deithas, gan fod diwydrwydd ac ymroddiad y cyfaill yn haeddu hyny. Siaradodd amryw o'r aelodau, canwyd caneuon, adroddwyd englynion, a diolch- odd Mr Morgan yn gynes iddynt. Penderfynodd Cynghor Dosbarth Dinesig Llan- gollen yr wythnos ddiweddaf fenthyca, yn unol a chaniatad Bwrdd Llywodraeth Leol, 4,151p. at ail osod pibelli dwfr, &c.
Advertising
CAPEL I-KNIBYNOL KENSINGTON. CYFARFOD PREGETHU, MEHEFIN 24aiii, 1900. Pregethir am 10-30, 2-30, a 6, gan y Proff. J. E. LLOYD, M.A, Coleg y Brifysgol Bangor. Capel y Wesleyaid Shaw Street. Cynelir Cylchwyl Flynyddol Yr Ysgol Sabbothol, DYDD SUL, MEHEFIN 17, 1900. Pregethir am 10-30 a 6 o'r gloch, gan y Parch W. O. EVANS, Birkenhead. Am 2-30 yn y prydnawn pregethir yn Saesneg gan y Parch W. O. EVANS. Gwneir Casgliad yn mhob oedfa at drysorfa yr Ysgol Darperir te yn yr Ysgoldy am 4c yr un. Eglwys Annibynol Clarendon Road, SEACOMBE. Cynelir Cyfarfod Chwarterol, SAB BOTH NESAF, MEHEFIN 17eg, 1900, Pregethir am 10-30, 2-30, a 6 o'r gloch gan y Parch. R. P. WILLIAMS, Caergybi. Eglwys Annibynoi Trinity Road, Bootie, Cynelir cyfres 0 GYFAPDYDD PREGETRU, yn nglyn ag AGORIAD Y CAPEL NEWYDD, yn y drefn a ganlyn SABBOTH, MEHEFIN 17eg, 1900, Pregethir am 10-30 ac am 6 o'r gloch gan y Parch T. ELI EVANS, ac am 2, gan y Parch S. ROBERTS, Seacombe. Nos Lun am7-30, gan y Parchn THOS. EVANS, Peel Road, a D. ADAMS, B.A., Grove Street. Nos Fawrth am 7-30, gan y Parchn THOMAS EVANS, Peel Road, a WM. THOMAS, Marsh St Nos Iau am 7-30, gan y Parch H. PARRY THOMAS, Birkenhead. Nos Wener am 7-30, gan y Parch W. CAENOG JONES (W), Trinity Road, a J. HAWEN REES, Marsh Lane. Nos Sadwrn am 7-30, gan y Parch GRIFFITH ELLIS, M.A., Bootle. Gwneir casgliadau yn yr holl gyfarfodydd tuag at. y ddyled. COLEG Y GOGLEDD, BANGOR (Un o'r Colegau yn Mhrifysgol Cymru). Prifathraw: H. R. REICHEL, M.A. Dechreua'r tymhor nesaf Hydref 2, 1900. Paratoir ar gyfer Arholiadau Prifysgol Cymru, rhai o eiddo Prifysgol Llundain, y Cvvrs Meddygol yn Mhrifysgolion Edinburgh a Glasgow, ac arholiadau eraill. Rhoir addysg arbenig mewn Amaethyddiaeth,ac Electrical Engineering. Mae yn y Coleg adran Normalaidd 'i athrawon elfenol a chanol- raddol. Cynygir dros 20 o ysgoloriaethau, yn amrywio mewn gwerth o L40 i £10 y flwyddyn i'r rhai fyddo'n ymaelodi yn y Coleg gyda dechreu y tymhor nesaf. Bydd haner yr Ysgoloriaethau yn gyfyngedig i Gymry. Declireuir yr arholiad am danynt Medi 18. Ceir pob manylion gan JOHN EDWARD LLOYD, M.A., Ysgrifenydd a Chofrestrydd. rhe Liverpool Royal National Eisteddfod OHOIR. Grand Open Rehearsal [at HENGLER'S CIRCUS, WEDNESDAY EVENING, JULY 4th, 19M. Doors open at 7. Commence at 7-45. Silver Collection will be made. ADMISSION FREE BY TICKET. rickets can be obtained from Members of the Com" mittee, Members of the Choir, and the Secretary, Mr R. D. GLYN ROBERis, 6, Eversley Street. MJNJDD SEION, PRINCES AVENUE. Cynelir Cylcliwyl y Ger^adaetli Gartrefol SABBOTH, MEHEFIN 17, 1900, Pregethir am 10-30 yn y boreu gan y Parohedig RICHARD LLOYD daNES, ac am 6 o'r gloch gan y Parchedig PHILIP PRICE, Beaumaris. NOS IA U, MEHEFIN 21ain, 1900, rhoddir ail ddatganiad 0 Gantata boblogaidd Syr J Stainer, "THE CRUCIFIXION," gan GOR CERDDORFA MYNYDD SEION, Unawdwyr—Mr J. HALTON MORRIS, tenor Mr EDGAR BARRI, Baritone. Arweinydd, MrOADWALADR OWEN. Organ- ydd, Mr EDWARD WOODWARD (Organydd Wesley, Stanhope Street). Drysau yn agored am 7-30, a dechreuir yn brydlon am 8 o'r gloch. Mynediad i mewn yn rhad ond gwneir casghad arian tuag at drysorfa y Genadaeth Cartrefol. By order of the Trustees. FREEHOLD BUILDING LAND AND CHAPEIi IN SEACOMBE. BY MR. HENRY JONES. On Thursday; 21st June, at 3 o'clock p.m. in the Law Association Rooms, 14, Cook Street, Liverpool. A LL that PIECE OF LAND with Frontages to Brighton Street and Clarendon Road, and containing about 900 sqaare yards. Also the hand- some Modern MISSION CHAPEL therein erected. Tenure Freehold. For particulars apply to Mr Henry Jones, Pro- perty Auctioneer, 5, Cook Street (Telephone 1779); or jjto Messrs Oliver Jones, Billson & Co., 5, Cook Street, Liverpool. jyVERPOOL & NORTH WALES, REGULAR DAILY SAILINGS (Sundays included). P.S. ST. TUDNO OR ST. ELVIES, Leaving Prince's Stage at 10-45 a.m. daily for LlandudnOo- Beaumaris, Bangor, and Menai Bridge, due back at 7-30 p.m. Allowing over four hours ashore at Llandudno. For fares and all further particulars apply to the LIVER". POOL AND NORTH WALES STEAMSHIP Co.,LTD., T G BREW, Secretary, 20 WATER STREET, LIVERPOOL. Tel. No. 6366. H OL YHEAD.-To let, comfortably furnished H. house, containing two sitting-rooms, five bed- rooms, bathroom (hot and cold), good kitchen and- usual offices, one acre walled-in grounds excellent) water and sanitation, bracing air, commanding splendid mountain and sea views, ten minutes walk from town and beach. Terms 2 guineas per week.- Apply MRs WILLIAMS, Brynsiriol. LLETTY yn eisiau gan ddyn ieuanc gydatheula crefyddol yn Liverpool. Rhaid i'r termau fod yn rhesymol. Ymofyner P," Swyddfa'f Cymro.
Family Notices
eaNEDIGAETHAU, PRIODASAU MARWOLAETHAU. J ones- Mehefin 4, priod W Jones, Tanyffordd, Llandderfel, ar efeilliaid-mab a merch. Lewis-Mehefin 3, yn 23 Burlington Gardens, Acton, priod H R Lewis, ar fab. Roberts— Meh 3, priod R Roberts, gorsaf-feistr, Cynwyd, ar fab. Ottooasau. Hughes—Thomas—Meh 6, yn y Tabernacl Newydd, Caer gybi, gan y Parchn W Griffiths a R P Williams, Caer- gybi, a W Wynn Davies, Lerpwl, R H Hughes, Lerpwl, » Jennie, merch hynaf Capten R Thomas (Reilffordd y L & N Western). Jones—Price—Meh. 6, yn nghapel M.C. Llandrillo, Edeyrn- ion, gan y Parchn J R Ellis a Rhys Jones, J R Jones, argraphydd, Beaumaris, a Mary Price, Wern, Llandrillo. Roberts—Davies—Meh. 2, yn nghapel Tegid, Bala, ganJf Parch R II Jones, Ellis Roberta, Meiarth, Derwen, a L B Davies, Fedw, Bala. Thomas-Ellis-Mehefin 7, yn Nghapel y Bedyddwyr cym" raeg, Balliol Road, Bootle, gan v Parch Pedr Williams, William Thomas, dilledydd, ag Ann, gweddw y diweddaf Capten R Ellis, Bootle. arwolaetbau. Ellis-Meh 5, yn ddisyfyd, yn 139, Wellington Road, S, Catherine, anwyl briod Joseph Ellis. Edwards-Mch.,I, yn 75 mlwydd oed, Jane Edwards, Pare, Llanycil, ger y Bala. Owen- Meh. 3, yn 64 mlwydd oed, Sinah, anwyl briod John Owen, Ty'nycelyn, Llanfihangel Glyn Myfyr. Rich—Mehefin 5, yn Bryn yr Onen, ger y Wyddgrug, yn 27 oed, Robert, trydydd mab y diweddar William a Maria Rich. Williams—Meh 4, yn Boston, America, yn 19 oed, Ernest J2 Williams, nai David Morgan, 40 Rupert Lane. Williams—Meh 5, yn 27 Dodge Street, Edge Hill, Lydia, priod Thomas Williams.
Advertising
W. JONES, Dental Surgeon 29, High St., WAVERTREE SPECIAL ADVANTAGES. 1 All that is latest and best in Dental Surgery" 2 PERSONAL attention to each client.1 3 FREE Consultation. 4 Nitrous Oxide gas at low rates, when necessary in preparing for New Teeth. 5 A large selection of DAINTY I EETH, ;-to suit every Variety of Face and Beauty BETTER and PRETTIER than those supplied at double the price by Dentists in West end of London. 6 &3TSiaredir Cymraeg neu Saesneg. Telephone 25 Wavertree. I Printed and Published by ISAAC FOULKES at his Printing Establishment, 8, Paradise Street 10 the Parish of Liverpool, in the County ol t Lancster Telephone 7426 (Central