Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Cymdeitftasfa Chwartarol Mothodistiald…

-0---Gymanfa y Waslovalci

"YR HYN A DDYWED PAWB."

Y cldiweddar Mr Ciadstoiie.I

——ojI Yr Yspytty Gymreig yn…

--0-! Angladd y Cyn-Esgob…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

--0-- Angladd y Cyn-Esgob Ayle. Cymeeodd angladd y diweddar Esgob Ryle le yn Eglwys Plwyf Childwall, ger Lerpyvl, ddydd lau diweddaf. Symudwyd y corph o Lowestoft y diwrnod blaenorol, a gadawyd ef dros nos yn yr Eglwys. Rhedwyd trenau arbenig o Lerpwl i Childwall, a chafwyd cyfleusderau teithio cyfleus o Southport a Warrington. Yr oedd clerigwyr yr esgobaeth, yn ogystal a gweilJidogioa o'r gwahanol enwadau, yn bresenol mewn nifer lluosog, tra yr oedd cynulliad mawr o leygwyr o hob cwr o'r wlad yn bresenol. Y prif alarwyr oeddynt Miss Ryle, merch yr esgob, a'r tri mab, Proff Ryle, Dr Ryle, a Mr Arthur Ryle. Am dri o'r gloch cynaliwyd gwasanaeth yn yr eglwys, pryd y cymerwyd rhan gan Dr Chavasse, olynydd Dr Ryle yn esgobaeth Lerpwl, yr esgob-gynorthwyol Royston, Arch- ddiacon Taylor, a'r Archddiacon Madden. Yr oedd yr arch o dderw plaen, a. chynwysai y plat ar y cauad yr ysgrif ganlynol:— Y Gwir Barchedig John Charles Ryle, D.D., ganwyd Mai 10, 1816; I bu farw Mehefin 10, 1900. Esgob cyntaf Lerpwl. I Gorseddwyd Gwyl Sant Barnabas, Mehefin 11,1880, ymneillduodd Mawrth 1, 1900." Yr oedd cant o I heddlu Lerpwl yn bresenol fel arwydd o barch. Cynaliwyd gwasanaeth ar yr un adeg yn eglwys St Pedr, Lerpwl. --0- I Mewn cyfarfod cyhoeddus yn Llandudno nos Wener, penodwyd pwyllgorau i wneud trefniadau ar gyfer arddangosiad cyhoeddus o lawenydd a ¡ dioichgarwch ar derfyn y rhyfel yn Neheudir Affrica. I Yn Geneva yr erys y Prifathraw Viriamu Jones, Caerdydd, o hyd, ond ymddengys ei fod yn graddol wella. Ysgrifena oddiynoyr wythnos ddiweddaf, a I dywed ei fod yn gallu cerdded tipyn o gwmpas, ac y sicrha ei feddyg ef y bydd yn hollol iach erbyn yr Hydref, pryd y disgwylia gael ail ymaflyd yn ei waith colegawl. Dydd lau, gosodwyd careg sylfaen i aden newydd mynachlog Sant Dewi yn Pkntasaph, yr hon a fwr- iedir ar gyfer newydd-ddyfodiaid. Bydd y rhlD newydd o'r adeilad yn 112 troedfedd o hyd, 34 troedfedd o led, a 54 troedfedd o uchder, a bydd y draul yn 7,0OOp. Gosodwyd y gareg sylfaen gan Arglwyddes Mostyn, a bendithiwyd hi gan Esgob Menevia (Dr Francis Mostyn, Gwrecsam).

._-SjfffradiiioS

Advertising