Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Goren Art, Art Dyøg." Ieau na'd ganawaith." Duvi a phob dsiori." CTKELXK EISTEDDFOD TEMLWYR DA LERPWL YN HOPE HALL, HOPE STREET, Dydd Mercher, Gwyl y Bane, Ehagfyr 26, 1900, PRIF DESTYNAU. AWDL Y GADAIR-Awdl (heb fod dros 400 o linellau), Yn gyfryw ag wyf a, ond y rhwymau hyn f Ar tan xxvi 29) Gwobr, £ 2 2s a Chadair Dderw,gwerth £ 4 4s. • LIBRETTO I GANTAWD (CANTATA) DDIRWESTOL, cyfaddas i gerddonaeth at wasanaeta PRIP^RAITJ^lw^D—T^ithwd^BkmiadS^r^y Liyfi%3'1' The Temperance Question and Social Reform,' gan Rowntr^e a tiherwili. Gwobr, £ 4 4s. „ p f1 i TRATTFT4WD (cvfvrigfcdis l Ferehed), Ein chwaer ayrthiedig. Gwobr, £ 1 la. iwrp r^arp Am Ft!IeTH GORAWL—I'r Cdr o Feibion (hebfod dan 35 na thros 50 mewnmfer) a gano p"«)' G™br W. » «">*» » Aiweiwdd 2.1, £ 5. rnwn^T? PHORATJ COMPETITION— not under 35 nor over 50 in number—for the bast rendering of Ciossing the Piaia (T Maldwyn Price). First Prize, £ 25 and a Gold Medal to the Conductor; Second Prize, £ 5.] 6te8ixc»el rhestr gylf-wa o'r Tes^nvx o-vi anfoa stainp at LLE W WYNNE, Tsgri/enydd, Ashfield, 98 Westboume HoaA, Biokeithead, MYNYDD SEION, PRINCES AYENUr. NOS IAU, MEHEFIN 21ain, 1900, rhoddir ail ddatganiad o Gantata boblogaidd Syr J Stainer, "THE CRUCIFIXION." gan GOR CERDDORFA MYNYDD SEION, Unawdwyr-Mr J. HALTON MORRIS, tenor Mr EDGAR BARRI, Baritone. Arweinydd, Mr OADWALADS OWEN. Organ- vdd, Mr EDWARD WOODWARD (Organydd Wesley, Stanhope Street). Drysau yu agored am 7 30, a deoareuir yn brydlon am 8 o'r gloch. Mynediad i mewn yn rhad ond gwneir easgliad avian taag at drysorfa y Genadaetn Cartrafol. CAPEL NNun'Not KESINCTON. CYFARFOD PREGETHU, MEHEFIN 2 fain, 1900. Pregethir am 10-30, 2-30, a 6, gan y Proff. J. E. LLO'YD, M.A, Coleg y Brifysgol Bangor. THE ROYAL NATIONAL EISTEDDFOD LIVERPOOL, SEPTEMBER 1900. THE Official Programs is now in course of preparation, :and Advertising Spaces may be secured on application to the Pub- lisher ISAAC FOULKES, 8 Paradise Street, Liverpool. Rhwymir Llyfrau YN Y MODD DIWEDDARAF AO AM Y PRISIAU RHATAF Ond ymofyn yn SWYDDFA'R .'CYMRO," Pellseinydd 7426 ARGRAPHU o bob math, Cymraeg a Saesneg, yn Swyddfar J' CïMO," 8, Paradise Street, LIVERPOOL Ar fyr rybudd, Yn ddeatlus, Tocynau, Rhagleni, Cylchlythyrau, Mur-leni Taflenl, Adroddialhu, Yatadegau, &a., &c. WALTHAM WATCHES are the best Timekeepers in the World. NONE SO ACCURATE NONE SO DURABLE. NONE SO CHEAP PriM in Silver from (1 a upward* „ in RolledGoId 50s „ If in lcet. Gold" 84s „ in ISct. Gold ,,£8 „ SOHIERWATER & LLOYD, Special Retail Agents, 29 Church Street, Liverpool. Telephone No. 233P. Telegrams-Marquea JSSTABUSHED HALF A CENTURY. HOWTRD S CART & WAC3H3M SHEETS, Tarpaulins, Horse Clothing, Nose Bags. I Tents, Marquees Temporary Awnings. TEMPORARY BALL-ROOMS Lighted, Decorated, Parquet Floor laid. 36, REDCftOSS STOET, LIVERPOOL Writ oc *&tid far Quotations. GLOVES A SPECIALITY. Cae Most Complete Sbjofc of Lid;<33' aa 'Jinldrati Gloves in Liverpool MILES' PATENT SEAMLESS GLOVES, 3/lli per pair, made from the finest French skins. Endless variety of Reliable Makes of Kid and Suede Gloves for Ladies at 1/6!, 1/11, 2/6;, and 2/11 per pair. Strong and Use,"al Eigii-ih L iatjher" ,Glove for Girls, Boys, or Infants at 1/Of, 1I6i. -and' 1111i per pair. TJENRY MILES & CO 25 and 25A, CHURCH STREET, (Opposite Pro Cathedral) LIVERPOOL.
CYNWYSIAD:
CYNWYSIAD: Phillip y Philistiad. Hen Sasiynau y Bala. Mr Wm. Jones a'i etholwyr. Beth am sedd Mr Lloyd-George? Y Cyffro yn China. Y ddiweddar Mrs Gladstone. Cynghrair Mwnwyr Gogledd Cymru. Cymanfa Gyffredinol y Methodistiaid. Dadgorphonad y Senedd
PHILLIP Y PHILISTIAD.
PHILLIP Y PHILISTIAD. HWYRACH fod rhai o'n darllenwyr yn cofio clywed son am Mr Lionel Phillips hwyr- ach nad ydynt, Bu ganddo ran flaenllaw yn nygiad oddiamgylch y rhyfel. Yn un o bed war dedfrydwyd ef i farw gan Lyw- adraeth y Transvaal am deyrnfradwriaeth, a'r rhan flaenllaw a gymerodd yn rhuthr- gyrch Jameson ond trwy hynawsedd yr Arlywydd Kruger yn benaf, tynwyd y cortyn oddiam ei wddf ef a'i dri chyd- fradwr-a throsglwyddwyd hwy i farn y gyfraith Brydeinig, yr hon a fu yn dra thyner tuag atynt-mor dyner fel y maent er's cryn amser yn wyr a'u traed a'u tafod- au yn rhyddion. Ni ddylem ychwaith an- nghofio dweyd fod Mr Phillips yn aelod o gwmni arianog Werner, Beit, & Co., Johannesburg, cwmni sydd wedi dangos mawr ofal am fuddianau yr Outlander mewn gwahanol ffyrdd a moddion, fel y gwelwyd yn ein rhifyn diweddaf. Nid ydym yn cyhuddo Mr Phillips, mwy na'r ffirm y mae ef yn aelod mor amlwg ohoni, o anfedrusrwydd. Gofalodd Mri Werner, Beit & Co. am danynt eu hunain a'ubudd- ianau y tuhwnt i bob canmoliaeth ac yna pa beth mwy naturiol i Mr Lionel na go- falu am fuddianau ei wlad, os nad yw yn perthyn i'r genedl hono na fedd hi yr un wlad. Yn yr yspryd rhagorol hwn y bu un diwrnod yr wythnos ddiweddaf yn Llundain yn traddodi darlith ar y "Rhag- olygon yn Neheudir Affrica." Fel y gall- esid disgwyl, daeth cynulliad lluosog yn nghyd i wrando Uitlander ac un sydd hefyd yn Gadeirydd y Mwnfeydd. Cymaint a hynyna am y rhagolygydd- y mae'n iawn ini wybod ychydig bob am- ser am yr athraw, gwleidyddol yn enwedig, cyn ystyried ei athrawiaeth. Ac yn awr am gynllun Mr Phillips i ddwyn trefn o'r annhrefn a ddygodd ef a'i fath ar Ddeheu- dir Affrica. Gellir dosbarthu ei gynghor- ion dan dri phen. Yn nghyntaf, pa fodd y rhanai ef ddyled y rhyfel rhwng y Fam- wlad a'r Drefedigaeth. Fel y gellid dis- gwyl, nid yw am roddi yr holl faich ar yr olaf, gan y llyffetheiriai hyny, meddai, ei dyfodol; ar yr un pryd, sylwa yn fwyn ryfeddol na ddylai hithau ddianc yn ddi- faich. Yn y geiriau hyn, diau ei fod yn datgan barn ei gyd arianwyr ac yntau. Ond y gwir yw mai cyfiawnder a fyddai gorfodi y rhai barodd y rhyfel i dalu am dani; a bu gan Uitlanders fel Werner, Beit, a'u cyfeillion a'u swyddogion, fwy i'w wneud a hyny na neb arall. Tegwch tuag at bawb a fyddai i Lywodraeth Pryd- ain gymeryd meddiant o bob gwaith a chloddfa aur a pherlau sydd yn y Trans- vaal a'u defnyddio i'w digolledu o'r hyn a wariodd yn benaf o'u herwydd. Onid oes diareb Saesneg mai y sawl alwant am y don sydd i daiu i'r crythor ? Dirwy fach ar Rhodes a Phillips a'u cyffelyb fyddai eu dodi yn ngharchar hyd oni thalent y ffyr- ling eithaf. Ond fe ddaw'r mamonwr cyfrwys a digydwybod allan o'r fèg yn bensych y talwr yn y pen draw fydd yp Ymherodraeth," wrth yr hyn y golygir, pan fyddo talu yn y cwestiwn, y trethdal- wr yn y wlad hon. Pan ddaw Mr Lionel at yr ail fater, sef iaith y gorchfygedig yn y dyfodol, ofnwn mai ychydig o'r cynghorwr doeth na'r han- esydd goleuedig a geir yn ei ymadroddion. Dyma ei syniadau Rnnv ychydig o debygolrwydd teuluaidd yn unig sjdd rhwng y Dwtsh a siaredir yn Nehau Affrica ag Is-Ellmynaeg Holland a chan na fedd ramadeg na lleoyddiaeth ar ei helw, rhaid iddi ddiflanu yn fuan. Yr iaith y gorfodid holl weision Llywodr- aeth y Transvaal i'w defnyddio a myned tan arholiad ynddi cyn y caent swydd ydoedd iaith Holland ac nid doeth na buddiol ydyw defnyddio iaith estronol yn yr Ymherodraeth. Os cefnogwn y Dwtshaeg, gellwch fod yn sicr y bydd i'r gelyn gy- meryd hyny yn arwydd o'n gwendid. Ynawr ydyw'r amser i Brydain Fawr ddangos yn mhob modd mai hi ydyw'r feistres." Dyna y Philistiad Seisnig i berffeith- rwydd, neu gynffonwr iddo. Y ffordd sicr- af i estyn oes y Dwtshaeg yn y Transvaal fyddai dilyn cynghor Mr Phillips. A fynai efe wneud Rwsia o Brydain, a Pholand o'r Transvaal ? Ai nid gwell tybed a tyddai i Loegr ymddwyn at iaith y Transvaal fel yr ymddygodd tuag at y Ffrancaeg yn Canada, at yr ieithoedd brodorol yn India, ac fel yr ymddyg yn ddiweddar i raddau helaeth yn Nghymru aty Gymraeg. Nid ymddengys ychwaith y gwyr y cynghorwr ymhongar ddigon o hanes cenedloedd gorchfygiedig i wybod nad yw difodieu hiaith yn un sicr- wydd o'u teyrngarwch. Cymerer y ty- el y lwythau Celtaidd. Pwy mor deyrngar a'r Cymry Cymraeg a'r Ysgotiaid Galaeg, ac mor annheyrngar a'r Gwyddelod y llethwyd eu hiaith gan y gorchfygwyr? Ond prin y byddai cynlluniau na chynghorion Mr L Phillips yn werth sylw, onibai ei fod yn cynrychioli y dosbarth achosodd y rhyfel ac yn engraipht o gulni, malais, a dial- garwch y dosbarth hwnw. Ond y pwnc mwyaf dyrys sydd o flaen Llywodraethwyr Deheu Affrica. a'r pwnc sydd wedi blino llawer ar yr Unol Daleith- iau, ydyw lliw croen y deiliaid. Y mae'r hyn a bregethir gan genhadon, ac a ddysg- ir gan Gristionogaeth, yn faen tramgwydd i Lywodraeth bresenol Lloegr. Ymgroesa yn sych-dduwicl rhag caethwasiaeth a'i drygau erchyll, cyhudda y Boeriaid ogreu- londeb at y brodorion, ac eto cyhoedda yn ddigon difloesgni na wna yr un cyfreithiau mo'r tro i'r bobl dduon ag i'r bobl wynion. Unwaith y cydnabyddir israddolder y Negro, agorir y drws i'r dyn gwyn wneud defnydd israddol ohono, naill ai fel caethwas, a than yr enw hwnw, neu mewn ffurf a than enw arall mwy hyfryd i'r glust. Llefara Mr Phillips yn ddigon di- bryder na wiw disgwyl y gellir llywodr- aethu y du a'r gwyn gyda'r un cyfreithiau, a'u cynysgaeddu a'r un breintiau. Druan o'r du, pan rydd Prydain, ei gyfaill goreu er's oesau, unrhyw sylw i gyfarwyddiadau dyn fel Lionel Phillips. Y mae ei ragolyg- on yn dduach na'i groen. Disgwylia Mr Phillips y bydd ymfudo mawr o Brydain i'r Transvaal a'r Dalaith Rydd pan ddybeno y rhyfel, ac yglynallu- aws o'r rhai aethant allan i ymladd yn y wlad, ac felly y bydd yno yn fuan fwy o Brydeiniaid nag o Ddwtsh. Ond dysgir ni gan hanes fod ymfudwyr fel hyn yn mhen oes neu ddwy yn fwy gwladgar na'r brodorion.
-0-CWOS Y BYD.
-0- CWOS Y BYD. Rhyfel China. OBLEGYD rhyfel ydyw a dim yn fyr o hyny. Fel y gwelir oddiwrth yr hanes byr sydd mewn colofn arall, cynbyrfus iawn ydyw'r ffurfafen, ac y mae'r ystorm eisoes wedi dechren na wyr yr un gweledydd na dewin pa le na pha bryd y terfyna. Y mae gweithredoedd o ryfel wedi eu cyflawni rhwng Rwsia, Ffrainc, Germani, Prydain, a Japan, ar y naill ochr, ac ar y llall yr Ymherodraeth fwyaf poblog ar y ddaear, yn cynwys, meddir, tua'r drydedd ran o'r hil ddynol. Nid oes ambeuaeth pwy a drecha yn y pen draw ond mor arswydus ydyw meddwl am y galanaadra a wneir o byn i hyny. Ac wedi dal yr ysglyfaeth, yr ysgyrnygu danedd a fydd wrth ei ranu. Y mae cymaint o ddrwg- deimlad yn awr rhwng Rwsia a Japan, fel y credir yn gyffredinol nad oes dim a'i boddlona ond rhyfel a'r cwestiwn difrifol i Brydain ydyw a all hi, gyda'r ysbryd ymladdgar mell- digaid sydd wedi ei godi ynddi yn ddiweddar, a bwnglerwch ei Llywodraeth, gadw o'r llynclyn ofnadwy. Yn lie anog ein gwyr ieuainc i ddysgu saethu, onid gwal) i Arglwydd Salisbury I a'i griw fyddai eu gwaredu rhag y chwareu peryglus hwnw. Modd bynag, os gadewir hwy yn hir mewn awdurdod bydd angen am y ddysg- eidiaeth. Dadgorphoriad y Senedd. NID oes gymaint o son am byn yn awr ag yd- oedd wythnosau yn ol a chredir yn lied gyffredinol na chymer etholiad le hyd yr hydref neu ddechreu y gauaf, os yn wir y flwyddyn hon. Ceisiwyd yn y Senedd nes Lun gael gan Mr Balfour roi rhyw oleuni ar y mater, ond bu y cais yn aflwyddianus. Y mae gan y Prif Weinidog hawl i ddadgorphori pan y gwelo oreu, ond yn unol ag arferion y Ty ac efallai nad yw gorchfygiad y Boeriaid yn ddigon Ilwyr eto i gyhwfan y faddugoliaeth o flaen yr ethol- wyr pwyllog ac ni wyddis yn iawn pa fodd yr aiff Lloegr yn mlaen yn China. Mr Wm. Jones &'i Etholwyr. NID ydym yn cydweled a Mr Jones ar fater gwaddoli Prifysgol Babyddol yn Iwerddon, ac nis gallwn ddeall pa fodd y gali yntau yn gyson & Rhyddfrydiaeth Gymreig er's oesau wneud hyny. Ar yr un pryd, yr ydym o galon yn cymeradwyo ymddygiad Bedyddwyr ei ethol- seth yn eu gwaith ychydig ddyddiau yn ol yn gwrthod eondemnjo Mr Jones ac am y rheswm nad yw y pwnc hwnw ya awr o flaen y senedd, nac i'w restru gyda'r hyn a elwir yn practical politics. Pan ddeio, diaa y bydd Me Jones, wedi adystyriaeth, ar yr ocur iawn, Beth am seda Mr Lloyd-George ? A GYLL Bwrdeisdrefi Arfon wasanaeth Mr George a'r anrhydedd mawr o gael eu cynrych- ioli ganddo yn y Senedd ? Wrth weled rhai o arweinwyr y Rhyddfrydwyr yn Nghaernarfon, Bangor, a manau eraill yn yr etholaeth cyn feddwed ar y gwag ogoniant a'r bwystfilwch sydd yn myn'd yn rnlaen yn Neheu Affrica a'r Toriaid ynfytaf sydd tuallan i Seilam Dinbych, ofnwn am ddyogelwch sadd yr aelod Cymreig mwyaf hyawdl sydd yn y Senedd. Colled i Ryddfrydiaeth Cymru fyddai gorchfygiad Mr George a dianrhydedd bythol i Fwrdeisdrefi Arfon fyddai ei wrthod a'r Rhyddfrydwyr blaenllaw hyny sydd wedi ymollwog o flaen y d6n o Jingoaeth gwallgof fydd yn gyfrifol am hyny. Fe aiff y llewygfa anmhwyJlog ryfelgar hon heibio yn fuan, ac yna pwy a gaut i ymladd am gydraddoideb crefyddol, am hawliau a iawn- derau dynoliaeth, ac egwyddorion tragwyddol Rhyddfrydiaeth, wed'yn ? Caerdydd a'i Haelod 'eneddol. MAE'N ddigon hysbys nad yw Toriaid Oaerdydd a'u cynrychiolydd, Mr Maclean, wedi cyd-dynu yn dda er's misoedd. Gwahaniaethant yn ben- af ar bwnc y rhyfel ac y mae'r Jingoaid Ceid- wadol wedi dewis ymgeisydd o'r enw Lawrence i ymladd eu brwydr yn yr Etholiad Cyffredinol. Bwriad presenol Mr Maclean ydyw apelio at yr etholwyr yn annibynel ar swyddogion y blaid ac ni fyddai'n syndod pa dychwelid ef, gan fod iddo ddylanwad mawr yn yr etholaeth fel prif berchenog y W(stern Mail; neu, o leiaf, os daw ef allan, ni etholir Lawrence. Yr ymgeis- ydd Rhyddfrydol ydyw Mr Robert Bird, cadeir- ydd y blaid, a bydd y frwydr, yn ol pob tebyg, rhyngddo ef a Mr Bird, gyda deg i un ar Bird. Yn yr etholiad diweddaf (1895), safai y pleld- iau :-MacleaD, 8,386 Reed, 7,562. Myn Caerdydd ini ei hystyried yn brif dref Cymru. Dylai prif dref y genedl fwyaf Rhydd- fiydig o'r pedair gael ei chynrychioli gan Rydd. frydwr, a hwuw yn Drymeo hefyd. Arwr y Rhyfel yn Gymro. DIM dadl am y peth. Yr oedd hen wraig yn byw yn Clifton rhyw chwarter canrif yn ol a fu yn nyrsio Arglwydd Roberts-chwedl y pryd- ydd, yn siglo cryd yr un a slglai fyd "—lawer- oedd o weithiau. General Abraham Roberts oedd enw tad Bobs," brodor o Gaerfyrddin, ac a ddaeth i fyw i Gaerfyrddin am yspaid o India, er mwyn ei iechyd. Yn yr amser bwnw, yr oedd yr hen wraig a nodwyd yn gog- yddes yn y teulu a chan iddi fyw yn hen a myn'd yn gymharol dlawd, cafodd lawer o gar- edigrwydd yn ei benainb g1.11 deulu Roberts. 11 Cyoaro parchus, sydd yn byw yn Lerpwl er's bfynyddau, ydyw fy awdurdod am yr hanes hwn yr oedd yn adwaen yr hen gogyddas yn dda yn Clifton, a dywedai y gellid dybynu ar ei geirwiredd ond nid oadd yn sicr (mae cymaint o amser) ai Abraham oedd enw'r tad, Mae'n wir mai yn [werddon y ganwyd y Maeslywydd, ond nid yw hyny o angenrheidrwydd yn rhwystr i'r stori uchod fod yn wir, ac mai yn ddiwedd arach y daeth y teulu i drigianu yn nhref ened igol y tad. Beth bynag dyna'r storl, ac yr wyf yn ei chy- hoeddi gan wybod y bydd ami ddarllenydd yn cilwenu yn amheus, ac yn dweyd mai ymgais arall ydyw I fcrofi fod pob dyn enwog yn Gymro. Yr enw Roberts. NID llawer o gyfenwau sydd mor Gymreig a Roberts, er mai Norman ydyw o ran dechreuad. Dengys hanes cyfenwau mor bendramwnwgl ydyw'r hen fyd yma. Dyna Roberts, Wil liams, Hughes, a Jones, nid Cymreig yn gyn- henid mo honynt, ond y mae tua dwy ran cr dair Cenedl y Cymry yn eael eu hadwaen wrth. ynt; tra y mae 11awn gynifer o Saeson yn dwyn yr enw Cadwaladr yn ei wahanol ffurfiau ag Bydd o Gymry. Nid oes deulu mor an-Nghym- roaidd yn Nghymru a'r Penrhyn a Pennant, nac yn mhlith y bendefigaeth enwau mwy Oym. reig; tra, o'r ochr arall, na chafwyd gwladgarwyr mwy pendant na'r Miltwniald a'r Salsbriaid yn y Gogledd a Nicolas a Stradling yn y Deheubarth. ) Gellid bod yn sicrbron mai Cym- ry cynhenid ar y cyntaf ydyw'r gawl sydd yn dwyn y cyfenwau yn dechreu gyda P neu B, megys Prys, Prydderch, Prisiart, &c., a diau fod Baden Powell yn hanu o rhyw linach Gym-