Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

------Dail To (Hen a Nevoydd).…

-0-Damwain yn Rhoetryfan.

Cymanfa Cyffredinol y Methodistlaid.

ANERCHIAD Y CSN-LYWYDU.

IChinaI

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I China GAN y clywir yn ystod y misoedd nesaf gryn lawer am y wlad fawr hon, fel maes rhyfel nesaf Lloegr, diau y bydd y ffeithiau canlynol yn ddyddorol I Titiogaeth eang yw China, yn ymestyn o ganolbarth Asia i'r dwyrain at y Tawelfor, ac o'r India i Siberia ya y gogledd, a chynwysa tua un rhan o dair o holl arwynebedd Asia. Y mae yn 2,475 o filldiroedd o hyd yn ei man hwyaf, a 2.100 milldir o le 1 yn y man lletaf, ac yn cynwys arwynebadd o 3,750,000 o filldiroedd ysgw&r, neu gymaint 42 gwaith a Phrydain Fawr. Gwneir yr ymherodraeth anferth hon i I fynu o China Frodorol, Corea, Manchuria, Mongolia, Kokonor, Thibet, a nifer o fan ynys- oedd. Cyn wyaa China Frodorol, yr hyn a olyg- ir yn gyffredin wrth 'China,' 1,336,841 o fill- diroedd ysgwâr, gyda phoblogaeth 0386,000,000, sef y wlad fwyaf boblog ar wyneb y ddaear. Y mae ynddi fynyddoedd uchel a lluosog, dyffryn- oedd llydain, hirion, a. gwastadeddau eang, breision. Cwyd y tir yn raddol o'r dwyrain i'r gorllewin a cban fod y pi if gadwynau o fyn- yddoedd yn rhedeg ar draws y wlad o'r dwyrain i'r gorllewin, rhed yr afonydd rnawrion, dyfn, ion, o'r gorllewin i'r dwyrain, gan ymarllwys yn y TAwelfor. Y mae un afon, yr Yang tae krang, yn 2,900 o filldiroedd o hyd, a dywedir nad oes un wlad yn cael ei dyfrhau yn well. Perthyn hinsawdd y wlad i'r hyn a elwir yn gymedrol, gan nad oes ond rhall fechan yn y dehau yn ymestyn i'r cylch trofegol (tropical zone). Er hyny, y mae'r gwres yn yr haf yn cyrhaedd o 90 i 100 o raddau yn y cysod. ac yn y gauaf y mae mor oer fel y cloir yr afonydd i fynn gan raw o Ragfyr i Fa wrth, a'r bob! yn gorfod newid eu sidanau am grwyn. Cynyrcha ei daear bron bobpeth ellid ei ddychymygu mewn llysiau, anifeiliaid, a mwnau, ond gan i'r wlad fod mor gauedig i dramoriaid hyd yn ddi- weddar, nid oes llawer o wybodaeth wedi ei gael ar y pethau hyn. Edrychir ar amaethydd. iaeth fel yr alwedigaeth ardderchocaf gan y Chineaid, ac nid oes bron droedfedd o dir heb ei amaethu ganddyot, ond ni fu cynydd na dadblygiad yn eu dull o drin y tir. Defoydd- iant heddyw yr un offerynau ag a ddefnyddid yno filoedd o flynyddoedd yn ol, ac ni fyn y Ohineaid eu dysgu, gan wrthod offerynau di- weddar y wlad hon gyda dirmyg. Reis ydyw prif.fwyd y bobl, a hwn felly amaethir yn fwyaf cyffredinol. Y mae'r wlad yn dryfrith o erddi t6, yr hwn a allforir i'r holl wledydd. Tyf y mulberry yn lluosog yno, a chan mai ar ffrwyth y pren hwn y mae'r pryf sidan yn byw, cyn- yrcbir yoo yn rhwydd ddigon o sidan, a dyma wisgoedd mwyaf cyff(edin y wlad, a rhydd waith i rai miliynau o bob!. Llywodraeth Ymherodrol sydd yno, ac y mae'r ffurf lywodraeth wedi ei sylfaenu ar gyn- llun rhagorol, oud uid yw'r cynllun yn cael ei gario allan. Rhenir y wlad i ddeunaw o ran- barthau, gyda llywodraethwr ar bob rhanbarth, yr hwn sydd yn ddarostyngedig yn mhob peth i'r Ymherawdwr. Cenedl baganaidd o eilun- addolwyr ydynt, ac anhawdd os nad anmhosibl ydyw eu troi at Gristionogaeth. Ni fynant newid eu crefydd mwy na'u harferion, ac nid ydynt ychwaith am gymysgu a. phobl eraill ond iddynt hwy gael llonydd. Y CYNHWRF YN CHINA. Gwedd ddifrifol iawn sydd ar bethau yn China yr wythnos hon, gan fod y symudiad yn erbyn tramorwyr ac yn erbyn Cristionogion—a gychwynwyd gan y gymdeithas ddirgel a ad- waenir fel y Boxers,' ac a dybir sydd yn cael cefnogaeth y Llywodraeth Chineaidd-yn enill nerth annghyffredin. Cyrhaeddodd hysbys- rwydd oddiyno yr wythnos ddiweddaf fod am- ryw danau wedi tori allan, a gychwynwyd gan derfysgwyr, a bod Cristionogion brodorol a gweision brodorol i Ewropeaid wedi eu liadd a'u llofruddio. Y mae'r gwahanol Alluoedd yn prysur anfon llougau rhyfel a milwfr i'r lie i amddiffyn eu hamrywiol fuddianau. Dydd Llun, cyrhaeddodd newyddion difrifol oddiyno. Ymddengys fod parotoadau wedi eu gwneud gan y Chineaid i wrthwynebu y galla- oedd tramor yn Tciku, gyda'r canlyniad i lyw yddion llongau y gwahanol wledydd, gyfarfod ar fwrdd baner-long Rwsia, a chytanasant i aufou ultimatum i'r awdurdodau Chineaidd, yn bawlio iddynt alw eu milwyr yn ol am amser penodol. Atebwyd hwy am un o'r gloch bore Sabboth trwy i'r gynau yn yr amddiffynfa gael eu tanio, ac atebwyd hwy ar unwaith gan y magnelau oddiar longau Prydain, Germani, Rwsia, Ffrainc, a Japan. Parhaodd y tanbelenu am saith awr, a chredir fod yr amddiffynfeydd wedi eu cymeryd a'u meddianu gan y milwyr tramor. Adroddir fod dwy long berthynol i Brydain wedi eu suddp yn yr afon rhwng yr amddiffynfeydd. Y mae'r reiiffyrid a'r gwifrau pellebrol rhwng Tientisin a Taka wedi eu di- nystrio, a'r cymundeb gyda dwfr hefyd yn cael ei fvgwth. Taniai y gwrthryfelwyr hefyd i'r sefydliadau tramor yn Tientsin. Oherwydd difrifwch y sefyllfa, y mae catrawd o wyr traed India wedi eu gorcbymyn ar un- waith i Hong Kong. Y mae milwyr American- aidd hefyd yn barod i gychwya taag yno. n Dydd Mawrth, derbyniodd Ysgrifenydd y Llynges yn Llundain, adroddiad swyddogol am yr hyn gymerodd le yn Taka ddydd Sul, fel y canlyn-" Agorodd y gynau o amddiffynfeydd Tak'l dan ar y llongau ar yr afon am un o'r gloch y boreu. Ar ol o chwech i saith awr o danio, dystawyd eu gynau, a meddianodd y tramorwyr yr amddiffynfa. Anfonwyd rhagcr o ddynion o'r llongau i ymosod ar yr amddiffyn- feydd eraill. Y llongau Prydeinig a gymerent ran yn yr ysgarmes oedd Algerine (sloop), Fame,' a Whiting (torpedo boat destroyers). Daliodd y ddwy olaf bedwar o torpedo boat de- stroyers y Chineaid. JNiweidiwyd ychydig ar y llong 4 Algernie ni wyddis pa nifer a laddwyd j ac a glwyfwyd."

....------IEisteddfod Genedlaetl^ol…

-0-CWOS Y BYD.