Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Y Bala a'i Han Saslynau

Dyffryn Clwyd.

-----"Ffoatiniog.!

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ffoatiniog. MANION. Harw fan dameidiau sydd genyf yr wythnos hon. Hwyrach y byddant yn haws eu treulio ar dro fel hyn; ac nid ydym heb wybod fod yn yr ardal hon amryw yn credu fod darllen Ilawer yn flinder i'r cnawd. Bu dau os nad rhagor o'r would-be M.P.'s dros Feirion ar ymweliad a'u hardal yr wythnos ddi- weddaf, gau wenu yn hael ac ysgwyd Haw a phawb. Gwneir sylvyadau llymion ar waith y boneddwyr (?) hyuy fuont mor hyfion a myned i bysgota wyth- nos i'r Sul diweddaf, gan bechu yn myw llygad deddf. Cofier mai rhyw ysbriglod o Saeson oeddynt, a'u nerth yn eu d gywilydd dra, a'u gogoniant yn eu nicar bocars. Os byddaut mor hyfion eto, mae yma lawer mor eiddigus dros sancteiddrwydd y Sabboth, na bydd ya ormod gauddynt eu dilyn bob cam a inalurio eu celfi. Bu achos gwarthus o athrod o Drawsfynydd yn cael ei drin mewn llys arbenig yn y Neuadd Gy- hoeddus yma yr wythnos ddiweddaf. Bl1 rhai o'r cyfreithwyr yn awgrymu y priodoldeb o droi yr holl ferched oedd yn y llys allaa ond gan fod y drafodaeth gan mwyaf yn cael ei chario yn mlaen yn Saesneg caaiatawyd iddynt aros. Onid yw yn syn fod yn ein plith ferched ieuainc golygus, allant hyfforddio gwisgo am danynt yn goegfalch, cerdded o bell ffordd, ac eistedd am oriau mewn llys i vvrando achos fel yr un y cyfeiriwyd ato. Ffei ohouynt. Dywedir fod holl swyddogion Chwarel Cwm- orfchiu wedi cael mis o rybudd, ac na bydd a wnelo y c wmai presenol a hwy ar ol hyny. Er mwyn yr ardal a'r wlad, hyderwn na bydd i'r chwarel sefyll, ac nad yw y rhybudd oud awgrym o gyfnewidiad pwysig. Ychydig iawn, meddanhw,aeth oddiyma i Sasiwn y Bala. Mae'n debyg mai amledd cyfarfodydd pre- gethu yn yr ardal sydd yn cyfrif am hyny. Mae modd afradloui beadithion yr Efengyl, cofier. Maes y mwd oedd maes y chwareuon nawa Sad- wrn diweddaf, gan i'r gwlaw ddyfod ac andwyo'r cyfau. Prin oedd yr edrychwyr, er fod y cystadl- euoa yn gamp us. Rhwng y g'.vlaw nawn Sadwrn a helynt Cadair Trawsfynydd ddydd Lluu y Sulgwyn, mae Crom- lechydd" mewn ysbrydoeddofnad wy. ZVevei, niiiid, my friend in khaki, let them go. Bwriada Cor Brynbowydd fyned i Eisteddfod Corwen, a threfnir cyngherdd wrth gwrs rywbryd yn Ngorphenaf. Mae Cyfrinfa Odyddol Ystradau yn disgwyl er's wythnosau am Sadwrn braf i "gerdrlecl;" gobeithio y cedwir hwy yn hir i aros am wneud dewisiad mor blentynaidd. Yn nhawelwch boreu Sabboth diweddaf bu farw yr hen wladwr duwiol a gweithiwr diwyd Rhobat William, Ty'ntwll." Bu yn flaenor ffyddlon yn nghapel Salem (A ) am dymhor maith. Mae liawer o bethau beudigedig i'w traethu am dano. Mae y Capel Bach," chwedl y diweddar Mr Robert Owen, Rhiw, wedi cael ergydion trymion yn duiweddar, a dau o'i golofnau cadarnaf wedi cwympo. Mae cryn waith llenwi ar le cymeriadau fel eiddo y diweddar Wm. Jones (Birkenhead), a Rbobet William. Bwriada Mr Wm. Stephen, y Llan, ddyfod yma am dro yr wythnos nesaf a'i gariad Esther gydag I ef. Chwareu teg i'r ddau, maent yn caulyn eu gilydd er's talwm. Chwith genym feddwl am ymadawiad Mr D. I Hughes, goruchwyliwr Ariandy Gogledd a Deheu- dir Cymru yn y Llan. Bydd y Gymdeithas En- weiriawl ar ei cholled yn ddirfawr. Yn Ysbytty Ifan y bu Morlwyd yn gwerthu ei dlysau tua'r Sulgwyn. Nis gwn fesur ei lwyddiant, ond cwynai yn eubyd, medda nhw, yn erbyn drud- aniaeth y cerbyd. Mae Glan Eifion yn cofio atoch, Mr Gol., ond credaf fod y Cymro wedi ei foicotio o'r Rhosydd hefyd. PRYDERI.

--0--Corau Cymreig i Paris.

--0-COLLI AC ENILL.

Ar Finton V BdyfrtSwy.

----0--. Nodion o Uwchaleii.

[No title]

Y MOR—GrWISGUEDD Y MOR.