Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

Cynghralr Mwnwyr Cogledd Cymru.I

--0--Prlodas Mr W. M. Ttiomas.

-0--Llythyr Lerpwl,

-0-I Eisteddfod Wigan.

-0-Colofn Oirwest

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

-0- Colofn Oirwest AKFONODD y cyfaill Lewis Roberts hanes yr isod erbyu y rhifyn diweddaf ond aeth ar gyreiliorn tua'r llythyrdy, ac nid yw eto wedi cyrhaedd. Diolch iddo am ei ail ysgrifeuu :— UWCH DEML GYMREIG CTMRCT. Cynaliwyd eisteddiad blynyddol yr uchod ya Aberystwyth Mehefin 4, 5 a 6. Nos Lun, am 6, cyfarfu nifer o bwyllgorau i drefnu ar gyfer yr eisteddiad ac am 8, cynaliwyd cyfarfod croesawol yn nghapel Sa em, tan lywydd- iaeth y Parch D R Williams. Siaradwyd ar ran cyfeiliiou Aberystwyth gan y cadeirydd, Mr Richd. Jones (o Demi Ystwyth"), a'r Parch \V E Wil- liams (B); ac ar ran yr U. Demi gan y Parch Rees Evans, Plenydd, a'r Prifathraw Pyper, Belfast. Agorvvyd yr U. Demi am 9 30 foreu Mercher gan yr U.B.D. Parch Rees Evans, Llanwrtyd, yn ys- goldy capel M C. Siloh, a daeth nifer dda o gyn- rychiolwyr ac aelodau yn nghyd. Derbyniwyd ad- roddiadau yr U.B.Demlydd, yr U. Ysgrifenydd y Parch 0 N Jones, yr U. Arol. Etholiadol, a'r U. Drysorydd Capt Thomns. Dangosai adroddiad y pwyllgor ariauol fod safle yr U. Demi yn foddhaol yn y cysylltiad hwnw, a phasiwyd i apetio at aelod- au ac eraill am danysgrifiadau at waith cenadol yr I Urdd, a derbyniwyd swm da yn yr U. Demi. Der- byniwyd adroddiadau ar Les yr Urdd a Themlau y Plant. Agorasid nifer o demlau newyddion yn ys- tod y flwyddyn, ond yr oedd nifer hefyd wedi peidio I gweithio, er gotid mawr i'r U. Demi. Cwynid yn dost o rai manau na ellid cael ystafell i gynal cyfar- fodydd, er fod yno rai gweigion yn nglyn a'r gwa- hanoi addoldai, oad am rhyw resymau a wrthodid eu rhoi at wasanaeth y Temlau. Penderfynwyd apelio at yr enwadau crefyddoi amfwy o gefnogaeth i Demlyddiaeth Dda. y t:> 0 Bu trafodaeth faith ar faterion gwleidyddol; a phasiwyd penderfyniad yn cefnogi yn wresog aw- grymiadau Argl. Peel ar ddiwygto y deddfau trwy- ddedol, ac eithrio adranau yr iawndal mewn arian ac amser, ac hefyd nad oeddym yu gweled unrhyw reswm tros dailu Bil y Direct Veto o'r neilldu, hyd yn nod am dymhor. Pasiwyd penderfyniad cryf yn galw ar arweinwyr crefyddoi ac ynadon i wrthwynebu trwyddedau neillduol i arddangosiadan amaethyddol, &c. I Etholwyd swyddogion am y flwyddyn ddyfodol fel y canlyn :— U.B.D.—Y Parch Rees, Llanwrtyd U. Cryug.-Parch John Williams, Abergwynfi. U.A.Etnoi.—Mr Lewis Roberts, Bootle. U.I.D.-Miss Williams, Gaerwou, Mon. U. Ysg.—Y Parch O N Jones, Pwllheii. U.Drys.—C*pt G B Tnomas, Caernarfon. U.A. T.Plant—Mr VV W Rosser, Abertawe. U.R. -Mr J Morris Jones, Dinbych. C. U. B. I). Y Parch Morris Morgan, Abertawe. U.G.-Y Parch Rees, Alltwen, Abertawe. D.W.D.U.D.—Mr Llew Wynne, Birkenhead. Gwnaed cais o Gaernarfon a Lerpwl am Uwch I Demi y fiwyddyn nesaf; caed mwyafrif o blaid Lerpwl. ':j Nos Fercher, yn nghapel Siloh, cynaliwyd cyfar- fod cyhoeddus tau lywyddiaeth yr Heuadur Wil- I liams (Maer y dref). Anerchwyd y cyfarfod gan y Parch Rees Evans, y Prifathraw Pyper, Plenydd, Mr Joseph Malins (Birmingham), a'r Parch H Barrow Williams (Llanduduo). Cynaliwyd cyfar- fod i r plant yn y prydnawn, tan lywyddiaeth y Parch Morris Morgau, a gorymdeithiwyd trwy y dref, yn cael eu blaenori gan y seindorf, ac yr oedd golwg ardderchog ar y plant a'r baneri. L.R. golwg ardderchog ar y plant a'r baneri. L.R. -0- Y mae bywoliaeth Beaumaris, aeth yn wag trwy farwolaeth y Parch J Williams-Meyrick, wedi ei chynyg gan Syr R H Williams-Bulkeley i'r Parch Thomas Lloyd, ficer Llanfaes cum-Penmon, ac yn- tau wedi ei derbyn.

ITABERNACL, NETHERFIELD ROAD.

CAPEL (A) GREAT MERSEY STIEET

[No title]

PWLPUDAU CYMREIG, Mehefin…

--IJ---Esgob Llanelwy a'r…

----_-.(':-_fin Cabell fu…