Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

--Cohebiaethau.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cohebiaethau. YR HYN A WELAIS AO A GLYWAIS YN EISTEDDFOD LLANSANNAN, Y SULGWYN. SYR, -Y tro o'r blaen y bum yo Llansannan oedd flwyddyn yn ol, pan oeddan nhw yn dadorchuddio y peth hwnw sydd yno-mae pawb yn gwybod am dano. Mi 'roedd mwy o son am dano fo cyn iddad- orchuddio fo nag sydd ar ol hyny ac yn siwr i chwi yr oedd mwv o son am Eisteddfod Llansannan eleni cyn iddi ddyfod nag sydd ar i hol hi, 'ddigtth ambell un. Mi welais yn yr Eisteddfod gymaint o bobol a^ oedd yno yn y dadorchuddio—ddim ilawn cymaiat o bobol fawr, hwyrach, ee fod yno rai go fawr yn yr Eisteddfod hefyd. Mi welais yno babell eang, a'i ¡ llon'd hi o bobol yn llawn yn mhob cyfarfod. Mi welais, ac mi glywais o ran hyny, chwech o gorau yn I cystadlu am y brif wobr, a phob un ohonynt yn canu yn ardderchog. Mi glywais Ffestin Jones yn dweyd wrth i barna nhw mai un o'r cystadleuon goreu a glywodd o 'rioed oedd hi, rhwng corau gwledig o'r fath. Mi welais gadeirio bardd da yn hynod o wael a Ilipa, arweinyddiaeth y sereinoni yn dila a dieffaith, a'r bardd yn edrach yr un fath a bydd dyn o dan law y barbwr yn caal tori ei wallt-hwyr gias gyno fo iddo fo ddarfod. Mi glywais Mis3 Teify Davies yn canu can y cadeirio nes gwneud tipyn o firi mwd yn y lle. li welais Mr Herbert Roberts, M. P., a'i briod hpwddgar yno, yn elrych mor fodlon a chym- fforddas a phe basi nhw ar orseddau ac mi wells Trebor Aled ar ei ddeulin o fiaen Mrs Herbert yn talu ei warogaeth fel pa ba-a hi ar orseid. Ddaru mi ddim dallt b J oedd yn myn'd yn mlaen ar y pryd efallai mai cael ei investio yr oedd o. Dyna beta arall a glywais yno oedd Ilawer iawn o iaith y S-juth 0 el ei siarad; rhflÍ o'r South oedd yr arweinycTdion ond mwy na. hyny oedd clywed un o froaorion y lie yn siurad "laith y South," a hyni yn fynieh fel din o'r South. Mi 'roedd y peth yn ferwindod i glustiau trigolion y parthau, sydd yn gwybod na fu y brodor yn y South, ond ar i dro. Mi fydda i yn meddw), Mr Golygydd, fod tipvn o gomon sens yn fwy o bolp i ddyn o tiaen pobol na'r sens arall hwnw, waeth os ua bydd comon sens mae'r llall yn cael ei sbwylio ry wsut Be ydach chi yn i fediwl, syr ? Ua da iawn ydach chi am ed rych ai bethe yn ngoleuni cornon sens. Mi gafwyd Eisteddfod lwyddianus a llewyrcnus iawn, a mae'n siwr fod y pwyllgor y tu gora i'r clawdd o ddigon, -Yr eiddoch, TOMOS Huws. YN EISIEU. -.KNSODDEI RIAU. I MR GOL.-Nis gwn a ydych chwi, syr, mewn eisieu o'r nwyddau uchod yn eich swyddfa, neu rai o'ch brodyr Ilengar mewn gwewyr pan mewo ymdreoh i greu ansoddair nice, at eu gwasanaeth. Pcsibl y gallwn ni yn yr ynys hou eich cynorthwyo. Gwelais mewn newyddiadur a gyhoeddir yma y I frawddog a ganlyn :—" Gwasawaethir yn Nghymanfa Llangefni eleni ar y 14 a'r 15fed cyfisol gan y pre- getbwyr canlynol :—Yr amryddawn Iorwerth Ddu, Maesteg; yr hyawdl-ymroddol a chymhellol Idwal Jones, Forth yr athronfardd brc-gethwr Pedr Hir, Lerpwl; y moesog bregethwr miniog W S Jones, Cae fyrddiu, yn cael eu eymysgu ag un o ben Jd y wlad yr efengylaidd Daniel Davies, Gapal Gwyn.' Gwnaeth Ceiriog, o fendigedig goffadwriaeth. lawer o hwyl o'r peiriant englynu, a galiaf dybio fod p3ir- iant wedi ei ddarganfod i greu ansoddeiriau. Os nad yw geiriau bostfawr fel yna am bregethwyr yr efengyl yn blaut y Philistiaid, ao yn arogli yn gryf iawn o cant, nis gwn beth sydd felly. Y syml a'r natunol pia hi, bobl bach.—Yr eiddoch, DAFTDD DAFIS. SWYDDOGION CYHOEDDUS M,C. LERPWL YN 1882. SYR,-Caniatewch i mi alw eich sylw at rai cam- gymeriadau yn Ilythyr "Boaz"yn y Cymro ar y mater uchod.. 1 Gweinidogion—Wedi ei adael allan: xC o ±vo* berts, Egremont, yr hwn sydd eto yn fyw yn Aws- tralia, ond nis gwn a ydyw yn weinidog gyda rhyw enwad; nid ydyw, mi gredaf, gyda'r Mechodistiaid. Nid yw E J Evans, Southport, i lawr-yn awr o Walton ond y rheswm, yr ydwyf yn tybio, ydyw mai yn Southport, y tuallan i Lerpwl, yr oedd y pryd hwnw. 2. Pregethwyr—John 'Williams: yn awr yn wein- idog. J Isaac Jones: dylasai fod yn J Isaac Hughe3; yn awr yn weinidog yn yr Unol Dalaethau. John R Evana: heb ei enwi. 3 Biaenoriaid — D Jon?s, St James Road: wedi marw. W Morgan, Elm Bank: wedi marw. o Williams, Merton Road i lawr "wedi marw y ruae yn fyw. ac ya aelod yn Princes Road, Bangor, ond nid yn flaenor. W Jones, Bedford Terrace: wedi marw yr oedd wedi ymddiswyddo ryw gy- maint o amber cyn ei farwolaeth. M.

---0-Birkenhead.

----I Yr Ysbytty Cymreig yn…

-. Y RHYFEL.

Angladd Mrs. Cladstone.

.Cyrddau y Dyfodol, &o.

Marchnadoedd.I

Advertising

Family Notices

Advertising