Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

,Symatita Gyffredinol y MetfKxiistlaid

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

,Symatita Gyffredinol y MetfKxiistlaid PARHAWYD cyfarfodydd y Gymanfa yn Llanberis 4dydd Mercher diweddaf. Y peth cyntaf yn y boreu cynaliwyd gwasanaeth yn yr hwn y gweinyddwyd yr Ordinbad o Swper yr Arglwydd. Llywyddai y Parch J J Roberts (y Cymedrolwr), a dechreuwyd y cyfarfodgan y Parch E Roberts, Dolgellau. Traddodwyd anerchiad gt n y Parch W John, Penybont, ac awd a'r elfenau .oddiamgylch gan nifer o weinidogion. Terfynwyd -trwy weddi gau y Parch Daniel Lewis, Peamorfa. Y Cenadaethau Tramor. Am ddeg o'r gloch cynaliwyd eisteddiad rheolaidd y Gymanfa, a derbyniwyd yr ymweiwyr o'r Amer- ica yn aelodau mygedol. Yn absenoldeb y Parch Josiah Thomas, Lerpwl, trwy atiechyd, cyflwynwyd adroddiad pwyllgor gweithiol y Geaadaeth Dramor gau y Parcha E J Evans, Walton, a G Ellis, Bootle. Yr oedd yn un o'r adroddiadau mwyaf calonogol a gyflwyawyd er- ioed, mor bell ag yr elai cynydd y gwaith. Tystiol- aeth uufrydol y cenadon ydoedd fod y gwaith yn ymestyn ar bob Ilaw. Yn Khasia yr oedd yr eg- lwysi brodorol yn dechreu troi cenadou allau, a'r .cwestiwn o osod yr eglwysi ar safle hunan-gyrialiol yn cae I ei ystyried. Yroeddyntwedisefydluhefyd drysorfa cenadaeth gaitrefol, ac yn prysur gasglu arian. Deuai adroddiadau calonog hefyd p Sylhes a Llydaw. Cynwysa Khasia, Jaintia, Sylhet, Ca- char, a Lushai ;355 o eglwysi a gorsafoedd pregethu; gweinidogioa, 28-cynydd o dri am y flwyddyn pregethwyr, 52-cynydd o 26 cyinunwyr, 4,237— .cynydd o 641; ymgeiswyr am aelodaeth, 3,573— cynydd 0 178; plant, 6,182-cyvydd o 881 cJfau- rif yu yr eglwysi, 13.992—cynydd o 1,700; gwran- ,.dawyr, 18,587-cynydd o 2.026. Derbyniwyd yr adroddiad, a datgauwyd cydymdeimlad a'r ysgrifen- ydd a'r trysorydd yn eu gwaeledd. Cyflwynodd y Parch G Ellis argymhellioa y pwyllgor o berthynas i afiechyd yr ysgrifenydd eyffredinol. Yr oedd ya un o'r pethau pwysicaf fu jsrioed o flaen y Gymanfa. Yr oedd sefyllfa iechyd Mr Thomas yn gyfryw, fel yr oedd yn rhaid iddo, ar orchymyn pendant ei feddyg, gyflwyno iddynt ei ymddiswyddiad o'r swydd a lanwodd mor ffyddlawn ac egniol am 34 mlynedd. Penodwyd ef i'r rwydd yn 1866, yn Nghymanfa Aberystwyth, dan lywydd- iaeth y diweddar Dr Lewis Edwards. O'r adeg hono hyd yn awr cyflawnodd ei ddyledawydd mewn modd a eniilai edmygedd pawb, a bu yn bresenol yn mhob Cymanfa oddigerth un Merthyr, 12 mlynedd yn ol. Ar ran y pwyllgor, cynygiodd Mr Ellis Denderfyniad yn goiidio fod sefyllfa iechyd y Parch .Josiah Thomas yn gyfryw ag i'w orfodi i ymddi- swyddo, yn datgan eu gwerthfawrogiad o'i wasan- aeth a'i ffyddlondeb difwlch, ac yn ystyried mai dyledswydd y cyfundeb ydoedd ei gadw yn ngwas- anaeth y Genadaeth, ac yn gofyn iddo barhau fel ysgrifenydd ymgynghorol am gyflog o 200p. yn y flwyddyn.—Eiliwyd gan y Parch J Morgan Jones, Caerdydd, cefnogwyd gan amryw, a phasiwyd yn unfrydol. Dewiswyd y Parch J Thomas yn aelod am ei oes o'r Gymanfa ac o Bwyllgor Gweithiol y Genadaeth.—Penderfynwyd dewis ysgrifenydd mor fuan ag y byddo modd, a chytanwyd i'r pwyllgor, gyda'r rheolwyr ssrol, ddewis is-bwyllgor i dderbyn d,nwa. ymgeiswyr am y swydd. Y Casgliadau Cenadol. Dywedai'r Parch G Ellis fod cyfanswm y casgl- iadau am y tlwyddyn ddiweddaf yn 5,491p. 18s. Ic. -cynydd o 441p. 7s. 6c. Cyfanswm y derbyniadau i'r Genadaeth am y flwyddyn ydoedd 7,688p!, tra yr oedd y treuliau yn 13,000p., ond telid 2,000p. o hyn allan o Gronfa y Jiwbili. Yr oedd y gronfa hono, modd bynag, yn graddol fyned i lawr, a bydd wedi darfod cyn pen ychydig flynyddau. Felly yr oedd y rhagolygon yn ddu, a rhaid oedd i'r casgliadau gynyddu. Pasiwyd penderfyniad yn galw sylw'r eglwysi at hyn, ac yn argymhell sefydlu Cangen y Chwiorydd yn nglyn a phob eglwys. Wedi diolch i'r pwyllgor a'r swyddogion, ychwanegwyd y Parchn 0 Owens a Wynn Davies, a Mr David Lewis, Prin ces Road, Lerpwl, at y pwyllgor gweithiol, a' phen- ..Odwyd Mri J B Jones a W Venmoreyn archwilwyr. Cylioeddiadau. Cyflwynodd y Parch E Evans, Aberystwyth ad- joddiad Pwyllgor Cyhoeddiadau y cyfundeb ar y llyfrfa. Cwynai Henaduriaeth Morganw» am yr oediad yn nygiad allan y Llyfr Emynau ° Seisnig Gofynai y pwyllgor yn awr am yr hawl i wneud un- rhyw drefniadau er ei ddwyn allan yn fuan Ggrthwynebai y Parch T G Owen, Lerpwl ys- grifenydd pwyllgor y Llyfr Tonau ac Emynau yr argymnelliad, gan ei gyfrif yn adlewyrchiad arno ef. Gwnaeth ei oreu i'w ddwyn allan.—Dywedai y Parch E Jones, Caernarfon, fod y copi yn barod i'r argraphydd ynniwedd 1898, adylai fod y llyfr allan er's 12 mis. Er ei syndod, deallai nad oedd Mr Owen wedi anfon y copi i gyd i'r argraphydd eto, ac yn ol fel y safai pefchau ni welai y llyfr oieu dydd .hyd 1911.—Derbyniwyd adroddiad y pwyllgor. Ail etholwyd y tri aelod oedd yn yrja-ueillduo-y Parchn T. Levi, W James (Aberdar), a D O'Brien Owen. Treuliau Teithio. Yn unol a'i r-.budd cynygiodd y Parch T J Wheldon fod treuliau teithio y Gymanfa i'w talu o byn allan o drysorfa y Gymanfa. Cynygiodd Mr IE Evans, Aberystwyth, welliant—fod y Cyfarfod- ,)'dd, Misol i dalu treuliau eu cynrychiolwyr fel o'r Maen. Cariwyd cynygiad Mr Wheldon gyda mwy- afrif mawr. J Ystadegau 1899. Cyflwynodd y Parchn Joseph Evans, Dinbych, a 1 J Morgan, Garn, yr ystadegau am 1899. Dangos ent gynydd mawr dan yr holl brif benau. Rhif1 yr eglwysi, 1,345, cynydd o 6 capeli a gorsafoedd pregethu 1,557, cynydd o 35 adeiladau yr Ysgol »ul,.880, cynydd o 86 tai gweinidogien, 170 cyn- vdd o 10; gweiuidogion, 820, cynydd o 21 •'pre- gethwyr eraill, 409 diaconiaid, 5,561 cymunwyr 156 058, cynydd 0 2,346 plant, 69,753, cynydd o 0; cyfanrif yn yr eglwysi (yn cynwys 2,336 ar ^rawf)5 228,147, cynydd o 3,553; o'r aelodau new- Yddion a dderbyniwyd i gymundeb yr oedd 4 782 o blant yr eglwysi, a 3,620 o'r byd collwyd 2 745 trwy farwolaeth, enciliodd 2,787, a diarddelwyd 761. Casgliadau. Cyfranwyd y swm o 284,180p. gan yr aelodau at »ob achos yn ystod y flwyddyn, neu lp. 16s. 4|c ar SoLPOb.ael°d- Allan °'r swm hwn cyfranwyd 962p. tuag at y weimdogaeth, sef cynydd o 2 7QOP Cf ?daethau, 9,680p,; Mudiad Ymosodol, Achosion Gweiniaid, 3,632p tlodion 86'311P" Safai dyled y fddoSeai 7 WjddyQ 337>592P.-Cyn- Yr Yswiriant. ¡ Er y flwyddyn 1886, y mae'r Methodistiaid yn I yswirio eu capeli eu hunaiu rhag tanau, a deagys I adroddiad blynyddol y Trust fod elw da ya cael ei wneud trwyddo. Yr oedd yr elw am y flwyddyu I yn diweddu yn Mawrth diweddaf yo 560p. 12s. lOc, a'r elw o'r flwyddyn 1887 yn cyrhaedd 4,670p Is 6c. Yr oedd derbyniadau y llynedd yn 763p., a'r coll- edion yn 77p 15s 2c. Yn ystod y flwyddyn rhodd- wyd allan 61 o vgwirebau newyddioa, yn gwneud cyfanrif yr holl yswirebau yn 1,101. Y Llyfrfa. Dyma ffynonell arall o elw i'r enwad. Dangosai adroddiad y Pwyllgor Arianol fod yr elw a dder- byniwyd oddiwrth y Llyfrfa yn 1899 yu 1,374p. 12s. 4c. Cafwyd colledion, modd byuag, ar rai o'r cyhoeddiadau, inegis y Monthly Treasury, colled o 91p. 15s. Blwyddtadur, 134p. 13s. 6c. a'r Llaw- lyfr ar y Babaeth, 5p. Yn erbyn hyn yr oedd yr elw fel y canlyn :—Trysorfa y Plant, 632p. Y Drysorfa, 229p; Llyfrau Tonau ac Emynau Cym- raeg, 901p. Llyfr Emynau Saesaeg. 74p. Lluw- lyfrau aril. Sam., 221p.; Llawlyfrau ar Iago, 432p. Y mae gwerth y Llyfrfa erbyn hyn yu 12,885p. yn fwy na'r cyfrifoldeb, ac awgrymai y Pwyllgor Arianol fod 5,#00p. o hyn yn cael eu buddsoddi cyn y defuyddir dim i amcanion cyfuu- debol. Undeb yr Ysgol Sabbothol. Cyflwynwyd adroddiad y pwyllgor hwn gan y cadeirydd, y Parch T Levi. Wrth eilio ei dder byniad dywedodd y Parch T J Wheldon y dylent ddiolch i'r pwyllgor am eu llafur mawr, a dymunai wrthdystio yn erbyn y sylwadau a woaed o'r giviait- y noson flaenorol mewn petthynas i'r dull y cerid gwaith yr Ysgol Sul yn mlaen. Os oedd gwahan iaeth barn yn bod, dyiid ei ddwyn o flaen y Gy- ¡ manfa a chael trafodaeth arno Hysbysodd y Parch Thomas Rees, Cefn, yr ar" holydd hyuaf, ganlyniad Arholiad Cyfundebol yr Ysgol Sabbothol. Yr oedd 78 o ymgeiswyr, a dy- farnwyd y bathodyn .,aur i Mr Benjamin Owen, Bethel, Pontycymer a'r bathodyn arian i Mr D Davies, Glyndyfrdwy. Rhoddwyd gwobrau arbeu- ig i Mr John Evans, Bethel, Cilfyaydd, a Mrs Ann Coward, Rhosllanerchrugog. Dirivest. Hysbysodd y Parch W Lewis, Pontypridd, ar rail y Pwyllgor Dirwestol, fod carpariaeth wedi ei wneud i ddosbaithu el-, f res o bamphledau ar gwes- tiynau dirwestol rhwng cymdeitbasau dirwestol yr eglwysi. Yr oedd rhai eglwysi eto heb ifurfio cym- deithasau, ac anogwyd y Presbyteriaid i symud yn yr un cyfeiriad. Cyflwynwyd nifer o benderfyn- iadau yn dwyn perthynas ag Adroddiad y Ddir- prwyaeth Drwyddedol, a phasiwyd hwy. Yr oedd- ynt o blaid Dewisiad Lleol, ac yu galw am fesurau seiliedig ar Adroddiad Arglwydd Peel. Pasiwyd penderfyuiad hefyd yn galw sylw yr ynadon at eff- eithiau niweidiol caniatau trwyddedau arbeuig ar wyJiau a ffeiriau. Gyfarfod Cenadol. Yn yr hwyr ej-naliwyd cyfarfod cenadol cyhoedd- us, a rhoddwyd croesaw cynes i Mies Laura Evans, Miss E A Roberts, y Parchn Robt Evans a T Cer- edig Evans, sydd newydd ddychwelyd o'r maes cen- adol. Gan fod y cynulliad mor fawr, trefnwyd cyfarfod arall yn nghapel Gorphwysfa. Siaradwyd yn y ddau gyfarfod gan amryw bregethwyr, a chan rai o'r cenadon. DYDD IAU. Presbyter iaeth yn y fyddin, Galwai Pwyllgor Unedig Eglwysi Presbyteraidd Lloegr a Chymru sylw at anhawsderau y milwyr I Ymneillduol yn yr India i gael gwneud defuydd rhydd o gapelau y gwarchodlu, y rhai a adeiladwyd ar draul y cyhoedd, i auicauion crefyddol, a phasiwyd penderfyniad yn datgaa mai gyda gofid y deallodd y Gymanfa fod milwyr Presbyteraidd ac Ymneillduol eraill o he rwydd dylauwad awdurdod- au Eglwys Loegr, wedi eu hamddifadu o ddefuydd capelau y corphluoedd, ac mai methiaat fu cais Presbyteriaid Yagotland i wella pethau. Felly gwrthdystient yn erbyn yr annhegwch, a dymunent ar i Lywodraeth ei Mawrhydi unioni y camwri. Am nad oedd un darpariaeth yn bod i weinyddu ordinhadau crefydd i'r milwyr Cymreig, cyflwyn- wyd y mater i sylw pwyllgor y Cymry ar wasgar," i wneud ymchwiliad. Cynghrair Presbyteraidd. 0 berthynas i bresenoldeb ymwelwyr o Eglwysi Ysgotland yn y Gymanfa, pasiwyd fod y Gymanfa yn cydnabod yr Eglwys Rydd, ac Eglwys Bresbyt- eraidd Unedig Ysgotland yn ddwy esiampl ar- dderchog o ffyddlondeb i wirioneddau sylfaenol Cristionogaeth Efengylaidd ar un Haw, ac o egwyddor fawr ar ba un y dylai pob eglwys gael ei llywodraethu. Llawenydd ydoedd clywed fod y ddwy eglwys yn awr ar ddyfod i uudeb â'u gilydd, a dymunent fendith Duw ar yr Eglwys Rydd Un- edig. Adroddiad Arianol. Cyflwynwyd adroddiad y pwyilgor arianol gan Cyflwynwyd adroddiad y pwyilgor arianol gan Mr Evan Evans, Aberystwyth. Wrth gynyg ei I dderbyn, amddiffynai waith y pwyllgor yn budd- soddi 2000p o elw y Llyfrfa mewn consols. Gwadai hefyd fod y cyfundeb yn ymddwyn yn galed tuag at y llyfrwerthwyr. Ymddygai y pwyllgor mor anrhydeddus ac haelionus tuag at y llyfrwerthwyr ag unrhyw gyhoeddwyr yn y deyrnas. Rhoddir ¡ iddynt gyfle i wneud elw o 33 y cant. Ar wahan i hyny yr oedd y Llyfrfa wedi creu gal wad am len- I yddiaeth grefyddol iachus, drwy y wlad. Gwith- wynebai Mr Edward Jones, Lerpwl, i fuddsoddi elw y Llyfrfa sefydlid y llyfrfa er budd y cyfun- deb yn gyffredinol, a dylai bob rhan o'r cyfundeb dderbyn budd oddiwrtho. Yn lie hyny, pleidleis- ient symiau yn ddibris at achosion neillduol, fel y taflwyd can' punt i ffwrdd y diwrnod blaenorol i ¡ dalu treuliau teithio aelodau y Gymanfa. Derbyn- j iwyd yr adroddiad, ac ail-etholwyd aelodau y pwyllgor oedd a'u hamser i fynu, ac ail-etholwyd Mr J H Davies yn drysorydd. Coffhau. Ar gynygiad y Parch W Ryle Davies pasiwyd penderfyniad yn datgan gofid y Gymanfa o'r golled fawr a dderbyniodd y cyfundeb trwy farwolaeth y Parch Thomas Roberts, Bethesda, y llywydd ethol- edig, a'r Prifathraw T C Edwards, Bala. Materion Addysg. Cyflwynwyd adroddiad y Pwyllgor Addysg o'r hwn y mae'r Parch W 0 Jones, Lerpwl, yn ysgrif- enydd, gan y Parch G Ellis. Sylwai fod llawer iawn o blant y Methodistiaid yn parhau i dderbyn eu haddysg mewn ysgolion enwadol. Esgeulusdra ydoedd achos llawsr o hyn, ond yr oedd ardaloedd hefyd lie nad oedd ond ysgolion enwadol o fewn cyrhaedd. Ceid prawfion mewn rhai ardaloedd fod dylanwadau dirgelaidd yn cael eu defnyddioi ddenu rg plant Ymneillduol igefnuaryregwyddorionbroffes- ai eu rhieni, ac yr oedd yr addysg a gyfrenid yn yr ysgolion byn yn hollol wrthwynebol i Annghyd- ffurflaeth Yr oedd yr ysgolion canolradd ar y cyfan yn rhydd oddiwrth (ragfarn yn erbyn Ym- neillduaeth. Cwynai am gyfartaledd isel presenol- deb y plant yn yr ysgolion yn Nghymru, a dymunai alw sylw arbenig ein haelodau eglwysig at y mater hwn. Yr oedd eisiau ychwaneg o Golegau Hyfforddiadol aiienwadol, a chynygiai benderfyniad yn gwrthdystio yn erbyn gwaddoli Prifysgol Bab- aidd yn yr Iwerddon Cynygiai Mr J. M. Howell, Aberaeron, welliant yil gotidio fod Mr William Jones, A.S., wedi tra- ddodi anerchiad yn y Senedd o blaid addysg enwad- ol ar gwestiwn y Prifysgol Wyddelig. Eiliodd y Parch Ll. Edwards hyuy, gan ddweyd i'r araeth achosi llawer o anfoddlonrwydd trwy holl gylch oedd crefyddol Cymru, ac yr oedd cryn amheuaeth yn ei feddwl ef pa gyfeiriad a gymerai yr aelod an- rhydeddus yn y dyfodol ar gwestiynau crefyddol pwysig. Gwrthwynebai Mr Ellis am fod ua yn gynwysedig yn yr adroddiad. Darlith Davies. Cyflwynodd y Parch G. Ellis adroddiad yn sylwi nad oedd y Parch Edwin fWilliams, M.A., wedi cyhoeddi ei ddarlith a draddododd yn Nghas- newydd, ddwy flynedd yn ol, o fewn yr amser penodedig; gan iddynt ddeall fod amgylchiadau neillduol wedi rhwystro Mr Williams, caniatawyd iddo amser ychivanegol. Galwent sylw hefyd nad oedd y Parch T. J. Wheldon wedi cyhoeddi ei ddarlith, a chaniatawyd iddo yntau ychwanegiad amser. Penodai y pwyllgor y Parch John Hughes, M.A., Lerpwl, i draddodi Darlith Davies y flwydd- yn nesaf. Y Cymry ar wasgar. Gyda boddhad y cofDodai y pwyllgor hanes gwaith cenadol y Cyfundeb yn Llundain. Sefydlwyd pump o eglwysi newrddion yn y Brifddinas er pan y cynaliwyd y Gymanfa yno yn 1895, sef yn Clap- ham Junction, Waltham Green, Willesden Green, Deptford, a Enfield, a chyfanrif yr aelodau dros 600. Y mae tua 3,000 o bobl ieuainc yn ymadael o Gymru i Lundain yn flynyddol, a Ifurflwyd pwyll- gor i geisio edrych ar eu holau. megys gofalu eu bod yn ymuno a rhai o'r eglwysi Cymreig. Yn yr America y mae'r Cyfundeb yn parhau i gynyddu, yn dyfod yn allu yno, ac yn bwriadu anfon cenadon i blith ein cydgenedl yn y talaethau gorllewinol ac ar ororau y Tawelfor. Sylwai y pwyllgor hefyd ar y tebygolrwydd y bydd i lawer o Gymry ymsefydlu yn Neheudir Affrica wedi terfyn y rhyfel, a gobeithient y cadwai y Gymanfa ei golwg ar y wlad hono. Derbyniwyd yr adroddiad ar gynygiad y Parch John Owen, yn cael ei gefnogi gan y Parch Thomas Gray. Cronfa yr Ugeinfed Ganrif. I Cyflwynodd y Parch Ellis J. Jones adroddiad o'r hyn sydd yn cael ei wneud yn nglyn a, chodi y Can' Mil Punau. Yr oeddynt wedi penderfynu y byddai i'r arian gael eu defnyddio i dri amcau 1, I gynorthwyo eglwysi gweiniaid i gael gweinid- ogaeth sefydlog 2, i gynorthwyo achosion gweiuiaid I dalu dyled eu capeli; ac yn 3, i gynorthwyo cron- feydd y cymdeitbasau cenadol-cartrefol a thramor. 0 dan yr ail ben deuai hawliau y Mudiad Ymos- ¡ odol i'w helpu i dalu am y neuaddau. Cymerwyd y mudiad i fynu yn galonog gan amryw o'r Cyfarfod- ydd Misol a'r Henaduriaetbau, ac er nad oedd llawer o arian wedi eu talu i mewn i'r trysorydd, yr oedd o leiaf un rhan o dair o'r swm wedi ei addaw eisoes. Yr olaf i addaw f 1,000 ydoedd Mrs R. Davies, Treborth. Siaradwyd yn gryf dros y mud- iad gau y Parchn Evan Jones a J. M. Jones. Dy- wedai yr olaf fod Aberystwyth wedi ymgymeryd a chasglu X2,000, a chredai y ceid £ 20,100 yn sir F organ wg. Cynrychiolwyr i Eglwysi eraill. Darlleuodd y Parch Lewis Ellis adroddiad y pwyllgor. Ail-etholasid y cynrychiolwyr i Bwyll- gor Unedig Eglwysi Presbyteraidd Lloegr a Chym- ru ;-Parchn Dr. James, Manceinion; J. Cyn- ddylan Jones, Llewelyn Edwards, Prifathraw Prys, L. Ellis, a Mr. O. M. Edwards, A.S. I fyned i gyfarfod Undeb Eglwysi Rhyddion Scotland a gynelir yn Hydref yn Edinburgh, penodwyd :— Y Parchn J. Cynddylan Jones, Proffeswr Ellis Edwards, Prifathraw Prys, E. J. Jones, Price Davies, a'r Henadur Jones Griffith. I Gymanfa Gyffredinol Presbyteriaid y Werddon, pnodwyd y Parchn T. J. Morgan, T. J. Wheldon, a Mr Peter Roberts, Llanelwy. Y Mudiad Ymosodol. Cyflwynwyd adroddiad y pwyllgor gan y Parch L. Ellis, yn dangos fod y gwaith yn myned yn ei flaen yn rhagorol yn Nghaerdydd, Casnewydd a Ileoedd poblog eraill a siarad odd amryw ar y mater, gan amddiffyn y mudiad yn erbyn amryw gwynion a chyhuddiadau a ddygid iWv erbyn. Corphori y Gymanfa. Dangosai yr adroddiad fod Cymdeithasfa'r Gogledd yn unol ac yn addfed i ddwyn oddiamgylch Corphoriad y Gymanfa, ond fod Cymdeithasfa'r De wedi gohirio y mater hyd adeg anmhenodol. Dy- wedodd y Parch J. M. Jones eu bod yn y De yn anobeithiol o ranedig ar y cwestiwn. Cydweithrediad ag Eglwysi eraill. Darllenwyd gohebiaeth oddiwrth Gynghrair Eg- lwysi Rhyddion Gogledd Cymru yn dymuno ar y Gymanfa i anog yr eglwysi i gydweithredu yn y gyfres o gyfarfodydd cenadol y bwriedir eu cynal ddechreu y flwyddyn nesaf, a phasiwyd penderfyn- iad yn unol a hyny. Wedi penodi ymwelwyr i gyfarfod Undeb yr An- nibynwyr, dygwyd y gweithrediadau i ben trwy basio diolchiadau i'r cyfeillion yn Llanberis am eu croesaw a'u caredigrwydd. Gan fod y gwlaw yn disgyn, rhoddwyd i fyuu y bwriad i bregethu yn yr awyr agored, a phregeth- wJd J gwahanol gapeli gan y Parchn O. Owens, Lerpwl; W. John, Penybont; W. James, Aber- dar; a T. C. Williams, Porthaethwy. Am 6-30, traddodwyd Darlith Davies yn Capel Coch gan y Parch W. M. Lewis, Ty Llwyd, Pen- fro. Y testyn a gymerodd ydoedd Edifeirwch." Diolchwyd yn gynes iddo ar gynygiad y Parch D. Rowlands, yn cael ei gefnogi gan Dr. Orr, Ysgot- land. Ar ol hyny, cynaliwyd dau gyfarfod cyhoeddus. un yn Capel Coch i gefnogi Cronfa yr Ugeinfed Ganrif, ac un i hyrwyddo dirwest a gwaith y Mud- iad Ymosodol yn nghapel Gorphwysfa. Siaradwyd yn y ddau gan nifer o weinidogion.

Eisteddfod Carygydrudion.

Natur a'; Phlant.