Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

Eisteddfod Geiiedlaetltol…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Eisteddfod Geiiedlaetltol Lerpwl | 1900. AIL ARGRAPHIAD, gydag ychwanegiadan, o'r RHESTR 0 DESTYNAU, Pris 6ch, trwy y post 7c. I'w cael 0 Swyddfa'r "Cymro," 8, Paradise Street Marwo aeth Dr. Thomas Jones. ACHOSWYD galar cyffredinol yn Nghymru a Lloegr yr wythnos ddiweddaf gan y newydd prudd am farwolaeth y Proff. Thomas Jones, Manceinion yn Neheudir Affrica. Ganed Mr Jones yn Derlwyn, Llanpumsaint, Caerfyrddin, yn y flwyddyn 1850, ac yr oedd ei dad, Mr David Jones, yn ddyn cyhoeddus a dylan- wadol yn ei ardal. Trwy ei ddylanwad ef yn benaf y sefydlwyd Coleg Derlwyn, lie yr enwogodd ei fab Thomas ei hun gyntaf fel myfyriwr. Oddiyno aeth Mr Thomas Jones i Goleg Normalaidd Aber- tawe, o'r lie y pasiodd arholiad matriculation Prif- ysgol Llundain ac o hyny allan cafodd yrfa hynod lwyddianus. Yn 1865, dechreuodd ar ei efrydiaeth broffeswrol yn y Northern Hospital, Lerpwl, I aeth oddiyno i Guy's Hospital, Llundain, ac arosodd yno chwe' mlynedd. Yn ystod yr anser yma enill- odd y radd o M.B. gydag anrhydedd yn 1872, a I chyflwynwyd iddo fathodya aur. Y flwyddyn hono aeth i Manceinion lie y cafodd y swydd o law- feddyg trigianol yn y Royal Infirmary, a bu yn gofrestrydd clefydau o 1873 hyd 1876. Yn 1875, ) derbyniwyd ef yn Gymrawd o Goleg Brenhinol Llawfeddygon Lloegr. 0 1876 hyd 1879, llanwai y swydd o gofrestrydd llawfetidygol yr Yspytty, ac yn y flwyddyn olaf daeth allan yn uchaf ar y rhestr am y gradd o Wyryf mewn Llaw-feddygaeth, ac yn 1880 penodwyd ef Y11 llaw-feddyg rheolaidd yn y Royal Infirmary, yr hon swydd a lanwodd hyd ei farwolaeth. Yn 1880 penodwyd ef yn ddarlithydd yn Owen's College, ac yn 1892 derbyniodd gadair llaw-feddygaeth yn y Coleg. Llanwodd nifer luosog o swyddi mygedol yn Manceinion gyda ffyddlondeb a gweithgarwch annghyffredin, a meddai gymeriad uchel fel meddyg drwy y wlad. Cymerai ddyddor- deb neillduol yn mhob symudiad Cymreig, ac yr oedd yn- aelod o Gynghor Coleg Prifysgol Aberyst- wyth. Yr hyn, modd bynag, a ddaeth a Proff. Jones i sylw arbeuig yn ddiweddar ydoedd ei gysylltiad a'r Yspytty Cymreig a anfouwyd i Ddeheudir Affrica, gyda'r hon y cymerodd ran flaenllaw o'r cychwyn, efe oedd trysorydd y mudiad, a phan yn trefou i anfon yr Yspytty allan, penodwyd ef yn brif-feddyg, ac yr oedd y cyfan dan ei ofal ef. Ni fu yn Neheu- dir Affrica yn hir cyn i hiosawdd y wlad effeithio yn andwyol ar ei gyfansoddiad, a phan glywyd am ei afiechyd cychwynodd y Proff. Alfred Hughes, ysgrifenydd y mudiad, allan i gymeryd gofal yr yspytty yn ei Ie. Symudwyd Proff. Jones yn ol o Springfontein, lie yr oedd yr yspytty, i gyfeiriad Cape Town yn ngofal meddyg arall, ond er pob gofal, bu farw o'r clefyd sydd yn lladd cynifer o'n milwyr yno, a rhaid ei roddi i orwedd mewn gwlad estronol. Gadawa wraig ac un ferch i alaru ar ei ol. y rhai sydd yn preswylio yn eu cartref yn Victoria Park. Boreu ddydd Sadwrn, cynaHwyd gwasanaeth angladdol iddo yn Union Chapel, Manceinion. Cynwysai y gynulleidfa fawr gynrychiolwyr o Owens College ac o amryw bwyllgorau a byrddau cyhoeddus yr oedd Proff. Jones yn aelod ohonynt a nifer o feddygon. Gwasanaethwyd gan y Parch Dr McLaren, a thalodd deyrnged uchel i gymeriad ardderchog Proff. Jones. Canwyd detholion o'r Elijah" a St. Paul 0, rest in the Lord a But the Lord is mindful," a rhai emynau. ¡oj —

Cymru a'r Senedd.

Cymdeithas y Diwydianau Cymreig.

ICoheblaethau.

--Cardd y Cerddor.

I Cyrddau y Oyfodol, &o.

j UaoS.

IPLESERDAITH GWBITHWYB MRI…

Marohnadoedd.

Advertising

Family Notices

Advertising