Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Gorou AJI., Arf Dyag." leeu na'd gamwaith." f j "Duw a phob daioni." CYNELIK EISTEDDFOD TEMLWYR DA LERPWL YN HOPE HALL, HOPE STRBET, Dydd Mercher, Gwyl y Bane, Bhagfyr 26, 1900. PRIF DESTYNAU. AWDL Y GADAIR-Awdl (heb fod dros 400 o linellau), Yn gyfryw ag wyf fi. ond y rhwymau hyn (Actauxxvi 29). Gwobr, X2 28 a Chadair Dderw, gwerth P,4 4s. 3, LIBRETTO I GANTAWD (CANTATA) DDIRWESTOL, eyfaddas i gerdcloriaeth at wasanaeth Temlau'r Plant, Gobeithluoedd, &c. Gwobr, €4 4s. PRIF DJ&AITHAWi)—Traithawd Beirniadol ar y Llyfr, "The Temperance Question and Social .Reform, san Rowntree a Sherwell. Gwobr, £ 4 4s. 1 TRAITH4.WD (cvfyngedig i Ferched), Ein chwaer syrthiedig. Gwobr, fcl is. PKIF GYSTADLEUAETH GORAWL—I'r C^r o Feibion (hebfod dan 35 na thros 50 mewn nifer) a gano oreu Ccoesi'r Anial" (T Maldwyn Priee). Gwobr laf, £ 25, a Thlws Aur i'r Aiwemvdd 2il, £ o. [CHIEF CHORAL COMPETITION—not under 35 nor over 50 in number-for the b-3st rendering of "Crossing the Plain (T Maldwyn Price). First Prize, 225 and a Gold Medal to the Conductor; Second Prize, £ 5.] Ceill- -!tel rheitr gflivvn or Testynt%u ond aafo.iImv at LLB >V WYNNE, Tsgrifcnydd, Ashfield, 98 Westboutne lioad, £ >i<ke> hea,L;. L IVERPOOL & NORTH WALES. REGULAR DAILY SAILINGS (Sundays included). P.S. ST. TUDNO OR ST. ELVIES, Leaving Prince's Stage at 10-45 a.m. daily for Llandudno, Beaumaris, Bangor, and Menai Bridge, due back at i -Jip.m. Frequent Sea Excursions from Llandudno to JVLenai Straits, round Isle of Anglesea to Holyhead, Douglas, Blackpool, &c.. For fares and all further particulars apply to any of the Company's Agents or to the LIVERPOOL AND NORTH WALES Steamship Co., LTD., T G BREW, Secretary 20 Water STREET, Liverpool. Tel. No. mho. WALTHAM WATCHES are the best Timekeepers in the World. NONE SO ACCURATE NONE SO DURABLE. NONE SO CHEAP Price in cilver from gnlll upwards „ in Rolled Gold 50S in Is ct Gold 8s „ in 18ot. Gold „ zES SCHIERWATER & LLOYD, Special Retail Agents, 29 Chirch Straat, Liverpool. THE ROYAL NATIONAL EISTEDDFOD LIVERPOOL, SEPTEMBER 1900. THE 19 OFFICIAL PROGRAMME is now in course of preparation, and Advertising Spaces may be secured on application to the Pub- lisher ISAAC FOULKES, 8 Paradise Street, Liverpool. OOLEG Y GGGL.T3DD, BANGOR (Un o'r Colegau yn Mhrifysgol Cymru). Prifathraw: II. R. REICHEL, M.A. Deelireua'r tymhoi- nesaf Hydref 2, 1900. Paratoir ar gyfer Arholiadau Prifysgol Cymru, rhai o eiddo Prifysgol Llundain, y Cwrs Meddygol yn Mlirifysgoiion Edinburgh a Glasgow, ac arhoiiadau eraill. Rhoir addysg arbemg mewn Amaethyddiaeth. ac Electrical Engineering. Mae yn y Coleg adran Normalaidd i athrawon elfenol a chano.- raddol. Cynygir dros 20 o ysgoloriaetliau, yn amrywio mewn gwerth o £ 10 i £ 10 y llwyddyn i'r rhai fyddo'n ymaelodi yn y Coleg gyda dechreu y tymhor nesaf. Bydd haner yr Ysgoloriaethau yn gyfyngedig i Gymry. Dechreuir yr arholiad am danynt Medi 18. Ceir pob manylion gan JOHN EDWARD LLOYD, M.A., Ysgrifenydd a Chofrestrydd. EAR'S pAW jj^ESTAURANT. 53, LORD-STREET, LIVERPOOL. ENTIRELY NEW MANAGEMENT. HIGH-CLASS FOR LADIES & GENTLEMEN. Patronised by the Clergy and County Families, BEST AND MOST VARIED A LA CARTE MENU IN TOWN. Under the Personal Supervision of Telephone, 542. J. RAMBERT, Telegrams, Nobilitas. Manager. Telephone No. 2339. Telegrams-Marquees ESTABLISHED HALF A CENTURY. HOWARD S CART & WAGON SHEETS, Tarpaulins, Horse Clothing, Nose Bags. -1 rt Tents, Marquees Temporary Awnings. TEMPO RARY BALL-ROOMS Lighted, Decore-ted, Parquet Floor laid. 35, ItF nCiRo&s STREET, LIVERPOOL. Wiit or sand for Quotation*. Mae'r Prif Fardd Pendaut wedi anfony pellebyr a ganlyn i Arglwydd Faer Lerpwl yn ddiweddar "Coben, Arglwydd Faer Lerpwl.-Y mae hyu i arwyddo fod Arglwydd Faer prifddinas Cymru yn cael ei ethol yn brif henadur o'r External Order of Righteousness," ei enw barddonol o hyn allan fydd 'Cohen Gwynedd.' Bydded i wlith y nef a hwwdpr v ddaear ddylifo arno yn ddibaid. Duw a phob daioni.-Gwilym Cowlyd." Gallem feddwl mai rhvwbeth tebyg yw'r urdd hon a'r un a ddos berthir gan Ally Sloper' Llundain.-Celt. GLOVES A SPECIALITY. The Most Complete Stock of Lidies' an "Jhlldren Gloves in Liverpool MILES' PATENT SEAMLESS GLOVES, 3/11 per pair, made from the finest French skins. Endless variety of Rehable Makes of Kid and Suede Gloves for Ladies at 1/6i, l/Hi, 2/61, and 2/11 per pair. Strong and Useful English Leather, ^Giove for Girls, Boys, or Infants at 1101, 1/61, ^and* 1/11 per pair. HENRY MILES & CO: 25 and 25a, CHURCH STREET, (Opposite Pro Cathedral) LIVERPOOL. EisteddfodGeuedlaetliol Lerpwl 1900. AIL ARGRAPHIAD, gydag ychwanegiadau, o'r RHESTR 0 DESTYNAU. Pris 6ch, trwy y post 7c. I w cael o Swyddfa r "Cymro 8, Paradise S reot. E
CYNWYSIAD :
CYNWYSIAD Cynhauaf y Cledd. Y Dychryullyd. Gwarthus Gwarthua J Chwareu Teg i'r Diafol. Dull newydd o Lecshiwna. Die Sion Dafydd. Undeb yr Annibynwyr.
CYNHAUAF Y CLEDD.
CYNHAUAF Y CLEDD. YN y Times am Mehefin 27ain, ymddang- osodd llythyr sydd wedi peri cynhwrf mawr yn y byd politicaidd, a gyru y newyddion eraill o Ddeheudir Affrica i'r cysgodion am dro. Cyhuddiad ydyw o esgeulusdod gwarthus ar ran yr awdurdodau milwrol a Swyddfa Rhyfel yn Llundain tuag at gleif- ion a chlwyfedigion y rhyfel. Parodd ing a syndod i filoedd, canys yr oedd bron bawb yn credu fod trefniadau meddygol y rhyfel- awd yn odidog. Beth bynag a ddywedid am fwnglerwch y drafodaeth a arweiniodd i'r rhyfel, a'r dull anfedrus y dygwyd y rhyfel yn mlaen y misoedd cyntaf, nid oedd os nac onibai parth ei darpariadau meddyg- ol. Ond dyma lythyr y Times yn malurio y gred hono, ac yn gadael Prydain wyneb- yn-wyneba chyhuddiad na dd ygwyd erioed ei ddifrifolach yn erbyn cenedl wareiddied- ig tuag at ei milwyr. Y cyhuddwr neu awdwr y llythyr yn y Times ydyw Mr W Burdett-Coutts, A.S. tros Westminster, priod y foneddiges hael a thrugarog o'r enw hwnw, a gweinyddydd neu ranwr doeth ei helusenau afrifed a dweyd hanes yr hyn a welodd a'i lygaid ac a glywodd a'i glustiau ei hun yn ystod ei ymweliad a. maes y rhyfel y mae Mr Coutts. Awgryma un papyr sydd yn nod- edig am ei ddawn i amddiffyn pobpeth a gyflawna'r Llywodraeth, neu y dylid dal y Llywodraeth yn gyfrifol am. dano, hwyrach mai cael ei dwyllo gan ei synwyrau ei hun a ddarfu Mr Burdett Coutts ond yn anflfod- us, ceir amryw dystion eraill ar lun llythyr- au preifat oddiwrth filwyr yn cadarnhau ei gyhuddiad. Y mae ef yn Dori o Doriaid, ac nid yw yn debyg y cymerai ei dwyllo hyd yn nod gan ei synwyrau ei hun i ddweyd dim diraddiol am ei blaid. Bon- eddwr ydyw hefyd o brofiad helaeth an- nghyffredin mewn materion milwrol, canys bu trwy ryfeloedd Rwsia-Twrci a Ffrainc- Germani; ac er nad yw yn feddyg ei hun, gwyr yn dda am waith Ysbyttai Milwrol felly nis gellir ei alw yn newyddian parth yr hyn yr ysgrifena yn ei gylch, nac yn dyst awyddus i bardduo y Llywodraeth a'i threfniadau a'i chymeriad. Dengys ystadegau y rhyfel fod 127 o swyddogion a 4,260 o filwyr wedi meirw yn Affrica o afiechyd yn unig, heb son dim am y rhai a laddwyd ac a glwyfwyd ar faes y gwaed, a bod 844 o swyddogion a 17,666 o filwyr wedi eu danfon adref yn sal-nid o glwyfau tra y mae nifer aruthrol, heb fod genym yn awr gyfrif o'u rhif, yn aros yno eto, naill ai yn yr yspyttai gerllaw maes y rhyfel neu ar eu ffordd i'r porthladdoedd. Annichonadwy cyfrif am y nifer aruthrol hwn o gleifion ond yn ngoleuni ffeithiau arswydus Mr Burdett-Coutts. Dywed ef mai'r arfer gyffredin ydoedd rhoi deg milwr claf mewn pabell lian a fwriadwyd i ddal ond chwech o ddynion iach, cryfion, ac heb wely na gobenydd danynt; dynion am ddyddiau lawer tan dwymyn y typhoid yn cael eu gosod i orwedd yn ymyl eu gilydd, yn ymdreiglo yn erbyn eu gilydd, ac yn eu llaid, fel moch mewn cyt; yn cael ei rhostio gan wres y dydd a'u rhewi gan rew y nos, heb ddim rhwng eu hesgyrn a'r ceryg a'r ddaear galed neu wleb danynt ond cwrlid milwr- army rug eu gwynebau yn dduon gan wybed nad oedd ganddynt mo'r nerth i godi eu dwylaw i'w hysgubo i ffwrdd a phryfed ac ymlusgiaid gwrthun yn eu cerdded dim ond un meddyg ar gyfer 150 o gleifion yr un nurse ar eu cyful, na gweinyddwyr o un math ond 25 o filwyr geirwon anfedrus, eu hunain ar haner wella o'r un clefyd. A chymerodd hyn oll le mewn maes o fewn milldir i dref Bloemfontein, prifddinas y Dalaeth Rydd, lie yr oedd digonedd o dai helaeth, ac o bob math o gysuron eraill. Fel y dywed Mr Burdett Coutts, dysg profiad fod yn mhob rhyfel fel hon yn Affrica tua deg y cant o'r milwyr bob amser yn glaf. Nifer y fyddin Seisnig yn Affrica ydyw 200,000 ac felly dylesid darpar gwelyau, meddygaeth, a gweinyddwyr ar gyfer 20,000. Yn lie hyny nid oedd yno ddarpar- iaeth o gwbl ar gyfer y fyddin ar y maes ac annigonol iawn ydoedd yn yr yspyttai pellenig. Hyd yn nod yn Capetown, hen ysbytty a'r adeilad wedi ei gondemnio ac yn fyw o bryfaid oedd yn gorfod gwasan- aethu yn lie man o ymgeledd i ddynion a fuont yn ddigon dibris o'u cysuron a'u bywydau i'w rhoddi at wasanaeth eu teyrn a'u gwlad. Ni ddylai undyn call ddisgwyl mwyniant a hawddfyd mewn rhyfel; ond y mae pob esgeulusdod o ddarpariadau ar gyfer ei hanffodusion yn myned yn ddim o'u cyd- maru a'r esgeulusdod gwarthus uchod yn y rhyfel presenol. Cydnebydd Arglwydd Roberts mewn rhan yr esgeulusdod, a gofyna am ymchwiliad i'r mater ac add- awodd y Llywodraeth, nos Wener, gyd- synio a'r cais. Gobeithio y bydd yr ym- chwiliad hwn yn onestach nag ymchwiliad y Llywodraeth i achos y rhyfel. Nid oedd hwnw na llwyr na gonest.
--.:0-CWRS Y BYD.
.:0- CWRS Y BYD. Yr Hin a'r Rhyfel. Mae r byd ytna wedi myn'd mor ryfedd eleni, fei na siaredir ond anfynych am y bin ac yn lie yr hen gyfarchiadau anwyl Tydi hi'n braf ofaadwy;" neu "gwlawglyb, ynte 1" neu ffalsio i'ch cyfaill fel dyn gwybodus trwy ofyn iddo "Ydach chi'n meddwl deil hi?"—y moas. anerchion yn awr ydyw Oes rhywbeth newydd o Affrica 1" be dech eb i'ii feddwl o belynt China ma, deydwch ?" Ond creadur hinol ydyw dyn ar ol a thrwy ei ryfeloedd a'i holl ffolinebau. Fedr o fyw ddim gwerth heb yr hin. Mae rhyfel yn burion i genedloedd ac unigolion mewn natur ddrwg ac yn ngafael ysprydion drwg ond pan a, y naill heibio, ac y gwywo dylanwad dau neu dri na raid eu henwi, fe gaiff yr hin a phethau eraill eu lleoedd yn ol, ac fa aillona dyn er i Birmingham alaru.
Rhyfel y Transvaal-
Rhyfel y Transvaal- Prin iawn ydyw'r newydd o Faea y Rhyfel er's wythnosau y mae fel pe byd dai map China wedi gorchuddio un Deheubarth Affrica. Rhyw wrbydri mawr fel arfer wedi ei gyflawni ar bapyr gan Mefchuen a Clery, a Buller ar fedr gwneud gorchestwaith. Diau mai arafwch yr hen gadlywydd hirben Roberts ydyw'r cynllun doetbaf a'r ffordd oreu i fyn'd gyntaf i ben y daith ydyw myn'd yn araf. Un o gynyrchlon yr arafwch ydyw oedi yr Etholiad Gyffredincl- Nid oes fawr o son am hyn er's rhai wythnos- au ac yn ol pob argoel presenol, ni ddaw arnom byd yr hydref, os y flwyddyn hon o gwbl. Mr Chamberlain sydd yn dal i chwytha'r tln goreu gallo; ond y mae ei fegin yntau yn myn'd yn gandryll wrth ei gorarferyd. Son am Mr Chamberlain. MAE pobl ddrwg ac annuwiol—Rhyddfrydwyr, wrth gwrs-wedi bod yn ddiweddar yn edliw iddo nad yw'n dweyd y gwir, os bydd y Hall yn fwy cyfleua ar y pryd, a mwy ffafriol iddo ef a'i achoa. Mewn rhyw ymfflamychiad o'i eiddo yr wythnos ddiweddaf, cyhuddodd Syr Camp- bell-Bannerman (yn mhell y bo yr enwau hirion yma) o ostwng treuliau y fyddin pan oedd yn dal y swydd o Ysgrifenydd Rbyfel; ac ysgrifena Syr C.-B. i'r papyrau yn gwada hyny yn ben- dant, ac yn profi mai ei ragflaenydd Toriaidd yn y swydd a wnaeth hyny. Y tebyg yw na chymer y dyn mawr sylw o'r gwadiad, ao yr a. yn mlaen i bala fel o'r blaen.
> Cyffrawd yn China.
> Cyffrawd yn China. DYNA destyn mawr y dyddiau hyn. Beth a'i dygodd oddiamgylch yn awr, a beth fydd ei diwedd, ydyw'r pynciau sy'n pendroni doethion politicaidd y dydd. Cymerai gyfrol fawr i es- bonio sefyllfa gynhyrfus China yn y dyddiau hyn. Y mae yno Ymherawdwr, canol oed, wedi ei ddigoroni; y mae yno Ymherodres Waddolog—gweddw y diweddar Ymherawdwr— I yn rhyw lun o deyrnasu, ac y mae yno blaid boliticaidd fawr a dylanwadol a elwlr "Boxers" mewn gwrthryfel ac yn carlo agos bobpeth o'i blaen. Nis gwyddis eto a ydyw y cyn- Ymher- awdwr neu'r Ymherodres Waddolog yn pleidio y Boxers ai peidio. Y mae yno hefyd yn y brifddinas, Pekin, lysgenhadon a chynrychiol- wyr cenedloedd eraill mewn enbydrwydd mawr am eu bywydau, ac un ohonynt, yn ol y new- yddion diweddaraf, wedi ei fwrdro ac ymdrech y Llyngesydd Seymour, fel cadflaenor byddin o amryw genedloedd, ond o Brydeiaiaid ya benaf, i gyrhaedd Pekin, a gwaredu y llysgenadon eraill, os yn fyw, wedi troi allan yn aflwyddian- us ar ol colli nifer mawr o ddynion. Dywedid fodlfwsia a Japan wedi ymgynghreirio parth .Y cydweithredu yn China, a ph§-rhyn anesenwyth- yd yn meddyliaugwladweinwyr Prydain. Rhaid disgwyl am newyddion pellach cyn y gellir ffurfio barn beth a ddigwydd yn y wlad fawr a phoblog.
Y dychrynllyd-
Y dychrynllyd- NID wyf yn cofio darllen dim byd erioed mor ofnadwy a haaes y tati mawr yn NghaereÏrog Newydd, ddydd Sadwrn, o'r hwn y ceir manyl- ion mewn colofn arall. Y mae yn gyru Inferno Dante a Gweledigaethau, Uffern y Bardd Cwsg i'r cysgodion. Y mae bron yn anhygoel pa fodd y gallai llongau dur gymeryd tan a llosgi eu hunain a'a preswylwyr truenus mewn cyn lleied o amser ond rhaid creda er gwaethaf pob tuedd at annghrediniaeth. Rhydd goheb wyr araryw o bapyraa Llundain oedd yn llygad-dystion ddesgrifiadau calon-rwygol o'r gyflafan. Dyma ddywedai llongwr o'r enw Paul Storenburg wrth ohebydd y Daily News Yr oeddym newydd ddechreu gweithio yn yr hold ar ol einio, pan waeddodd rhywun, "Dowch allan, bawb. Mae'r Hong ar dan Aeth yn ymgipris. Trowyd pob dyn yn eilyll, gan redeg, crafangu, cripio, rhegi,a chythru am yrysgol oeddyn arwain i'r dee. Cawsant yr hatches wedi eu llorio Y Brenin Mawr! fel y rhegent. Dringodd rhai yr ysgol, gan guro yr hatches nes oedd y gwaed yn pistyllio o'u dyrnau. Trwy y gratiau gweletn y fflamiau-tin yn mhen blaen y Hong, tan yn 01, tan yn mhob man. Cychwynodd rhai o'r dynion yn mlaen. Yr oedd rhaid iddynt fyn'd tros y biniau glo-baner y ffordd gallent gerdded, yna gwyro, ae wed'yn ymlusgo ar eu tdrau. Deugain o ddynion yn yrngrafanga, mewn twll heb awyr, ac yn ymladd a'u gilydd ac yn mell- dithio. Ymlusgem trwy y peirianau, a daethorn at y pympiau blaen-deuga-n o ddynion, a lie i ddrm ond pymtheg, Ceisiodd un dyn fy nhynu i i lawr. Ciciais ef yn ei wyneb Ceisiodd deg o ddynion ddrin- go. Ciciwyd hwy i lawr gan eraill. Mathrwyd y dyn a syrthiodd gyntaf tan draed fel pa buasii ysglodyn. Oddiallan clywem giindarddach y fflamiau, a'r tan- wyr yn bloeddio. Meddyliwn nas galient byth ein cyrhaedd. Yr oedd y lie fel y trueni ei hunan. Rhwygai dynion eu ddlad oddia ji danynt, ac yn mhen enyd troisant o regi i weddi >. Peidiodd y dynion ar lawr &g ymladd. O un i un ymlonyddent. 0 bedwar o'r gloch hyd 8aith, yr oedd yr aauier fel cynifer o fisoedd. Yna clywem y tânwyr uwchben, ac yn mhen yspaid gollyngasant ysgol i lawr. Daethum i allan. Yr wyf yn gobeithio i'r Ileill hefyd gael diangfa. Deallwyd wed'yn fod 50 o gwbl yn yr hoi nid 40, a deg ohonynt a gafwyd oddiyao yn fyw.
Dull newydd o Lecshiwna.
Dull newydd o Lecshiwna. BYDD un offeryn newydd ar waith yn yr Ethol- iad Cyffredinol nasaf, sef y Chr-Modur-os g*'yr rhywun amgen cyfieithiad na hwn o'r Motor Gar, defnyddied ef. Carwn gael yr enw Cymraeg goreu gan y Proff J. Morris Jonea am y teclyn hylaw hwn sydd yn debyg o fod mor gyffredinol yn union deg. Gwelais yn rhywle hanes am Mr. Archibald Williamson, yr ymgeisydd Rhyddfrydol yn Moray a Nairn, llanerch annghysbell o'r Alban, yn mynod trwy yr etholfa ar ghr-inodur, a'r holl wlad wedi troi allan i weled yr ymgeisydd a'i beiriant. Cafodd felly gyfleusderau i weled ac anerch yr etholwyr na chawaai fel arall. Cred lluaws yn y wlad anhygyrch yr aiff Mr Williamson i'r Senedd ar y CàrModur hwn.
Die Sion Dafydd I
Die Sion Dafydd I Y mae rhai o deulu Mab y Fotty" yn dal gyda ni o hyd, er yn ddystawach nag y baont. Dro yn ol sylwasom fod y Post werii ei ffafrio It chân neu ddwy o waith aelod amlwg o'r Urdd Gocosaidd yn moli Jingo; a'r wythnos ddi- weddaf anrhydeddwyd yr un papyr & goheb iaeth gan aelod o Urdd Die Sion Dafydd. Tan ffugenw, wrth gwra, ymosodai yr olaf ar y siaradwyr yn Nghynadledd y Wesleyaid Cym- reig yn Nghonwy am feiddio llefaru yn eu biaith eu hunain pan yr oedd tri neu bedwar o Saeson yn bresenol. Yn dra theg yr oedd y cadeirydd wedi dweyd y gallair siaradwyr ddefnyddio'r iaith a fynent; ac felly nid oedd y llefarwyr a bechasant mor anfad yn erbyn "Grip," canys dyna ffagenw y Die Sion y tro hwn, yn troseddu yr un o reolau moesau da. Y mae "Grip" yn rhyfeddu fod neb sy'n proffesu achub pechaduriaid yn analluog i siarad Saeaneg ac yn mhellach yn mlaen, gwareda rhag y drychfeddwl y gellir o fewn taith pedair awr i Lundain fyned i lys cyfraith na fedr gael tystiolaethau heb gymhorth cyfieithydd. Fe ddylai'r truan unfaith wybod fod miloedd o Saeson par yn arfer siarad tafod ieithoedd nas gall y Sais cyffredin ddim eu deall mwy na phe siaradent yn Gymraeg, o fewn taith awr i Lundain, chwaithach pedair. Oa yn Lerpwl neu Fanchester y preswylia Grip benwan,