Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

Gohobiaethau.

GWRENG A BONHEDDIG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GWRENG A BONHEDDIG. SYR,-Yr oedd yn ddrwg yn fy nghalon genyf weled lie mor amlwg yn cael ei roddi yn eich rhifyn .diweddaf i'r dyweddïad priodasol rhyfedd sydd, fel y dywedir, wedi cymeryd lie rhwng mab un o deulu- oedd Cymru a. gweddw un o Arglwyddi Lloegr, yn ystod y rhyfel yn Neheudir Affrica. Pa werth i Gymru yw gwybod dim am helyntion y gwr ieuanc gwantan hwn, nae am ei fam ychwaith o ran hyny. Y mae casanu traed pobl o'r dosbarth hwn wedi hir fyned heibio yn Nghymru, mi dybiaf. Pe llwyddai dyfais y beujwod wyneb-liwiedig hyn i ddal Tywys- og Pen-y-mynydd neu rhyw Dduc cyffelyb ei dras, pa foed i'r Cymro anurddo'i ddalenau i gyhoeddi hyny i'r byd Cymreig. 'Tis only noble to be good, Kind hearts are more than coronets, And simple faith than Norman blood. H.L. (CEEDWN^mai ein dyledswydd ni ydyw cyhoeddi pob newydd o ddyddordeb i'n darllenwyr, pa un bynag ai am fonedd ynte gwreng y byddo ond yn ol deddf H. L. ni fyddai genym fawr ddim i'w ddweyd o wythnos i wythnos ]

--ù--Birkenhead.

Yr Yspyttai yn Neheudir Affrica.

-:0:-Undeb Anttibynwyr Cymru

I Oyffryn Clwydø

----Tan dychrynllyd yn New…

-0-,---Lfythyr Liunclain

CYMRU FYDD.

Y PARCH JOHN ELIAS HUG-HES.

UNDEB T CYMDEITHASATJ DIWTYLLIADOL.

Die Sion Dafydd I