Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

Y RHYFEL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y RHYFEL. Liwydd'iant diweddar y Boeriaid, ARGLWYDD Robbbts TN ADRODD YR HANBS. DDYDD Iau pellebrodd Argl. Roberts hanes yr an- ffodion ar linell ei gymundeb yn gynar yn y mis. Eglura fod nawddlu o 50 o wageni wedi eu hanfon Meh. 2 o'r safle wrth afon Rhenoster i Heilbron, Am 9 30 y noson ganlynol anfonodd y svvyddog a lywyddai y nawddlu genadwri at yr Uchgadben Haig i Vredfort Road i ddweyd ei fod wedi ei am- gylchynu gan nifer luosocach, ac eisiau cynorthwy. Cychwynodd Haig yn ddioed gyda 600 o wyr, ac anfonodd y genadwri yn mlaen i'r Uchgadben Ha- king, a wersyllai yn fwy i'r gogledd. Anfonodd yntau wyr traed ar feirch i ymuno a. Haig, ond bu raid i'r ddau gwmni ddychwelyd heb ddod i gyff- yrddiad a'r nawddlu. Anfonodd De Wet, yr hwn a lywyddai y Boeriaid faner cadoediad i swyddog y nawddlu, a "dilynwyd hyny trwy i'r minteioedd Prydeinig roddi eu hunain i fynu. 0 barth i'r trychineb i gartreflu air Derby, dywed Argl. Roberts i'r Boeriaid, foreu Meh. 7, ymosod ar safle i'r gogledd o bont y reilffordd dros yr afon Rhenoster, a ddelid gan y Cartrefiu ac adran o'r Sgowtiaid Ymheroirol. Cymerodd y gelyn fedd- iant o'r rhes o fryniau a gysgodeut y gwersyll. Ein colledion oedd 25 wedi eu lladd a III wedi eu clwyfo, tra y cymerwyd y gweddill yn garcharorion. Derbyniwyd manylion ychwanegol am ymosodiad rhan o gorphluoedd De Wet ar y ffordd haiarn rhwng Kroonstadt a Haring Spruit. Ymosodwyd ar fintai o filwyr Canada i ddechreu, a thorwyd hwy ymaith. Yna ymosodwyd ar ddau gwmni o gat- rawd Amwythig a 50 o Canada ond gan fod ein milwyr mewn ffosgloddiau da, ychydig effaith gaf- odd y tanbelenu arnynt. Yn y cyfamser, yn ngor- saf Honing Spruit, ymosodwyd ar gerbydres oedd yn myned i'r de gyda 400 o wyr traed, oeddynt newydd eu rhyddhau o Waterval, ac wedi eu harf ogi a llawddrylliau y Boeriaid ond heb fagnelau. Galwodd y gelyn ddwywaith ar y Milwriad Bull- ock, yr hwn a lywyddai, i roddi i fynu, ond gwrth- ododd. Amgylchynwyd y Prydeiniaid, a thantel- enwyd hwy am rai oriau. O'r diwedd daeth adgyf- nerthion o Kroonstadt' ac ymneillduodd y gelyn. Yn mysg y rhai a laddwyd yr oedd yr Uchgadben Hobbs, o Gatrawd Gorllewin sir Yore, yr hwn a fu- asai yn garcharor gan y Boeriaid wyth mis. Ymosodiadau ppnderfynol ger Lindley. Cyhoeddwyd y frysneges a ganlyn gan Swyddfa Rhyfel nos Wener oddiwrth Argl. Roberts:- Pretoria, ddydd Gwener, Mah. 29. Paget a edrydd o Lindley ei fod yn ymladd 11 chorph o'r ge yn ar y 23ain 0 Fehefin, yr hwn a dderbyniodd adgyfnerthion cryfion yn ystod y dydd. Yr un dydd hefyd ymosodwyd ar nifer o gludfeni llwytbog o ystorfeydd i warchodlu Lindley. Ein hanffodion ni: Lladdvvyd deg o ddynion clwyfwyd pedwar o swyddogion ac oddeutu 50 o ddynion. Daeth y Cadfridog Brabant i fynu yn ystod y frwydr, ac o'i ddynion yntau lladdwyd tri a chlwyf- wyd 23. Y diwrnod cynt yr oedd Brigad Boyes mewn brwydr a'r gelyn ger Ficksburg. Ein hanffodion ni oeddynt: Lladdwyd dau swyddog, clwyfwyd ped- war o filwyr, ac y mae un arall ar goll. Ddoe canfn Methuen fod gwersyll y Boeriaid ger Vacbkop a Spitzkop wedi ei symud yn frysiog i gyfSniau Lindley. Efe a'u dilynodd am 12 milldir: daeth ar eu gwarthaf, a chymerodd oddiarnynt 8,000 o ddefaid a 500 o wartheg a ladratesid gan y Boeriaid yn y gymydogaeth. Ein hanffodion Pedwar o ddynion wedi eu clwyfo. Parhaodd Hunter ei ymdaith ddoe i gyfeiriad yr afon Vaal yn ddiwrthwynebiad. Rhoddodd ychydig ffermwyr gyfarfyddwyd ar y ffordd eu hun- ain i fynu. Yn gynar boreu ddoe ymosodwyd ar Springs, terfynle y reilffordd o Johannesburg mewn cyfeir- iad dwyteiniol, oud curwyd y gelyn ymaith gan Gatrawd Canada warchodai y lie hwnw. Ni ad roddir am ddim anffodion. Y mae Lieut. Ainsworth, R.E., a adroddwydar goll, yn garcharor dianaf yn nwylaw'r Boeriaid."

Ymladd yn Nhrefedigaeth Orange.

-0--CHINA.

-0--Nodion o Fon

Eisteddfod Cenedlaethol 1900.

0 Marchnadoedd.

Advertising

Cyrddau y Dyfodol, &o.

----,--u--Usoi.

Family Notices

MR JOHN VAUGHAN o Nannau.

Advertising

Family Notices

Advertising