Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Ffestiniog.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ffestiniog. LLIW EBBILI, HTD BIN LLWTBBATT. GWTDDOM nad yw y Gwanwyn erioed wedi tori ei gyhoeddiad, ond bydd yn lied hwyr yn dechreu ei oedfeuon ar brydiau, nes gwneud i wlad gyfan droi drach ei chefn i edrych a ydyw yr efengylwr gonest ar ei daith yn rhywle. Erbyn heddyw wele y Gwanwyn wedi dod, a phawb yn ymwynfydu yn ei wenau. Gwelsom ambell flodyn ysig wedi ei rag- flaenu, fel ambell awgrym per heb gael y sylw ddy- lasai gan y byd. Henffych, Wanwyn tyner, bydded gwrid a gwen yn Ilathru dy lwybrau. ENILL CADEIRIAU. Son am enill Cadeiriau yn wir; mae y beirdd, er gwaethed ydynt, yn ddigon rhesymol i'w henill bob yn nn ond y mae Mr Owen Jones, Erwfair, yn dechreu eu henill bob yn ddwy. Efe ddewiswyd gydag unfrydedd yn Gadeirydd y Gwarcheidwaid, ac yn Gadeirydd y Cynghor Dinesig, ac yn sgil hyny yn Ynad Heddwch. Mae yr holl ardal yn un- farn nas gellid cael ei gymhwysach, a phawb yn dymuno iddo adferiad eyflym o'i waeledd presenol i droi eto yn nghylchoedd eaog ei ddefnyddioldeb. Gwyddom fod perygl rhedeg dyn i glawdd, ys y dy- wedir, ond dan yr amgylchiadau presenol, yr oedd osgoi Mr Owen Jones, ac ystyried cyfrifoldeb y swyddi yn anmhosibl. ABSWTDOL F ABW SYDYN. Cyfeilio yr ydym at farwolaeth Mr W J Wil- liams, Ty'ncefn, ac ysgrifenydd ffyddlon Eisteddfod y Nadolig er's tymhor hir. Nis gwyddem fod ein cyfaill caredig yn CWYDO, a chan ei fod yn byw mewn cwr neillduedig o'r ardal, ni sylwasom weled ei golli. Gwelsom ef ddiweddaf yn mhen rhyw fis ar ol y Nadolig, a chlywsom oddiwrtho ar ol hyny. Ymddengys erbyo hyn ei fod yn llesg er's tro, a boreu Mercber diweddaf torodd gwaed lestr iddo, a bu farw yn mhen ychydig funudau. Dyn tawel, eymwynasgar a dirodres oedd Mr Williams, a chasglodd lawer o wybodaeth mewn gwahan ol gyf- eiriadau Urddwyd ef yn Eisteddfod Gened laethol Caernarfon yn 1894 dan yr enw Gwilym Twrog. Bu yn ddiacon defnyddiol yn Eglwys Carmel (A), Tanygrisiau, ac efe oedd un o gynrychiolwyr rhan- barth Ystradau ar y Cynghor Dinesig. Cafodd lawer o gyfleusderau i wneud caredigrwydd, ac ni esgeulusodd yr un ohonynt; aeth i orphwys yn gyaar, ond bydd ei goffadwriaeth yn anwyl ya hir iawn. Prydnawn da gyfaill mwyn. Pwy faasai yn meddwl wrth edrych arno yn cael ei gadeirio n os Nadolig yn lie J J Ty'nybraich y buasai yn m)-ned i ffordd yr holl ddaear mor f uan. DAL I GANU. Cynaliodd y Methodistiaid eu Cymanfa Ganu Flynyddol nawn a nos Sadwrn diweddaf yn y Garregddu a'r Rhiw, dan arweiniad Mr Tom Price, Merthyr. Llywyddid y prydnawn gan y Parch D Jones, Garregddu, a'r nos gan Mr Robert Jones, Caedu. Yr oedd y cyfarfodydd yn boblogaidd ac yn llwyddianus yn mhob ystyr. Arweinydd dy- munol iawn ydyw Mr Tom Price, a rhyw naws grefyddol ar ei holl sylwadau. Nid oes dim rhodres o'i gwmpas, ac nid yw yn cardota cyhoeddiadau ond cyflawna ei waith i bwrpas yn yspryd y gan. Os gellir cyhoeddi graddau lie mae pobpeth yn dda, credwn mai y don Liverpool a'r anthem Y nefoedd sy'n datgaa gymerasant oreu yn y Rhiw nos Sadwrn. JJatgaawyd y triawd yn yr Anthem yn feistrolgar iawn gan Miss Mair Williams, a'r Mri Ted Lloyd ac E Ffestin Jones canodd Mr Jones gan gysegredig o waith Mr Tom Price hefyd yn ystod y Gymanfa Cafwyd sylwadau yn ystod y cyfarfod gan y Llywydd, y Mri Cadwaladr Ro- berts a'r Parch W R Jones, Llanfrothen, Cafwyd Cymanfa gampus. CWBDD LLENYDDOL SEION (B). Yr wyf yn penawdu y cyfarfodydd hyn yn ol tafodiaith y gwahanol euwadau. Dyddorol yw sylwi dan ba nifer o enwau y mae y Seiat a chyf r- fody dd eraill yn myned gyda'r bobl sydd YI1 fanwl yn nghylch llythyren y gyfraith. Methodd Dr R D Evans fod yn bresenol fel cadeirydd i'r cyfarfod hwn; arweiniwyd gan Bryfdir. Y beirniaid cerddorol oeddynt y Mri John 0 Jones-y tad a'r mab-o Penrcae, Ruabon, a swnaethant eu dyled- swyddau i foddlonrwydd cyfeiliwyd gan Miss M E Owen. Prin oedd y cystadlu. Enillwyd y prif wobrau gaD Miss Evans (Penmorfa), Mri Evan Morris, R Owen, D Thomas, H Edwards, H Jones, Glanypwll Parti Jerusalem dan arweiniad Mr W H Roberts, a Chor Seion dan arweiniad Mr Jones, Perorfryn, a Glyn Myfyr. Y berdoneg greodd yr hwyl i gyd yn y cyfarfod hwn mynai y cantorion ei bod don o leiaf yn rhy uchel, a'r canlyniad fu, gan nas gellid ei thymu i lawr ar y pryd, i bawb o'r cantorion dori i lawr ar y top notes chwedl hwythau. Druan o'r berdoneg, rhaid iddi hi fod yn ddystaw dan aiuryw eriedigaethau, a gwneir bwch diangol ohoni i bechodau lawer. MANION. Mae Mr William Jones, Penygroes, yn cwyno er's tro lion genym ddeall foci gwenau Ebrill yn ei sirioli yntau rhaid iddo beidio ymdroi, mae y Sulgwyu wrth ymyl. Bwriada Cor Meibion y Moelwyn fyned i'r Bala y Sulgwyn. Wei done boys am beidio rhoi fynu'r ysbryd ar ol colli yn races Caer. Dywedir fod trydydd llyfr barddonol Glyn Myfyr yn y wasg. A ydyw y Giyn wedi darllen llyfr y Pregethwyr tybed ? Dywedir fod teimladau chwerw wedi en creu wrth ddewis is-gadeirydd i'r Cynghor Dinesig. Y Mri 0 J Owen a Cadwaladr Roberts oedd yn cyd- redeg, a'r cyntaf a orIu. Mae ryw helynt yu nglyn a'r gadair hon yn mhob man hwyrach y byddai yn well i Orsedd y Beirdd gymeryd y mater mewn Haw. Y Parch Rhys J Hughes sydd wedi ei ddewis i feirniadu yn Eisteddfod yr Annibynwyr y Nadolig nesef. Dewisiad hapas iawn. Nos Lun, diweddaf, yn y Garregddu, cynaliwy4 Cyfarfod Athrawon cyffredinol, a chafwyd banes yr Ysgol Sul yu y sir hon yn y gorpheuol, gan y Parch Griffith Ellis, M.A., Bootle. Mae Seindyrf Ariaa Oakeley wedi eu llogi i flaonori yn ngorymdaith Cymanfa Plant Methodist- iaid yr ardal eleni. Dywedir mai y Mri H Ariander Hughes a Ben T Jones fydd y Marshals y ddau ar feirch. Gydallaw, mae yr hen Haws" wedi cael het newydd yn ddiweddar; dywedaf fy marn am dani wrtho ef yn gyfriuachol. PBTCBBI. £ j|

D)Iffryn Clwyd.

[No title]

Family Notices

-::0::--Cosod Meini Coffa…

Advertising

Y Cyllldeb.