Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
TABERNACL, NETHERFIELD ROAD,
TABERNACL, NETHERFIELD ROAD, Nos Sul, Ebrill 28, pregethir gan y Parch O. L. ROBERTS. 0 hyn allaa dymunir ar bawb anfon hysbysiad i ni o unrhyw gyfnewidiad yn nhrefn y moddion ac yn yr eglwysi lie y mae gweinidogion sefydlog, os na chlywn yn wahanol, rhoddir enwau y gweini- dogion hyny i bregethu.
PWLPUOAU CYMREIG, Ebrill 28.
PWLPUOAU CYMREIG, Ebrill 28. LBBPWl. Y METHODISTIAID CALFINAIDD. PRINCES RD-10, T Gray, 6, 0 J Owen. DAVID ST-10-30, 0 J Owen, 6, T Gray. FITZCLABENCE ST-10, G Ellis, 6, R A. Jones. NETHERFIELD ED-10, R A Jones, 6, Gr Ellis. CHATHAM ST-10 a 6, L Lewis. CROSSHALL ST-10 a 6, E J Evans. ANFIELD RD—10 a 6, D Jones. NEWSHAM PARK-10 a 6, H Jones. BOOTLE-10 a 6, R Thomas, Llanerchymedd. BIKKENHEAD—10-30 a 6, W Jones. SEACOMBE—10-15 a 6, H Rees, Valley. &ARSTON—10-30 a 6, W Henry. ROCK FERRY—10-30 a 6, W Owen. WALTON PARK-10 a 6, W M Jones. WATERLOO—10 a 6, J D Evans, HUYTON QUARRY—10 a 6, W Roberts. PEEL RD—10 a 6, J Williams. EDGE LANE—10-30 a 6, 0 Owen. WEBSTER RD—10-30 a 6, T Evans. NEW BRIGHTON—10-30 a 6, T Lewis, Rhos. WEST KIRBY-ll a 6-30, Abel Parry, Rhyl. SOTJTHPORT—10-30 a 6-30, R Davies. YATIES ST-6-15, J Evans. YORK HALL IBANKHALL)-2, Ysgol, 6 15, ST HELENS—10-30 a 6, J Peron Jones. Limn ST, BIKENHEAD-6, MARKET ST, BIRKENHEAD-6, SILOH, WHISTON—10-30 a 5-30, MILTON ST, WIDNES—10-30 a 6, T Rees Jones. CATHARINE ST (Saes) -10-30 a 6-30. EVERTON BBOW (SAES)—10-45, a 6-30, Wynn Davies. OAKFIELD RD (SAES) -10-45 a 6-30, T G Owen. EGREMONT (SAES)—10-45 a 6-30, YR ANNIBYNWYR. TABERNACL—10 30, W Willams, M'twrog, 6, 0 L Roberts. GROVE ST—10 30, HP Thomas, 615, D Adams. PARK ROAD-Cyf. Pre gethu-gweler Hysbysiad. KENSINGTON-IO-SO, J H Rees, 6, Isaac Griffiths, Bangor. GT. MERSEY ST-10-30, 0 L Roberts, 6, W Williams. TRINITY RD,BoOTLE-IO-SO, I Griffiths, 6, T Eli Evans. MARSH LANE—10-30, 6, J H Rees. CLIFTON RD,B'HEAD-Cyf. Pregethu-gweler Hysbysiad. MARTIN'S LANE.LISCARD—10 30, a 615, S Roberts. VITTORIA ST, B'HEAD—10-30, a 6-15, SOUTHPORT-IO-45, a 6-30, WIEDNES-10 30 a 6, H R Williams PRESCOT—10-30 a 6, W Roberts. Y BED YDDWYR. EVERTON VILLAGE—10-30 a 6, D Powell. WINDSOR ST—10-30 a 6, W Samuel. CAPEL SEION BOUSFIELD ST-IO-SO, P Jones, 6, Cyf Gweddi. EDGE LANE—10-30 a 6-15, S LI Jones. BALLIOL RD, BOOTLE-IO-30 a 6, P Williams. KNOWSLEY RD, BOOTLE—10-30 a 6, L W Lewis. WOODLANDS, B'HEAD—10-30 a 6-15, J Davies. LISCARD RD., SEACOMBE-2 -30, a 6, P Jones. Y WESLEYAID SHAW ST—iu-aO, R LI Jones, 6, W C Jones. BOUNDARY ST—10-30, W T Jones, 6, R LI Jones. TRINITY RD, BOOTLE-IO-SO. W C Jones, 6, J P Roberts. EDGE HILL,PLIMSOLL ST—10-30, J P Roberts, 6, W T J SALISBURY RD—2-30, W C Jones, 6, Cyf. Gweddio. MYNYDD SEION-IO-SO, W 0 Evans, 6, D Jones. CLAUGHTON RD, B'HEAD—10-30, D Jones, 6, W 0 Evans. WIDNES—10-30 a 6, P Lloyd. GARSTON—2-30, D Jones, 6, T Hughes. BARLESTOWN—10-30, a 5-30, J E Wynne. HERMON- 10-30, a 5, E A Jones. GOLBORNE—2, E A Jones, 5-30, H Roberts. SEACOMBE—10-30, a 6, D 0 Jones. ROCK FFREty-2-30, W T Jones, 6, W 0 Evans. YR EGLWYS SEFYDLEDIG. SANT DEWI—10-30, a 6-30, J Davies. SANT ASAPH—10-45, a 6-30, E Williams. SANT N\ rHANIEL-IO-30, Ysgol, 6-30, R H Davies. ST WINIFRED, B'HEAD-10-45 a 6-30, R Edwards. MANCEIMION. Y METHODISTIAID CALFINAIDD. Moss SIDE-10-30, W Glynne, 6, H P Roberts. PENDLETON—10-30, W James, 6, W Glynne. HEYWOOD ST—10-30, a 6, J H Williams, Dwvran. HIGHER ARDWICK—10-30, H P Roberts, 6, W James. FARNWORTH—2-30 a 6, J SjRoberts. SUTTON OAK—10-30 a 5-30, J Morris.
- Cweinidog a Mr Tennyson…
Cweinidog a Mr Tennyson Smith YMDDENGYS fod rheol yn nglyn ag eglwys Anni- bynol Maesteg fod unrhyw aelod a elo i chwareudy i gael ei ddwyn gerbron yr eglwys. Nos Sul wyth- nos i'r ddiweddaf rhybuddiodd y Parch W Bowen yr aelodau o'r rheol hon o'r pwlpud, a dywedai yr ystyriai fod y ddau gyfarfod oedd i'w cynal gan Mr Tennyson Smith yn gyflawniadau chwareuyddol o'r fath ag a waherddid. Yn Neuadd y Dref, yr un noson, condemniodd Mr Smith ymddygiad Mr Bowen, gan ei herio i gael un bai yn ei gymeriad.
Eisteddfod Genediaethol Merthyr.
Eisteddfod Genediaethol Merthyr. CYFARFYDDODD pwyllgor pabell yr Eisteddfod nchod yr wythnos ddiweddaf, Mr C M Davies yn y gadair. Yr oedd Mr T Roderick, y cynllunydd, yn bresenol. a daugosodd gynllun o'r adeilad bwriad- edig yn Mharc Peuydarren, a chymeradwywyd ef. Gyda golwg ar y Gymanfa y bwriedid ei chynal yn y pafiliwn, trefnwyd fod y babell i gael sefyll dros Awst 19eg. o; "EBRILL A FFUG." Gan fod ^wyntoedd ieifial y dwyrain yn ystod misoeddy gwanwyn mor niweidiol i bob bywyd, llysieuol ac anifeilaidd, buont yn achlysur i'n hynaf- iaid roddi mynegiant i'r hen ddywediad sydd erbyn hyn yn adnabyddus fel diareb yn mhob parth o Gymru—" Mawrth a ladd, Lbrill a fling. Yn ysbod misoedd llaith ac afiach y tymhor sydd wedi myned heibio mae lluaws wedi bod yn dyoddef gan Anwyd, Bronchitis, yr Anwydwst, ac anhwyl- derau eraill. Maê yr anhwylderau hyn a'r tywydd llaith yn nghyda'r ymborth brasachoedd yn angen- rheidiol i bawb gymeryd yn y gauaf er cynal eu gwres corphorol wedi gadael anmhureddau yn ein gwaed sydd rhaid eu symud, os ydym am fwynhau lechyd da yn y dyfodol. Arferai yr hen bobl ystalwm geiaio cael ymwared o'r anmbureddau hyn trwy agor gwythien yn y fraich a go Iwag peth o'r gwaed anmhur allan eraill a gym- erent ddcgnau o frwmstan, neu rhyw gyffyr arall er puro y gwaed. Ond yu eio dyddiau ni, mewn can- lyniad i ymchwiliadau a darganfyddiadau meddygol, mae atnryw ddarpariaethau llysieuol er puro y gwaed yn cael eu cynyg i'r cyhoedd, ond tystia pawb sydd wedi rhoddi prawf arnynt mai y gmeu o lawer yw Quinine Bitters GwilymjEvans, a sicrha rhai o feddyg- on goreu y deyrnas nad oes dim tebyg i'r fitters hyn at buro y gwaed gan eu bod yn cynwys elfenau gwaed-burol y Hysiau rhagoraf. Rboddwch brawf ar y meddyglyn hwn, mae ar werth yn mhob man mewn poteli 2s 9c a 4s 60 yr un, neu anfonir ef am y prisiau hyn trwy v po3t yn uniongyrchol oddiwrth y perch- euogion—Quinine Bitters Manufacturing Co, Limd, Llanelly, South Wales.
Achos Chatham Street.
Achos Chatham Street. CYFARFOD MAWR ARALL YN HOPE HALL. Nos Wener ddiweddaf cynaliwyd y cyfarfod cy- hoeddus olaf yn nglyn ag achos y Parch W 0 Jones cyn i'r Gymdeithasfa yn Colwyn Bay gael cyfleustra i ystyried y mater ac i benderfynu arno. Tua phedwar mis yn ol y cynaliwyd cyfarfod cy- hoeddus arall—cyfarfod cofiadwy ar lawer ystyr. Yn hwnw yr oedd yr achos yn cychwyn ar gwrs newydd, ac yn apelio at y Cyfundeb Methodistaidd oddiar lwyfanau cyhoedius yn gystal a thrwy y wasg. Wedi hyny bu Mr Jones a'i gyfeillion ar n ymweliad ag amrai drefi ac ardaloedd poblog yn Ngogledd Cymru. Nid oedd y cynulliad diweddaf lawn mor gyffrous a'r cyntaf, ac yn naturiol felly. Yr oedd yr ymgyrch yn y cyfarfod cyntaf yn cych- wyn i'w daith yn y diweddaf yr oedd ar ben ac amlwg oedd fod yr ymwybyddiaeth eu bod yn cyf- arfod wrth borth y Gymdeithasfa yn meddianu llef- arwyr a gwrandawyr a graddau helaeth o dawelwch difrif a disgwylgar. Yr oedd ol yr ymgyrch yn amlwg ar wyneb gwelw arwr y cyfarfod ond an- fynych y gwrandewir ar araith fwy angerddol a phenderfynol na'r hon a draddododd i'r gynulleidfa astud a wrandawai arno nos Wener Yr oedd y neuadd yn llawn pan gymerwyd y gadair am 7.30, gan Mr R 0 Williams, yr hwn, wrth agor y cyfarfod, a ddywedodd i Bwyllgor Am- ddifiynol Mr Jones gyfarfod gyntaf bedwar mis yu ol, a dwywaith yr wytbnos byth er hyny. Yn ystod yr holl amser buont yn euro yn ddidor wrth ddrws y Cyfarfod Miaol am ryw fesur o gyfiawnder i'r Parch W 0 Jones, ond ysywaeth yn ofer. Gofynasantam y cyhuddiadau, ond ni chawsanthwy, achyfarwydd- asant Mr Jones i'r Gymdeithasfa Chwarterol. Yr oedd yn awr yn gwneud apel, gydathelerau arbenig, i sicrhau y gwirionedd, a deuai y cyfryw dan ys- tyriaeth y Gymdeithasfa yn Colwyn Bay. Os na phrotid euogrwydd Mr Jones, goheithiai na theimlai y Gymdeithasfa auhawsder i lyncu ei dignity am dro a gwneud ei dyledswydd ac os nad oedd efe yn euog eu djledswydd oedd plygu. Bu i lais y wiad gefaogi y symudiad a wnaeth y Pwyllgor Am ddiffynol, a'r cyfan a ofynent oedd, goleuni. Darllenodd Mr J S Wynne bellebyr a dderbyn- iasai o Fon :—"Llwyddiant i'r cyfarfod heno.— Oddiwrth Fethodistiaid Brynsiencyn." Mr Rowlands (o Eglwys Chatham Street) a gyn- ygiodd y penderfyniad canlynol Fod y cyfarfod hwn o Fethodistiald Cymreig Lerpwl yn cymeradwyo y gwaith a wnaedgan Bwyllgor Amddiffynol y Parch VV O Joues, B. A., yn ei holl ranau. Em bod yn gwrchdystio yn y modd mwyal difrif ol yn erbyn penodiad Pwyllgor yr riuchwiliad, gan Gyfarfod Misol Lerpwl, i ofalu am yr achos yn y Gymdeithasfa. Ystyriwn fod y Pwyilgor llwn ei hunan ar ei brawf, ac na ddyiai ar unrhyw gyirii gael ei osod mewn safle i ddylanwadu ar ddyfarniad y Gymdeithasfa. Ein bod hefyd yn taer erfyn ar y Gym- deithasfa yn Colwyn Bay roddi gwrandawiad i apel Mr J ones yn unol a'r amodau a geisir ganddo, gan ein bod yn credu mai dyna yr unig ffordd i sicrhau ymchwiliad fyddo yn debyg o foddloni yr eglwysi, ac o ddwyn barn a chyf- awnder i oleuni. Cyflwynoddddiolchcyfeillion lluosog Mr Jones yn egiwys Chatham St i'r rhai a roddasant eu cyiaortbwy parod iddynt yn eu hymdrech i gadw meddiant o'u parch us weinidog. Byddent lawea pe gwelent ddydd Me cher nesaf yu coroni eu llafur. Ofer fyddai i'r Gymdeithasfa geisio osgoi y peth; yr oedd yn rhaid iddi ddod i benderfyniad arno. Gwnai ymddygiad y Cyfarfod Misol yn y gorphenol iddo of ni y dj fodol. Gwnaeth ei oreu i rwystro y bob! i arwyddo y ddeiseb. Bu aelodau o'r Cyfarfod hwnw yn ceisio dylanwada yn mhob modd ar ddychymyg y bobl i gredu chwedlau nas mynid eu dwyn i brawf am Mr Jones, a beiid y cyhuddedig am ysgrifenu ohono ei gwynion i'r wasg. Derbyn- ient goeg-chwedlau, a phasient hwynt yn mlaen, yn lie eu profi a'u hatal,—yr hyn allasent wneud mewn un eisteddiad. Os oedd y Cyfarfod Misol wedi gwneud ei feddwl i fyny i fyned i Colwyn Bay i bleidieisio yn erbyn y telerau gynygid yn apel Mr Jones, byddai yr ysmotyn du ar lan y Fersi" yn dduach fyth. Yr oedd y bobl gyda Mr Jones yn yr achos hwn. Beth wnaeth Mr Jones o'i le yn ystod yr holl drafodaeth hon? Ouid oedd yn ddyn rhydd mewn gwlad rydd ? Mynai rhai iddynt "ymdawelu, a bod yn ddystaw." Ni fyddent ddystaw ar draul sathru iawnder dan draed. Yr oedd y cyfarfod hwn yn hawliad, yn arwydd, ac yn fynegiad o'u barn yn y mater. Yr oedd mwyafrif mawr eglwys Chatham o blaid Mr Jones.—mwy o lawer na'r hyn a ddywedid mewn adroddiad a goginiwyd i amcan arbenig gan ohebydd ya ddi- weddar. Mr 0 Glanville Morris, bargyfreithiwr, mewn anerchiad Cymraeg, a ddywedodd y byddai i'r cyffrawd ag yr oedd y cyfarfod hwn yn orpheniad arno am y tro sicrhau cynulliad digyffelyb i'r Gymdeithasfa Chwarterol yr wythnos ddilynol, a sylw manylaf yr holl fyd Cymreig i'r modd y gweithredid yno. Dibynai ar y cynrychiolwyr i adfer ymddiriedaeth miloedd o aelodau y Cyfundeb ydynt yu awr mewn penbleth, ac yn hawlio sylw dyladwy a thriniaeth barchus oddiwrth y rhai a'u gosodasant mewn awdurdod. Nid bob amser yr oedd syniad y cyhoedd yn iawn, ond yr oedd calon fawr y bobl pan yn curo mewn cydymdeimlad a'r gorthrymedig yn allua pha un y lhaid hyd yn nod i benaethiaid gyfrif. Yr oedd y penderfyniad y n cymeradwyo yr hyn a wnaethid eisoes gan Mr Jones a'i gyfeillion. Clywsent eisoes beth a wnaethid. Y cwestiwn mawr bellach oedd, Beth fyddai effaith yr oil ? Ymladdasant hwy yu deg a gwyneb-agored ger bron y cyhoedd. Nis geltiddweydfellyam yr ochr arall. Nid oeddynt hvvy gyfrifol am yr hyn a wneid gan rai tuallan i'w Pwyilgor, a diau i bethau annoeth gael eu cyflawni gan bersonau o'r ddeutu. Beiai rhai hwynt am na chawsai y Parch John Hughes lonydd i siarad yn y cyfarfod blaenorol yn Hope Hall; fel y gwneid, hefyd, am na chawsai Mr David Owen hedd wcn i anerch cyfarfod cylfelyb yn Llangefni. Gwnaethant hwy a allent i geisio tawel- wch, ac nid oeddynt yn gyfrifol am anmhobiogrwydd achos y dynion hyn. Gyda golwg ar ffurf apel Mr Joues, dywedai Mr Morris nad oedd dimyn rheolau y Corph nac yn neddfau y wlad yn erbya caniatau y cyfryw. Yr oedd hwn yn achos eithnadol, a dylid cymeryd ffordd eithriadol i'w drafod. Rhaid oedd i Mr Jones brofi i'r earn y cyhuddiadau a wnaeth ef yn erbyn wyth o'rgwyr mwyaf cyfrifol yn y Corph yn Lerpwl. Cyhuddodd Mr Jones ei farnwyr yn gyhoeddus o ddarllen iddo dystiolaeth ffugiol, fel ag i'w faglu i wneud cais am gofnodiad llaw-fer o weithrediadau dyfodoi, mewn trefn iddynt gael esgus i gau yr ymchwiliad i fyny. Petrusai efe i grtdu y fath gyhuddiad difrifol, ond nis gallai lai na chydnabod ddarfod i Mr Jones roddi rhesymau a wnaeth bobl feddylgar yn anesmwyth; a dylai Pwyllgor Lerpwl, erei fwyn ei hun, groesawu yr ymchwiliad. Beth bynag ellir ddweyd am amcan Mr Jones yn nygiad yn mlaen y cyffrawd hwn, nis gallai fod gan ei gefnogwyr ddim ond ceisio cael at y gwirionedd, nid yn unig y cyhuddiadau yn ei erbyn ef, eithr hefyd ei gyhuddiadau difrifol iawn yntau yn erbyn ei farnwyr. Yr oedd yr olaf yn ddyledus iddynt eu hunain ac i'r enwad y perthyn- ent iddo i fynu y fath ail-wrandawiad o'r achos ag a benderfynai y mater am byth. Os oedd eu dwylaw yn lan yr oedd ganddynt bob peth i'w enill drwy y telerau cysylltiedig.a'r apel, ond ar y r ochr arail, os oeddynt hwy fel cynrychiolwyr y C. M. yn y Gym- deithasfa Chwarterol oedd gerllaw, yn ceisio gwrth- wynebu y telerau hyn, gwyddai y wlad pa gasgliad i'w dynu. Aeth Mr Morris yn mlaen i sylwi ar amodau yrapel, o un i un, ac yn fanwl. Cafodd yr achos, ineddai, ei wyutyllio gymaint fel nas gallai un pwyllgor apeliadoL fod yn hollol ddiragfarn, ac yr oedd perygl y cai yr apelydd ei gospi yn union- gyrchol oherwydd y cyhoeddusrwydd a ro ldwyd i'w achos, neu ei ddiffyg ymddiriedaeth yn ei farnwyr. Nid oedd ei gais am brawf agored yn ddyledus yn hollol i'r fath ddiffyg ymddiriedaeth; yr oedd mwy nag awgrym o au-dystiolaeth, ac yr oedd dull y prawf yn gjfryw fel ag i roi temtasiwn union- gyrchol i bersonau o yspryd maleisus. Nid oedd yno lw, dim erlyniad posibl yn erbyn anudon, ac yr oedct pob cyngaws am athrod wedi ei flaen-benu i fethiant drwy y nodded a roddid iddynt drwy gyng- orau eel a chudd. Nid oedd i unrhyw dyst gonest achos i ofni dweyd yr hyn a gredai oedd wir yn un- man, ond os gweithredai yn faleisus, Did oedd un fraint i'w amddiffyn hyd yn nod mewn corph crefyddol. Yr oedd Eglwys Loegr yn rhoi prawf agored, os na fydd y clerigwr cyhuddedig yn dy- muno bod yn gudd, ac hyd yn nod yn cauiatau cyu- orthwy proffeswrol. Ychwanegai y ilefar/dd, wrth son am yr amodau, y byddai presenoldeb cyfeilliou yn gefnogaeth a chynorthwy yn erbyn galluoedd unedig y Pwyllgor cyntaf, ac yr oeddynt hwy ar eu prawf yn gystal a Mr Jones. Byddai cofnodion Haw fer yn brawf anwadadwy o bob gair a leferid, ac yn eu gwyneb nis gallai neb wneud haeriadau anwireddus am y modd y dygwyd gweithrediadau y prawf yn mlaen. Un gS^yn yn erbyn y barnwyr oedd i rai ohonynt rwystro croes-holiadau. Byddai hyn yn amhosibl y tro nesaf Yr oedd y teler olaf y pwysicaf o'r oil. Nid oedd yn bosibl condemnio yu rhy gryf y gwaith o holi tystion yn nghefn y cy. huddedig, a dylasai yr arferiad gael ei adael gyda'r oesau tywyll. Eto, unasai y Pwyllgor ynddynt eu hunain swyddi tystion, erlynwyr, rheithwyr, oarn- wyr. Boed iddynt ddarfod am byth a'r fath drefn. Hysbysodd Mr J S Wynne fod y ddeiseb dros yr apel wedi ei harwyddo gan 14,000 o Fethodistiaid yn Lerpwl a Gogledd Cymru, a disgwylid y byddai y nifer cyn y Sul yn 17,000 Y Parch W 0 Jones a alwyd nesaf, a rhoddwyd iddo dderbyniad brwdfrydig,—y banllefau yn cael eu hadnewyddu drachefn a thrachefn, am beth amser.— Dywedodd fod pedwar mis er pan gyfarfu- asant ddiweddaf yn y lie hwnw ar yr un achos, ac er y pryd hwnw cymerasai llawer o gyfuewidiadau le,-yr oeddynt mewn blwyddyn newydd, a chanrif newydd, ond yr oedd Achos Chatham eto heb ei benderfynu. Er gwaethaf yr hyn oil a wnaethid yn y cyfamser yn Ngbymru, ymgyndynai y Cyfarfod Misol fyth yn ei ymgais i rwystro ei amcan. Yr oeddynt yno y noson hono i ystyried y pwnc o apel at y Gymdeithasfa Chwarterol, a mentrai ddweyd y byddai y penderfyniad y deuid iddo y u bell- gyrhaeddol iawn yn ei effeithiau. Mewn gwirion- edd yr oeddynt ar fin cyfyngbwynt mawr yn hanesy Cyfundeb. Yr oedd eyfnod yn dechreu a gyr- haeddai yn mlaen drwy oesau. Nid oedd Fethodist gyda llygad yn ei ben na edrychai tua Colwyn Bay yr wythnos nesaf gyda phryder mawr; a pha un bynag a ganiatai y Gymdeithasfa y telerau neu beidio, credai y deuai allan yn oichfygwr yn y pen draw. Nis gwyddai pa bryd y deuai dydd ei waredigaeth, ond yr oedd y gwirionedd yn sicr o lwyddo. Hyderai, fodd bynag, y byddai mewn ychydig amser yn alluog i giirio ei hun yn llawn, a gwyddai y byddent oil yn wyneb hyny yn fwy aa boddlon. Yr oedd yn ddoeth i'r Gymdeithasfa ganiatau yr apel, pa un bynag ai euog neu dieuog ydoedd ef, oblegid drwy iddynt wneud felly ar- gyhoeddent y byd eu bod yn delio a'r achos yn deg a chyliawn. O'r tu arall, os y ceid ef, wedi prawf teg, yn euog, efe, ac efe yn uuig, fyddai y dioddefydd. Os gwrthodent, beth wed'yn ? Wel, ni fyddai diwedd i'r cynwrf a'r annghydfod. 0 un peth yr oedd yn sicr, sef fel canlyniad i'w drallod ef ni fyddai i'r Eglwys byth eto feiddio penderfynu unrhyw achos o'r fath mewn cudd-lysoedd. Ni dderbyaiai y cyhoedd unrhyw ddedfryd oni fyddai yn un agored. Dywedai ei wrthwynebwyr yn awr ei fod yn gyfrwys a galluog, ac iddo ddyladwadu ar y cyhoedd i gydsynio a'i apel a'i delerau, ac yn awr ofnent y byddai hyd yn nod i'r Gymdeithasfa dderbyn y naill a'r ilall. Nid efe a dynasai allan yr apel na'i delerau yr oeddynt yn waith ei gyfaill Mr G C Rees. Goiidiai ddarfod i deimlad godi mor uchel, a bod y fath chwerwder yn bodoli. Ceisiodd ei oreu i lywodraethu ei deimladau, ond anhawdd hyny yn wyneb y cyhuddiadau erchyll a wneid mor ddidaro gan ei gyhuddwyr. Bwriadai fyned i Colwyn Bay yr wythnos ddilynol, ac elai yno gyda meddwl agored ac ysbryd cyfaddas. Nid oedd yn myned i lynu hyd yn nod wrth lythyren y telerau, ond boddlonai os derbynid hwynt mewn egwyddor. Elai Mr Rees, ei gyfreithiwr, gydag ef, ac aelodau ei bwyllgor amddiffynol, felly gwelent oddiwrth hyny mai nid Cyfarfod Misol Lerpwl oedd yr unig allu fedrai anfon dirprwyaeth i'r Gymdeith- asfa. Os mynai y Gymdeithasfa eaugu yr ymchwil- iad, croesawn hyny, ond mynai i'r tystiolaethau fel y cyflwy nwyd hwynt yn y prawf cyntaf, ac ar sail pa rai y condemniwyd ef, gael eu hystyried yn gyntaf. Gyda golwg ar fwriadau y Gymdeithasfa, dywedai na chlywsai ddim ar hyny o unrhyw ffyn- onell, ac ni chredai fod dyn yn y Cyfundeb wyddai beth oedd i gymeryd lie yr wythnos ddilynol. Prophwydai efe y caniateid ysgrifenydd llaw fer a dau gyfaill yn ystod gwrandawiad yr achos. Ond beth fyddai tystiolaeth yr hen Bwyllgor ? A rodd- ent iddo gopi llawn o'r cyhuddiadau a'r tystiolaethau a ddygwyd yn ei erbyn yn y gwrandawiad cyntaf ? Disgwyliodd yn flin am fisoedd, ond ni chafodd ddim sylweddol. Un adeg tJ biodd nad oedd ganddo hawl i gopi llawn a chlir o'r tystiolaethau yn ei er- byn ond yr oedd yn iamgymeryd; mae synwyr cyffredin yn ei hawlio. Dyna ei argyhoeddiad ef, dyna argyhoeddiad y cyhoedd. Yr oedd yn han- fodol iddo gael copi o'r tystiolaethau hyny fel y gallai amddiffyn ei hun. Gofynid iddo paham y gwnai yr ainod iddo ef fod yn bresenol yn yr ym- chwiliad. Ei ateb oedd,—ni fynai mwyach gael ei goudemnio ar dystiolaeth roddid yn ei gefn. Nis gallai guddio y ffaith yr edrychai yn mlaen gyda phryder at y canlyniadau mor bell ag yr oedd ef yn y cwestiwu, ond er hyny gyda llawer mwy o bryder gyda golwg ar bwysigrwydd y canlyniadau i'r cyf- undeb ac achos crefydd ond teimlai, pa mor fawr bynag y gallai y perygl fod i'r achos Methodistaidd, yr oedd ganddo hawl i amddiffyn ei gymeriad. Nid oedd yn dymuno cyplysu ei achos preseaol a dim arall; er hyny, deuai rhai pethau ya amlwg yu nglyn &'r mater. Yn un peth, tybiai fod eglwysi y Methodistiaid mewn perygl o golli eu hawliau, ac i bob awdurdod lithro i ddwylaw ychydig swydd- ogion. Mewn achos o ddysgyblaeth eglwysig yn Chatham Street, dadleuodd ef mai gan yr eglwys yr oedd yr hawl i ddysgyblu a diarddel. Aeth y Cyf- arfod Misol yn ei erbyn. Penodwyd pwyllgor i woeud ymchwiliad i'r mater hwuw, ac wed'yn i'w gymeriad yutau. Aeth hyn yn mlaen am fisoedd heb ymgyoghoridim a'r eglwys. Diarddel wydy gweiu- idog heb wrando ar lais yr eglwys ac wedi hyny, anfonwyd o'r Cyfarfod Misol uifer o -wyddogioa o eglwysi eraill i lywodraethu eglwys Chatham Street. Ymddygodd y Cyfarfod Misol at y deisebau a an- fonwyd gan eglwysi y cylch gyda'r pc!th ago3af i ddirmyg. Ni wrandawent arnynt. Yr oedd vu hen bryd rhoddi terfyn ar y peaarglwyddiaetti hwo. Wrth derfynu, gobeithiai y byddai i'r Gymdeithasfa yn Colwyn Bay wrando ei apel, a rhoddi arao brawf a foddlonai bawb. Bydded i'r Gymdeithasfa roi mwy o bwys ar egwyddorion mawrion moesoldeb, a chrefydd, a llai ar f&a reolau. Gvveinydder barn a chyfiawnder, costied a gostio i bersouau unigol, pwyllgor, nen gyfuudeb (cymeradwyaeth uchel a maith). d Mr G C Rees, yn ystod araith hyawdl, a ddywedai ei fod heno, gyda gwybodaeth heiaethach o'r Parch W 0 Jones nag a fn gauddo er,oed o'r blaen, yn gallu dweyd gyda'r difrifwch mwyaf nas gwyddai ef am ddim ddylasai arwain neb i'w ameu, heb son am ei ddiarddel o'r weinidogaeth. Modd bynag, nid iawnder neu drawsder ei ddiarddeliad o'r weinidog- aeth oedd y pwyntiau uniongyrchol mewn dadl yn awr. Yr hyn a ddymunai pawb ohonynt y munyd hwnw oedd ymchwiliad boddhaol ar gynllun elai yn syth at y ffeithiau a'r tystiolaethau a beaderfynent y ddadl rhwng y gwr parchedig a'i ddiarddelwyr. Ysgrifenasai at y Parch E James Jones, ysgrifen- ydd y Gymdeithasfa, y dy dd Gwener blaenorol a fyddai o fudd i Mr Jones ac yntau fod ya bresenol yn Colwyn Bay ddydd Llun, y diwrnod o flaen cyf- arfod y Gymdeithasfa, i hyrwyddo os oedd modd derfyniad yr achos anffodus hwn. Ni dderbyniodd unrhyw atebiad. Pellebrodd i'r un boneddwr ddydd Mercher, ac eto ni ddaeth atebiad. A oedd yn bosibl fod y Gymdeithasfa yn myned i'w hanwy- byddu ? Proffesai dynion gonest bryder am ddwyn pobpeth i'r goleuni; ond os ceisiai rhywun yu an- nheg ddylanwadu ar eraill, ac i rwystro pethau i ddod i'r amlwg, neu ddal yn ol ysgrifau fyddo yn eu meddiant, yna nis gallai geiriau o gondemniad fod yn rhy gryfion. Ni chai y Gymdeithasfa apol y Parch W. O. Joues yn unig o'u blaen, ond hefyd y ffaith ddarfod i tua 20,000 o aelodau y cyfundeb ddatgan eu cred na chafodd driniaeth teg. Yr oedd yn argyhoeddedig o iawuder eu hachos a thegwch eu gofynion. Rhoddwyd y penderfyniad i'r cyfarfod, a pbas- iwyd ef yn unfrydol, ac wedi peth siarad pellach terfynodd y cyfarfod.
-0---Colofn Oirwest.
0 Colofn Oirwest. UN O'R CYHUDDIADAU DUAF y gellid ei ddwyn byth yn erbyn ynad heddwoh ydyw hwnw a ddygir ar y 26ain cyfisol yn erbyn James Wilson Dick, Glasgow, sef iddo, ac yntau yn aelod a Gynghor y Dref, geisio a chael gan Edward Gillan, gwerthwr gwirnd. yr hwn oedd yn awyddus am drwy, dded tafarn, 600p fel llwgr wobrwy ar yr amod ei fod yo ymgymevd â sicrhau trwydded. Gwrthodwyd y drwydded yn Ebrill, 1900, ac yn mis Mai dilynol dyrchafwyd y Cynghorydd Dick i'r fainc ynadol. Yn ol y cyhuddiad, rhoes Gillan ar ddeall i Dick yn Awst y byddai raid iddo dalu'r 600p yn ol, neu ynte gael y drwydded erbyn Hydref, yr hyn a addawodd Dick ar yr amod ei fod yn cael eadw'r 609p. Dyna ran gyntaf y cyhuddiad. Yr ail ran ydyw iddo geis- io llwgrwobrwy o 500p gan wirodwr arall o'r enw Charles James M' ftlhan, ar sail y byddai iddo ef (Dick) bleidleisio a gwneud ei oreu i sicrhau trwy- dded i M'Elhan yn Llys Trwyddedu mis Hydref. Gwarth ydyw hwn, megys ei gyffelyb a ddynoethwyd yn ddiweddfir yn Manceinioa, sydd wedi peri i'r rhai cyndynaf i hyny gredu fod rhyw ddiffyg andwyol yo y gyfundrefn ynadol pan y mae pethau fel hyn yn ddichonadwy ynddi. Pan geir byd i gorph marw ya afon LlundaiD, ac ei cludic ef i'r fan a'r fan i'w ed- rych a cheisio adnabod pwy ydoedd, dywedir y daw yn gyffredin ddeugain fwy neu lai i edrych y corph, yr hyn a brawf, am bob corph a ddarganfyddir, fod 39 yn aras heb eu darganfod. Ac felly am bob yscan dil fel yr uchod, os daw un i'r goleu, y mae yn bur sicr fod llawn 39 yn aros yn nghudd. SASIWN FAWR DIRWKST, a gynaliwyd yn Vienna rai dyddiau'n ol, ydoedd un o ddigwyddtadau pwysicaf yn nglyn a'r achos yn ei wedd gyd-genedlaethol. Parhaodd bum niwrnod, ac yr oedd yn bresenol gynrychiolwyr o bron bob gwlad yn Ewrop, Yr oedd Prif Weinidog Awstria yno ar agoriad y Gynadledd, ac yr oedd Llywodraeth y wlad hono, yn nghyda LlywodraAthau erail), heblaw lluaws o fasnachwyr ceftiog, wedi cyfranu at ddwyn traul yr eisteddiad. Yr oedd yn myag y siaradwyr a d rllenwyr y papyrau bob amrywiaeth golygiadau, a bu'r drafodaeth yn bur fywiog unwaith neu ddwy— yn arbenig pan honai. un o gynrychiolwyr yr Al- maen, ao efe yn feddyg ei hun, fod meddygon fel dosbaith yn rh .ddi esiatnpl ddrwg i'w cleifion, ac mai eu meddwdod ydoedd y rheswm eu bod mor fyc- hoedlog. Caed o gwbl dros driugain o bapyrau gan feddygon, gwyddonwyr, a diwygwyr o safle ac aw- durdod uchel pob un yn ei gylch. Y mae ynddynt drysorfa o wyoodaeth a ffeithiau, a gobeitbio y ceir eyfieithiad i'r Saeaneg o gyfuol y gweibhrediadau pan y'i cyhoedder. BETH AM FESUR Y PLANT? Dyna ofynir gan lawer un a lawenychai fel eraill pin basiodd v Mesur ei ail-ddarlleniad gyda. mwyaf- rif mor fawr. oiid a ddrwgdybiai mai caredigrwydd rhagrithiol ydoedd hyny er mvvyn caelllonydd i fyn'd heibio iddo ab rywbeth mwy cydnaws a chwa,eth y Senedd wrth-ddirwesbol hon. Nid oes argoel ebo f,)d yn mryd y Liywodraebh agor brafodaeth arno; ac y mae gelynion y diwygiad gwir angenrheidiol hwn yn gwneud eu heibhaf, a hyny hefyd yn y modd mwyaf haerllug, i wenwyno meddyliau y gweithwyr dru- aiu," chwedl hwytJhau gyda u ffug-dosburi, yn erbyn y mesur. Y rr.ae yn y fyddin Brydeinig 25,000 o' filwyr ymwrthodol. y mae beliach 28,000 canghen o Undeb y Gobeith. luoedd, gydag 3,500,000 o aelodau. to) Mr W G Roberts a ddewiswyd yn gadeirydd Cyngor Dosbarth Trefol Llaufairfechan am y flwyddyn nesaf. Mae Cyngor Dosbarth Trefol Penmaenmawr wedi ethol Mr J S Coverley yn gadeirydd, a Mr H Kneeshaw yn is-gadeirydd.