Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Barddoniaeth.
Barddoniaeth. HUN Y GWEITHIWR. Y gweithiwk mwyn, 'rot Ilafar maitb, A dyn i ben ei ddyddiol gwrs Diferodd chwys dan bwysau gwaith Yn aur i rhyw oludog bwrs Ond daeth yr hwyr, ac yntau'n awr Aiff i'w orphwysdra'n llesg ei lun,— Maeln taflu pob rhyw faioh i lawr, Ac ymollynga iddo'i hun. Cwsg, weithiwr, cwsg mae iechyd plaen Yn wridog ar dy ruddiau llawn; Gwnai cwsg obenydd, pe bai'n faen, 0 dan dy ben yn esmwyth iawn,— Cwsg, cwsg yn mlaen er na chest ran Yn mysg goludog feibion ffawd Pleth angel cwsg ei freichiau can Am wddf blinedig weithiwr tlawd. Cwsg, weithiwr, cwsg; maemawrion byd Yn gorwedd »r wely&u cain, Ond am y plyf a'r moethau i gyd Rhydd ansamwythdra lymion ddrain; A beth yw swyn dy freuddwyd di, Lafurwr gonest! iddo ef Disgyna engyl hedd yn llir Iledu gclygteydd y nef. Cwsg, weithiwr, owc-g; mae'r weddi daer Offrymakt cyn rhoi'th ben i lawr, O'th amgylch di yn ddwyfol gaer,— Heria holl nerthoedd uffern fawr: Pe torai antrau'r anadl wan- Yredef ddeil dy fywyd mad Uwch tragwyddoldeb—yn y fan, Dy dderbyn gaet i freichiau'th Dad. Cwsg, weithiwr, cwsg; a phan ddaw'r wawr I agor dorau anr y dydd, Os deffro wnei i lafur mawr, A syrthio'n ol i Hinder prudd,— Rhyw dro cei hun mewn perffaith hedd A phan fydd cyffro'r Farn drwy'r nen, Deffroi, a deui'n fyw o'th fedd- A choron brenin ar dy ben JOHN HOWARD.
HAUL Y GWANWYN.
HAUL Y GWANWYN. HAUL a'i wres yn dawel rydd—i'r ddaear Ei gwerdd ddiwyg newydd Lliwia ddail yr holl ddolydd A'i wrid hcff-A-rwr y dydd. Buan dan ei ddyIanwad-daw egin, Diwygir y Cread D'wed blagur mewn dadblygiad- Duw a'r hin addfeda'r had. MADRYN.
AI DAMWAIN YW?
AI DAMWAIN YW? Pwy awgrymodd wrth y gwenyn Lie i chwilio am y mel, A chynilo'n amser llawnder Erbyn prinder dyddian ddel ? Pwy fn'n dysgu c6r y goedwig I ddatganu mor ddi-wall, Heb fod un o'r adar lleiaf Byth yn canu nodau'r llall ? Pwy ddewisodd liwiau'r blodau ? Pwy gynlluniodd ddail y coed ? Pwy ddyfeisiodd ffurfiau'r glaswellt, Heb fod dau'r un fath erioed 1 Ti, anffyddiwr, beth yw'th ateb ? Feiddi ddweyd mai damwain yw ? Felly, damwain lawn o gynllun, Lawn o feddwl, lawn o Dduw. R. H. JONES.
-'-0-Cyflogau Aelodau y Llywodraeth
-0- Cyflogau Aelodau y Llywodraeth Bu dadl bur boeth yn Nhy y Cyffredin nos Wener yn nglyn a chyflogau rhai o aelodau y Llywodraeth. Mewn'trefa i geisio gan y Llywodraeth addewid am i ymchwiliad gael ei wneud i'r cyflogau hya cynyg- iodd Mr Caldwell fod cyflog y Twrnai Cyffredinol yn cael ei ostwng gan' punt. Mr Lloyd George a ddadleuai fod gan y Pwyllgor Seneddol hawl i gael gan Brif Arglwydd y Trysor- lys atebiad yn datgan a oedd yn barod i wneud ym- chwiliad i'r mater hwn. Dywedid nad oedd y ffigyrau a ddyfynwyd yn 1899 yn cyfleu yn gywir gyflogau cyffredin swyddogion y gyfraith. Cymerai ef gyfrif y flwyddyn ddiweddaf pan yr oedd y swm a dderbyniwyd gan y Twrnai Cyffredinol a'r Cyf- reithiwr Cyffredinol yn 29,0OOp, o'a cydmaru a'r 19,000 a beuodid gan y Llywodraeth Ryddfrydol. Nis gwyddai efe am unrhyw gangen o'r swyddogaeth Seneddol lie y gellid yn fwy rhesymol gychwyn cynildeb. Ni thelid i Weinidog neu Farnwr ar gyfartaledd i'w waith. Dyliddelio & chyfreithiwr ar yr un egwyddor a rhywun arall. Dylid talu iddynt yn deg a rhesymol, ond nid yn wastraffus. Penderfynid Y fees hyn gan glercod yn adran y Cyfreithiwr i'r Trysorlys, y rhai y mae eu dyrchaf- iad, ac hyd yn nod eu penodiad, yn dibynu ar y Twrnai Cyffredinol. Amlwg oedd na fyddai y clercod hyn yn debyg o gyfeiliorni yn nghyfeiriad cweryla a'r Twrnai Cyffredinol drwy sefydlu cyflogau ag y byddai raid apelio yn eu cylch at Gangellydd y Trysorlys. Mr Herbert Lewis a ddywedodd y gwyddent yn awr nid yn unig fod gan y wlad i dalu 30,000p am wasanaeth swyddogion y gyfraith, ond y buasai y swm yn llawer uwch onioai am Ganghellydd y Trysorlys i'w gostwqg. Ystyriai fod y cynygiad hwn fel man cyfarfod rhwng y ddwyblaid yn y Ty. A oeddynt i gael cynilwch, ai nid oeddynt ? Yr oedd gan y Pwyllgor yn awr gyfleusdra i ddewis rhwng cynildeb a gwastraff. Daeth yr amser i daro ergyd ar wario'n ofer, a galwai ef ar bawb a ffafrient gynildeb ar ddwy ochr y Ty i gefnogi y cynygiad o ostyngiad. Rhanwyd y Ty yn erbyn y cynygiad, 185; dros y cynygiad, 152,—mwyafrif i'r Llyw- odraeth, 33.
Cymdeithasfa Colwyn Bay.
Cymdeithasfa Colwyn Bay. DIAMEU mai y cyrddau mwyaf eu dylanwad yn Nghvmru, yn anad un wlad arall, ydyw ei chyn- adleddau crefyddol, ac nid y lleiaf o'r rhai hyn ydyw Cymdeithasfa y Methodistiaid, neu y Sasiwn" fel yr hoffa yr hen bobl ei galw. Y mae cylch ei dylanwad yn fawr. a'r miloedd aelodau yn Nghymru a Lloegr, wedi arfer edrych ami fel yn anffaeledig bron, a chymeryd eu harwain gan ei chyfarwyddiadau heb ofyn cwestiwn. Yn ddi- weddar, modd bynag, am rhyw reswm neu gilydd, taflodd rh ai pobl amheuaeth ar gywirdeb ei dyfarn- iadau cafwyd allan nad anffaeledig ydyw hithau, a mawr yr ystwr a achoswyd o'r herwydd. Pa un a oedd sail i'r diffyg ymddiriedaeth ai peidio, ni ddy- wedwn. Yn gyffredin, teneu ydyw y presenoldeb yn Sas- iwn y Gwanwyn, am amryw resymau, ond torwyd y record, fel y dywedir, yn Ngholwyn Bav yr wyth- nos ddiweddaf. Clywsom amryw hen Sasiynwyr yn dweyd nas gwelsant erioed gynifer o weinidog- ion a blaenoriaid yn bresenol, a dylai y dreflan brydferth a chynyddol ddiolch yn ostyngedig am yr anrhydedd a osodwyd ami. Cofir am hon yn hir, fel un o Sasiynau enwocaf y ganrif. Ni fu erioed gymaint o ddisgwyl am Sasiwn, gynaint o wylied ei gweithrediadau, na chymaint o foddlonrwydd yn ei dilyn. Yn ddiamheuol yr oedd yn gyfwng difrifol i Fethodistiaeth. Dywedwyd fwy nag unwaith yn ddiweddar y buasai y Corph ar ei brawf yn Nghol- wyn Bay, fod y Hestr mewn ystorm enbyd, ac y buasai raid wrth law gyfarwydd i'w lywio, a'i gadw rhag myned yn llong-ddrylliad ar y crexgiau oeddynt yn sydyn wedi dangos eu danedd ysgythr- og. Ofnwn mai suddo a wnaethai hefyd, pe buasai pawb fyred ei amynedd a thloted o foneddigeidd- rwydd I chwrteisrwydd a'r ysgrifenydd. Ond yn godus, deallai y Uywiwr ei waith, sylweddolai y nerrel a chyda medr a deheurwydd anarferol osgodd bob craig a throbwll, a daeth y llestr imewn i'r hafan dan lawn hwyliau, wedi dyfod trwy y prawf yn fuddugoliaethua. Yn gyffredin, y pregethu sydd yn tynu y bobl i'r Sasiwn, ond bu raid i nwnw gymeryd ail sedd y tro hwn, gan mai yr atdyniad mawr ydoedd Apel y Parch W 0 Jones; dyma'r canolbwynt, ac arno y syllai pob llvgad. Darogenid pob drwg, ac rn wir /r oedd eolwi drychinog ar bethau boreu Mawrth. Ar un Ilaw irr oodd ae'odau Cyfarfod Misol Lerpwl yno yn gatrawd gref, gyda saith o aelodau y pwyll- gor fu yn eistedd o'r blaen ar yr achos. Ar y llaw arall yr oedd y Parch. W 0 Jones a'i Bwyllgor Amddiffynol, wedi gwneud eu hymddangosiad. Y naill, meddid, i ymladd yn ddewr ac unol i wrth- wynebu telerau yr apel; a'r fintai arall yn bender- fynol i wrthod pob compromise ac i hawlio y telerau. Creodd presenoldeb y Parch W. 0 Jones lawer o chwilfrydedd. Siomwyd ambell un yn yr olwg arao Wedi darllen ei lythyrau cryfion a l frawdd- egau llymion a herfeiddiol, disgwylient weled gwr a golwg llewaidd, brwnt arno yn lie hyny, edrychai yn debycach i oen na neinawr neb gwenai yn lion, ac ysgydwai law yn galonog a rhai fu yn ei ffrew- yllu a than ei ffrewyll. Tro annoeth oedd gwrthed y ddeiseb, am nad oedd precedent i hyny. Yn sicr yr oedd llais yn agos i ddwy fil ar bymtheg o aelodau y Cyf- undeb, yn ddigon o reswm dros ei derbyn. Credwn na fu dylanwad y ddeiseb ddim llai er hyny, a llawenycha. rhai o gyfeillion Mr W 0 Jones iddynt ei chael yn ol er mwyn i Mr Jones gael ei chad\v fol crair (relic) e'i Armagedon ac fel yr unig ddeiseb a gyflwynwyd erioed gan aelodau y Corph i'r Gymdeithasfa. -it Digrif ydoedd gweled y gohebwyr yn cael eu troi allan mor ddiseremoni; ac yr oedd golwg pur ddyrys- lyd ar rai o hoaynt hefyd. Gwnaeth y cyfryw ymgais i aros i mewn, gan y methent yn lan a deall paham yr eeddynt ltwy i fyned allan, tra yr oedd Gohebwyr un papura f u yn dra mingauad gyda syniadau un ochr o leiaf,yn cael aros, ond bu gwgy llywydd acamnaid ei law yn ddigon iddynt. Ar ol myned allan bygythiai rhai o honynt y myneat gael eu gwneud yn flaenoriaid cyn y Sasiwn nesaf. Rhvfeddach fyth ydoedd gweled byddin o bre- gethwyr cynorthwyol yn gorfod dilyn y gohebwyr dienwaededig a golwg mor swta arnynt. Ond y mwyaf doniol o'r cwbl ydoedd gwaith cyn-flaenor, a golwg bwysig i'w ryfeddu arno, yn ceisio myned i mewn, a'r dryswr yn ei atal. Ffromodd y gwr, a myntumiodd fod ganddo hawl, gan iddo fod yn flaenor unwaith, a chaa na chafodd ei ddiswyddo, ond-symudolrardalifyw. Oferfu ei drydar, a throi yn ol fu raid iddo yntau. Gan fod y brawd yn foneddwr pur adnabyddus, gwell peidio ei enwi. Nis gwyddom yn iawn pa un ai deg ynte ugain mlynedd sydd er pan y bu yn eistedd yn y set fawr -ond rhaid cael bargyfreithiwr i ddeall rheolau y Corph. Gwelsom y brawd yn ddiweddarach a chopi o'r Blwyddiadur dan ei fraich, mellt yn ei lygaid, ac yn mwmian rhyngddo ag ef ei hun-" beth yw breintiau blaenor ? Dywedwyd wrthym na welwyd erioed gynifer o bobl Lerpwl mewn Sasiwn,—ac yr oedd hyny yn dweyd llawer,—ac na fuont erioed mor ddystaw. Yr oeddynt fel llygod; a gynted ag y cafwyd barn y cyfaifod ar yr apel, ymaith a rhai o honynt ar eu hunion am y tren, ac ni welwyd hwy mwyach. Mr Wheldon, ynte, a ddywedodd am ohebwyr ychydig amser yn ol, eu bod yn ymdyru fel gwylan- od os y bydd rhyw ysbwrial o gwmpas. Credwn y buasai yr un sylw llawn mor briodol am bregethwyr a blaenoriaid,-Ile y mae celain yno yr ymgasglant hwy. Gwelwyd gwynebau yma na welwyd mewn Sasiwn er's llawer blwyddyn, a diflanasant gynted ag y gwelsant nad oedd yno gelain. Canmoliaeth nchel roddir i'r Sasiwn ar y cyfan. Arferodd y Cyfeisteddfod bob doethineb dichonadwy wrth ymwneud a'r mater oedd wedi achosi y fath gynwrf yn y gwersyll, a rhaid cydnabod fod gan y Corph eto, arweinwyr deheuig a chynghorwyr doeth. Yr oedd araith y Parch G Ellis wrth roddi y gadair i fyny, yn deilwng o unrhyw Gyfundeb, ac yn werth ei darllen yn fyfyrgar. -0- Buy TEGOKRA where you buy yourGroceria?. If not, buy your Groceries where you bur "XliiGOKRA.
Advertising
Capel Woodlands (B). Birkenhead. Cynelir y CYFAPDYDD BLYNYDDOL NOS SADWRN a'r SUL, MAI 11 a 12, 1901, pryd y gwasanaethir Nos Sadwrn, am 7, a'r Sul, am 2-15 a 6-15, gan y Parch CHAS DAVIES, Caerdydd, A boreu Sabboth, api 10-30, gan y Parch W. SAMUEL, Windsor St. Gwneir casgliadau yn yr holl odfeuon at ddyled y capel, Karle Road COijgregationaI Schoolroom (Corner of Cantfield Street). GRAND CONCERT TUESDAY EVENING, MAY 7th 1901. Artistes-Madame EMILIE MOWLL, Soprano Miss LILIAN RUSHTOV, Contralto; Mr. J. HALTON MORRIS, Tenor: Mr W. HENRY THOMAS, Baritone; Mr ]1;. LAWSON SMART. Elocutionist. Aceompanist, Miss MILLICENT RICHARDS. Chairman, JOHN JAPP, Esq,, C.C. Doors open 7-15 p.m.; Concert 7-45 'oreoisely. Admission. Sixpence. Established 1854. DAViD WILLIAMS, Coal Merchant, 199 CROWN STREET, LIVERPOOL. Residence- 37 Kingsley Read. Wagon Load supplied at any Station. Cheshire Lines. RHEDEGFEYDD CAER. GYDA THRENAU YN SYTH DRWODD. DDYDD MERCHER (DYDD Y CWPAN) MAI Sfed, 1901. bydd GWIBDRENAU ARBENIG yn gadael LERPWL (Gorsaf Ganol) am GAER (Northgate), yr orsaf nesaf i'r Rhedegfa, fel hyn DDYDD Mhkcher (DYDD y CWPAN). „ Amserau Cycbwyn. GoFSftfodddi C.S. na LERPWL (3ranol) .gad. 10 0 11 10 WARRINGTON (Ganol).gad. 10 35 CAER (Northgate) .cyr. 11 45 12 30 Dyohwelir o w.a. w.a. GAER (Northgate) .am 5 40 6 12 Dosb. laf. 3ydd Dosb. PRIS CLUDIAD O LERPWL 1 » y I GAER AC YN OL ar ylfte Dydd y codir y Tccyn .J 0 WARRINGTON eto 5/- 2/6 Am fanylion oludiad o St. Michael's, Garston Farnworth, a Warrington, a manylion llawn, gweler taneni. DAVID MELDRUM, Goruchwyliwr. Gorsaf Ganol, Lerpwl, Mai, 1901. SCHOOL OF MUSIC, ■ Grove Street Liverpool. Principal Mr JORN TOY ROBERTS, Mus. Bao. (Cantab.), A.R.A.M., F.T.S.C. (London), Assisted by Qualified PROFESSORS. The Branches include: Pianoforte, Organ, Harmonium, Harp, Violin, Violoncello and all Orchestral Instruments. SOLO SINGING and VOICE PRODUCTION. Elements jof Music, Harmony, Counterpoint and Musical Composition. Students specially prepared for the R.A.M. and R.C.M., also for all the Local Examinations. The largest money prize ever offered at an Eisteddfod for Singing was won by one of Mr J H Roberts' pupils. Two chief prizes for Musical Composition at the Nations Eisteddfod of Wales have been won by his pupils. Two Honours won, out of six throughout the United Kingdom, in the same year, at R.A.M, Local Examination. Postal Lessons in Harmony, Oqpfnterpoint. Musical Compositions revised and corrected. Full particu- lars from Mr. J. H. ROBERTS, 149 GROVE ST., LIVERPOOL. \\AG U E'S OVERCOATS 17/6 | 65 BYRM SIll RESIDENT^ ALE NURSES. Tel. 570. 1 el. Ad. Nurses." HOSPITAL RÁINE:Q;NURSES ,;INSTITUTION,' MALE AN'r:E;MIJE"Nú"ItS$'AND & NURSE :> 5"'I'PLI£D TO Tiu' MEDICAL ,PROF£:5 SIO N;PUBlICHOSPJTA lS .:AND-PR IVATE FAIALLIES. HOPE STREET iIVRPOOL, n MENTAL AND FEVER NURSES NEW SONG FOR SOPRANO OR TENOR "CENAD Y DON" Words by BUDDUG, Music by WM. Davies, St. Paul's, London. Test Piece at Merthyr, 1901, Rhy (Xmas), Holywell, &c. Price, 1/- D. TREHEARN, Publisher, RHYL DETJAWD ATI. "DYRO I NI HEDDYW" (Give us this day our daily bread) From Gweddir Cristion. Emlvn Sol-fa 2d; ON.. 3d. ouna, "ARTHUR A MYFANWY." Soprano and Bass. Jenkins Sol-fa and O.N. on the same copy. Price Is. Y MORWYR" (The Sailors). Tenor or Bass. D Emlyn Evans. Sol-fa and O.N. on the same copy. Price la 11 GW VS I'R GkD (Tbe Call to Arms). Tenor and Bass R S Hughes. Price Is. BYDD BUR I GYMRU FAD (Be True to Lovely Wales). Tenor and Bass. W Davies. Price Is. Y LLUSERN. Soprano and Alto. Easy Duett for Female Voices. J T Rees. Price 6d. Y BARDD A'R CERDDOR (Gwalia's Delight). Tenor and Bass. W Davies. Price Is. o Y DDAU ARWR (The Two Heroes)- Tenor and Bass. William Davies. Price Is. Y DELYN A'R CRWTH (The Harp and Viol.) Tenor and Bass. D Pnghe Evans. Price Is. MAE'R BYD YN LLAWN 0 GANU (The World is full of Music). Easy Duett for Female Voices. D Lloyd Evans. Price Is. GWYLL A GWAWL (Darkness and Light). Soprano and Baritone, Tenor and Baritone. Bryceson Treharne. Price Is. T MWYN (The Gentle Spring). Soprano and Alto. W Davies. Price Is. All the above are to be had with both Notations on the same copy. Price Is each. Anfoner at D. Jenkins, Ins. Bac. (ratab), ABERYSTWYTH. GEORGE LUNT, High Olass Boot Maker. Y mae ein Nwyddau yn wreiddiol ae yn arbenigf o ran cynlluniad, wedi eu gwneud oddiar y portreadaul mwyaf newydd, a phob amser i fynu a'r amserau. 95, UPPER WARWICK STREET, LzvzprooL. Telephone 69 (Toxteth JOHN HUQHESi TAILOE, 24, Oxton Road, Birkenhead, Addymuna hysbysu el luoso^ ^wsuierlaiil a dyelthriald ei fed wedi sicrhau ystoc heiaeth o dde/ayddiau newyddion at Siwtiau pwrpasol i'r tymhor hwn o'r potryman a'r luwtru diweddaraf y tori, yr arddull, a'r gwoeuthuriad yn cyfaUtl ddnll yr oes ac am brisiau rhesvmol. W. GRIFFITHS, Tailor, 29, SOUTH JOHN STREET. LIVERPOOL. Pob math o'r defnydaiau 'goreu at wisgoedd j tymhor presenoler law. A GOOD CURE. Burnett's Compound Honey Balsarrw Sold in Bottles nd. and Is 1d. each. Prepared by the Proprietor, T. BURN tTT, The Oath Chemist (by Examination). 116, WEST DERBY ROAD, LIVERPOOL. FOR BAD COUGHS. ¡ Is WAINFLEET'I Lnnglfealep will make your Lungs strong, and cure your Cough or Cold quicker and better than any- thing" All Chemists, iiii &2t9 and W AlKFLEET W orq, Brewood, Staffs, voiit free. =- 1 YN AWR YN BAROD, Prla 6ch, Trwj f Post, 7c. (If) hanfon mewn itumps Dl AI). "Achos Chatham St. f AMDDIFFYNIAD T Parch. W. 0. J ON ES, B.A. Wedi ei adargrapbu o'r 1.1 CYMRO." LIe nad oea Llyfrwerthwr, daufonir chweob M uchod trwy y Post yo ddidraul. J. TOULKES, 1.. PARADISK STKSBT, LIVERPOQIFC; i NOTICE OF REMOVAL. DAVID R. JONES (Alaw Madog), Pianoforte, Organ, and Harmonium Dealeis 68, MONK STREET, E VERTON, Liverpool Danfonir y Catalogue JS/ewydd yn chad trwy'r post unrhyw fan (ar ddsrbyniad postcard), yn yr hwa mae pob manylion pa fodd i brynu Piano, Organ neu Harmonium, &c. ar y -Aerau goreu yn bosibl.
PLANT YDIWYGIID IAWR: NEU…
Rhwygwyd yr awyr gan fanllefau cymeradwyol Llangar i'w gorchestyn, ond y peth a roddai fwyaf o foddhad i Hywel Wyn oedd Moll, yn ei chadair yn ffrynt y Persondy yn chwyfio ei chadach gwyn Yr oedd un tro eto i fod i benderfynu y dorch, ac arosai Hywel Wyn yn y cylch yn hamddenol, ac yn barod am y drydedd ymdrach-ond yn hyn, siomwyd ef. Yn ei gwymp, ysigodd Huco'r Mynydd ei fraich, fel na allai gynyg ymaflyd drachefn. Felly, Hywel Wyn a gyhoeddwyd yn fuddugol. A dyna fel y cadwodd y llanc i fynu enw da ac anrhydedd Llangar. (I barhau) (o)