Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
15 erthygl ar y dudalen hon
Ffestiniog.
Ffestiniog. "SWYN CENEDL YW SAIN CANU." DYNA ddywed llinell dlos o eiddo rhywun, a gellir yn hawdd ei chredu rhwng y bryniau hyn. Nos Iau ddiweddaf cynaliwyd cyngherdd eluseool yn y Neu- add Gyhoeddus, dan lywyddiaeth Mr Morgan Jones, Brvnbowydd, ac arweiniad y doniol Mr John G. Edwards. Elai yr elw i Mr Wm Jones, Gareg- ddyfnallt, hen chwarelwr s/dd yn wael er's llawer blwyddyn. Dyma rediad y rhaglen: Detholiad gan Seindorf Arian Oakeley. Unawd, Bwthyn yr Amddifad," Miss Lily Dew. Anerchiad gan y llywydd. Unawd, "Soldier's Song," Mr E Ffestin Jones cafodd encor brwdfrydig, a chanodd "Pan forr borea g^as yn gwenu," &c. Unawd, "Baner ein Gwlad." Gutyn Eifion. Adroddiad, Miss Cer- idwen Griffiths. Deuawd, "Anvyr Cymru Fydd," Mr Ffestin Jones a Gufcyn Eifion; mynodd y gyn- ulleidfa eu clywed drachefn. Can Eidalaidd gan Miss Dew; cafodd ei hail alw, ac ufuddhaodd. Datganiad gan Gor Brynbowydd, dan arweiniad Mr Bobt Edmunds. Unawd, O leuad dlos," Gutyn Eifion, yn llawn teimlad. Cystadleuaeth adrodd unrhyw dderayn digrifol ond chwaethus, Miss C E Parry gafodd y wobr am adrodd Llanciau Aber- daron." Unawd," Goodbye," Miss Dew. Deu- awd, "Flow gently Deva," Mr Ffestin Jones a Gutyn Eifion. LTnawd, 11 0 ruddier than the cherry," Mr Ffestin Jones, yn wir feistrolgar. Dat- ganiad gan y Cor. Cyfeiliwyd yn fedrus, fel arfer, gan Miss A E Owen. NEWID AWYR. Cyfeiriasom yr wythnos ddiweddaf at waeledd Mr Owen Jones, Erwfair, deallwn ei fod wedi myned i awyr iach Pwllheli i geisio adferiad, a da genym ddeall nad yw yn debyg y caiff ei siomi. I Landudno y mae Mr Wm Jones, Penygroes, wedi myned am ysbaid i'r un perwyl. Bydded llech- weddau y Gogarth ac awelon y mor yn fendithiol iddo yntau. PLANT YN CANU. Nid oes dim pereiddiach ar y ddseir na chan y plant; nid rhyfedd gan hyny fod Capel Jerusalem yn orlawn o blaut a pholl ncs Sadwrn diweddaf. Yno y cynelid Cymwfa Flynyddol Plant Ysgolion Sul yr Annibynwyr eleni, dan arweiniad cyfarwydd Mr Cadwaladr Eo jerts. Yr oedd myned i mewn tuag amser dechreu allan o'r cwestiwn, a bu raid i lawer fel fy hunan foddloni ar y cyntedd allanol. Yr oedd y canu yn dra swyDol, er mai gwaith an- hawdd oedd cadw cynifer o blant dan feistrolaeth lwyr. Tybed y gwneir y rhai y perthyn iddynt yn y "cysylltiacau hyn dderbyn un awgrym? Mae cylch Cymanfaoedd yr Annibynwyr yn yr ardal hon yn sicr o fod yn rhy eang mewn canlyniad mae llawer o gyrau'r mees yn cael eu hesgeuluso. Mae yr enwad parchuj yn gyfoethog o arweinyddion lleol, a gellid yn hawdd ranu'r gwaith i well pivrpas. TROEDIWN I WARD YSTRADAU. Mae cryn ymholi pwy sydd yn myned ilenwi lie y diweddar Mr W J Williams fel cynrychiolydd y Ward uchod ar y Cyngor Dinesig. Gwyddom fod cymeriadau rhagorol ac eaeidiau diwylliedig yn cyfaneddu yn !N hanygrisiau; ond methwn weled yco yr un Saul yn mhlith y brodyr ar gyfer yr amgylchiad arbenig hwn. Enwir amryw fel rhai cydnabyddus a chyfarwydd a'r rhau hon o'r ardal. Yn eu mysg gellid nodi y Mri W J Rowlands, Glanypwll; John Lloyd Jones, Votty a Bowydd; Humphrey Roberts," Cefnbychan Wm dwards, y Bont; Edward J Rowlands, Fronhaul, ac amryw eraill. Mae yn y nifer uchod ddynion ieuainc o gyrhaeddiadau arbenig, ac wedi ymarfer eu gallu- oedd yn y ffordd fwyaf uniongyrchol i'w cymhwyso ar gyfer gwaith fel eiddo y Cyngor Dinesig. Hyd- erwn y gwel etholwyr Ystradau eu cyruhwysderau, cyn i neb arall ddechreu lluchio llaid i'w llygadau. GRADDIO. Bydd yn llaweoydd gau gylchoadd eang a pharchus ddeall fod Mr Richard A Mills-Roberts, M.R.C.G., M-R.C S. (of England), mab ieuengaf Mr Robert Roberts, Y.H., Dolawei, wedi enill y radd o M.B. yu Mhrifysgol Durham yr wythnos ddiweddaf. MANION. Bu Seindorf Arian Oakeley yn dyddori yr ardal nawn Sadwra diweddaf. Mae eu cyugherdd blyn- yddol gerllaw dylent gael pob cefno^aeth. Deall- wn fod yn eu bryd g-iel Bandroom newydd. Ychydig o son sydd yma am yr Wyl Lafur; pysgota a phlanu tatws sydd yn myu'd a hi y dydd- iau hyn. Deallwn fod Adroddiad Blynyddol Dr Richard Jones, Isallt, Swyddog lechyd y Cynghor Dines- ig, wedi ei gyhoeddi. Dywedir ei fod yn dra dy- ddorol; cawn sylwi ar ranau ohouo eto. Llawen genym ddeall fod Cymdeithas y Pysgot- wyr wedi penderfynu cyhoeddi yr Alareb i Mr Hughes y Postfeistr gyda darlun rhagorol ohono. Nid oes sicrwydd hyd yn hyn, a gaiff ei weld w drallodus ei le ai peidio. Dyma fel y dywedoid un o'r beirdd wrth wrando Miss Annie Giiffith a Mr Idw.il 0 Griffith, Glany- pwll yn chwareu deuawd ar y berdoneg— Dan auwyl yn cyduno-ar danau Y berdoneg lieno; Chwaer a brawd na chura bro Efo hwyl i gyfeilio. Dywedir fod coronwaith cywreinion i'w weled In ffenestr Siop yr Hall y dyddiau hyn. Cynliun o gastell ydyw, wedi ei weithio ar lecbfaen gan Mr Uwen Roberts, Towyn Road. Clywsom ddweyd mai y diweddar Mr W J Wil- liams, yr hen ysgrifeuydd, fydd testyn Cadair yr Annibynwyr y Nadolig nesaf. Mr J D Jones, Mauod Road, sydd ar bea y rhes eleni eto yn y dosbarth hynaf, yn Arboliad CJfar- fod Misol Gorllewia Meirioaydd. Pwy fuasai yn meddwl am anfon un mor dyner a gwyl:iidd a'r Parch R R Morris i Gymdeithasfa ColwN a Bay ? Er hyuy, ihoddodd ein cyfaill mwyn gyfrif rhagorol ohoao ei hun yno. PBYDBBI.
CYMANFA Y PASG.
CYMANFA Y PASG. Llawtr a siaradwyd fod y oyfa.rfod a gynaliodd Mr W 0 Joijes yn yr ardai uchod yuhydig ddyddiau o fl ten y Gymania wedi t.-i nmoauu er drwg idji, ac fod raai gwemidugim wedi dyoddef o'r herwydd Gw;r tud tri o'r pre?,ethwyr o Larpwl, sef y Parctm John Williams. Owen Owens, a YV M Junes, yn gwasan- aefchu yno y Pasg, ond caws int r un croesaw a. chyu- ulleidfaoedd a'r gweiuidogion er»iil Mae darogan, fel y gwnaed cyu ac a-, oi y (.jymanfa, yn sLr o fod yu adlewyrctiu yn ddrwg ar Mr Jones c ar gyfaillion Jftn tiniog. Sicr genym t.a lwiiadwyd y cy tat fod i'r amOao uchod, ni ddangosodd neb o'r pLe=wylwyr yr a nhaich lieiaf. Un.oedd yno.
Lladron Lerpwl.
Lladron Lerpwl. Y MAE lladron Lerpwl yma wedi dysgu cast drwg iawn yn ddiweddar, sef lluchio pupyr i lygaid pobl onest, ac yna eu hyspeilio. Postmon yn Moseley Hill a'i cafodd hi gyntaf felly, ac y mae'r lleidr hwnw byth heb ei ddal. Nos Sadwrn, yn Bloom Street, chwareuwyd yr un cast a dynes; a chymerwyd ei phwrs o'i basged. Ond daliwyd y gwalch, ac aiff pris y pupvr i lawr am rai misoedd gan y rhaid i'r cwsmer yma, mae'n dra thebyg, eu treulio ar ddw'r a halen. I().
Y ddau Lord Bobs.
Y ddau Lord Bobs. YR wythnos ddiweddaf taenwyd y gair yn sir Gaer- narfon fod Arglwydd Roberts ar fedr dod i Glyn- llifon i fyw neu ar ymweliad. Ond trodd y chwedl allan mor ddisylwedd a'r chwedl a,rall a daenwyd bythefuos yn ol sef fod y Breain wedi prynu ystad Glynllifon. Cododd y stori yn nghylch y Maes- lywydd mewn ffordd pur ysmala. Aeth cenad tros Arglwydd Newborough i Loegr i brynu tarw, a sicrhaodd greadur uchel-waed a lyselwid Lord Bobs." Wedi gorphen y fargen pellebrodd i Bwll- heli y byddai Lord Bobs yn cyrhaedd gyda'r tren a'r tren. Fel tan gwyllt, lledodd y newydd am ddy- fodiad y rhyfelwr i Glyn Llifon. Feddyliodd ueb am ei gyfenw, "Breuin y Buarth a'r Ddôl." --0--
Advertising
EGLWYS DEWI SANT, Brownlow Hill. Cynelir Gwasanaettiau Blyqyddol Yn yr uchod y SUL NESAF, MAI 5, 1901. 11 a.m., Gwasanaeth Saesneg. Pregethwr: Parch. David Richards, M.A., Ficer Blaenau Ffestiniog. Bydd Arglwydd-Faer y ddinas, a nifer o Aelodau y Cynghor Dinesig yn brosenol yn y gwasanaeth hwn. 6-30 tf.m., Gwasanaeth Cymraeg. Pregethwr: Parch. DAVID RICHARDS Blaenau Ffestiniog. Gwneir casgliadau er budd trysorfa Eglwys Dewil Sant. Trinity Road (A), Bootle. Cynelir -E.AZAA. Ar raddfa eang yn nglyn a'r Eglwys uchod MAI, 1W2. Ceir y manylion eto. COLWrN BAY.—Superior Apartments pleasant*- ly sit iated terms moderate.—Mrs R D Green, Ocean View. COMFORTABLE LODGINGS for two Gentle- men near Sefton Park. House contains bath and every convenience. No children. Half minute's walk to the Smithdown Road car. Charges mode- rate -Apply G, Cymro Office. MAE OWEN WILLIAMS, 59 Stanley Road a Wadhatn Road, Bootle, Wedi prynu Manchester Maker's Stock am agos haner y pris. Cewch ddewis o ganoedd. BROCHE CAPES am 15s 9c, gwerth 21s i 33s. L A.DIES' COSTUMES, 15s 9c, gwerth 21s i 29s 6c, mewn Black, Grey, Helio, Royal Purple, Fawn. COVERT COATING, Three-quarter Sac Jackets. FAWN RESED A Grey, 10s lie. Nis gellir eu prynu yn; unman tan 15s i 21s. CHILD COSTUMES, all sizes, 5s lie. Dychwelir pres y car i bob un ddaw a'r Hysbysiad hwn gydag ef-prynu neu beidio, fel na bydd neb yn siom o'r siwrne.
Nodion o Faalor.
Nodion o Faalor. Nos Sadwrn, I UN o gyngherddau goreu y tymhor ydoedd yr un a gynaliwyd yn Ngwrecsam y noson o'r blaen er budd Elusenwyr yr Heddweision, yr hwn a gyne ir yn flynyddol. Gas iddynt barotoi rhagleu atdyn- iadol, cawsant gynulliad tra lluosog, yn eu plitn y Mil. West a'i briod ac urddasolion eraill. bob amser y ceir cwmni pobl o safle y rhai, „ h^^jtnewn cyngherdd yn Maelor. M Cariwyd y rhaglen allan yn ganmoladwy iawn ar y cyfan gan Miss Gwendoline Dew, Mr Plunket Greene, a Phedwarawd Eglwys Gadeiriol Caer, fel lleiswvr Miss A Leadbetter yn chwareu y crwth, Mr J Liddle ar y berdoneg, a chwareuwyd dethol- ion rhagorol gan gerddoda Mr Stephenson. Yr ydym yn hen gyfarwydd a'r pedwar o Gaer a Miss Leadbetter, ond yr oeddynt mor swynol ag erioed, ac ni byddis byth yn blino arnynt. Dyma ymweliad cyntaf, 'rwy'n meddwl, Mijs Dew a Mr Greene, ac er fod rhai yn wastrafius yn eu canmol- iaeth iddynt, i mi nid oeddynt i fynu o gryn dipyn ag amryw glywsom yn y neuadd. Y mae bechgyn y Cefn wedi deffro o ddifrif yn ddiweddar, wedi sylweddoli mor bell ydynt ar ol yr oes. Ardal fawr, boblog, ddi-) ni arferai fod; yr unig arwydd o fywyd yno oedd y canu, ac fe fedrant ganu hefyd. Ond pa les ydyw canu, canu o hyd, ac esgeuluso dyledswyddau ? Y gwr sydd wedi eu deffro yw y cyfaill diwyd a diymhongar Mr G W Hughes, ac iddo ef y byddo'r clod. Yn ddiweddar llwyddodd i gael gan y bobl itu- ainc ymgymeryd a chodi Neuadd Gyhoeddus i'r ardal, ac ni fu ardal erioed mewn mwy o angen ad- eilad felly. Erbyn hyn, da genyf allu dweyd fod y mudiad yn myned yn ei flaen yn rhagorol, ac na raid aros yn hir nes y bydd digon o arian yn y dry- sorfa i'w galluogi i gychwyn ar yr adeilad. Wedi gweled yr anturiaeth yn myned rhagddi, trodd Mr Hughes ei olygon i gyfeiriad arall, a phwy noson ymgynulloJd nifer o wyr dylauwadol ar ei wahoddiad i ystyried y cwesti. n o sefydlu Eistedd- fod flynyddol yn yr ardal-Eisteddfod deilwng o'r enw, a theilwng o dalentau yr ardal gerddgar. Cy- merodd y Ficer y gadair, a bu araith wresog Mr Hughes yn foddion i godi brwdfrydedd uchel, a phenderfynwyd cynal Eisteddfod f awr, aphenodwyd pwyllgor cryf, gyda'r Ficer yn gadeirydd, a Mri G W Hughes a R M Foster yn ysgrifenyddion. Gwyl- iwn symudiadau y mudiad hwn gyda boddhad, a dymuawn o galon iddynt bob llwydd. Golwg swta i'w ryfeddu oedd ar wyr cyrn y Rhos yn dy fod adref y dydd o'r blaen o'r siwrnai seithus hono i Mountain Ash. Eisteddfod oedd yn y lie pell hwnw, a bu y bechgyn yma yn chwythu ei hochr hi am wythaosau lawer i barotoi i enill gwobr fawr a gynygid yno. Heblaw hyay, casgl- wyd llawer o arian i dalu eu treuliau, ac yr oeddynt mor siwr o'r wobr a phe buasai yn eu dwylaw. Ond ow wedi'r holl drafferth a'r chwysu, a myn'd mor bell, bu raid troi adref heb gystadlu o gwbl. Y mddengvs i'r seindyrf eraill gael allan rywfodd fod bechgyn y Gogledd wedi tori rhyw reol fechan wrth entro-dim anfon enwau y gwahanol chwareu- wyr neu rywbeth mewn pryd, a gwnaethant wrth- dystiad unol yn erbyn iddynt gael cystadlu, a llwyddasant. Hen dro gwael, onide ? Oad bydd yn wers i fechgyn y Rhos agor eu llygaid yn gynt y tro nesaf. Wedi pasio i ail ymuno a, Chynghrair y Mwnwyr trwy fwyafrif o 679, cynaliodd Undeb Mwnwyr y Rhos gyfarfod yn y Neuadd Gyhoeddus nos Lun, i ystyried beth oreu i wneud gyda'r drysorfa o 2,500p oedd ganddynt, gan fod yr Undeb hwnw yn peidio a bod os yn ymuno a'r Cynghrair. Bu yno siarad brwd—dipyn o bobpeth, a mwy o synwyr nag a ddangoswyd lawer tro. Mynai rhai dalu allan ohonynt y fees gofynol wrth ymuno a'r Cynghrair, sef 5s y pen, yr hyn fyddai oddeutu 250p, a rhanu y gweddill rhyngddynt. Yn y diwedd penderfynwyd cael pleidlais yr boll aelodau trwy y tugel ar lan y gwahanol byllau. Hen lane cysetlyd ydoedd Charles Humphreys a fu farw yn Ngwreesam yr wythars ddiweddaf, wedi treulio blynyddau lawer yn swyddfa Mri Evan Morris, cyfreithwyr, a Syr Evan Morris cyn hyny. Tybid yn gyffredin ei fod yn bur dlawd, ac ychydig ddyddiau cyu ei farw cymerwyd ei fam oedranus ac afiach i'r tlotty. Oad yn mhen ychydig ddyddiau wedi ei gladdu, cafwyd hyd i'w ewyllys yn y ty, yn gadael 300p, oedd ganddo yn y banc, i'w rhanu rhwng clercod Evan Morris, a dim son am ei fam yr oedd mor barchus ohoni bob amser. Mae'n debyg mai'r esboniad ar y dirgelwch ydyw, na ddaeth i'w teddwl erioed y posiblrwydd i'w fam fyw ar ei ol. Yn dra charadig, penderfynodd y clereod drosglwyddo y cyfan i'w fam weddw dlawd, symudwyd hi o'r tlotty, a gofelir yn ofalus am dani. Od y bu yr hen Charley fyw, ac Od y bu farw. Da genyf fod Gwrecsam yn cael ei chydnabod mewn rhai cylchoedd parchus. Y mae Mr Wm. Thomas, Y.H., newydd ei ethol yn llywydd Undeb Eglwysi Rhyddion Gogledd Cymru, a Mr F H Hawkins, Ll.B., cyfreithiwr, yn un o'r is-lywydd- ion. Un hynod weithgar yw yr olaf, ac efe ydyw cade'rydd presenol Undeb Cynulleidfaol Gogledd Cymru. Nid yw ond dyn ieuanc, ond y mae eisoes wedi llanw llu o gadeiriau, un o ba rai ydoedd cad- air Cymdeithas Genadol Llundain. DTFFRYNWB.
--0--Y Senedd.
--0-- Y Senedd. TOLL Y GLO. CAFODD y ddadl a ddisgwylid ddydd Mawrth ar doll gynygiedig y Gyllideb ar, y glo aUforol ei go- hirio. GWRTHOD ME SUR CWMNI REILFFORDD. Ar y cynygiad o ail-ddarlleniad Mesur perthynol i Gwmni y London & North Western, cynygiodd Mr Hay welliant, yn gwrthod y Mesur, am ddarfod i'r cwmni hwnw osgoi eu dyledswydd gyda golwg ar godi tai i bersonau a drowyd allan o dai eraill i bwrpas y cwmni. Gwrthodwyd yr ail-ddarlleniad drwy 210 yn erbyn 202. Cymerwyd rhan bwysig yn y ddadl ac yn erbyn y Cwmni gan y Mri Lloyd-George, E Jones-Griffiths, S Evans, a Bryn Roberts. o
Marohnadoedd.
Marohnadoedd. Omer-Ebrill 27. Gwenith gwyn, newydd, 4a lo i Os 00 y 75 pwys; hen, Os 0c i Os 0c; ooch newydd, 3s 110 i 4s 00 hen eto, 08 Oo i Os 0c oeirch newydd, 2s 3o i 2s 60 y 64 pwys; hen, 3s 60 i 3s 9c y 64 pwya haidd at fragu, Os 00 y 60 pwys; haidd at falu, newydd, 03 Oo i 0 j Oc; hen, Os 00 i Os Oo y 64 pwys; ffa newydd, Os 00 i 163 80 y 210 pwys; hen, 03 Oo i 03 Oo y 80 pwys indrawn newydd, Os Oo i 12i 9J hen eto, Os 60 i 03 Oo y 240 pwvs. Bangor Ebrill 26. Ymenyn ffres, Os 00 i Is 2o y pwys; wyau, 18 i 19 am 1s; biff, 70 i lOo y pwys; molltgig, 80 lOo; cig oen, Is 3J y pwys oig lloi, 03 i Oo poro, 80 i lOo mooh tewion, Oo i 4jo y pwya. Cywion, 03 Oo i Os Oo y cwpl; ieir, Os 00 i 0j 00 yr un cywion hwyaid, Os Oo i 03 Oo yr un. Caernarfon, Ebrill 27 Ymenyn, Is 2o i Is 4o y pwys; wyau, 18 i 20 am swllb biff, 2;0 i 9o y pwys; molltgig, 7c i 9c; cig oan, 93 00 i 0 J On y pwys; cig Iloi, 5o i 9o poro, 5c i Oo cywion, Os 00 i Os 00 y cwpl; ieir, 5s Oo i 5s 60 y c Npl hwyaid, Os 00 i Os 00 yr un. Llangefni, Ebrill 25 Ymenyn ffres, Os Oo i Is lo y pwys wyau, 0 i 22 am iwllt; ieir, Is 9a i 2i Oes yr un hwyaid, 2) 0a i 2' 60 yr un; moch tewion, 4c i 4io y pwys pyre, 18 j Oo i 21s Oo yr un biff, 60 i 83 y pwys molltgig, 7o i 9a eig oeii, Is Oc i O3 0a oig lloi, 7c i 80 poro, 6c i 9 a. Birmingham, Ebrill 39. Biff, 4!0 i 6c y pwys; molltgig, 5o i 8J0 oig oen, llo i Is oig lloi, 53 i 80. Mooh baewn, 10s Oo i Os 00 y soor perohyll, 103 60 i Os Oc hychod, 0s 9o i 83 4c y scor. Salford, Ebrill 30. Prieiau :-Biff, 5io i 6f0 molltgig, 510 i 8J0 wyn, Is i Is lc y pwys; oig lloi, 60 i 850 y pwya. Mooh, 10s 00 i 10s 4c y scor. Uundaln, Ebrill 30. Y farchnad wenith yn ddystaw, a'r pris o 3c i 6ch ya is. Indrawn hafyd yn ddrutach, yn enwedig y melyn o La Plata. Haidd yn dal yn gyndyn wrth ei bris, ond ychydig oedd o brynu arno. Ceirch yr un modd. Lerpwl, Ebrill 30 Gwenith mewn galwad cadarn am Jo y can pwy-i yn uwch. Gwenith Califfornaidd, am 6s 2o i 6s 2|o y canpwys. Ceirch a blawd ceirch yn gad- am. Indrawn America, 4s 510 i 4s 6ic; Plate melyn, 4s 4c i 4s 8J; Odessa, 48 80 i 48 9c Galatz, 4s 8c i 4s 9o; Oinquantina, 5s 60 i 5s 7c. Pys, Os 00 i 5s 8a y canpwys; ffa Saidi, 29s 9o i 30s 0o y ohwarter.
Advertising
Mount Zion Welsh Wesleyan Circuit, Liverpool. CRAND SCEttIC BAZAAR. In connection with the above, a Grand Challenge Solo Competition for Ladies, Prize, SOLID GOLD WATCH, beautifully carved case, value £5 5s. Grand Challenge Solo Competition Gentlemen Prize, First-class Gold Strengthened HUNTING LEVER WATCH, value X5 5s (the above Competitions for AMATEURS only) will be held in M()UT ZIOST CHAPÆL, Princes Avenue, Liverpool, SA TURDA Y, nth MAY, 1901, at 7-30 fi-m- Adjudicators-Mr R. WILFRID JONES, R.A.M., & Mr W P HARTWELL JONES Accompanist-Madame MAGGIE EVANS (Megan Mon) Chairman JOHN JONES, Esq., 242 Scotland Road. Choruses will be rendered during the evening by the Avenue Ohoral Society (Conductor, Mr Cidwaladr Owen) Admission—Is, and 6d. 2a 6d Entrance Fee, including admission. Operatio and Humorous Songs debarred. Six out of each compaction will be chosen to sing at the Test Concert Date fo receiving names of intending Competitors extended to the 90h insfl. Naa.es accompanied by the fee to be sent to the Searetary, JOaN E. LEWIS, 121 Northbrook Street, kpreliiniriary test to be held in the Lecture Hall, Mount Z on Chapel, at 3 p.m. on Saturday, the 11th inst
--_R Birkenhead.
-R Birkenhead. YN nghapel Clifton Road nos Sadwrn darlithiodd Elfed yn goeth a melus ar "Diwygiwr y Mynydd- oedd "—ond nid yr un un diwygiwr o lawer ag yr oedd y gynulleidfa wedi ddyfalu. Cymerwyd y gadair gan y Parch H P Thomas, a thalwyd y diolch. iadau gan y Parchn 0 L Roberts, Joseph Davies, a W 0 Evans Awr a haner o fwyniaut dyrchafedig yd" oedd. Dranoeth draohefn pregethai Elfed a'r Par3h W James, Abertawe, ac yr oedd y capel, yr h vyr In enwedig, dan sang.
-::o:,-:--Araith gyntaf yr…
::o: Araith gyntaf yr Aeiod dros Feirionydd Nos Lun diweddaf, traddoiodd Mr Osmond Williatr* A.S., ei araith gyntaf yn Nhy y Cyffredin mewn ffurf o wrthdystiad ya erbyn y dreth ar siwgr, fel yr oedd yn othrwm ar y dosbarth tlotaf. Euillodd ffafr y Ty yn arbenig drwy ddifrifoldeb ei apel, a'r dull hapus yn mha un y traddododd ei araith. Cafoid groesaw mawr gan y ddwy ochri'r Ty.
Cerfddelw 0 Mr William Rathbone.
Cerfddelw 0 Mr William Rathbone. YN yr Arddangosfa Rwng-genedlaethol yn Glasgow rhoi'r amlygrwydd i gynllun o gerfddelw o Mr William Rathbone, y diweddar aelod dros ddosbarth Arfon. Cerfiwyd y ddelw gan Mr George Frampton, A.R.A. Y mae yn ddelw odidog, tua degtroedfedd o uchder. Dangosir Mr Rathboae yn sefyll ar ei draed, yn ngwisg y Brifysgol, ac yn dal gradd LL D.. Gosodir y gerfddelw i fynu yn fuan yn Lerpwl.
Cyrddau y Oyfodol, &o.
Cyrddau y Oyfodol, &o. (Gweler hysbysiadau yn y rhifvn hwn.) Mai 5-Gwasinaetbau Blynyddol Eglwys Dewi Sant. Mai 7-Cyngherdd Earle Road. Mai 11, &c.-Cyf. Pregethu Woodlands, Birkenhsad. Mai 11—Cystadleuon Canu yn Mynydd Seion. Mai 22 —Prawf-Gyngherdd Trinity Road. Awst 31-Eisteddfod yn Prescot. 1901. Mai-Nodachfa Trinity Road -0-- The good housewife always uses "Joy of Home Tea. It, is the best, therefore the cheapest. Sild at 1/G per lb at. John Hughes's shops. Try a sample.
Family Notices
GeneNgaetbau. Jones-Ebrill 28, yn 61 Raffles Road, Birkenhead. priod P H Jones, F.I.C., ar fab. Williams-Ebrill25, yn Gwylfa, Caer, priod Josiah Wil- liams, ar fab. Driodad Taylor-Williams-Ebrill 23, yn Eglwys St Dewi,Dinbych, Arthur Taylor, 21 High Street, Rhyl, ac Ellen Mary (Nellie). merch hynaf J. Williams, 128 Vale Street, Diabyeh. flkarwolaetftau. Williams-Ebrill 28, yn Bluecoat Cottage, Everton Valley., yn 68 oed, gweddw George Williams. Williams—Yn 30 Harrowby Street, Lerpwl, yn 67 oed, Henry Williams.
Advertising
W, JONES, Oeatal Surgeon 13 PARKER STREET (a few doors from Church Street), Liverpool See announcement on Front Page. SPECIAL ADVANTAGES. 1 All that is latest and best in Dental Surgery. 2 PERSONAL attention to each client. 3 FREE Consultation. 4 Nitrous Oxide gas at low rates, when tMoeMMjr in preparing for New Teeth. 5 A large selection of DAINTY lEETH, to sail every Variety of Face and Beauty BETTER and PRETTIER than those supplied at double the price by Dentists in West end of London. 6 tSFSiaredir Cymraeg neu Saesneg. Printed and Published by ISAAC FOULKES at; his Printing Establishment, 8, Paradise Street in the Parish of Liverpool, in the County of Lancaster Telephone 7426 (Cantral)-