Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

38 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

[No title]

[No title]

Cymdeithas Amaethyddol Mon.

[No title]

t0 Fon i Fanaw.I

--------I ba le 'Baath y Fodrwy…

Imneilldnad Syr Robert Giffen-J

Y Terfysg yn India.

Tref Cydweli a i Haaffsdion,

tigwycdiac. Brawychus i Llant.

Kenyddiad yn Lsrpwl.

Nodaohfa. Ffasiynol ya Ngholwyn…

Bangor-,

[No title]

Cema,es, Hon.

Cemlyn.

[No title]

, ILlanallgo a'r Amgylchoedd.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I Llanallgo a'r Amgylchoedd. Gyda gofid yr ydym yn cofnodi marwolaeth yr hen batriarch duwiol Mr John Roberts, Bryneugrad, yr hyn a gymerodd le Awst 19eg, yn 72ain mIwrdd oed. Gadawodd ar ei ol i alaru eu colled dirfawr am dano dri o feibion a dwy o ferched yn nghyd a'i bnod hawddojar, Mrs Roberts. Yr hynaf o'i feibion ydyw y Parch John Roberts, gweinidog cymeradwy y Tabern- acl M.C.) y mae yr ieuangai, scl Mr William Ro. berts, yn flaenor y gan yn Nghapel Llanallgo. yn wr ymroddgar dros ben yn y winllan; a Mr Richard Roberts, yr ail fab, yn llafurus a defosiynol gyda'r achos yn y lie. Bu Mr John lioberts am lawer o flynyddoedd yn brif flaenor yn LIanalIgo, a bydd colled mawr iawn am dano. Bydd bwlch anhawdd i'w lenwi ar ei ol. Yr oedd yn un o'r dynion llawnaf yn y sir, yn ddarllenwr mawr, yn gynghorwr doeth, yn gyfaill ffyddlon, yn garedig a pharod, yn luiwddgar a Ilawen. Mewn gair yr oedd ol gras Duw ar ei holl ymddygiadau. Yr oedd dau gyfnod yn cydgyfarfod ynddo er ei fod o'r hen stamp nid oedd ei ymlyniad yn hyny yn ei gaethiwo i wrthod cyfnewidiadau er gwell gpn y to sydd yn codi. Yr oedd ganddo enaid mawr wedi ei drwytho a'r teimlad hwnw sydd yn gwneuthur dyn yn bobpeth fel yr enill Grist. Dwyn ei gyd-ddyn i afael a moddion cadw ydoedd prif nod ei fywyd. Codwyd ef y blaenor uchaf yn y sir. Caf- odd yr anrhydedd inwtaf allai y Corph roddi arno. Ciaddwyd ef ddydd Llun yn mynwent y TaberHacl. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch John Williams, Llangefni, y Parch J. Hillier, Beaumaris, a'r Parch William Roberts, Tabernacl. Ymestynai yr orymdaith am yn agos i filldir. Rhifai y cerbyduu oddeutu 31ain. Arweiniwyd yr orymdaith o Marian Glas am ffordd Llangefni, gan droi heibio California Inn, a chyrclm yn arafaidd am Gapel Tabernacl. Wedi cael trefn ac eistedd yno, rhoddwyd emyn allan i ganu gan y Parch John Williams, dar- llfnwrd gan y Parch Griffith Williams, a gweddiwyd yn hynod doddedig ac effeithiol gan y Parch — Owens, Gorllwyd. Yna anerchwyd y gynulleidfa. gan v brodyr canlynol: Mr Hugh Williams, Menai Bridge, a'r Parchedigion Owen Hughes, Amlwch; John Williams, Llangefni; John Owen, Ty Mawr, a T. Pierce, Penucheldre. Ar lan y bedd darllenwyd, gweddiwyd a chanwyd; a dodwyd ei weddillion i orphwys mawn hedd, ie, mewn gwir ddiogel obaitli o adgyfodiad i fywyd tragwyddol., Buom mewn am- iyw angladdaa yn fy oesrf ac. fel rheol, mae tuedd dyrchafu y marw yn ormodol mewn angladdau, eithr yn yr amgylchiad yma tystiolaeth pawb ydoedd,. er mor uchel y dyrchafwyd eu diweddar gyfaill, na rodiwyd un sill yn ormod am dano gan neb. Yr oedd y eyfeillion wedi darparu digonedd o ymborth da ar gyfer yr amgylchiad a chlywais fod "oddeutu 350 wew eistedd wrth v bwrdd yn Ysgoldy Tabernacl. Mor briodol ydyw y rhan flaenaf o alarnad Dafydd am y gwr da a gladdwyd, "0 anlderchawgrwydd Israel, pa fodd y cwj-mpodd y cedyrn :Seion a archoll- wyd ar ei huchelfanau heb neb Wei diddanu." Nerth bywyd y byd arall-oedd mawredd Arabedd ein cvfaill; Or braidd, y rhoed i briddell Un blaenor a chyngor gwell. Traethbychan. Minydws.

Llandyfrydcg.

Llanerchymedd-

Llaagefni.

[No title]

Ehosybol

Terfyniad Streic mewn Glofeydd…

Damwain Angeuol mewn Glofa…

[No title]

---Undeb Ysgolion Sabbothol…

Llythyrau at y Goiygydd -

Family Notices

CARNARVON.

PORTMADOC.

Advertising

--Nodion Amaethyddol.

[No title]

[No title]

Ffrwydm* EychrTnllyd Nwy.

Ymladd Gcrnest rhwng dau o…