Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

21 erthygl ar y dudalen hon

r:::_--------------------Bangor.

Caernar&n-

Llanallgo.

llangefni.:

Portiiaethwy.

Penrhyn (Cemaes). ]

Peamynydd

:1'Pensarn (Amlwch).

Talwrn ( £ ?®r llangtfni).

Bethesda.

---------------Eyfrryn iMaritlls…

Porthmadog.t

Masnach Yd yr Wythnos.

Yr Awen Ewyldcgol

. SODION ,

: Cyhuddiad Difrifcl yn Sfoyn…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cyhuddiad Difrifcl yn Sfoyn Chwareivryr. EU TRADDODI I'R BRAWDLYS. Yn heddlys Bettwsycoed, ddydd Mercher, ger- bron y Milwriad Johnstone, Dr. Evans, a Mr Buxton, cyhuddid Robert Eccles, William W il- liams (Cross Keys), a David Thomas (Green Oak), yr oil o Bettwsycoed; Owen Pritchard a Richard Humphreys (Welsh-st.), Richard Griffith (Cae'r Gerllan), Evan Evans (Carneddi-road), a T. Henry Williams (Bryn Ffrydlas), yr oil o Bethesda, ar rhai a weithient yn yn Chwarel y Pen- rhyn, o ymgynghreirio i dwyllo Cwmni Chwarel- au Bettwsycoed. Erlynid ar ran y cwmni gan Mr David Jones, Llanrwst, ac amddiffynid y cyhuddedigion gan Mr Ellis Jones-Griffith, A.S. (yn cael ei gyfar- wyddo gan Mr Davies-Jones, Llanrwst). "Gofynodd Mr David Jones am i enw John Richard Jones, yr hwn oedd wedi dianc i ffwrdd, gael ei dynu allan o'r eyhuddiad. Wedi peth siarad rhwng y twroeiod a'r fainc ar bwynt o gyf- raith, aethpwyd yn mlaen gyda'r achos yn erbyn David Thomas am iddo, mewn cynghrair a John Richard Jones neu David Reberts, geisio twyllo'r cwmni. Tystiodd Mr London, arolygydd y cwmni, fod David Thomas yn gweithio yn y chwarel ar y 12fed o Awst, a bod John R. Jones naill ai yn bartner gydag ef, neu yn gyflogedig ganddo. Ar y dydd dan sylw darfu iddo ef (y tyst) wylío tri pheiriant pwyso am dair awr o amser, er cael allan pa nifer o lwythi a elai drostynt yn y rhan hono o'r glodrlfa lie y gweithiai y cyhuddedig. Pasiodd pedwar llwyth dros y peiriant o'r fargen a weithid gan Thomas. Wedi chwilio llyfrau y ty pwyso, gwelodd fod saith o Iwythi wedi eu rhoddi i lawr yn lie pedwar. Bachgen o'r enw David Roberts a ofalai am y peiriant pwyso. Y diwrnod dilynol, yr oedd nifer y liwythi yn gywir ond yr oedd eu pwysau yn llawer mwy na'r hyn a ddylasent fod, a barnu oddiwrth ymddangosiad y llwythi. Credai fod pwysau un llwyth yn y llyfr gymaint ddwywaith ag ydoedd mewn gwir- ionedd. Bu ef yn siarad yn ddifrifol ar y mater gyda'r bachgen. Talwyd i'r dynion yn llawn. Telid iddynt yn ol 8c y dunell am gludo ymaith yr ysbwriel. Mewn atebiad i Mr Ellis Jones-Griffith, dy- wedodd y tyst ei fod yn gwylio y peiriant pwyso o bellder o ddau can' llath. Yn ystod y mis blaenorol, nid oedd rhai o'r peirianau pwyso yn gywir ond yr oedd yr un a wyliai ef ar y 12fed o Awst wedi ei osod yn ei le. Nid oedd y dynion yn gosod y pwysau i lawr pan na byddai y bachgen yn bresenol. Buasai ef jn troi i ffwrdd unrliyw ddyn a wnaethai y fath beth. Nid oedd ef yn ym- wybodol fod llechfaen gerllaw y swyddfa wedi ei gerchuddio a fiigyrau ond ni buasai yn synu wedi dcall yr hyn a wnaethid. Trowyd David Thomas i ffwrdd o'r gwaith ar y 12fed o Awst. David Roberts, y bachgen a ofalai am y peir- iant pwyso, a ddywedodd iddo ddechreu gweith- io i'r cwmni ar y 19eg o Orphenaf, ac iddo or- pluen ar yr 21ain o Awst. Ei ddyledswydd ef oedd pwyso'r liwythi, a'u rhoddi i lawr yn y llyfr. Ar yr 2il o Awst, gofynodd David Thomas iddo a wnai efe ei gyfrif i fyny, gan addaw cofio am dano ar derfyn y mis. Ni addawodd iddo arian. Ni ddarfu iddo ef roddi chwaneg o Iwythi i lawr yn enw David Thomas hag oedd yn ddyledus iddo; ond fe ddarfu wneud hyny i John Richard Jones, partner David Thomas. Ni ddarfu i'r cyhuddedig siarad ag ef yn nghylch rhoddi chwaneg o Iwythi i lawr nag oedd yn ddyledus iddo. Mr Ellis Jones-Griffith: Eich tyst chwi yw y dyn ieuanc kwn. Mr David Jones: Ond y mae'r ffaith ddarfod iddo wneud dadganiad wrth fy mhartner i a Mr London i'r gwrthwyneb yn ei osod allan fel tyst gelyniaethus i ni. (Wrth y tyst) A ddywedwyd rhywbeth am haner coron 1 Mr Ellis Jones-Griffith: Yr wyf yn gwrthwyn- ebu i'r cwestiwn yna gael ei roddi. Yr ydych wedi galw tyst, ac yn gwrthod ei osodiadau. Y Cadeirydd a feyhvodd fod gan Mr David Jones resymau digonol dros ystyried y tyst fel un gelyniaethus. Mr David Jones: Oni ddarfu i cliwi ddweyd wrth fy mhartner i a Mr London fod David Thomas wedi dweyd y rhoddai rywbeth i chwi ? Y Tyst: Do; ond yr oeddwn mewn braw ar y pryd. Mr David Jones: A ydyw yr holl gyfrif o'r liwythi a roddwyd genych chwi yn y llyfr hwn w-i rhwng Awst 3ydd a'r 12fed yn anghywir a cham- arweiniol ? Y Tyst: Ydynt; rhoddwyd hwy i lawr genyf ii ar gais David Thomas. Dyn:Ù' oil o'r dystiolaeth yn yr achos hwn. Mr Ellis Jones-Griffith a ddadleuai nad oedd yr achos yn gyfryw ag a ddylai fyned o flaen rheith- wyr. Yr unig dystiolaeth yn yr achos oedd eiddo y bachgen, yr hwn, yn ei fraw, a ddywedai un- rhyw beth, o'r bron. Wedi ymgynghoriad, penderfynodd y Fainc draddodi'r cyhuddedig i sefyll ei brawf yn y Frawdlys. Yna gwrandawyd y cwynion yn erbyn Richard Humphreys ac Evan Evans. Dywedodd Mr London fod pump o Iwythi wedi eu rhoddi i lawr yn enwau y diffynyddion ar yr lleg o Awst, tra nad oedd ond tri llwvth wedi myned dros y peiriant pwyso. Ar y 12fed, aeth un llwyth dros y peiriant, a rhoddwyd dau i lawr yn eu henwau. Yr oedd y Rhingyll Watkin Owen yn gwylio gydag ef. Ar y tri llwyth hyn, yr oedd y golled i'r cwmni yn 4s 11c. Trowyd y djmion o'r gwaith ar y 12fed. Gwadent y cvhuudiad. David Roberts, y pwyswr. a dystiodd ddarfod i'r difxypyddion ofyn iddo ef roddi chwaneg o Iwj-thi i lawr iddynt, gan addaw plyf pysgota iddo am hyny. Rhoddodd bedwar o lwythi i lawr iddynt ar Awst 9fed, lOfed, lleg, a'r 12fed, yn ol eu cais hwy. Cafodd y plyf pysgota gan Rich- ard Humphreys. Traddodwyd y ddau, yn nghyda'r gweddill o'r cyhuddedigion, i sefyll eu prawf yn y Frawd- lys. Rhyddhawyd y dynion dan feichiafon.

Family Notices

Prif Forchisc.doedd j'.t -…

C Y FART A LE DD YD AM YR…

Anglesey J'irs for lSt"7.…

LONDON Tif 'V t:l..T.KN A…