Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

* Rhys lu,afydd Sy'R D'eyd-

TEIiSRAU Y CYTUNDEB, A CHYNYG…

MR A. B. PARTRIDGE A'R "DAILY…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MR A. B. PARTRIDGE A'R "DAILY NEWS." Deallwn i Mr Partridge anfon y llythyr canlynol i olygydd y "Daily News," gyda'r canlyniad ddar- fod iddynt hwy ddodi i mewn y paragraph a roddir isod: — At Olygydd y "Daily News." Syr,—Nid wyf vn codi dim gwrtliwynebiad }'ch gwaith yn fy ngalw yn un o "ymddiheuwyr" al n (apologists) Arglwydd Penrhyn, os mai felly yr I ydych yn edrych ar fy llythyr am Awst 9fed, serch mai nid mewn ystyr mor ddiangenrhaid y darfu i mi ofyn i chwi ar y pryd gyhoeddi yr oheb- iaeth, ond yn hytrach yn yr hyn a gredwn ydoedd gwir fuddianau y dynion eu hunain. Wrth argraphu fy llythyr yn eich rhifyn am lieddyw a chadw y dyddiad allan o hono, nid wyf yn mddwl eich bod yn estyn i mi y tegwch a'r cyfiawnder hwnw ag y mae genyf hawl i'w ddis- gwyl oddiwrth newyddiadur o'r fath safon uchel a'r "Daily News." Gan nad pa faint allech fod yn gwahaniaethu oddiwrth y golygiaaau a ddatgenais i, ni ddylid .9 a.rwain y cyhoedd i feddwl fy mod i wedi ysgrif- enu y llythyr wedi i'r ymrafael yn ymarferol gael l ei setlo. Cafodd fy llythyr ei bostio i chwi ar y 9fed o I Awst, a bydd yn dda genyf os dodweh y llythyr ¡ hwn i mewn er hysbysrwydd i'ch darllenwyr.— Yr eiddoch yn gywir, A. B. PARTRIDGE. Leicester, Awst 23ain, 1897. Anghydfod Chwarel y Penrhyn.—Mr A. B. Partridge,llythyr pa un ar y pwnc hwn a ymddang- osodd yn ein rhifyn am Awst 23ain, a ofyn i ni ddweyd i'r llythyr mewn dadl gael ei bostio ar y 9fed o Awst. MR PICKARD, A.S., A'R CYTUNDEB. Oddiwrth yr araeth ganlynol a draddodwyd gan Mr Pickard, A.S., fel ag y'i dyfynir yn y Liver- pool Mercury am dydd Gwener, ymddengys fod y telerau cytundeb awgrymedig wedi eu gosod o'i flaen ef, a'i fod yntau wedi cynghori "gwneud settlement terfynol o'r busnes." Pe buasai ef yn gwybod y ffaith eu bod hwy bob amser yn fedd- ianol ar yr hawl i ymuno, ac nad oes un gwahan- iaeth mewn effaith rhwng y rheolau sydd wedi eu derbyn yn awr a'r rliai oedd mewn grym am y deuddeng mlynedd diweddaf, ac a ail gynygiwyd gan Arglwydd Penrhyn i'w weithwyr yn 1888 neu pe buasai efe wedi ymgynghori a'r dynion flwyddyn yn ol a'u cynghori i roddi pen arni," fe allasai feddu hawl i'r credyd ag y dywed ei fod yn ei gymeryd iddo ei hun. Er y fiwyddyn 1885 mae y -rif reolwr wedi derbyn dirprwyaeth ar ol dirprwyaeth yn barhaus gwnaethpwrd hyny drachefn gan Arglwydd Penrhyn mewn rhai achosion pwysig, ac erioed ni osodwyd un- rhyw gyfyngiad ar y dull yr oedd y dyn- ion i ddewis eu dirprwyaeth. Canlyniad ym- arferol y telerau neu y rheolau newyddion parthed cwynion ydyw gadael y peth yn union lie yr oedd. Mae y gweithwyr wedi bod at eu perffaith ryddid bob amser i ddewis o'u plith eu hunain unrhyw nifer o bwyllgor ac vma eto, mae y sefyllfa yn y dyfodol i fod yn union fel y bu yn ystod y deu- ddeng mlynedd diweddaf—ni fu i'r rheolaeth erioed dynu un gwahaniaeth gyda golwg ar pa ddynion a ffurfient y dirprwyaethau, a fyddent yn ae-odau o unrhyw bwyllgor ai peidio, neu ynte yn undebwyr ai ;nad; oeddynt—'iddo ef nid oedd o un trvahaniaeth pwy na pha beth oedd y dynion cyhyd a'u bod yn weithwyr iddo ef. Y ffaith blaen ydyw -bu i'r dynion streicio am yr hawl o gael" Pwyll- gor Sefydlog," ac y maent wedi methu. Mr B. Pickard, A.S., yn siarad yn Barnsley ddydd Mercher, a ddywedodd ei fod yn cymeryd ychydig gredyd iddo ei hun am yr hyn wnaeth yn nglyn a chytundeb y Penrhyn. Cawsai efe, Mr Ashton, a Mr Edwards eu hapwyntio gan gyng- rair y Mwnwyr i wneud ymchwiliad llawn i'r mater. Gosodwyd o'i flaen ef y telerau cytundeb awgrymedig a chan fod y telerau yn rhoddi yr hawl i ymuno ac i benodi dirprwyaethau i gyfarfod rheolwyr lleol Arglwydd Penrhyn, a bod rhanau eraill yn foddhaol, darfu iddo ef eu cynghori i wneuthur settlement terfynol o'r busnes. Fe wnaethpwyd amryw gyfnewidiadau yn y draft" gwreiddiol cyn i gytundeb gael eu wneud. Un o'r rhai rhoddodd y cynorthwy mwyaf i ddwyn cytundeb o amgylch oedd Mr Lloyd Carter, per- thynol i'r ffirm leol o gyfreithwyr Arglwydd Pen- rhyn. Bu i'r dynion ddangos eu parch i ddir- prwyaeth Cyngrair y Mwnwyr trwy anfon gwifreb ato ef (y siaradydd) yn union wedi i'r cytundeb gael ei gwblhau. Yr oedd efe wedi rhyfedd". pan ymwelotld a Bethesda, nad oedd dim "wreck- age" i'w weled yn lie hyny edrychai y tai yn gysurus a'r bobl yn foddlawn a hapus, heb ddim 1. o'r olwg ddigalon, curiedig a haner-newynog a welir weithiau mewn pentrefydd glofaol ar ol ym- drechfa hirfaith. Yr oedd un boneddwr Ileol wedi casglu a rhanu 19,000p yn ychwanegol at y cyn- orthwy arferol dalwyd o drysorfa yr undeb-yr hyn, i fesur mawr, oedd yn cyfrif am sefyllfa dded- wydd y rhai oeddynt ar streic. Efe a welai i'r dynion rhoddi "tair banllef" i Arglwydd ac Ar- d- glwyddes Penrhyn. Yr oedd hyny yn beth fuasai yn ei ddisgwyl oddiwrth yr opiniynau a. glywodd efe yn cael eu datgan ar ei ymweliad a'r lie ond yr oedd oddiwrth Arglwydd Penrhyn at reolwyr Ar- glwydd Penrhyn yn fater cwbl wahanol. Os byddai i'r rheolwyr gario allan y cytundeb a wnaethpwyd, fe fyddai i enw Arglwydd Penrhyn gael ei barchu gymaint ag y cafodd ef (y siarad- I r_1 ydd) ei fod yn cael ei barchu yn mhlith y dynion ddydd Iau diweddaf ac yn awr, gan fod gwell dealltwriaeth wedi ei gael, yr oedd yn gobeithio y byddai'r bobl mor hapus ag y dylai pobl ardal o'r fath fod.

LLAFUR A'l DDYRYSBYNCIAU.

CYFARFOD MAWR YN METHESDA.

[No title]

f Ard&argosfa Amaethyddol…

- Afiecliydon Cyffredin.

[No title]