Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

20 erthygl ar y dudalen hon

--------------------------_-AT…

Nodjon Amaethyddol. --

[No title]

[No title]

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Mr Walter Long, A.S., Gweinidog Amaeth- yddiaeth, ydoedd y prif siaradydd mewn cyfarfod mawr o Gynghrair y Friallen, a gynhaliwyd yn Hinton Admiral, drwy garedigrwydd Syr George Meyrick, Bar. Sylwodd fod rhai o'u beirniaid yn dweyd nad oedd cyflwr amaethyddiaeth cyn- ddrwg ag yr oe'dd adroddiad y D'jdirprwyaeth Freiniol yn arwain y wlad i gredu, ond rhaid oedd cofio fod y Dirprwywyr yn gwahaniaethu yn glir rhwng y siroedd gogleddol neu ganolog, a'r rhel- yw o Loegr. Yn y siroedd gogleddol, lie bu y dirwasgiad amaethyddol yn dynerach yr oedd diwydianau cyfoeth-gynyrchiol. Yr oedd y rhai hyn ynddynt eu hunain yn creu marchnad baiod a buan i gynyrchion amaethyddol, ac yn tyneru y dirwasgiad drwy gael moddion eraill i roddi gwaith, ond yn y siroedd dwyreiniol a deheuol, He y bu y dirwasgiad drymaf, yr oedd y bobl bron yn hollol ddibynol ar amaethyddiaeth, heb un- rhyw ddiwydiant arall. Ni fu iddo ef, fodd bynag, erioed gymeryd golygwedd ddiobaiih o gyflwr amaethyddiaeth. Nid oedd absenoldeb elw, neu y "margin" anghyfartal o elw ar dynad yd yn gyfyngedig i'r wlad hon, eithr ymweludd bron a'r holl fyd, ac eithrio efallai Argentina a'r India. Yr oedd yn eithafol anhebyg y buasai -dynion a soddent eu Ilafur a'u cyfalaf mewn am- aethyddiaeth yn foddlawn i weithio yn barhaus ar golled neu heb elw teg. Yr oedd yn falch o wybod fod gwelliant pendant yn ddiweddar yn mhrisiau cynyrch amaethyddol a stcc. Gobeith- iai a hyderai y byddai i hyny barhau. Beth bynag fu caledi y dirwasgiad a bwysai mor drwm ar berchenogion a thenantiaid yn ystod y blynydd- oedd diweddaf, gellid canfod yn awr dros yr holl wlac1 welliant yn nghyflwr materol cartrefi ydau y bobl, yn ogystal a'r saion o prsur yn mhlith y dosbarth o gyflog-enillwyr. Wedi tahi teyrnged i allu yr amaethwyr Prydeinig, myneg- odd y boneddwr gwir anrhvdeddus ei foddhad v "byddai y tirfeddianwr Prydeinig a'r amaethwr Prydeinig ar adegau o ddirwasgiad yn sefyll gyda'u gilydd gydag eofndra a theimlad da. Yr oedd ef yn hollol o r farn nas gellid edrych am woHhitl yn ein cyflwr drwy wladweiniaeth ffasiynol, neu yr un o'r meddyginiaethau hyny yr oedd eu gwrth- wynebwyr politicaidd bob amser mor barod i'w cynyg, tebyg i sefydlu llysoedd tirol a gwahanu buddianau unedig tirfeddianwyr ac amaethwyr, ond yn hytrach gyda sylw diysgog ac unol i fusnes. llinariad y cyfreithiau ymddangosent i bwyso ar eu diwydianau, a chyda gweinyddiad doeth o'r cyfreithiau sydd yn awr yn bodoli. Ychydig ellid wneud dros amaethyddiaeth drwy wladweiniaeth, ond yr oedd y Llywodraeth wedi gwneud rhyw- beth, ac yr oedd yn barod eto i wneud yr oil a .aIlent i gynorthwyo yr amaethwr Prydeinig.

Eheilfiyrdd Ysgsifn yn lion-…

[No title]

--------Cynghor Dinesig Llangefni.

Marwclaeth. Y Barnwr Cave.

Cadi HcndoL

RHOSCOL YN.

[No title]

1 Amaetiiyddlaeth Piydain…

Masnach Yd yr Wythnos. j

Cyngaws Amaethyddol o Jon…

Eefyllfa Amasthyddiastii yn…

Y Dirwasgiad Amaethyddol-

! AfLschydon Cyffredin-

NODIUN O'R. DEHEUDIR.

Angladd y Diweddar Dr. Roberts,…