Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Cynhadledd Glowyr Deheudir…

[No title]

Afghanistan a'i Thrigolion.

[No title]

[No title]

T Gymdeithas Genhadol 11 Eglwysig.…

Sylwadau y Wesg.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Sylwadau y Wesg. ABERYSTWYTH OBSERVER. (Awst 26ain.) Mae yr anghydwelediaa yn Chwarel y Penrhyn, yr hon y dywedir ydyw y fwyaf yn y byd, wedi ei ddwyn i derfvniad. Gwna y papyrau Radical- aidd f llan fod y dynion wedi enill rhyw fuddugol- iaeth fawr, end nid ydym ni wedi bod yn alluog i ddarganfod yn mha le daw y fuddugoliaeth i mewn. Fe ymddengys i ni fod y telerau y cytun- wyd arnynt rhwng y pleidiau yn rhai y gallesid eu sicrhau lawer o fisoedd yn ol; mewn ffaith, bu i Arglwydd Penrhyn yn weithredol ganiatau yr holl bwyntiau hyn yn mhell o amser yn ol. Y mae Arglwydd Penrhyn wedi colli yr hyn fuasai yn ffortiwn i'r rhhn fwyaf o ddynion. Ar y ]law arall, y mae pob gweithiwr cysylltiedig a'r chwarel yn dlotach dyn yn awr nag ydoedd ddeuddeng mis I yn ol. Y rhai oeddynt wedt cynlo arian, y maent wedi eu gwario erbyn hyn a'r rhai oedd heb roddi dim arian o'r neilldu, rhaid eu bod hwy wedi rhedeg i ddyled drom, a buont dan orfod o leiaf i wneud heb gysuron bywyd, os nad heb lawer o angenrheidiau bywyd hefyd. Ac nid y bobl fuont yr achos uniongyrchol o'r streic drycli- inebus ydynt yr unig rai i ddioddef, oblegid bu i bob masnachydd yn ardaloedd Bethesda a Bangor gael eu taflu i golled ac anghyfleusdra, am ddim bai o'r eiddo ei hun, a chymer rai blynyddoedd cyn y symudir ymaith ddrwg-effeithiau y streic. Ond diddadl y daw da allan o ddrwg. Fel ym- rafaelion rhwng cariadon ac ystormydd c. daranau, bydd iddo glirio yr awyrgylch. CLOAD ALLAN Y PEIRIANYDDION. Pan gymerodd y "Daily Chronicle" streic Chwarel y Penrhyn i fyny, darfu i'r papyr hwnw (meddai y Cambrian News") gam-osod allan y streic trwy ddweyd mai ymdrechfa ar ran y dynion ydoedd am yr hawl i ymuno, yr hwn hawl, fel y gau-ddywedwyd, yr oedd Arglwydd Penrhyn yn ei wrthsefyll. Bu i'r Chronicle" dda.1 i gyhoeddi y celwydd hwn bob dydd am un mis ar ddeg, ac ar derfyn y streic efe a gymerodd arno rod y dynion wedi enill yr hawl i vm- uno, ar yr hwn ni wnaed ymosodiad o gwbl. Yr oedd y celwydd; hwn, mai amean y streic oedd cael yr hawl i ymuno, yn angen- rheidiol mewn trefn i ddwyn tanvsgrifiadau oddi- wrth yr undebau crefftwrol, a darfu iddo lwyddo. Mae yn awr mewn llawn rwysg ymdrechfa grefft- wrol lawer mwy, sef rhwng Cymdeithas Unellia y Peinanyddion a'r meistriaid. Hawliai peirian- yddion Llundain ddiwrnod gwaith o wyth awr Yr oedd ganddynt berffaith hawl i wneud hyny Cyfarfyddodd y meistriaid yr hawliad hwn gyda chload allan cyffredinol: yr oeddynt hwythau yn hollol o fcwn eu hawlfraint. Yna daw y "Dailv Chronicle" i mewn gyda'i gelwydd arferol, heb ond ychydig walianiaetli rhyngddo a'r anwiredd yn nghylch Chwarel y Penrhyn, a dywed fod y meistriaid wedi ymgyngreirio a'u gilydd i ddis- trywio undebiaeth grefftwrol yn y wlad. Yr un yw amcan y celwydd hwn ag yn achos y Penrhyn, sef sicrhau cynorthwy yr holl undebwyr crefftwrol ir ynion syn ymladd am ddiwrnod o wyth awr. J (i>:n;on' md y meistriaid, ddarfu brofocio yr ym- fc niae yn anwireddus ac annheg vn v Chronicle i ysgrifenu fel pe mai y meistriaid ddarfu gychwyn y frwydr, a gwaeth nag annheg ydyw camddarlunio yr ornest trwy ddweyd dros- odd a thracliefn fod y meistriaid yn ceisio lladd undebiaeth grefftwrol tra nad ydynt ond yn nnW ceisio gwrthsefyll sefydliad y diwrnod o wyth awr Pa un ai doeth ynte annoeth ynddynt ydyw gwneud hyny, nid dyna yw'r pwynt. Y pwynt ydyw, fod y Chronicle yn camddarlunio cload allan y peirianyddion yr un modd yn union ag y camddarluniodd efe streic Chwarel y Penrhvn. Ni a dybiwn, pan fydd ymrafael y peirianyddion 1 drosodd y bydd i'r "Daily Chronicle" hawlio i'r dynion fuddugoliaeth fawr ar hyd yr holl linell, 1 xfrCi i y11^. beidio enill y diwrnod wyth awr. Bydd i arweinyddion gweithwyr Llundain weled anonestrwydd dadl y "Chronicle," ac ni chaniata y meistriaid i r papyr gael ei ffordd ei hun i gyd yn yr ymrysonfa hon.

IFREE LABOUR.

[No title]

Rh,Ys Dafydd Syn D'eyO,.