Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Cynhadledd Glowyr Deheudir…

[No title]

Afghanistan a'i Thrigolion.

[No title]

[No title]

T Gymdeithas Genhadol 11 Eglwysig.…

Sylwadau y Wesg.

IFREE LABOUR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

FREE LABOUR. (Medi 15fed.) Mae yr ymgecru rhwng y Daily Chronicle a rhai o'i gyfoesolion dros y telerau ar ba rai y mae chwarelwyr y Penrhyn wedi ail ddechreu gweithio yn ddarllen difyr-ysmala. Nid oes neb mor ddall a'r rhai na fynant weled!" dyna sylwdoeth- yn Fleet-street wrth gyfeirio at y "St. James's Gazette." Wel, hwyrach nad oes; a phosibl y dylai y Chronicle" fod yn gwybod, oblegid y mae wedi cael cryn lawer o brofiad o beth felllyn yn y rhanau hyny. Yna aiff rhagddo i agor llygaid y St. James's trwy sylwi yn gyfrwys- graff nad yw y telerau a gynygiwyd gan Arglwydd Penrhyn yn Mai ddim yn ildio yr hawl i ymuno yn ol fel y'i deallir gan yr Undebwyr Crefftwrol, yn gymaint ag nad ydynt yn gwneud darpariaeth gogyfer a. gwneud cwynion personau unigol neu ddosbarthiadau neillduol o weithwyr yn gwynion i'r holl gorph o weithwyr. Nid hyd fis Awst y bu i hawl y dynion i ddelio fel corph er unioni ewyn- ion pers.onol neu adran o ddynion gael ei lawn I ildio." Mor gywrain, onide? Ond nid oes neb morddall a'r rhai na fynant weled, chwi wyddoch. Mae y Chronicle" yn gwrthod gweled peth ag y mae llawer iawn wedi bod yn berffaith hysbys o hono am y deuddeng mlynedd diweddaf, sef fod y canlynol yn ffurfio rhan o reolau Chwarel Beth- esda yn 1885,ac wedi parhau mewn grym o'r pryd hwnw hyd nes cymerwyd eu lie gan y telerau cy- tundeb diweddaraf: — Fod i bersonau gyda chwyn, yn y lie cyntaf, osod eu cwynion o flaen swyddog y dosbarth neu y rheolwr lleol. Os yn anfoddlawn ar y pender- fyniad, hwy a allant osod eu cwynion o flaen y prif reohvr, yn bersonol neu trwy ddirprwyaeth ac yn mhellach, os yn anfoddlawn ar ei bender- fyniad yntau, gallant apelio am gyfarfyddiad (yn bersonol neu trwy ddirprwyaeth) ag Arglwydd Penrhyn. Mewn materion yn dwyn perthynas a chorph cyffredinol y gweithwyr, neu adranau o honynt, gellir bob amser gwneud representa- tions,' ar ol rhybudd dyledus, fel yn flaenorol, trwy ddirprwyaethau yn cynwys dim mwy na chwech o weithwyr yn cynrychioli y dynion mewn dadl." Yr oedd y paragraph uchod, fel y dywedais, yn irurho rhan o reolau y chwarel; hwy a ffurfiant sylfaen pob brawddeg ar gwynion a lefarwyd gan Arglwydd Penrhyn a'i brif reolwr yn mhob "in- terview yn ystod y trafodaethau gyda'r chwar-il- wyr; cawsant eu cyhoeddi am yr ail a'r drydedd waith yn y gwahoddiad roddwyd i'r dynion ddych- welyd at eu gwaith, dyddiedig Ebrill 2il, 1897; maent wedi ffurfio sail pob cynyg wnaed i'r dyn- ion, ac a wrthodwyd gyda dirmyg. A wna un- rhyw un, sydd heb fod mor ddall fel na fyn weled, gydmaru y rheolau uchod-rheolau sefydlog y chwarel—gyda thair adran gyntaf y cytundeb mae y dynion newydd eu derbyn, y rhai a welir mewn rhan arall o'r rhifyn hwn, a ffeindio allan, os yn bosibl, yn mha ystyr hanfodol maent yn gwahan- iaethu, neu yn mha. fodd mae y dynion yn cael mwy yn y telerau dderbyniasant yn awr nag (I. roddid iddynt yn flaenorol gan reolau sefydlog y chwarel. Mae y "Chronicle" yn eithaf iawn, wrth gwrs-" Nid oes neb mor ddall a'r rhai na fynant weled. J YR HEN YSTORI. Y mae anghydwelediad y Penrhyn sydd newydd ei ddwyn i derfyniad yn fforddio un engraifft arall o'r hen, hen stori yn y byd diwvdianol am weith- wyr yn cael eu hud-ddenu a'u twvllo gan eu har- weinwyr a'u hathrawon, ac, ar ol llawer iawn o fisoedd o galedi ac ymddarostyngiad, yn derbyn y telerau y bu iddynt ar un adeg eu gwrthod gyda dirmyg—gan ail ddechreu gweithio yn y diwedd ar yr un safonau yn union ag y darfu iddynt streicio yn eu herbyn ar y cychwyn. A hyn, hefyd, fel yn achos y Penrhyn, ar ol agos i flwydd- yn o segurdod y golled amlwg o hunanbarch a arwyddoceir yn eu gwaith yn derbyn rhoddion neu gardod ar seiliau y gwyddir oeddynt yn gamar- weiniol; yn nghyda cholled bendant mewn cyf- logau, cyfanswm y rhai a gyrhaeddant rywbeth fel chwarter miliwn o bunau Fod y seiliau ar ba rai y cyflawnwyd y trosedd diwydianol anferth hwn yn gamarweiniol sydd amlwg i bob un gymerodd y drafferth i feistroli manylion y sefyllfa trwy ei gwahanol ddadblvg- iadau. Mae wedi ei ddweyd ar hyd yr amser fed y trosedd i'w gyfiawnhau, gan mai brwydr ydoedd ar ran chwarelwyr Bethesda am yr hawi i ym- uno." Ddarfu Arglwydd Penrhyn erioed amheu yr hawl hwn; ac addefwyd hyny gan Mr W. H. Williams, ar ran y dynion, yn y cyfarfyddiad rhwng ei arglwyddiaeth a dirprwyaeth y dynion yn Mawrth diweddaf. Pa fodd, gan hyny, y gallai fod yn ymdrechfa am yr hawl i gyfuno pan nad oedd yr hawl hwnw yn cael ei gwestiyno _U -=: mewn un modd, hawl oedo yn cap." **acau, ac wedi bod felly am flynyddoedd, i r helaethrwydd llawnaf posibl? Dywed y "Daily Chronicle" wrthym nad yw crucial point" y cytundeb ddaethpwyd iddo yn awr yn "ffemdlO dim lie o gwbl yn nghynygion Arglwydd Penrhyn yn Mai," a'r crucial point" hwn, fel yr eglura y Chron- icle," ydyw—"y gall gweithiwr unigol, neu ddos- barth o weithwyr fyddo ganddynt gwynion, yn arwr gael gan holl gorph y dynion i gymeryd y cwynion i fyny—amod na wnai Arglwydd Penrhyn ei ildio o'r blaen ar un cyfrif, a'r hwn a wrthsafodd efe ar y tir y byddai i hyny osod rheolaeth y chwarel yn nwylaw y dynion, yn nghyda gwnend rhyw bethau dychrynllyd eraill." Mae yn hollol glir oddiwrth hyn fod y Chronicle yn methu y prif bwynt yn gyfangwbl. Yn y cyfarfyddiad rhwng Arglwydd Penrhyn a dirprwyaeth y dynion yn Mawrth diweddaf, v cvfeiriwvd ato yn barod, bu i'w arglwyddiaeth ddweyd, mewn atebiad i Mr W. H. Williams ar y "crucial point" hwn:—" Y rheol ydyw ac a fu fod yr holl achwynion i gael eu. gwneud yn uniongyrcho' i'r rheolaeth gan y per- sonau fyddo ganddynt gwyn; ac os bydd unrhyw* fater arbenig bwysig ag y dymuna y dynion ei ddwyn yn mlaen gan nifer unol o honynt, fe ellir ei wneud trwy foddion dirprwyaeth o wTeithwyr yn cynwys dim mwy na chwech o bersonau, a chan- iatau bob amser fod y person neu'r personau ach- wynedig yn cael eu cynwys yn y ddirprwyaeth hono. Mi a allaf ychwanegu, cyn tynu allan gwyn, os byddai gweithiwr yn teimlo fod ganddo gwyn, ei fod yn wastadol wedi bod at ei berffaith ryddid i geisio cynghor gan ei gydweithwyr, os dymunai efe wneud hyny, pa un bynag fyddai y gweithwyr hyny ar bwyllgor ynte na fyddent." Cafodd y geiriau hyn eu llefaru yn mis Mawrth ail-adrodd- iad ydynt o eiriau cyffelyb a lefarwyd yn y mis Medi blaenorol; yr oeddynt yn gorphoredig yn nghynygion Mai, a cheir eu bod yn ffurfio yr ad- ran gyntaf a phwysicaf o'r telerau y cytunwyd ar- nynt yn bresenol. Beth, gan hyny, sy'n dyfod o fynegiad y Chronicle "—y gall cwynion gweith- iwr unigol, neu ddosbarth o weithwyr, yn awr gael eu cymeryd i fyny gan holl gorph y dynion—amod na wnai Arglwydd Penrhyn ei ganiatau o'r blaen ar un cyfrif ?" Bydd i unrhyw un gymer y drafferth i fyned yn ofalus drwy yr adroddiad o'r "interview" yn Mawrth diweddaf ganfod fod yr amod hwn, nid yn unig yn cael ei ildio gan Arglwydd Penrhyn (yr hyn y myn y "Chronicle" na wnai ei argl- wyddiaeth ar un cyfrif ei ildio), ond hefyd ddarfod i Arglwydd Penrhyn a'i reolwr cyffredinol, Mr E. A. Young, fyned i lawer iawn o drafferth i egluro ei gynwys yn gywir i'r ddirprwyaeth, yn ol fel y'i canfyddir yn awr yn nhelerau terfynol y cytundeb. Pan ofynwyd i Arglwydd Penrhyn gan lefarydd y ddirprwyaeth am atebiad i'r cwestiwn parfched hawl un dyn i wneud ei gwyn yn eiddo yr oil, ei arglwyddiaeth a ddywedodd: Credaf fod hwn- yna yn un o egwyddorion undebiaeth, a chwi wyddoch na ddarfu i mi erioed amheu cyfreithlon- deb undeb." Etc: "Mater yw hwn yna i'w ben- derfynu genych chwi eich hunain." Mr Young a bwyntiodd allan nad oedd Arglwydd Penrhyn vn' gwadu i'r dynion fodolaeth pwyllgor neu bwvll- gorau undebol, yn y chwarel nac allan o honij v rhai oeddynt at eu llawn ryddid, mewn achos o gwyn,i anfon dirprwyaeth o chwech at y rheolaeth —y dynion at eu dewisiad i rai o'r pwyllgor fod vn gynwysedig ynddynt ai peidio, a'i fod yn ddeall- edig mai y chwarelwyr, nid y pwyllgor, oedd i gael eu cynrychioli. Ychwanegodd Arglwydd Penrhyn at hyn trwy sylwi: Yr wyf fi yn dweyd y gall unrhyw nifer o bwyllgorau fod yn y chwarel." Y mae hyn oil yn myned i anwireddu y mynegiad fod Arglwydd Penrhyn yn dymuno ymosod mewn unrhyw fodd ar yr hawl i ymuno. Yr oedd y chwarelwyr at eu llawn ryddid i ymuno, ac fe wnaethant hyny: yr oeddynt at eu rhyddid i gael cyn ° hwyllgorau ag a ddewisent, a bu iddynt eu cael. Dywedwyd wrthynt chwe' mis vn ol, ac nid am y tro cyntaf chwaith, y gallai holl gorph y chwarelwyr gymeryd cwynion un dyn i fyny, neu un dyn gymeryd cwynion yr oil i fyny; y byddai i r rheolaeth wrandaw y cwynion hyny unrhyw am- ser pan ddygid hwy gan ddirprwyaeth o chwech wedi eu penodi gan y gweithwyr, mewn unrhyw ffordd a ddewisent; a phan na byddai penderfya- iad y rheolwr yn foddhaol gan yr achwynwyr, fod Arglwydd Penrhyn bob amser yn barod i gael cv- farfyddiad ag unrhyw weithiwr unigol, neu a dir- prwyaeth o chwech yn cynrychioli holl gorph y dynion a weithiant yn y chwarel. Gyda'r ffeith- iai! hyn mewn golwg, priodol iawn fyddai gofyn- Pa gyfiawnhad all yn bosibl fod dros yr enllibio gwarthus fu ar Arglwydd Penrhyn am y misoedd diweddaf hyn, dros ymddangosiad yr holl sothach diwerth a daenwyd ledled y wlad o berthynas i'r hawl o ymuno, dros ddadgymaliad drygionus y fath fasnach fawT a phwysig, a thros ddwyn gwiad- wnaeth flodeuog o bobl i ymylon dinystr ? Nid oes gyfiawnhad o gwbl. Y mae trosedd diwvd- Sd^, i 61 gyflawni trwT gamddarlun- ladau maleisus ac y mae derbyniad gwirfoddol yn awt, gan y dupes, o'r telerau gynygiwyd iddynt ddeuddeng mis yn ol, ond y pryd hyny ac ar ol hyny a wrthodwyd ganddynt, yn dangos mor wrthun mae y sefyllfa wedi ei chamddarlunio iddynt o r pryd hyny hyd yn awr. Yr un papyr, am yr un dyddiad, a ddywed :— Arglwydd Penrhyn a wrtlwdodd gydnabod awdur- dod Pwyllgor y Chwarel fel ag yr oedd wedi ei gyfansoddi, ond cydnabyddodd yn llawn hawl y dynion i gael y cyfryw bwyllgorau i'r dyben o gario yn mlaen eu busnes o undebiaeth crefftwr- TW, GU °r eV hunain ac yn y lie priodol. Dyma y pwynt ar ba un y cymerodd y rhwygiad if' y mae Arglwydd Penrhyn wedi cano y pwypt yna, a phob pwynt arall y safai efe drosto. wyi fI," meddai ef, mewn atebiad i'r ddir- prwyaeth yn Mawrth diweddaf, "yn dadleu dros yr egwyddor o ryddid perffaith i feistr a gweith- <dv'a" ^rth y. lluiell yna yr wyf yn bwriadu j?0 61 ar8lwyddiaeth wedi gw-neuthur ( y.11, dewr? cy«°n, a da, a llwyddianus hefvd fe dclylid dwevd, er na cheir gwybod bvth pa faint a gostiodd hyny iddo. "FLOTSAM AND JETSAM." r un papyr eto, o dan y penawd digrifol uchod a gynwys y canlynol: — ° CJl0d' Nid yw Trutli» bob amser yn dweyd v c^ir oadfmr £ aH'md?ailgOS yn Sroes-ddywediad, TT-n+l! AlaU 1lymwad yn brawf o hono. lruth a ddj-wed Y mae Ar^lwvdd Pen- wed? ,d,di i,Pewn' ac mae y chwarelwyr wedi cael buddugoliaeth." Nid y £ yr un oV ddau fynegiad hyn yn wir. fW" a ddywed Mae vn hyfrvdwch ^envf ddeall fod y meistr trahausfalch hwn'wedi -orfod dnngo i W" Nid yw y meistr trahausfalch hwn wedl gorfod "dnngo i lawr." uth" a ddywed: "Mae y dynion yn w1' S hvnbetl1 yiilarferoI bohpeth y pwysent am dano rholi il f'f' g^rthodai Arglwydd Penrhyn eu bvd t • ddarfu ldd7nt bwvso am dim un n?th n fSOe,3 eu meddiant—oddieithr J ac m f" 1 hwnw gael ei ildio iddynt • m wrdiododd Arglwydd Penrhyn iddynt ddim' o'r pethau maent yn awr wedi eu derbyn, oddieithr yr un peth hwn, ac am hwnw efe a ddywedodd wrthym na chaent byth mo hono. u^^odd DyweJodd wrthynt ni chaniatai efe i unrln-m bwyilgOT o r Undeb ymyryd rhyngddo ef a'i -.veith- h yn ^Vf;dr;iethiad y chwarel. Dyna vr un ef gael.w efe' a'r UU Peth »» fu^^nioS "T™thC"r°ni-cle^ a g^R!er ddalen alian o lyfr y a Sie7 'droad ymaith y ddirprwy^ Peth 'Clddio myned at ArglWd iaeth i'r hawl orpiu(no 61 ar^dd- oherwvdd na' i, ^hroisant eu hunain o'r gwaith ar<dwyd^a^ chamatawyd iddynt harhau y tiu- hawlT vn, J"na; °hwestiynwyd erioed eu •HrnJd. n°' 30 yr un hawl yn ddigy/f. wch^n 1 m ^el 7 gwir' foneddigion, os gwel- wch yn dda—omde na roddweh i ni ddim byd

[No title]

Rh,Ys Dafydd Syn D'eyO,.