Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
20 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
OES Y BYD I'R it IAITH GYMRAEG. MON MAM CYMRU. EISTEDDFOD RLYNYDDOL MON A GYNHELIR YN LLANGEFNI, LLUN Y PASG, 1898. CYSTA DTjEUAETHAD".—Cobawl, 1. 1'r Cerbfcbl'oddau40aifswE DiOr a (irsdgsDO yn oreu "Teilwng yw'r Oen (" Wcrtbyis theLamb") tailhr (¡ M",i..h BlildI). Gwobr £ 12 Cs Cd. Attelir banner y wobr os na fydd CypTaihuaatta. 2. l'r • or hb fod dan 40 uiewu infer a ddadgano ya oreu 16 Y Bloieuyn Olaf (Cyfyngedig i Fon). 4G a ibr 17 s 0,1. J. Ambrose Lloyd. GFFERTNOL: 1. CvsteriJfuse'h Seirdyrf Pres neu Arian heb fed yn rcifa riros 24 playine rrembtrs. II Et. PaniV n), Wright and Round, Liverpsjol. Gwobr laf, f,13 0a 0.1; Ail, 23 O 0.1. 2._C>s adleraetn C yfyngeriit1 I Seirdyrf Man (Caergybi hllan o'r gystadleu*e3h hon)-heb fo(i dr,s 24 playing caen&bero—" Tee Heavens are Xuliiig." Pub. by T. A. Haigb, Anlaby Road, llll.I. Gwobr S.5 0, Od. Rbestr o'r Testyi.au i'w oael gan yr yagrifecy'd. 319 T F> IMSTON.
Rhys Dafydd Sy'n D'eyd
Rhys Dafydd Sy'n D'eyd Fod taenwyr y straeon mor luosog yi1 y s:ryd reillduol hono gm mhentref y V ag ydyw tywod man glan y mor. Mai peth anhawdd iawn yn y lie hwn yw cael pobi a till siarad yn ngwyneb eu cymydogion fel y eu cefnau. Mai celwydd hollol oedd fod y bachgen hwnw yn eistedd yn nglan y mor ar y Sul. Fod yr ystorm enfawr o wynt a gwlaw yn ddigen o brawf nas gallent fod yno. I Fod rhai bechgyn yn eu dillad gweithio yndal pysgod ar y Sul. Fod mwy o lawer yn eu gwelyau ar y dydd nod- edig yma nag sydd oddi allar >. Fod un o porters pier Caergybi yn chwareu yn reit dda yn erbyn Amlwch y dydd o'r blaen. Ei fod yn dyfad o'r cae gyda ifunen wen i:nvr gylch ei wddw rhag iddo gael anwyd. Ei fod ef wedi gwneud tro gwirion iawn i dynu ei wasgod wlanen yn yr half-time' gyferbyn yr holl ferched ieuainc oedd yn y cae. Fod y merched yn cael hearty laugh am ei ben, ond yr oedd y creadui bach wedi chwysu yn ofna"wy. Fod an", ireddau parhaus yn cael eu lledaenu Jim fechgyn a merched ieuainc y V Y bvddai yn well i'r gwr sydd wrthi fyrJd i'r looking-glass i wel'd ei hunan fel y mae pohl eraill yn edrych arno na bod yn farn ar gymdeith- as heddychlon. Mai yfed dwr a llaeth y bydd mwyafrif o bobl y y i dori eu syched. Fod llawer mwy o swyn yn y "concertina" nag mewn ysgrechfeydd rhesi tatws." Fod y "lianc gyda'i ymbarel" wedi cadw ei gy- weria4 yn ddilychwin hyd yn hyn. Mai nid yn nghysgod y twmpathau eithin bydd merched ieuainc yr olwynion yn cadw Sabboth ychwaith. Mai dull ur.' meistr i gael pocedaid o cigars oedd cael prentis i daro "Aunt Sally" i lawr. Mai piti oedd i'r hen fodryb fyned ymaith, oherwydd darfu y cyflenwad pwffyddol. Fod cael prentis yn anelwr mor dda yn gaffael- iad mawr i'r meistr. Mai cwestiwn arall ydyw a oedd y cigars yn werth v drafferth. Mai dail cabaits yn ami ydyw y cigars geir mown llefydd o'r natur yma. Mai at lan y gors y bydd rhai o chaps ieuainc U dd yn myned i dreulio eu horiau hamdden- 01. Eu bod wedi cael caff gwag y roson o'r blaen. Mai truenus o b&th ydoedd iddynt, wedi tra- faelio mor bell, gael eu troi yn ol gan y gwr. r, Fod cynllun newydd wedi troi i'w penau-y naill i fyn'd ar ol y Hall. Nad yw yn gwybod ar hyn o bryd pa fodd y llwyddasant yn y peth hwn. Y ceir y result yr wythnos nesaf. Felly, look out! Mai fel y canlyn y bu yr ymddiddar; rhwng y ddau gariad a gollasant y tren o Fanceinion Yn wir hen dro oedd i ni golli y tren mewn difrif. Y tro mwyaf fflipa a wnes i erioed, ond waeth am dani hi; fel yna y bu. Dasa ni heb fyned i chwareu bacadel fasa ni ddim wedi ei cholli ord waeth am dani hi, ni chawsom ddiwr- mod erioed o'r blaen hefo'n gilydd." Yr oedd- ym yn cael caru faint a fynom a neb yn gwneud sylw o honom." Wel, yr oeddwn yn dweyd cyn cychwyn dasach chwi yn coelio mai fel yna y mae nhw yn y trefydd mawr i gyd. Peth cas oedd gen i fod Rhys Dafydd wedi eir. gweled yn dod o'r station. Mae yn siwr mai ef oedd yn gwaeddi pan oeddwn yn dyfod at v ty; ond waeth gen i am d-ano fo. Yr ydwyf fi yn fwy o ffrind i chwi o lawer ar ol bod, a rhaid i mi fyn'd i'r ty rwan." Rhowch gusan felus fel gefais yn Manchester." Pan gododd Rhys ei ymbarel i fyny, ymaith a'r ferch i'r ty gan dyr u dwy glocsen ar ei hoi fel dwy lyrri fawr, a chauwyd y drws. Fod y ddau frawd fu ar ymda;th bererinol tua Dothan wedi bod yn ffair y Borth. Fod cryn wahaniaeth rhwng cyfadod pregethu affair. 1:1 Fod y ddau frawd yn ymdda 1')S lawn mor solog dros lwyddiant y ffair ag oeddyat dr)" lwjddiant yr efengyl. Na fuasai neb yn meddwl nad dau lii,c ifanc oeddynt, gan mor nwyfus eu hysbrydoedd yr ym- ddangosent onibai fod y pren aliii,n wedi de.-hreu blodeuo. Ei fod wedi cael hanes y tri dvn ieuanc hyny farchogasant i'r sir arall y dydd Mercher o'r blaen. r Nad oes dim yn hyny o'i le ord mae'r ystori yn hwy. Eu bod wedi aros yn rhy hwyr cyn cychwyn adref, os nad oedd ganddynt amcan i aros y nos. Iddynt gyrhaedd adref cyn haner nos. Eu bod wedi bwyts—neu yn hytrach wedi llyn- en-salmon bob ur, neu dri rhyngddynt, yn y ddinas. Y buasent wedi croesi y bont yn hwylusach, efallai. pe heb "droi i nie-wn." Mai testyn cyntaf y gweinidog newydd fydd Diar. xxiii. 30-32. Ei fod ef (Rhys) wedi talu ymweliad a phentre G- un noswaith tuag wythnos yn ol. Ei fod wedi clywed hwyl fawr mewn rhai He- oedd yno. Ei fod wedi ffeindio fod yno ddwy ferch ieuaric a dau lane ieuanc, ac fod un "lefran" wedi dweyd fod ei hesgid yn agored ar ei hyd. Fod un ohenynt wedi ei chau, ac adroddodd un arall v penill canlynol, ac fod yr hen hwntw yn gwrando yn astud iawrl: Os byddaf farw fory anfonwch at fy mam, A deg o lanciau ieuainc i'm cario i i'r llan iSaith mewn second mourning" a'r lleill mewn "mourning" du, .A finnu yn fy amdo yn myn'd i'r ddaear ddu. Et fod ef (Rhys) ar duty y nos y mis yma. å.c- CERDD PENTYMHOR: At wasanaetli Rhys Dafydd: Ac fel hyn y cant Trvrstan Fardd ac wedi iddo ddeffro, Welc, breuddwnl oedd. Mesur—"Robin yn Swil." Ar nos Calangauaf mi aethum am dro, Drwy ganol y caeau lim Efail y Go' I gwrdd a'm hen gyfaill o Dyddyn yr Ordd, Oi.d, druan o honof, mi gollais y ffordd. Mi gollais y ffordd am Dyddyn yr Ordd, NVel druan o honof, mi gollais y ifurdd. 'Doedd dringo drain-gloddiau y nos yn waitli clen, Ond rhywfodd mi aethum i Gowrt y Dre Wen; Ac yno'n ddamweiniol mi wnaethum iyw bwn, Nes enyn cynddaredd cryn ugair: o gwn. Mf gollais y ffordd am Dyddyn yr Ordd, I Wel druan o honof, mi gollais y fiord 1. Yn fuan aaeth allan yr hogia i gyd, A ffyn a phastynau'n fileinig o bryd Ond dringais yn union i goeden ger .hw O gyrhaedd yr helgwn, mewn dychryn a braw. Mil gollais y ffordd am Dyddyn yr Ordd, Wel druan o honof, mi gollais y ffordd. Wel, dyma i chwi hanes hen hogia Dre Wen, Fydd weithiau yn adgas ac weithiau yn glen Wcithiau yn fel ac yn siwgr i gyd, Dro arall fel wermod neu chwerlys yr yd. Ond mae hil y Dre Wert yn bethau reit glen, Ond gwarchod rhag temper Nan' Hunter, Tre Wen. Pan ant i farchnadoedd neu ffeiriau y air, Hwy wisgant am danynt mewn sidan main pur A het o blu' eryr, o gynllun di-ail, A'r wyneb a dani mor felyn a'r haul. Mae hil y Dre Wen yn bethau reit glen, L, Ond gwarchod rhag temper Nan' Hunter, Tre Wen. Am sassiwn neu auction fe'u gwelir hwy'n myn'd, Bob amser eu huriain-does ganddynt. 'run ffrynd Ac yno siaradant nes clywo pob llanc Fod ganddynt hwy arian ar log yn y banc. Mae hil y Dre Wen, etc. Os cynghor eyfreithiol fydd eisiau am dro, Mae'r hogia i fyny, beth bynag a fo Ond rhaid rhoddi arian yn gyni af i lawr, Ac yna ceir cynghor a beri dair awr! Mae hil y Dre Wen, etc. Ond peidiweh a gofyn am ddimai at ddim, Rhag ofn i'ch gael tafod-a hyny'n burchwim Rhyw chwechyn. mewn blwvddyn a roddant fel criw At achos eu crefydd i'w gadw yn fyw! Mae hil y Dre Wen, etc. Rhag rhoddi at achos crefyddol Tr?-lun, Arhosant am Suliau braf adre' bob un 'Mhen llawer o amser daw'r naill ar ol llall I'w lie yn y capel er gwylio pob gwall i I Mae hil y Dre Wen yn bethau reit glen, Ond gwarchod rhag crefydd hil gy hydd Tre Wen. Rhyw deulu llawgauad yw'r cyfar i gyd, Cybyddlyd, crintachlyd, a'u serch ar y byd Ni theimlant, ri roddant, gorchuddiant eu l aw Ond cym'rant y cwbl, waeth sut, na ph'le daw. Mae hil y Dre Wen yn bethau reit glen, Ond gwarchod rhag temper Nan' Hunter, Tre Wen. Ond gwarchod rhag myned i ifael y rhain, Erinwythach f'ai gorwedd ar wely o ddrain Neu sefyll am dymor mewn caioh o oljh sur, Neu onvedd am flwyddyn ar binaii o ddur. Mae hil y Dre Wen, etc. Pe bae neb ond Nanw yn ferch yn ein plith, Mi awn at y sowldiwrs cyn eyiu'rwa hi I ytli Ceid terfyn ar ryfel trwy drech neu trwy drais, Ond byth ni (-Ileid terfyn ar ryfel y bais. Mae hil y Dre Wen yn bethau reit glen, Ond gwarchod rhag temper Nan' Hunter, Tre Wen. Mr Golygydd,—Yr wyf yn cael fy nghyliuddo gan drigolion y Valley mai myfi ydyw awdwr y geiriau anmharchus hyny a ymddangosodd yn y wasg dan y perawd "Rhys Dafydd sydd yn deyd" yn cynwys y blinds, yr accordeon, a'r Y3cirif yn nghylch William Hughes (porter), ac felly yrwyf yn sicrhau yr ardal nad ydwyf yn awdwr i'r un o rhai hyn. Ond v mae cyhuddiad ar gam yn beth mwy na fedr y dieuog ei ddioddef, ac felly na am- heued yr ardal arnaf mwy. Ond fe gymerodd yr awdwr y gwaith o ateb v cyr.taf mewn Haw er ceisio rhoddi terfyn ar y rhagfarn ocdd yn ym- godi i fy erbyn, ac os ydyw y brawd cyntaf yn cad ei feio ar gam y mae yn bur ddrwg genyc, ac yr ydwyf yn tynu pob gair yn ol; ac felly, os ydyw yn berffaith glir o'r ysgrif, Mr Golygydd, mai teg yw gofyn iddo ddyfod yn mlaen a rhod li eglur- had o hono ei hun, ac os oes ar fechgyn ieuairo y Valley eisiau braint a chyfle i ymagor cu talentau disglaer a fyddent gystal a phenodi He neillduol i piarad ar wahanol bynciau yn gyhoeddus, ac yna fe fydd er lies ac yn adeiladaeth gwirioneddol i'r ieuenctyd sydd yn codi. Ond y mae yn arw o beth na chai pobl barchus, ie, aelodau o waharol eglwysi, lonydd ac os oes llid yn mynw«'su yn nghalon awdwr y cyntaf, a fydd o gystal a dwyn y cyfan gerbron y wyneb, ac nid eu cyhoeddi trwy y wasg ? Gadawed i'r golofn fod yn ddyddorus a diniwed, ac nid ceisio haner ei llenwi a malais ac yr wyf yr; dymuno arnoch, Mr Golygydd, roddl terfyn ar y pwnc uchod, oherwydd yr wyf am gadw gwell cymeriad i mi fy hun na diystyru fy nghydfforddolion, ac yr wyf yn sicr y bydd yr ysgrif hon er lies i'r golofn ac yn ddiwygiad trwy- adl i'r gohebwyr; ac felly yr wyf yn hyderu yn fawr y gwnewch roddi yr ysgrif gerbron e.)lofn Rhys Dafydd er rhoddi atalfa a boddlonrwydd perffaith i'r rhai sydd yn fy anmharchu yn fy rgwrthgefn. Bydded i fechgyn y Valley ddi- wygia a chofio y geiriau hyny, Na chenfigenwch wrth eich gilydd." Hyn a ddvwed GRIFFITH "WILLIAMS Field-street, Valley. drosto ei hun. (Yr ydym wedi apelio lawer gwaith am i'n go- hebwyr gadw at amcan y golofn mai nid lie i ddi- lorni eraill ydyw.—Gol.)
---- -n-.-----ALMANAC Y GWEITHIWR,…
n- ALMANAC Y GWEITHIWR, 1898. Llawlyfr gwasanaethgar a chymeradwy gan filoedd o d&u!uoedd Cymru yw yr almanac hwn sydd erbyn hyn yn adnabyddus yn mhob cwr o'r Dywysogaeth. Cyhoeddir ef gan gwmni y Quinine Bitters, Llanelli, ac mae wedi enill poblogrwydd mawr yn mhob rhan o'r wlad, oherwydd amrywiaeth ac fie-aethrwydd ei gynwysiad. Da. genym weled ei fod eleni eto mor gytiawn ag erioed o gyfarwyddiadau buddiol i bob dosbarth. Cynwysa. fel arfer gyfarwyddiadau pur gyflawn parthed y lly^-iyrdy, trwyddedau, etholiadau, a phynciau cyfreithiol eraill, yn nghyd a lluaws o gyf- arwydcliadau teuluaidd, rneddygol, ac amaethyddol, fyddant yn sicr e) brofi yn fuddiol a gwasanaethgar i bawb a wnant ddefnydd o honynt. Gwerthfawrogir y rhestr daflenol hylaw a chryno o ffeiriau Cymru, a'r golofn amaethyddol sydd yn yr almanac gan amaetli- I wyr a magwyr anifeiliaid yn arbenig. Cynwysa yr almanac hwn hefyd bob manylon a hysbysrwydd am y calendar, y tymhorau, y misoedd, a chodiad a machludiad haul a lloer trwy'r flwyddyn, a phethau eraill o'r fath ddisgwylir gael yn mhob almanac, yn nghyd a detholion o farddoniaeth a rhydd- iaith buddiol a v.yddorol yn cyfateb i bob chwaeth. Gan fod y llyfryn rhagorol hwn mor gynwysfawr, ae i'w gael yn rhad, dylai fod yn meddiant pob Cymro trwy y wlad. Ni raid ond gofyn am dano i unrhyw fferyllydd neu fasnachydd sydd yn gwerthu Quinine Bitters Gwilym Evans. Anfonir ef hefyd yn rhad o'r swyddfa. yn Llanelli i unrhyw gyfeiriad ar dderbyniad stamp dimai i dalu am ei gludo trwy'r post.
Masnach Yd yr Wythnos, r -I
Masnach Yd yr Wythnos, r Cawodydd tymhestlog a fuont yn tori ar dawelweh tywydd hyfryd Hydref o fewn yr wythnos ddiweddaf ac yn ol yr liinfesrurydd, gellir disgwyl yr un peth yn fynych yn yr wythnosau nesaf. Mae y dyddiau diweddaf oil wedi bod yn rhai tra dymuno 1, modd bynag. Er hyny, nis gall neb ddweyd fod yr bin yn anhymoraidd, ac y mae gwaith y fferm mor bell yn miaen ag y gellid disgwyl iddo fod yr adeg hon o'r flwyddyn. Mae y ffeimwyr yn lied bell yn mlaen gyda hau gwenith. Os bydd mis Tachwedd yn wedd- ol braf, gellir disgwyl y bydd rhyw ddwy filiwn o erwau yn y Deyrnas Gyfunol, a rhyw ddwy filiwn ar bymtheg yn Ffrainc, wedi eu gosod o dan wenith erbyn y dydd olaf o'r mis. Yr amcangyfrifon am yr Almaen a Rwssia. ydynt, ar hyn o bryd, yn rhy ddi- amwys i son am danynt; ond, nid ydyw yn debyg y bydd yr arwynebedd a hauir yn ddim llai na'r llynedd. Yn yr Unol Dalaetliau, par y sychder mawr sydd wedi bod yno nas gellir rhoddi cymaint o dir o dan wenith ag a allesid pe buasai yr amodau yn fwy ffafr- iol; ond, hwyrach y cymer cyfnewidiad le i alluogi I yr amaethwyr i wneud i fyny am y diffyg yn y gwan- wyn nesaf. Prisiau gwenith Saesnig ydynt sefydlog, ac yr oedd y cyfartaledd yn Llundain dros 37s y chwarter. Gan y melinyddion prynwyd cyflenwadau helaeth; ac os bydd y gauaf yn erwin, bydd yn edifar gan y fferm- wyr eu bod wedi gwerthu cymaint yn yr wythnosau diweddaf. Ansefydlog iawn oedd y fasnach mewn indrawn. Gwerthai ceirch yn sefydlog yn Llundain, am y prisia.u blaenorol.
LIofruddio Gwraig a'i thori…
LIofruddio Gwraig a'i thori yn ddarnau. DARGANFYDDIAD ARSWYDUS. 0 Perth, gorllewinbarth Awstralia, daw y pell- ebyr canlynol: -Mae yr hyn a ymddengys yn wraig-lofruddiaeth arswydus newydd ddyfod i'r amlwg yma. Rai dyddiau yn ol cafwyd hyd i gorph darnedig dynes mewn llecyn unig yn ymyl I Perth. Yr oedd ei phen, ei breichiau, a'i choes- au wedi eu tori ymaith a'u cuddio yn rhywle o'r golwg, a hyny o bosibl rhag i'r ddynes gael ei hadnabod. Modd bynag, wedi gwneud ymhol- iad-iu cafwyd allan fod gwraig i "nightman" o'r enw James O'Brien wedi bod ar goll ers amryw ddyddiau a'r cymydogion yn methu dirnad yn mha le yr oedd. Yr oedd y gwr (O'Brien) wedi dweyd wrthyr.t ddarfod iddi fyned i Malta am dro, sef ei lie genedigol, ac yn ddilynol adnabyddwyd gweddillion y corph fel eiddo Mrs O'Brien. Y mae O'Brien, -r hwn y dywedir sin meddu cym- eriad da, wedi ei gymeryd i'r ddalf.1 ar y cyhudd- iad o lofruddio ei wraig.
Yr Ymosodiad ar Miss Hughes,…
Yr Ymosodiad ar Miss Hughes, Ehuddlan. DADBLYGIADAU PELLACH. Oherwydd y dadblygiadau annisgwyliadwy sydd wedi cymeryd ileer pan draddodwyd y dyn ieuane Spriggs ar y eyhuddiad o ymosod ar Miss Hughes, march y chemist shop yn Rhuddlan,fe edrychiryn mlaen at y prawf dyfodol gyda dyddordeb an- arferol. Cynhelir Brawdlys Rhuthyn ar y 30ain cvfisol. Beth amser y1"4 ol gwnaed apel at y Barn- wr Ridley (yn awr Meistr y Rholiau) ar ran y cyhuddedig, yr hwn a drigai gyda'i rieni yn Llun- dain, i'w ollwng ef allan dan feichiafon ae, ar ol gwrandaw tystiolaethau, ei arglwyddiaeth a gania- taodd yr apel. Fe gofir ddarfod i Mrs Spriggs, yr hon a deimlai'n sicr o ddiniweidrwydd ei mab, geisio profi "alibi," ac y mae er hyny wedi bod yn Scotland Yard gyda golwg ar i'r "Crimiral Investi- gation Department" gymeryd yr achos i fyny. Gan fod hyny, modd bynag, yn groes i'r rheolau, aeth Mrs Spriggs i'r Swyddfa Gartrefol a'r Trysor- lys, gyda'r canlyniad fod cyfreithwyr y Goron wedi gwneud ymchwiliad i'r mater ac wedi holi agos i ugain o dystion er attegu yr "alibi." (Er mwyn y Cymro uniaith, dylem egluro mai "alibi" ydyw profi fod dyn yn absenol o le r eillduol pan y di- gwyddo rhywbeth neu gilydd ynddo.) Dywed Mrs Spriggs fod y Trysorlys, mewn canlyniad, wedi penderfynu gwysio y tystion hyny i'r Brawdlys a thalu cu treuliau.
------------Mordaith Tdigwyddfawr…
Mordaith Tdigwyddfawr Llong o Lerpwl. CRIW NEWYNOG: MARWOLAETH Y CADBEN. Y lloig hwyliau "Hahnemann," o Lerpwl, yr hon gyrhaeddodd i San Francisco yn ddiweddar o Shields, a ddyry hanes mordaith hynod ddig- wyddfawr a gafodd, un a barhaodd am dros 217 o ddyddiau. Y llestr a adawodd y Tyne ar y 23ain o Chwefror, ac wedi gadael y Downs syrthiodd i afael cyfres o ystormydd trymion. Ar y 25ain o Fai bu raid i'r meistr (Cadben Bindon, 42ain oed, o Lerpwl) gadw yn ei woly, gari ei fod wedi ei daro a'r taneiddew (erysipelas). Tra yn am- gylchu'r Cape Horn efe a ymadnewyddodd ych- ydig, ond aeth yn waeth drachefn, a bu farw pan oddeutu 900 milldir i'r de-orllewin o Callao. Claddwyd ef yn y mor, a chymerodd Mr Charles Green, prif swyddog, lywyddiaeth y llong. Yn y YWY 1 1 cyfamser yr oedd y dwfr a'r vmborth wedi rhedeg yn brin, ac, wrth gwrs, rhaid oedd lleihau y swm dyddioi o fwyd i bob dyn. Canlyriad hyn fu i scurvy wneud ei ymddangosiad yn mhlith rhai o'r criw a chan fod y llong yn methu gyru fawr yn mlaen oherwydd y croeswyntoedd. edrychai y rhagolygon yn dywyll iawn. Amryw ddyddiau wedi marwolaeth y cadben, modd bynag, canfydd- wyd gwnfad Americanaidd yn y pellder, ac wedi gosod arwyddion i fyny hi a ddaeth atynt. Rhodd- wyd eweh allan o'r "Hahnemann," ac anfonodd y gwnfad swm o ymborth i'r criw, y rhai erbyn hyn oeddynt yn prysur newynu a bron tori eu calonau. Wedi cael y fath galonogiad, cododd yr "Hahne- mann" hwyliau eilwaith a chyrhaeddodd San Francisco heb yr un anlwc pellach, ar ol gwneud un o'r mordeithiau meithaf mewn hanes.
Llifogydd mawr yn Khasia.
Llifogydd mawr yn Khasia. LLYTHYR DYDDOROL. Dyma ddyfyniad o lyt-hyv oddiwrth Mrs Robt. Jones dyddiedig yn Khasia ar yr 17eg o Fedi: — "Y mae yn: wlaw mawr, mawr eto yr wythnos hon, a llifogydd mawr yn mhob man. Bythef- nos yn ol parodd y llifogydd gryn niwed yn nhu- eddau Cherra a Sheila, cariwyd rhanau o ben- trefi ymaith, a difethwyd yn llwyr y cnydau reis a thatws, etc., diangai y bobl i ben y coed am eu bywydau. Mae y Llywodraeth wedi anfon Rs.200 i. gynorthwvo y dioddefwyr yno. Mae horl yn flwyddyn a gofir yn hir Yl1 yr India—caledi dir- fawr yn cael ei deimlo ar hyd a lied y wlad. Mae y clwyf ofnadwy hwnw a ddifaodd yr holl anifeil- iaid yn Affrica wedi d'od yma, ac y mae wedi gwneud cryn hafoc yn Khasia, ugeiniau lawer o eifr a gwartheg yn meirw, nes tlodi y bobl yn fawr —tra yn rgororau y gwastadedd boddwyd yr holl fuchesydd yn mron yn Uwyr. Mae Duw yn ddiau yn taro a gwialen gref, a gobeithio y gwrandewir ar Ei lais. Mae argoelion fod y colera yn dechreu clirio yma erbyn hyn—nid oedd un achos (case) newydd ddoe ond nid ydym wedi clywed heddyw, y mae yr oil yn mron a gymenr yn glaf yn marw o hono, un yn unig hyd yn hyn sydd wedi gwolla. Y llynedd, gwellhaodd y rhan fwyaf, er i lawer farw hefyd, ond eleni y mae y dolur yn fwy inarwol, ac yn fwy ar wasgar v llynedd mewn un ewr yr oedd—eleni y mae mewn tri rleu bedwax rhan o'r pentref heblaw mewn pentrefi eraill. Mae yspytty fechan wedi ei chodi a chludir y cleifion y-no, ond nid oes yr un o honynt wedi gwella. Neithiwr bu Mr Jones yno ac nid oedd ond un claf yrp—bachgen bach o Laban—ei dad a'i fam wedi marw o'r colera ac yntau yn suddo yn brysur. Wrth erchwyn ei weiy safai brawd bach ieuengach nag ef—y peth bach anwyl, mor ffyddlon ag oedd modd—yn aros hyd yr awr olaf, tra yr oedd yr holl berthynasau eraill wedi dianc. Mae Bengal- iaid o'r "caste" isaf yn cael eu llogi gan y Llyw- odraeth i ofalu am y cleifion, ao y mae yn gas gaji enaid y Khasiaid y rhai hyn, ac y mae yn groes iawn i'w cydwybod ymwneud dim a'r dosbarth yma, ac un diwrnod tra yr oeddynt yn gwneud math o gadair i gario dyn claf o Jaiew yno, diang- odd y truan er ei holl selni: nid oeddynt wedi d'od o hyd iddo ddoe, a thebyg yw ei fod wedi marw yn rhywle ar y maes, ac wrth gwrs ymbortha cwn a chreaduriaid eraill ar ei gorph ac ofnir i hyry ledu yr haint." J
Chwarel y Penrhyn.
Chwarel y Penrhyn. Y RHEOLAETH YN GWADU TORIAD TELERAU Y CYTUNDEB. Mae y llythyr canlynol wedi ei anfon i aelodau y ddirprwyaeth Mri W. H. Williams, Robert Davies, Henry Jones, Bethesda. Anwyl Syr,—Yn ngwyneb y ffaith fod adran o'r wasg wedi gwneud cais anwarantadwy a niweidiol i roddi ar ddeall fod telerau y cytundeb wedi cael eu tort gan y rheolaeth, teimlaf ei bod yn angenrheidiot ysgrifenu dipyn yn helaeth mewn atebiad i'ch goheb- iaeth dyddiedig Medi 25ain, 1897. Yn eich llythyraa y dyddiad hwnw dywedweh eich bod yn deall, yn ol telerau y cytundeb yn nghydag ymdrafodaethau blacnorol a gawsoch gyda mi, na fyddai i'r un o'r hen ddiweddar weithwyr gael ei adael allan. Yn nghwrs cyfarfyddiad gefais gyda chwi ar y pwnc hwn yn y chwarel ddydd Llun, yr lleg. cyfisol, dywedasoch wrthyf mai yr ymdrafodaethau y cyfeir- id atynt oedd rhai Mai diweddaf. Bu i nil, felly, adgofio i chwi ffeithiau yr achos, a bu i chwi ar un- waith gyfaddef na fu i mi yn yr ymdrafodaethau liynv wneud unrhyw addewid na fyddai i neb o'r diweddar weithwyr gael eu gadael allan. Yr hyn a fvnegais mewn gwirionedd yn yr ymdrafodaethau hyny oedd yr hyn a ganlyn:- (1) Na fyddai yno "restr ddu," hyny yw, na fyddai i'r un o'r diweddar weithwyr gael ei wrthod fel cosp .,PIt unrhyw weithred mewn cysylltiad a'r streic. (2) Na fyddai i mi ar gyfrif yn y byd wneud un- rhyw gytundeb gyda chwi o berthynas i ba nifer neu ba rai o'r diweddiir wblthwyr a gaent eu derbyn yn ol, neu yn mha ran- o'r cliwarel y gosodid hwy i woithio. (3) Ond rhoddais i chwi sicrliad personol fy mod yn gobeithio, gydag ond ychydig iawn o eithriadau, y byddai i bob un o'r hen weithwyr a apelient am waith ganfod eu hunain yn mhen tua chwech wyth- nos yn yr un llo ag o'r blaen. Yn ol adran 5 o dele-rau y cytundeb yr oedd ail- dderbynia.d yr oil o'r diweddar weithwyr "mor bell ag yr oedd yn ymarferol"' yn cael ei addaw, ac y mae yr addewid hono wedi ei lle.nwi. Allan o holl nifer y diweddar weithwyr gwrthod- wyd gwaith i 25 oherwydd meddwdod, anghymwys- der, diffyg golwg, ctiffyg clywed, anghymwysder i waith trwy fod ar restr y cleifion, neu rhyw res win cyfartal bwysig ag a'i gwnai yn anymarferol i mi roddi gwaith i'r dynion hyn ac er i Mr W. H. Wil- liams yn nghwrs yr ymdrafodaeth ar yr lleg cyfisol sylwi :Pe buasech yn gyntaf oil wedi derbyn yn I ol bob un o'r hen ddwylaw ac yn mhen yr wythnos fod wedi dechreu eu troi ymaith, ni fuasem wedi cwyno," yr wyf eto yn teimlo (fel yr eglurais i chwi ar yr adeg) pe buaswn wedi dilyn y cwrs bwnw, yr hwn gwrs y cyfaddefaf yr anogodd llawer fi i'w gy- meryd, y buasai i fy meddwl i yn dwyn argraff diffyg uniond-b ar fy rhan, ac hefyd ni fuaswn yn ystyried buddianau cyfreithlon Arglwydd Penrhyn pe buaswn wedi cyflogi dynion anghymwys i waith.—Yr eidd- ochyngywir, E. A. YOUNG. Porth Penrhyn, Bangor, Hydref 20fed, 1897.
Y Bwrdd BSasnach a StreicI…
Y Bwrdd BSasnach a Streic y Peirianwyr. Ymddangosodd y llythyr oanlynol yn y "Times" am ddydd Mawrth Syr,—Nid yw canlyniad cyfryngiad anwahoddedig y Bwrdd Masnach gyda'r streic fawr sydd yn awr yn cael ei chario yn mlaen, yr hwn ganlyniad y mentrais broffwydo am dano bythefnos yn ol, wedi bod yn liir yn dod. Nid yn unig y mae methiant yr ymyriad anffortunus hwn wedi ei brofi, ond y mae wedi arwain, fel ag yr arweiniodd polisi yr un mor ffol yn Chwarel y Penrhyn y Ilynedd, i bob math o ddrwg. Yn mysg pethau eraill, y mae wedi cydgrynhoi ar feistriaid gwaith yn y wlad hon, ac yn nodedig ar un o'r dynion goreu, y Milwriad Dyer, ymosodiad gwen- wynllyd ac erchyllwedd oddiwrth yr holl haid o athrodwyr Radicalaidd yn y wasg. Os mai swyddogaeth y Blaid Geidwadol yw cryn- hoi ar y rhai sydd ganddynt eiddo ac mewn sefyllfa gasineb y rhai nad oes ganddynt yr un o'r ddau, neu ox ei swyddogaeth neillduol yw meithrin buddianau y dosbarth sydd ganddo bleidleisiau i'w gwerthu neu i'w cyfnewid ar draul y werin, nid yw.y mater mewn angen ychw&neg o gyfiawnhad; mewn ystyr arall, mae yn syml anghredadwy. Pan y darllenwn y papurau fod Mr Burket wedi myned a'i gap yn ei law ofyn am gyfarfyddiad a Mr Barnes, arweinydd Sosialaidd, yr hyn ar y foment bresenol sydd yn gy- mysgfa. Sosialaidd, mae yn cael ei anghofio fod y giveith rerliadau yn cymodi yr holl blaid, llawer o ba ewch i ni adgofio flaith neu ddwy. Y Ilynedd ey- rai a deimlant yn bur anfoddlon dan y peth. Gad- merodd streic fwyaf ffyrnig ac anghyfiawnadwy le yn Chwarel y Penrhyn, yr hon a derfynodd ddeng mis yn ddiweddarach (fel y mae yr ysgrifau o'm blaen yn profi) yn ngorchfygiad llwyr y cynhyrfwyr, wedi i lawer o filoedd gael eu darostwng i dlodi ac eisieu. Ar yr achlysur hwnw bu i ymyriad y Bwrdd Masnach ddibenu nid mewn heddwch ond mewn gwneud y frwydr yn llawer mwy chwerw, yr hon a enynwyd ac a hwyhawyd gan erthyglau diofal yn yr adran hono o'r wasg sydd yn byw ar athrod. Can- lyniad arall i gyfryngiad Mr Ritchie oedd rhoddi un o'r meistriaid uchaf ei feddwl, caredig, haelionus, ac o ysbryd rhydd yn y wlad yn nod i bob math o wawd a dirmyr. wawd a dirmy.. Ni ddaeth yr un gair na sill i'w gefnogi neu i'w amddiffyn oddiwrth swyddogion y Bwrdd Masnach, i'r rhai yr oedd yr holl ffeithiau yn wybyddus. Parhaodd ei frwydr i'r pen draw, a gwn fy mod yn iawn wrth ddweyd nad yw yn cael ei ddal mewn parch uwch yn unlle y foment yma, nag yn mysg y bobl sydd yn ei adnabod oreu, a'r rhai sy'n awr wedi dychwelyd at eu gwaith. Nid yn unig felly, pan yr anfonodd y Bwrdd Mas- nach i lawr i gyfryngu bu iddo yn weithredol gyflogi fel ei ddirprwywr ddyn sydd ar ol hyny wedi cyffesu ei fod wedi trefnu pob streic yn Ngogledd Cymru yn ystod yr 20 mlynedd blaenorol. A ellir dychymygu am rywbeth mor annioddefol a hyn? Yn awr yr ydym yn nghanol brwydr fawr arall. Mae y meistriaid yn dweyd yn hollol eglur nad oes arnynt eisieu ac na fydd iddynt oddef cyfryngiad. Mae y dynion, trwy eu siaradwyr swyddogol, wedi dweyd er y dechreu eu bod yn meddwl eu hymladd allan hyd y terfyn eithaf, ac i ddysgu gwers i'r meistriaid. Nid yw yr un o'r partion wedi gwneud Mnrhyw apel at y Bwrdd Masnach. Gwyr y ddwy blaid nad oes dim i apelio yn ei gylch, os nad yw y Bwrdd Masnac h i ddod yn setlwr cvffredin pob I anghydfod, yn cynwys y rhai gymerant le yn ein ccginau a'n maethdai. Er hyn, mae y Bwrdd Masnach yn cynyg ei was- anacth, ac ar unwaith yn cael ei daro yn ol, yr hyn sydd yn gwneud i fochau rhai o honom wrido, ac yn rhoddi aclilysur i lawer o erthyglau croes yn y wasg. Nid yn unig felly, ond y mae yn cyflogi fel ei genad swyddog sydd yn ddyn. parchus, ond safle yr hwn sydd yn cael ei lygru gan y ffaith ei fod yn rhag- flaenu Mr Barnes fel ysgrifenydd Cyngrair y Peirian- wyr. Beth yw yr achos o'r camgymeriadau difedr hyn? Ai y rheswm yw hyn-Fod Mr Morley, Mr Ed- mund Robertson, Mr Sydney Buxton, a gwleidydd- wyr Radicalaidd eraill, heb barti ac heb lwyfan, yn ysgrifenu llythyrau gwylltion ac yn gwneud areith- iau gwylltion yn yr ymdrech am boblogrwydd lly- gredig? Ysbrydoliaeth dlawd ddylai hon fod i Wein- yddiaeth Geidwadol. Gwelwch mor ddirmygus yw yr oil. Nid yw Mr Barnes, dechreuwr a chyfarwyddwr y streic, yn un- debwr crefftwrol yn yr ystyr y mae Mr Burt a Mr Mawdsley. Mae efe yn Sosialiad adnabyddus ac eithafol., Bu iddo ymladd Rochdale yn erbyn y Milwriad Royds, y Ceidwadwr, a Mr Bright, y Rhyddfiydwr, yn yr etholiad diweddaf. Mae yn derbyn yr olygwedd Sosialaidd eithafol mewn gwleid- yddiaeth. Nid yw vn cuddio ei arfau n,,Ci amcan. Wedi cael ei awenau, ac wedi cael safle penadur fel y mae, mae yn awr gyda'r gwaith o wario pob ffyrling sydd gan ei gymdeithas gyda'g amcanion sydd yn cael eu condemnio gan naw o bob deg o ddynion call. Iddo ef nid yw yn ymddangos o bwys fod y gronfa o 3500p y flwyddyn, yr lion a ddylai fod yn perthyn i hen beirianwyr na, allant mwyach weithio, a'r gronfa gynorthwyol er darpar ar gyfer y rhai fo'n wael ac anffodus yn y gjnndeithas, yn cael eu diys- byddu yn gyflym, a bod dwylaw creulon y gauaf yn eu cyffwrdd yn barod. Mae y dynion sydd yn ei ddilyn wedi rhwymo eu hunain mor dyn yn rheffynau gwasanaeth trwy eu man-ddeddfau gwrthun fei y gau wneud fel y myno, ac ni all neb gymeryd mesurau cyfreithiol yn ei erbyn ef na'i griw, ac y mae yr olf yn cael.eu tynu yn mlaen i ddinystr, tlodi, ac eisieu yn.nghanol gwaedd- iadau calonogol gwa--g galongaled a chroes sydd yn masnachu ar eu hanffodion. Nid yw efe erioed wedi gofyn am gyfryngiad mae yn wawdlyd wedi gwrth- od cyfarfod a thrafod gyda swyddogion y cymdeithas- au cyngreiriol; ac nid yw ychwaith mewn safle i dynu yn ol neu i ddod i gyfadaawd. Beth, felly, yw y feddyginiaeth? Mae y feddyginiap-th mor eglur a haul canol dydd, ac nid oes ond un feddyginiaeth. Gall y Peirianwyr Undebol bleidleisio yn eu gwahanol glybiau ar y cwestiwn a yw eu hachos, eu cartrefi, a'u teuluoedd i barhau i fod at drugaredd ychydig o Sosialiaid dibris neu a fydd iddynt eu troi allan. a myned yn ol at eu hen bolisi o etliol fel eu harweinwyr nid y siarad- r mwyai firaeth ac hvlithr ond y dynion callaf a mwyaf synw\Tol yn eu mysg dynion, mewn ffaith, fel Mr Burket ei hun, yr hwn a'i harweiniodd cyn i'r tcriythTvyr pr^senol gynieiyd yr awenau. Os gwell ganddynt yw rowlio i lawr yr allt i ddi- nystr gyda u gilydd, nis gill! unrhyw fod dynol eu hachub. Onid yw yn ams.r i'r biaenoriaid ac ar- weinwyr eraill y.i eu mysg ddai'.gos ycliydig mwy o ddewrder ac arwain y Jleill, yn y cyLJIDSer dylai y rhai sydd mewn awdurdod neu sydd gar.ddynt ddysg — ic a gaf fi ddweyd tipyn o gydwybod?—atal yr iaith sebonllyd, a siarad y gwir plaen, pa mor an- mhoblogaidd y gall fod am y foment. Cant eu gwobr yn y man. Y I' eiddoch yn barchus, HENRY HOWORTH. 30, Collinghum-pI;ice, S.W., Hydref 18fed, 1897.
[No title]
Y Free Labour yn ei rifyn diweddaf a ddywed Mae y Daily Chronicle," mewn trefn i hjTwyddo j ei hoff bolisi o Undebiaeth o unrhyw fath am unrhyw bris, yn gweled bai ar Milwriad Dyer a'r "Employ- ers' Federation" am eu bod yn "chwareu Penrhyn." Wrth edrych arno yn ngoleuni digwyddiadau, wedi .WY eu cofnodi yn gywir ac nid fel y mynai'r "Chronicle" iddynt ymddangos, y mae ymddygiad Arglwydd Penrhyn (a hyny yn ngwyneb cyfres faith o flinderau diwydianol a cholledion anghyffredin) wedi bod yn berffaith anrliydeddus, cyson, a gwyneb-agored- ymddygiad yn cael ei gymhell gan ysbryd o gyfiawn- der diwyrni tuag at ei weithwyr, gyda'r rhai yr oedd wedi ei ddwyn i wrthdarawiad, nid gan y dynion eu hunain, eitlir gan ddysgeidiaeth wagsaw a chynghor drygionus eu harweinwyr. Deuddeng mis yn ol, pan yn awgrymu telerau cytundeb i'w ddynion Arglwydd Penrhyn a ddywedodd wrtliynt: "Nid wyf yn ceisio gosod unrhyw anghyfiawnder arnoch; ymladd yr wyf fi dros yr egwyddor o ryddid perffaith i feistr a gweithiwr, ac wrth nyny yr wyf yn bwriadu glynu. Yr oedd y telerau hyn yr un mor anrhydeddus i Ar- glwydd, Penrhyn ag oeddynt i'r rhai a weithient iddo ond, diolch i'r dysgawdwyr annoeth, aeth llawer o fisoedd maith a blin heibio cyn i'r dynion eu derbyn, er mor anrhydeddus a chyfiawn oeddynt ac yr addefir eu bod. Y mae geiriau Arglwydd Penrhyn wedi eu traethu drosodd eto, mewn effaith, gan y Milwriad Dyer a Chyngrair y Meistradoedd yn y eweryl rhyng- ddynt a'r peirianyddion: "Nid ydym ni yn ceisio gosod unrhyw anghyfiawnder arnoch; ymladd yr ydym dros yr egwyddor o ryddid perffaith i feistr a gweithiwr, ac wrth hyny y bwriadwn lynu." Gan i'r "Chronicle' ddyfynu y gyfatebiaetli a'i llurgynio i fod yn fath o gondemniad ar y meistradoedd, byddai'n llawn cystal i'r dynion wybod ar ba sylfaen egwan mae y eondemniad wedi ei seilio. Hwy a allasent hefyd, a. chyda. mantais iddynt eu hunain, ymestyn y gyfatebiaeth i'r chwarelwyr yn Bethesda, a derbyn telerau teg ac anrhydedcius pan osodwyd hwy o'u blaen, er, yn eu budd eu hunain, mae i'w obeithio y derbyniant hwy ychydig yn fwy parod nag y caniata- odd arweinwyr eu cymdeithion yn Ngogledd Cymru iddynt wneud.
-_---_...._-_. Marwolaeth…
Marwolaeth Cyfranwr Lirgel. DATGUDDIO EI ENW. Y Sabboth o'r blaen yr oedd Canon Scott (o Eglwys Sant loan, Leeds) yn pregethu yn Eglwys Gadeiriol York er budd Cenhadaeth China Ogleddol. Tua therfyr, ei bregéth efe a sylwodd. dda.rfod iddo, pan yn pregethu yno ar achlysuron blacnorol or budd y genhadaeth hono, grybwyll lr genhadaeth ga,el ei sylfaenu a'i gosod ar drocd trwy gymwynasgarweh lleygwr dienw" hael- ionus, yr hwn a. roddodd 500p y flwyddyn am saith mlynedd er anfon a chynal dau genhadwr yn China Ogleddol. Aeth ei frawd ef (y pregethwr) a chenhadwr arall allan, a darfu iddynt arloesi'r tir ac yn 1880 bu i'r un boneddwr haelionus waddoli yr esgobaeth gyda 10,000p, chysegrwyd ei frawd ef (y Canon) yn esgob cyntaf China Ogleddol. Byth er hyny yr oed l yr un rhoddwr haelionus wedi cyfranu yn helaeth tuag at anghenion arbenig y genhadaeth. Drwg oedd ganddo eu hysbysu fod y bonoddwr hwn wedi ei gymeryd i'w orphwysfa er y mis diweddaf, fel nad oedd yn awr Un rheswm dros beidio datguddio ei ertw. Dud- ley Smith ydoedd, o'r fiirm adnabyddus o fanc- wyr. Serch ei fod yn ymwneud ac yn cydweith- redu ag ef (y siaradydd) gyda gwaith y genhadaeth hono am dros ugain mlynedd, ac er ei fod yn ym- welydd mynych a'i dy ef, erioed ni chlywodd crybwyllia.d lleiaf am ei roddion yn dyfod dros ei wefusau.
-----------------Digwydaiad…
Digwydaiad Anghyffredin: Cynghc PJwyf mewn Penbleth. Ymgynullodd Cyrghor Plwyf Chwitfforda fel arferol nos bu diweddaf; ond, gan fod "boll Chwitffordd" ar y pryd yn eglwys y plwyf yn talu diolchgarwch am y cynhauaf, yr oedd yr ys- gol-ystafell wedi ei chloi. Un o'r aelodau a aw- grymodd, gan nas rrellid myned i'r ysgol, fod i'r Cynghor ymgyfarfod yn ngblwb-ystafell y pentref. Y IDa. yn Narllerfa Chwitffordd a'r 'Primrose League Lodge yr oedd yn ymgynulledig y fath oleuadau Anghydffurfiol a Radicalaidd a Mr Evan Bryan (cadeirydd y Cyngrair Gwrthddegymol), y Parch Hugh Roberts, ac amryw Ymneillduwyr eraill.-P,s fodd bynag, galwodd Mr Bryan sylw at y diffyg chwaeth a'r anmharchusrwydd o gynal y Cynghor Plwyf o fewn ychydig latheni i'r cglwys blwyfol, lIe y cynhelid gwasaraeth diolchgarwch am y cynhauaf, ac efe a gynygiodd fod y Cynghor, dan yr amgvlchiadau, yn ymohiric ac yn myned i'r gwasanaeth diolchgarwch.—Eiliwyd hyn gan Mr .John Jones.—Dywedodd Mr Pickering, gan fod amryw gynghoryddion wedi dyfod yno yn ngwyneb anghyfleusdra mawr, ei fod ef yn tueddu i fyned yn mlaen a'r busnes.—Y Parch Hugh Ro- berts oedd o'r un fa.m.-Modd bynag, bu i'r cyn- ygiad i fyned i'r eglwys gario. ac yn unol a hyry aeth y cynghoryddion yno. Erbyn hyn yr oedd y gwasarneth wedi dechrcu, a bu i ddyfodiad Cynghor Plwyf i'r adeilsd cysegredig dynu crvn sylw y gwyddfodolion, ac nid ychydig o ddyfalu oedd yn nghylch yr achos o hyry." Nid hir wedi cymeryd eu heisteddleoedd caiodd y cynghorydd- ion v pleser o wrandaw pregeth nerthol a hyawdl gan Canon Davies, Pwllheli.
---__-----LLINELLAU
LLINELLAU Wrth edrych ar ddarlun Arglwydd Esgob Bangor. Llun gwaa Dofydd, duweinydd, llawn doniau, Myfyr nefawl ei goetliawl bregethau Dyn gorethawl hed luwog areithiau 0 dda wirionedd o'i ddiwair enau- Da odiaeth ehediadau seraphaidd Yw ei dduwiolaidd heirdd-ddrych feddyliau. Ffynnon y Mab. M. Parry.
NODION (nU)EHEUl)i!!.
NODION (nU)EHEUl)i! Cyflwynir rhyddid bwrdeisiol Caerdydd i'r Henadur David Jones. Cynhaliwyd cystadleuaeth saethu gan Wlrfodd- J ohvyr Sir Gaerfyrddin dydd Iau. | Y mae trefniadau ar droed i ffurfio cwmni i gyflenwi Rhymni a nwy a dwfr. Cynhelir ymchwil eto yn Nhreharris i'r cais am | wneud Merthyr yn gorphoraeth. Suddodd y tynfad "Retriever" yn N ghamlas Morganwg prydrawn ddydd Gwener, ond ni fodd- .an wyd neb. Cymerodd claddedigaeth Mr J. W. Evans, llyw- I odraethwr glofaol, Femdale, le yn Nghladdfa Lledar Ddu, Trealaw, prydnawn Gwener. Y mae eglwys y Bedyddwyr yn Nghwmrhydy- Ceinv, Treforris, wedi rhoddi galwad i Mr H. D. Clement, o Goleg y Bedyddwyr, Caerdydd, i'w bugeilio. Y mae Mr John Thomas (Pencerdd Gwalia), Telynor y Frenhines, yn mhlith y rhai a anrhya-1 eddwyd trwy dderbyn y Jubilee Medal oddiwrth y Frenhires. Hysbysir fod perchenogion glofa y Gadlys yn gweithio i gyfeiriad glofa Blaengwawr, ac y bydd- ant yn fuan wedi gweithio drwodd i bwll Blaen- gwawr. Mae Mr John K. Jones, o Goleg Aberystwyth, wedi enill ysgoloriaeth werth 120p yn Yspytty Llundain, a Mr M. T. Williams, o'r un coleg, wedi enill ysgoloriaeth werth 35p yn yr un lie. Y mae y Mri D. A. Thomas a Gueret wedi pry nu y Naval Colliery, Periygraig. Mae y trigolion yn llawen iawn, gan fod o'r blaen gryn arniorwydd beth a fyddai dyfodol y lofa. Yn Nghaerdydd, yr wythnos ddiweddaf, tra-1 ddodwyd W illiam Jenkins i'r frawdlys dan gy-1 huddiad o ladratta oriawr a phethau eraill oddiar James Menesares, Eidaliad, ar y 12fed o Hydref. Mae y Parch J. Morgan Jones, Cymedroiwr Cymdeithasfa Gyffredinol y Methodistiaid Calhn- aidd, wedi ei benodi yn gadeirydd Pwyligor Gweithiol Eisteddfod Genedlaethol 1899, a gyn- helir YL: N ghaerdydd. Mewn cyfarfod dirwestol yn Neuadd Cory, Caer- dydd, nos Wener, cyfc^iodd y Prifathraw Ed- wards at farwolaeth Deon Vaughan, a phasiwyd yn unfrydol benderfyniad yn eydymdeimlo a'r teulu. Mr J. H. Davies, Cwrtmawr, sydd i lywyddu y 11 nghiniaw Meibion Deheudir Gwalia yn Llundain ar y 27ain o'r mis nesaf. Bydd yno amryw o er wogion eraill o'r De, a diau y ceir roson -inghyff- redin yn yr wyl flynyddol hon. Yn Nghaerdydd, ddydd Gwener, cyliuddwyd Arthur Riley o archolli Henry Elms ar ei ben a'i wyneb gydag ellyn, gyda'r amcan o beri niwed corphorol difrifol iddo. Traddodwyd y cyhudded- ig i sefyll ei brawf yn y frawdlys nesaf. Yn Nghasnewydd, yr wythnos ddiweddaf, bu Dr. Norman Kerr ym darlithio ar Agwedd Fedd- ygol y Cwestiwn Dirwestol." Dr. Garrod Thomas oedd y llywydd. Dywedai Dr. Kerr fod alcohol yn lluddio ac nid yn cynorthwyo treuliad ymborth. I Mae Esgob Llandaf wedi penodi y Parch J. Jones, ficer St. Bride's Major a Wick, ger Peny- bont-ar-Ogwy, yn ddeon gwledig Groneath, a'r Parch H. Adams-Williams, rheithor Llangibi a I Choedfaen, teer Casnewydd, yn. ddeon gwledig Bryribiua. Yn nghytartod Pwyllgor Cyllidol Corplioraeth I Abertawe, ddydd Gwener, dan lywyddiaeth Mr Rocke, dywedodd Mr Roger Thomas ei fod -yr,! deall fod nifer o'r cynghorwyr ar ol efo'u trethi. Dywedid fod tuag 800p o drethi yn ddyledus oddi- ar gynghorwyr. Cynlialiwyd cyfarfod blynyddol adran Deheudir Cymru o Gymdeithas Gorphoredig y Cerddorion yn Nghaerdydd ddydd Gwener, dan lywyddiaeth I Mr Higgins. Dangosai y fantolen fod gaai y gym- deithas 25p mewn llaw, er fod y treuliau yn an- nghyffredin o drymion. Hysbysir fod y llestr "Carrie," o Aberdaugledd- yf, oedd ar ei ffordd o Gaerdydd i Ballinacurra gyda llwyth o lo, wedi rhedeg ar y creigiau ar bwyijt Fort Camden yn gynar ddydd Gwener. Achubwyd y dwylaw gan wyliedyddion y traeth yn Roche's Point. Mae yn debyg y llwyr ddryllir y Hong. Dydd Gwener cynhaliodd Mr E. B. Reece ym- chwil yn Mhontypridd i amgylchiadau marwolaeth "Yi Frank Gibson a Thomas James Doran, glowyr, y 11 rhai a laddwyd yn y Great WTestern Colliery ddydd Merch er. Bwriwyd rheithfam o "Farwolaeth ddaiiiwe:niol yn y naill achos a'r llall. os Werer cynhaliwyd cyfarfod eyho-daus yn Nghaerdydd yn nglyn a Jiwbili y Gobeithluoedd. Caed areithiau a chaneuon gan yr Henadur San- ders, y Prifathraw Edwards, Mr F. W. Brett, Mr Ryan, Mrs Edwards (gwraig y Prifathraw Ed- wards), Miss Rees Jones, a Mr Herbert Jones. Rhoddodd Mr Ballinger, llyfrgellydd Caerdydd, ifigyrau dyddorol gerbron Cynghor Caerdydd yr wythnos ddiweddaf. Yn 1877 nid oedd ond 8000 o lyfrau yn y llyfrgell. Y mae yr o 60,000 yn awr. Yn 1896 bentliyciwyd 39,951 o gyfrolau ;yn 1897 ( y flwyddyn sydd yn terfynu ddiwedd v mis hwn) bentliyciwyd 221,000 o gyfrolau. Pan acth y diweddar Ddeon Vaughan i Doncas- ter cafodd eu bod pi arfer canu clychau eglwys y plwyf ar achlysur rhedegfa geffylau St. Leger! Rhoddodd y deon derfyn ar yr arfer hon yn ddi- oed a pbar, gwynodd y clochyddion (neu p-w-y bynag a ganai y clychau) fod hyny yn golled iddynt hwy, rhoddodd yntau iddynt o'i logell ei hun swm blynyddol cyfartal i'r hyn a arferent gael gan ber- chen y ceffyl a enillai y ras. Ar gyfer gwyl gerddorol y dirwestwyr y flwydd- yn nesaf y mae awdurdodau y Palas Grisial wedi dewis "Cwymp Bacchus fel un o'r darnau cys- tadleuol. Y mae hwn yri gyfansoddiad trwyadl Gymreig awdwr y gerddoriaeth yw Mr C. Meu- dwy Davies, arweinydd cor y Tabernacl, Llanelli ac awdnvr y geiriau yw y Parch David Lewis, o'r un dref. Y mae cerddorion Cymru yn cael eu cyd- nabod y dyddiau hyn. Y mae y ffactri ymenyn a gychwynwyd yn ddi- weddar yn Llanboidy yn llwyddo. Y mae 30 o Sennydd yr; awr yn danfon llaeth a hufen yno. Y mae eraill am wneud, a disgwylir y bydd o 50 i 60 o ffermydd yn danfon Ilaeth yno cyn y gwan- wyn. Nid yn unig y mae y ffermwyr sydd yn danfon eu llaeth i'r ffactri yn cael gwell prisiau am eu hymenyn, ond y mae y rhai sydd yn dal at yr hen drefr: yn cael gwell prisiau am eu hymenyn o ganlyniad i'r ffactri; ac felly, y mae y rhagfarn oedd gan lawer yn erbyn y drefn newydd yn gradd-' ol ddarfoti.
EIN BARA BEUNYDDIOL.
(Allan o'r "Dryeh.") EIN BARA BEUNYDDIOL. Cychwynwyd cymdeithas yn ddiweddar ynLlun- dain yn addysgu ilwyaymwrthodiad oddiwrth fara. Honant mai bara yw achos ac achlysur pob an- hwyldeb o'r braidd, ac o'i fwyro ef yr a dyn yn ei hen ddyddiau yyi anystwyth ac anwisgi. Dywed- ant fod ynddo elfenau neryllol sydd yn asgwrn- eiddio y corph dynol. Dysgant hefyd y bydd i ymgadw oddiwrth fara sicrliau i'r corpli dynoi ryddid oddiwrth lawer o glefydau ac anhwyhierau annymunol ac anwelladTpy. Tebyg fod bara yn mdiosi llawer o anghysur i gyila dpi, ond nid y gwir fara, eithr y ffug-far.-—y bara gwyr" ddecn- reuodd ddwyn gwynfyd y dyn oddiamo. Nid bara fwyteir y dyddiau hyn, eithr blawd wedi ei andwyo gan y fferyllydd, y melinydd, a'r pobydd. Y mae mursendod a chyrnhendod yr oes bresenol wedi myned i'r bara, wedi ei wneud pi riweidiol. Y mae gwneud bara wedi myned yn rhyw fath o gelfyddyd yn lie dyiedswydd. Y mae y pobydd wedi myrcd yn gryn artist, a'i fara yn y ifurfiau ami-ywiol o basteiod, caceni, teisenau, bwyd angyl- ion, etc., yn fwy o addurn nag o ymborth. Am- can gwreicidiol bara oedd maetlm, a phan aeth dyn yn ddigon ynfyd i'w andwyo a fferylliaeth trodd yr hyn oedd yn fwyd yn walldreuliad a beilacli cawn y dyn yr.' beio y bara yn lie beio ei amryfus- edd ei hun. Yn yr I amser gpit yr oedd bara yn fywyd, ond wedi hyny syrthiodu oddiwrth ras.
YMDDYGIAD GIVARTlii-TS.
YMDDYGIAD GIVARTlii-TS. Ofer yw cuddio y ffaith fod y bobl yn y wlad hon yn esgeuluso eu manbeision. Gyda" ychydig o ddoetnineb a challineb, ac undeb ptndcriyniad, gellid gwneud lies arhi-t-thol me nl vciivdi^ nyn- yddau. Y ffaith yw, arweinir j bobl gyda phob awel politiciaeth, yn ol ac yn mlaen, lieb wneud nemawrddim cynydd mevru da cm. ui.tont mor dueddol i bieidio drwg a da, camwedd a rhinwedd, llygredigaeth a gwareiddiad. Gadawant lawer. gyfleusderau i buro cymdeithas i fyned yn ddiofaL i mae mwyafrif pobl New Jersey newydd ddangos gerbron y byd fod yn well ganddynt lygredd a phydredd na rhinwedd ac uniondeb; y maent mewn pwyll a gwaed oer wedi datgan fod hap- chwareu a'i hudoliaeth a'i wastraff yn werth i'w gefnogi. Y maent wedi cvliawnhau yr arfer If olaf, ynfytaf, lygredicaf, anghyliawnaf fedr dyn ym- wneud a hi, sef gamblo. Dylasai holl bleidlais y Dalaeth ddyfod allan fel un o blaid purdeb ac i lorio anghenfil fei hap-ciiwareu oi.d y mae yn gywilydd cyfaddef mai ond un rhan o dair o'r bleidlais ddaeth i ddatgan bam-ar bwnc mor oll- bwysig.^ Dyma un o beiyglyn mwyaf dynion, sef eu diofalwoh aj'u difrawder yn ngwyneb drygioni a llygredd. Y mae lie i ofni fod y bobl yn cael eu rheoli yn fwy gan ysbryd plaid a. mympwy na. chan egwyddor a pharch i les cym- deithas. A ellir dysgwyl i ddynion bleidio yr hyn. y maent yn esgeuluso yn eu bywyd ? Os aflan yw y dyn allan yw ei lais. Wrth eu ffnvythau yr adnabyddir dynior.
-----------GORMOD A RHY FACH.
GORMOD A RHY FACH. Un o glefydau amlyeaf y weriniaeth yw gor- lawnder a phrinder. Y mae yn amlycach yn y Talaethau Unedig na' un wlad arall. Y mae yma orlawnder a phrinder. Ymddengys ei fod yn gan- lyniad afreolaeth neu ddiffvg""trefr'. "Gwelir achwynion ar bob llaw fod yn y wlad ormod o. grefftwyr, a gweithwyr a galwedigaethwyr o bob math. Y mae yma ormod o gynyrchion o bob math—over-production—gorlawnder o bob mell- dithion. Y mae gormod o gryddion pi y wlad a gormod o esgidiau yn barod yn y wlad er fod yma fwy o draed! Y mae yma ormod o ddillad er fod yma lawer yn haner noeth. Y mae yma ormod o flawd, er fod yma lu yn gweled dim ond prinder. Y mae yma orlawnder a gorbiinder yn ymyl eu gilydd, ac yn ddisylw iawri o'u gilydd !"Y mae y-ma ormod a rhy facli yn byw yn gymydogion heb adwaen naill y llall! Y prinder sydd yn cynyrchu y gormod, a'r gormod pi achosi prinder! Y mae yma ormod o ethol a rhy fach o ddewis. Y mae yma ormod o swyddgeiswyr a rhy fach o swyddi. Y mae yma ormod o addewidion a rliv fach o weith- redoedd. Y mae yma ormod o le i fyw a rhy fach i fvw arno. Y mae yma ormod o lefaru a rhy fach o ddar^aru. Y mae y gormod yn ysglyfaetmi ar y rhy fach yn barhaus, ac ofna llawer yn mhen ychydig na fydd neb yn y wlad namyn plant. Deifes a phlant Lazarus.
,PWY YW Y PERCHENOG?
PWY YW Y PERCHENOG? Yn mhlith holl bynciau y byd un o'r rhai mwyaf cywrain a dyddorol yw "Pwy bia. gwlad Canaan?" Yr hyn a aehlysura yr ymofyniad yw ymddygiad yr luddewon yu eu cynhadledd yn Basle, Swit- zerland, a throion y Pab o Rufain mewn canlyniad i hyny. Y Canaaneaid oedd ei pherchenogion cyntaf, ond gyrwyd hwy allan gan yr Israeliaid. Wedi trigianu yno am ganrifoedd ymosodwyd arr,ynt hwythau droion gan genhedloedd amgylch- ynol ac estronol, a chludwyd Hwythau cyfain i gaethiwed, fel y mae y deg llwytli ar goll, a mawr y dychymygu a'r da.mcanu sydd wedi bod i'w lleolL Ceisiodd rhai brofi m, -ii y Saeson ydynt; ac yn mhlith damcaniaechau disail eraill cawn fod y Llyfr Mormon yn dweyd mai yr Indiaid American- aidd ydynt. Mae yn debyg eu bod yn rhyw le wedi cymysgu ac ymgolli yn nghanol cenhedloedd eraill. Llwyth Juda oedd gan mwyaf yn ùodoli a ffyull yn amser yr ymwasgariad pan y dinystriwyd Jemsalem ac y chwahvyd yr hen genedl i bob cwr o'r byd. Bu y ddi;ia« s-anctaidd yn ngafael y Rhufeininid paganaidd nt. wedi hyny dan lywod- raeth y Mahometani:;id. Hyn achosodd ryfeloedd y Groes pan yr adfeddianwyd hi ain dymor ond adenillwyd hi gan y Mahoaietnr-:aid, ac y mae yn. awr yn rhan o deymas y Swltan o Twrci cynrych- iolydd presenol y prophwyd. Amcan penaf y gynhadledd y cyfeiriwyd ati yr neehreu ein hys- grif oedd dyfcisio cynllun a chasgiu symiau digonol o arian i brynu y wlad o law y Swltan, r.c ad- sefydlu y wlad yn y ffurf o weriniaeth. Pan ddeallodd y Pab fod yr luddewon ar fedr prynu y wlad a chymeryd meddiant ohoni, cenfigenodd waelod ei ysbryd, oblegid v mae rhyw goel yn ffynu yn yr Egiwys Babyddol mai y Pab fel ficer Crist yw gwir berciienog v tir. Ymresymant yn dcbyg i hyr., Gan mai yr Arglwydd wnaeth y byd cl ac mai eiddo yr Arglwydd y ddaear a chan mai y Pab yw cynrychiolydd Crist ar y ddaenr, fel Pen yr Eglwys, a goruchwyliwr y deyrnas, hawdd yw canfod fod ganddo ryw fath o hawl i'r rhan fechan hon o'r byd. Y chydig o sylwedd sydd mewn hawl o'r fath, a tlsebyg na chai ddim sylw na gwrandawiad mewn llys y byddai y barn wr yn ei iawn bwyll; eto ystyria: y Pab fod ganddo hawl wirioneddol a diajneuol i'r wlad, ac i'r perwyl o gefnogi yr hawl dychymygol liwn ymae wedi anfon cenad, Mgr. Boneti, fel Dirprwvwr Apostolaicld, i Constantinople, i ragflaenu yr- luddewon yn eu. dyfais felldigedig i ad-feddianu eu gwlad. Edrycha y Pabyddion ar ddycliweliad vr luddewon Garumn gydag ars\nTd I
ITynged At^rylitli.
I Tynged At^rylitli. Cardotyn oedd Homer; Plutus fu yn troi melin; cacthwas oedd Terene; bu farw Boethius mewn carchardy bu gan Pad Burglie.se bedwar ar ddeg o, fnsnesion (trades), eto llwgodd gyda'r oil: bu Tasso- mewn lielbul lawer gwaith o eisi'-ni pum' swllt; Ben- tirogolio gafodd ei wrtlod, i mewn i hospital yr oedd ef ei hun wedi ei luideiladu; Carrentes a fu farw o. newsn Camaens (awdur y Lusiad) a ddcirfyddodd ei ddyddiau mewn elusendy, a bu ei was (dyn du) yn eardota. lieolydd Lisbon am damaid o fwyd iddo Van- gelas adawodd ei gorph i'r nieddygon i chilu ei ddyled. Mor ball ag v cyrhaeddodd, hywyd hclbylus ac isel ocdd bywyd Bacon; Syr Walter Raleigh a fu farw ar y crogbrsn; Spenser a in fal"W yn c'adawedig ac mewn eisieu; difatsrvrch yn gyntaf yn achosi ang- lipnedroldeb meddyliol cedd achos marwolaeth Col- lins gwerthodd ililton ei hawl o "Goll Gwynfa" am. bymtheg punt, yr hwn swm oedd i gael ei datu ar dri thaliad, a darfyddodd ei oes mewn unigrwydd; ba Dryden fyw mewn helbidon a. tiilodi; Otvray a fu farw cyn ei amser; ac o eisieu bwyd y bu iYu-w Lee yn yr heolydd; bywyd o ryfrlgarwch gj-da beiliod oedd bywyd Steele gwerthodd Goldsmith "Vicar of Wakefield" am y nesaf oetii i ddim er cael ei acliub o afael y gyfraith Fielding sydd yn gorwedd mewn mpiwent yn Lisbon heb gareg i ddangos y llecyn Sa.vage a fu farw yn nghctrchar yn Bristol, lie yr oedd wedi ei ddodi am ddyied o wyth bunt; Butler a fu yn byw yn gynil, a bu farw yn dlawd Chatterton. y plentyn athryliih anffortunus, a ddisorywiodd ei hun, ac mewn ty o glai o wiltd y gan y mao Goronwy Owen.—Peibron. -Â.- Argraphwvd a Chyhoeddwyd dros y North Walea Clironiue Company, Limited, gan David Williams, yn y "North Wales Chronicta" a'r "Gwalia" Print- ing Works, Caxton House. Hiyh-sft-vost, ii&ngar, yn Maliryf liangor, yn Sir (Tior-iarop. ae yu Swydd- fa J" "Clorianydd," Bridga-strdst, Aaa*g«fni* yn MhJwvf Ll^n?efni. Sir F"ll, gan Joha Dydd lau, Hydref 28, 1897.