Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

17 erthygl ar y dudalen hon

Y Dirwasgiad Amaethyddol.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y Dirwasgiad Amaeth- yddol. (Parhacl) (2) \D-DALL\D AM WELLIANTAU AiL^ETH- 1 YDDOL. Y mae yn wirionedd digon sicr ma.i diogelwch ydyw v cwestiwn mwyaf pwysig ag syau. yn penderfynu i ba raddau y mae y t&nant amaethyddol i roddi ei arian mewn tir. Hyny hefyd a benderfyna derfyn ei dreul- iadau ar ei feddianau. Yn wir, y m,-e deuddeg mis o rybudd ar gj-meriad fferm yn sicr o fod yn anfantais fawr i amaethwr i wneud y peth a allai er gwejlnau ei fferm a chael ychydig bach o enill iddo ei hun a l deulu. Beth pe meddyliem am amaethwr yn gwario rhyw fil o bunau (mwy neu lai) mewn eiddo a gwaith ar ei fferm, a bod yn agored bob blwyddyn i w droi i ffwrdd, a hyny fe ddichon oherwj-dd ystori rhyw hen wrach neu ddichellion rhyw ddihynn, neu lordyn o agent-a gadael ei lafur ei hun a'i deulu i eraill! Y mae deuddeng mis o rybudd mewn gwirionedd yn rhwym o fod yn llyffethair rhy dyn i'r amaethwr allu gwneud y peth a allai ag a ddylasai ei wneud ar cí fferm, ac y mae y meddwl o'r posiblrwydd o golli ei fferm a'i gartref y flwyddyn nesaf yn sicr o fod yn faich rhy drwm ac sydd yn pwyso ar ei fynwes ac yn oTvanvchu ei nerth drwy y cwbl. Ond, gwyddom fod rhai tirfeddianwyr anrhydeddus yn Nghymrn o ran teimlad a gofal am eu tenantiaid, a bod eu gair yn gystal a deddf, ac yn well nag -unrhyw brvdles. le, gwyddom am rai tenantiaid fod yn well ganddynt, ie, vn dewis bod yn dal fferm o dan rai tirfeddianwyr na byw ar eu ffermydd eu hunain am ddim. Ond drwg genvm nas gaUwn ddweyd felly am yr oil o n tirfeddianwyr. Etc. nid yw gair y rhai goreu ond gair, ac fe wyddom fod gair pob dyn yn marw gydag ef ei hun, ae y mae einioes pawb o honom yn ansicr iawn. Gan hyny, hyd ne-sy eafio amaethwyr Cjonru well cymeriad ar eu ffermydd, neu welliantau i gael eu dwvn i fown yn Ncddf y Daliadau Amaetny ddol ag a roddai iddynt berfftith sicrwydd am bob gwir welliant, y mae yr amaethwyr yn sicr o fod yn llaiurio dan lawer o anfanteision ag sydd yn rhwym o fod yn rhwvstr ar eu ffordd i gyfarfod a'r dirwasgiad amaeth- vddol presenol. Mae hyn i'w ganfod i raddau helaeth y blynyddau hyn wrth i ni fwrw golwg dros gynyrch amaethyddol ein gwlad, oblegid yr ydym yn cael ein tueddu i gredu nad yw y tir yn cael ei wrteithio i'r graddau y gellid, ac hefyd i'r graddau y dylasid, a hyny o bosibl o ddiffvg ymddiriedaeth fel ag yr ydyin wedi crybwyll yn barod. Cwyn a glywir yn fynych am Ddeddf y Daliadau Amaethyddol mai goddefol ac nid gorfodol ydyw, a chanfyddir yn ami welliantau sefydlog yn cael eu trin fel rhai amserol (temporary). Dylid, nid m unig gael caniatad i wneud gwelliantau neillduol. ond dylid hefyd roddi mwy o sicrwydd am s fydlogrwydd, trwy ganiatau am ad-daliad, ac am aflonyddiad afresyniol. Mewn gwirionedd, dylai y tenant amaethyddol fod mor rhydd i drin ei dir a phe buasai yii berchen arno ei hun. Y mae yn rhaid am- i aethyddu yn dda. y blynyddau hyn, oblegid hyn yn ddiameu ydyw y feddyginiaeth sicraf i gyfarfod ar dirwasgiad presenol. Y mae gwahaniaeth mawr iawn ,rliwng°yr hjm a geir o r tir a'r hyn a ellid gael. Mae hyn i'w briodoli, efallai yn un peth, am nas gall vr amaethwr dalu cyflog uchel i'r gweithiwr; o gan- lyniad, v mae y bobl yn symud yn gyflym ac yn tynu tua'r trefydd. Oherwydd hyn, v mae poblogaeth llawer cymydogaeth yn llawer tyneuach nag yr oedd- ent flynyddau yn ol. Mae yr amaethwyr mewn can- lyniad yn gorfod defnyddio llawer iawn o beirianau amaethyddol at eu gwaith. Mae y peirianau, drwy ddarganfyddiad gwyddoniaeth a chelfyddyd, yn cyf- lawni llawer iawn o'r gwaith a wneid gynt gan y gewynau. Drwy gael ad-daliad am welliantau neill- duoi, oni fyddai yn fwy rhesymol o lawer i gael y gweithwyr i sychu a gwrteithio y "daear, fel y b'o ei chynyrch yn fwy? "Dyma ddam o dir," meddai un amthwr wrth y llall, er's ychydig amser yn ol; "gallesid ei wneud yn werth 40p y flwyddyn yn fwy i mi nag ydyw pe gwerid dau gant o bunau i'w sychu a'i wrteithio." "Paham na wnelech hyny?" meddai v llall. "caech felly 15p y cant o log am eich arian, a cha'i y gweithwyr tlodion waith, a'r cvhoedd fwy o les oddiwrth y tir." "0 meddai yr amaethwr dra- chefn, gyda. gwen ar ei wyneb, "p3 gwnaWn hyny cawn godiad yn fy ardreth, neu cawn rybudd i ym- adael." Mewn gwirionedd, y mae yn anmhosibl bron i amaethwr ffermio yn briodol gyda rhai tirfeddian- wyr. Os bydd yn ffermio yn dda, caiff godiad yn ei ardreth; ac o'r tu arall, os ffermio yn wael ac afler y bydd, caiff rybudd i yniadael yr un modd; ac hyd ties y deffroir Cymru i gael gwell Sicrwydd daliad- aeth, rhaid i ni ymfoddloni ar bethau fel ag y maent vn gici*. (3) GOSTYNGIAD YN MHRIS CLUDIAD NWYDDAU CARTREFOL MEWN CYSYLLT- IAD AG AMAETHYDDIAETH. Y mae yn ddiamheu y gellid gwneud cryn lawer yn y cyfeiriad yma i leddfu i gryn fesur y dirwasgiad pre- senol, drwy gael gan ein Llywodraeth ddwyn i mown fesur a.g a wnai leihau a chymedroli y gwahaniaeth sydd gan gwmniau y rheilffyrdd mewn fiafrio nwyddau tramor rhagor na nwyddau y wlad hon. Y mae'r tIafr- iaeth arutlirol y mae y cwmniau hyn yn ol pob cyfrif yn ei wneud i "dramorwyr pan yn cludo eu nwyddau vn ddigon. gallem feddwl yn sicr, i roddi cychwyn- "iad yn amaethwyr y wlad hon i geisio cael cyfiawnder yn y rha.n hon o'u masnach, sef cael chwareu teg fel y tramorwyr. Nid oes dim synwyr mewn codi pum swUe ar hugain ar y tramorwyr, a haner can swilt ar amaethwyr Cymru. Cawn ar awdurdod dda ei bod cyn "0 rated anfon chwarter o wenith neu fustach o New York i Lundain ag ydyw anfon y cyfryw o Gaerfyrdd- ia i Lundain. Nid oes, felly, un cysur i amaethwyr Cymru i anfon eu cynyrcliion i'r marchnadoedd pan yu gwybod y llyncir i fyny yr elw gan gwmniau y rheilffyrdd. Mae yr anhegwch hwn. mewn gair, yn ddigon i barlysu amaethwyr. Os ydym i ddisgwyl rhyw gj'mhorth gan ein Llywodraeth, yr ydym yn credu mai yn y cyfeiriad yma y daw yenydig o ym- wared i amaethyddiaetli ac i feddyginiaethu y dir- wasgiad presenol. A'r unig iachawdwriaeth ydyw hyn i'r Llywodraeth brynu y rheilffyrdd i'w dwylaw eu hunain, megis y telegraph, y post-office, etc. Bydd- ai cael hyn oddiamgylch jm fendith anmhrisiadwy i amaethwyr Cymru nid oes un ainheuaeth yn meddwl neb ar y cwestiwn am foment yn sicr. Nid anmhriodol fyddai i ni yn y fan-lion ddyfynu ychydig sylwadau o eiddo Mr Hen, yr hwn sydd aw- durdod tra uchel. ar y cwestiwn hwn. "Gall fod yn ddyddorol nodi un neu ddwy o ffeitliiau sy n rrosod allan faintioli anferth yr hyn a elwir y 'railway in- terest,' ac y mae i'w gofio fod y prif gwmnioedd ar bob pwnc o bolisi yn gweithredu mewn undeb a u uilydd, ac felly yn ffurfio gallu .aruthrol yn v wlad- wriaeth. Wrth gymeryd y ffigyrau o r returns am 1893 yr vdym yn cael fod cyfalaf y Deyrnas Gvfunoi yn cyrhaedd yswm o 971,000,000p, neu mewn fhgiwr crwn, mil o filiyusu o bunau. Yr holl dderbyniadau blynyddol oeddynt 80,000,000p, o'r hwn swm yr oadd mwr na'i haner yn dyfod oddiwrth gludo nwyddrn. Trai y gweithiad oedd 45,000,000p, pan yr oudd 35,000,000p yn cael eu talu fel dividends. Cyfartaledd II y llog a delir yn ychydig dros y cant ar y cyfalaf fyddo wedi ei dalu i fyny. Mae y cwynion a wneir gain ffermwyr gyda golwg ar brisiau y rheilffyrdd y n ymranu i ddau brif ben, sef y driniaeth ffafriol roddir i gynYTchion tramor, a swm gormodol y prisiau rheol- aidd, yn arbenig y prisiau a godir o orsafoedd anghys- tadleuol. AMAETHWR PROFIADOL. (I'w barhau.)

Isbytty Men ao Arfcn.

Cweryl Pwysig yn y Drefnewydd.…

Newyddion Cyffredinol. I

Mys DafyM Sy'n D'eyd—

CONSART MA WE "SILOH."

------Nodion o Lanfairpwllgwyngyll.

---------.&-.L Coleg Iiif…

Undeh Banger a Beaumaris-j

Harwolaeth Mr Thomas Palestina…

[No title]

i Dirprwyaetn Oddiwrth Weithwyr…

[No title]

NODIUN I)EIIEtJl)lPi.

CYNHAIJ YMCHWILLTDAU.

CYMDEITHAS L YSIEVÜL F RENHINOL:

Family Notices