Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

16 erthygl ar y dudalen hon

CHINA A'h GAI,LUCEDD.

RHYFEL Y TRANSVAAL.

HUNANLAOOIAD YN METHESDA.

MARWOLAETH Y PARCH R. WILLIAMS,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MARWOLAETH Y PARCH R. WIL- LIAMS, LLANLLYFNI, Bu farw y Parch R. Williams, Nazareth, Llanllyfni, nos Nadolig, yn yr oedran cynnarol o 45 mlwydd, ar ol bod yn gweinidogaethu i eglwysi Annibynol Nazareth a Phantglas am fwy na naw mlynedd. Dechreuodd bregethu yn Morfa Nefyn tuag ugain mlynedd yn ol. Yr oedd yn gymeriad pur a charuaidd, a chwbl ym- roddgar i waith y weinidogaeth. Dioddefodd gystudd maith yn dawel a dirwgnacb. Gadaw- odd weddw a phed\var o blant i alaru ar ei ol. Dydd Sadwrn, claddwyd ef yn Mynwent Rydd, Penygroes. Daeth tyrfa fnwr yn nghyd, pryd y gwasanaethwyd ax yr achlysur gan y Parch- edigion H. Williams," B.A., Penygroes D. Jones, Brynllefrith, Llangybi; J. J. Jones, B.A., Pwllheli: W. B. Marks. Criccieth; W. W. Jonee, Pisgah W. Ross Hughes, Borthy- gest; H. Davies, Abererch; a D. Ffrwdwen Lewis, Trefor, Llanaelhaiarn; a Mr Ellis Jones, un o ddiaconiaid Nazareth. Darllenwyd Ilythvr oddiwrth y Parch E. James, Morfa Nefyn, yn amlygu ei ofid oblegid fo(I llesgedd yn ei analluogi i fod yn bresennol. a phenderfyniacf eglwys Morfa Nefyn yn cydymdeimlo a'r rhai oedd yn en galar.

[No title]

---.------.------HELYNT Y…

Y BEL DROED.

[No title]

COLLI LLONG GER CAERGYBI.

ACHOS Y PARCH W, 0. JONES.…

IAWN m DORI AMMOD. I

ACHUB MORWYR GER MOELFRE.

[No title]

MR LLOYD-GEORGE, A.S„ YN1…

Family Notices

Advertising